Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

32.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

33.

Cofnodion. pdf eicon PDF 232 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2020 fel cofnod cywir.

34.

Y Diweddaraf am Gydgynhyrchu.

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog Strategaeth a Pholisi ddiweddariad ar Gydgynhyrchu ac amlinellodd y canlynol: -

 

·            Fframwaith Strategol Cydgynhyrchu – gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o ymgynghori i gydgynhyrchu

·            Rhaglen Hyfforddiant

·            Adolygiad o broses Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a datblygu Asesiad Effaith Integredig

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

·            Defnyddio cydgynhyrchu i adolygu'r Asesiad Effaith Cydraddoldeb

·            Yr hyn a gynhwyswyd yn y rhaglen hyfforddi a'r amserlen bosib ar gyfer ei chyflwyno'n ehangach

·            Y gwahaniaeth rhwng y gwahanol fathau o ymgynghori – dylai pob ymgynghoriad fod yn ddilys ac yn ystyrlon

·            Ystyr a dealltwriaeth o gydgynhyrchu

·            A ellid ymgorffori cyd-gynhyrchu yng nghynllun adferiad COVID-19 y cyngor

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

1)          Nodi'r diweddariad; a

2)          Bydd y Pwyllgor yn parhau i fonitro cydgynhyrchu gyda diweddariadau rheolaidd, yn enwedig o ran yr Asesiad Effaith Integredig, y rhaglen hyfforddiant cydgynhyrchu a chynnwys cydgynhyrchu yng nghynllun adferiad COVID-19 y cyngor.  

35.

Y Diweddaraf am Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol. pdf eicon PDF 310 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol Strategol adroddiad ar y 'Diweddaraf am yr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol' a dynnodd sylw at y canlynol: -

 

·            Canlyniadau Arolwg Chwarae Teg - nifer y camau gweithredu ynghylch meysydd recriwtio a dethol; rheoli perfformiad; dysgu a datblygu; gwobrau a chydnabyddiaeth a gweithio hyblyg

·            hyrwyddo cyngor Abertawe fel cyflogwr

·            gwelliannau i'r broses recriwtio i'w wneud yn fwy hygyrch

·            Prosiect denu recriwtio

·            Cymorth i'r gweithlu BAME yn ystod COVID-19

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·            Cost arolwg Chwarae Teg – gan gynnwys diwrnod o ymgynghori a fydd yn canolbwyntio ar recriwtio a dethol

·            Cais am gael gweld yr arolwg a'r adroddiad

·            Addasrwydd yr arolwg a gohebiaeth i dderbynwyr ar nod yr arolwg

·            Ymestyn gweithio mewn partneriaeth gyda grwpiau BAME a grwpiau sydd â chynrychiolwyr BAME

·            Adolygiad o bolisi gweithio ystwyth - iechyd, diogelwch a lles staff sy'n gweithio gartref

·            Ymwybyddiaeth staff o bolisïau

·            Gwella data'r gweithlu – anogaeth a hyder i staff ddatgelu data 

·            Adolygiad o'r polisi cam-drin domestig ar gyfer staff

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

36.

Trafodaeth Ynghylch Mudiad Mae Bywydau Du o Bwys.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Rhybudd o Gynnig ar "Mae Bywydau Du o Bwys" a gyflwynwyd i'r cyngor ar 2 Gorffennaf 2020.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ychwanegu'r eitem hon at y cynllun gwaith, sefydlu gweithgor ar gyfer y gwaith hwn a chyfethol y Cynghorydd Yvonne Jardine i'r Pwyllgor at ddibenion yr eitem hon.

 

Cafwyd trafodaeth, a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·            Cwmpas y Rhybudd o Gynnig

·            Pwysigrwydd addysg ac ymgysylltiad

·            Adrodd stori Abertawe

·            Ystyriaethau o'r hyn a fydd yn gwneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol

·            Amrywiaeth o blaciau glas

·            Strategaeth/meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau

·            Caethwasiaeth fodern

 

Cyflwynwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Amlinellodd y Cadeirydd y cwestiynau i'r Pwyllgor eu hystyried. Roedd y cwestiynau'n ymwneud â'r canlynol:

 

·            Cwynion a dderbyniwyd

·            Rhestr o enwau strydoedd, tirnodau, henebion i'w hadolygu

·            Y costau posib a'r dyraniad gorau o adnoddau

·            Categoreiddio "Mae Bywydau Du o Bwys"

·            Rhaglen gynnwys/ymgynghoriad cyhoeddus

·            Caethwasiaeth fodern

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'n ymateb yn ffurfiol i'r cwestiynau a gyflwynwyd, gan gyflwyno rhai cwestiynau sy'n gofyn am fanylion penodol at y swyddogion perthnasol. Nododd y Cadeirydd fod y gwaith hwn yn y camau cynnar iawn ac felly ni ellid ateb nifer o gwestiynau ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

1)    Ychwanegu cynnig "Mae Bywydau Du o Bwys" at y cynllun gwaith;

2)    Sefydlu gweithgor ar gynnig "Mae Bywydau Du o Bwys" ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor; a

3)    Chyfethol y Cynghorydd Yvonne Jardine i'r Pwyllgor yn ystod ei waith ar eitem "Mae Bywydau Du o Bwys".

 

Sylwer: Mae rheol 47 Gweithdrefn y Cyngor "aelodau cyfetholedig" yn nodi:

 

"Heblaw y darperir i'r gwrthwyneb drwy statud neu yn y penderfyniad sy'n awdurdodi eu penodi neu mewn perthynas â phenodiadau i'r Pwyllgor Safonau, rhaid trin pobl a gyfetholwyd i'r cyngor neu i Bwyllgor fel pe baent yn aelodau etholedig y Pwyllgor ar bob cyfrif wrth iddynt fynychu cyfarfodydd, ac eithrio na fyddant yn:

 

a)              Cyfrif tuag at gworwm;

b)              Pleidleisio ar unrhyw gynnig sy'n awdurdodi gwario arian neu fynd i gostau gan y cyngor;

c)              Cymwys i wasanaethu fel Cadeirydd neu Is-gadeirydd ar gyfer unrhyw un o bwyllgorau'r cyngor;

d)              Pleidleisio ar unrhyw gynnig ynghylch penodi, dyrchafu, diswyddo, cyflog, pensiwn, blwydd-daliadau neu amodau gwasanaeth unrhyw berson a gyflogir gan y cyngor. "

37.

Cynllun Gwaith 2019/20. pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Cynllun Gwaith 2019/20 a nodwyd bod yr eitemau canlynol wedi'u trefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf:

 

·            Y Diweddaraf am y Strategaeth Ynni

·            Y wybodaeth ddiweddaraf am Bolisi Datblygu Cynaliadwy

·            Adborth ar gynnig "Mae Bywydau Du o Bwys".

 

Penderfynwyd diweddaru'r cynllun gwaith yn unol â hyn.