Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: - Y Cynghorydd M Sherwood - personol - Cofnod Rhif 28 - Gweithiwr gyda chwmni Gower Power. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldeb a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar
17 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir. |
|
Y Diweddaraf am y Strategaeth Ynni. PDF 455 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar 'Y Diweddaraf am y Strategaeth Ynni'. Amlygodd
y canlynol yn benodol: - ·
Diweddaru'r
Strategaeth Ynni gyfredol ·
Blaenoriaethau
Allweddol - Goleuadau stryd LED, cynlluniau ynni adnewyddadwy, cerbydlu gwyrdd ·
Adeiladu
tai ynni effeithlon i gyflawni 'Safon Abertawe' ym Mharc yr Helyg, Gellifedw a Ffordd Colliers 2, Penplas ·
Rhaglen
carbon isel Refit ·
Prosiectau
ffermydd solar ·
Adrodd
am allyriadau - cwmpas a safoni Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Lleoliadau
posib ar gyfer adeiladu ffermydd solar - cam dichonoldeb ·
Ansawdd
aer ·
Plannu
coed i helpu â chyfyngiad carbon ·
Cynnwys
Egwyddor Corfforaethol newydd, cynnal a gwella adnoddau naturiol a
bioamrywiaeth Abertawe yn y strategaeth sy'n cael ei diweddaru ·
Cynlluniau
sector preifat - rheoli a dylanwadu ·
Polisi'r
Cynllun Datblygu Lleol ·
Safon
BREEAM ar gyfer ysgolion newydd ·
Clwb
Ceir ·
Hyfforddiant
ar allyriadau carbon - prosiectau llythrennedd carbon ·
Ynni
ardal ·
Partneriaeth
gyda Fforwm yr Amgylchedd Abertawe i ystyried ymgysylltu ·
Trafnidiaeth
gynaliadwy Penderfynwyd y dylid cyflwyno'r Strategaeth Ynni ddiwygiedig i'r pwyllgor ei hystyried ym mis Ebrill 2020. |
|
Adborth o'r Gweithdy - Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Cofnodion: Darparodd y Cadeirydd drosolwg o'r gweithdy a gynhaliwyd ar y Cynllun
Cydraddoldeb Strategol. Roedd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft yn destun ymgynghoriad tan 3
Mawrth 2020. Cafwyd ymateb cadarnhaol gan y cyhoedd i'r ymgynghoriad hyd yn hyn, ac
roedd amser o hyd i bobl gyflwyno'u sylwadau. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Diweddariad am y Polisi Datblygu Cynaliadwy. Cofnodion: Darparodd y Cadeirydd
ddiweddariad am y Polisi Datblygu Cynaliadwy. Bwriedid
cyflwyno'r polisi drafft i'r pwyllgor ym mis Ebrill i'w ystyried. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf |
|
Cynllun Gwaith 2019/20. PDF 130 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2019/20. Nodwyd bod yr
eitemau canlynol wedi'u trefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf: - ·
Y
Diweddaraf am Gydgynhyrchu ·
Y
diweddaraf am y Cynllun Gweithredu gan Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol Trefnwyd ymweliad
safle ar gyfer 17 Mawrth 2020 i ymweld ag ardal Craig-cefn-parc a Pharc yr
Helyg. Ychwanegu'r
diweddaraf am y Strategaeth Ynni a'r diweddaraf am y Polisi Datblygu Cynaliadwy
at y cynllun gwaith ar gyfer mis Ebrill. Penderfynwyd nodi'r diweddariadau i'r Cynllun Gwaith. |