Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

16.

Cofnodion. pdf eicon PDF 235 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2019 fel cofnod cywir.

17.

Adroddiad ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau - Y Diweddaraf am Gynllun Gweithredu. pdf eicon PDF 643 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Prosiectau adroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau - Y Diweddaraf am y Cynllun Gweithredu. Rhoddodd drosolwg byr o'r adolygiad ar Fwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ac amlygodd y canlynol;

 

·            Wedi i’r dyfarniad cyflog cenedlaethol gael ei roi ar waith roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi gostwng 2%

·            Byddai ffigurau bwlch cyflog rhwng y rhywiau a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020, yn seiliedig ar strwythur cyflog y llynedd

·            Canfyddiadau o ddadansoddiad y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

·            Y modd y dosberthir gwaith ar sail rhyw ar draws y prif strwythur graddio

·            Roedd tua 50% o'r gweithlu nad oedd yn gweithio mewn ysgolion ar raddfeydd 5, 6 neu 7.

·            Roedd nifer y staff ar radd cyflog 1 yn gymharol isel

·            Roedd nifer y dynion a'r menywod oedd ar raddfeydd 4, 10, 11 a 12 yn agos.

·            Ar raddfeydd uwch megis 10 ac 11, roedd dynion ar raddfa ychydig yn uwch na menywod, ond roedd menywod gradd 12 ar raddfa ychydig yn uwch na dynion.

·            Y Diweddaraf am y Cynllun Gweithredu

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar: -

 

·            Bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer rolau uwch-reolwyr

·            Adolygiad o bolisïau gweithdrefnau recriwtio

·            Gwaith parhaus ar gyfer staff rhan-amser - llawer o rolau

·            Cydbwysedd rhwng y rhywiau ar brentisiaethau 

·            Ehangu ar ddata bwlch cyflog i gynnwys mwy o grwpiau gwarchodedig

·            Dosbarthu Anabledd

·            Casglu Data

·            Annog staff i gwblhau ffurflenni cydraddoldeb

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

18.

Adroddiad ar Ddatblygu Sefydliadol ac Adnoddau Dynol. (Cyflwyniad) pdf eicon PDF 815 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Prosiectau a'r Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol gyflwyniad ar 'Adroddiad AD a DS' a oedd yn amlinellu'r canlynol; -

 

·            Polisi Recriwtio a Dethol

·            Argymhelliad 9; Hyfforddi

·            Materion i'w hystyried

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·            Hyrwyddo swyddi staff gwag a phrentisiaethau'n well i grwpiau gwahanol

·            Hysbysebu'n fwy gofalus/hysbysebu wedi'i dargedu'n well - eglurder i eiriad

·            Adolygu cyfleoedd hyfforddi a sicrhau bod staff yn cyflawni hyfforddiant gorfodol

·            Datblygu hyfforddiant gyda grwpiau cydraddoldeb lle bynnag y bo hynny'n bosib

·            Cywirdeb a chofnodi data 

·            Arolwg Chwarae teg

·            Argaeledd adnoddau

·            Pwysau cyllidebol

 

Penderfynwyd:

1)    Y dylid nodi'r cyflwyniad; a

2)    Darparu gwybodaeth bellach ar arolwg Chwarae teg.

19.

Diweddariad ar Gydgynhyrchu. (Llafar)

Cofnodion:

Darparodd y Prif Swyddog Digidol a Thrawsnewid ddiweddariad ar Gydgynhyrchu ac amlinellodd y canlynol; -

 

·            Bydd cyswllt gweithio da gyda’r Grŵp Cydgysylltu Anableddau

·            Rhoddwyd ystyriaeth i bob math o ymgysylltu - dewis y math cywir o ymgysylltu ar gyfer pob sefyllfa

·            Roedd hyfforddiant hyrwyddwyr cydraddoldeb yn parhau

·            Datblygu gwybodaeth a phrofiad ar gydgynhyrchu  

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf

20.

Cynllun Gwaith 2019/20. pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019/20 a nododd fod y canlynol wedi'i drefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf;

 

·            Polisi Datblygu Cynaliadwy

·            Diweddariad ar y Siarter Newid yn yr Hinsawdd

 

Cynigiwyd ychwanegu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol i'r cynllun gwaith ar gyfer mis Ionawr ac ychwanegu diweddariad ar y cydgynhyrchu i'r cynllun gwaith ar gyfer mis Mawrth. 

 

Trafododd y Pwyllgor hefyd y posibilrwydd o siaradwyr yn mynd i'r Pwyllgor i rannu'r arfer gorau.

 

Penderfynwyd diweddaru'r cynllun gwaith yn unol â hyn.