Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Croeso

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Kelvin Curry, Is-gadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i'w gyfarfod cyntaf fel y cynrychiolydd newydd ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

19.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

20.

Cofnodion. pdf eicon PDF 260 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid llofnodi a chymeradwyo cofnodion Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2021 fel cofnod cywir.

21.

Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Adroddodd Adam Hill fod y rhan fwyaf o'r camau gweithredu'n rhan o agenda heddiw. 

 

O ran y Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol - Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - mae gwaith cwmpasu’n digwydd ar hyn o bryd a byddai diweddariad pellach yn cael ei roi yn ystod y cyfarfod nesaf.

22.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

23.

Diweddariad Asesiad o les lleol 2022. pdf eicon PDF 230 KB

Steve King, Cyngor Abertawe

Penderfyniad:

Noted.

Cofnodion:

Cyflwynodd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol Cyngor Abertawe adroddiad i nodi datblygiadau diweddar wrth baratoi ar gyfer yr Asesiad o Les Lleol nesaf ar gyfer 2022.

 

Amlinellodd y datblygiadau diweddar ym mharagraff 2 yr adroddiad a gynhaliwyd ers y cyfarfod diwethaf a oedd yn cynnwys yr amserlen ddiwygiedig.

 

Cyfeiriodd Adam Hill at y llythyr oddi wrth Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a'r ymateb gan Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (a gynhwyswyd yn eitemau 13 a 14 ar yr agenda).

24.

Ymagwedd Integredig Iechyd Cyhoeddus at Gamddefnyddio Sylweddau (Llafar)

Keith Reid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd Keith Reid, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ddiweddariad llafar ar yr Ymagwedd Iechyd y Cyhoedd Integredig at Gamddefnyddio Sylweddau.

 

Dechreuodd drwy amlinellu'r cefndir yn dilyn datganiad y Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol ar Gamddefnyddio Sylweddau yn Rhanbarth Bae'r Gorllewin yn 2018 i ganolbwyntio ar weithredu ar gyflenwadau cyffuriau. Tynnodd sylw hefyd at y broblem marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac effaith cymdeithasol ehangach camddefnyddio sylweddau yn ein cymunedau.

 

Lluniwyd cynllun gweithredu a chydnabuwyd bod angen symud tuag at fodel gwahanol er mwyn mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Cytunodd y BGC ar y cyd hefyd y dylid mabwysiadu'r ymagwedd hon ym mis Ionawr 2020.

 

Dylid sefydlu Panel Cynghori Arbenigol i lywio'r gwaith ynghylch mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau trwy ddefnyddio arbenigwyr pwnc Cenedlaethol a Rhyngwladol ar yr ymagwedd orau er mwyn ymgysylltu â'r rheini yr effeithir yn uniongyrchol arnynt a'u teuluoedd.

 

 

Cytunodd y Bwrdd Cynllunio Ardal (BCA) sy'n goruchwylio rhoi Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru ar waith y dylai'r Panel Cynghori Arbenigol fod yn debyg i'r model Comisiwn Cyffuriau llwyddiannus iawn a ffurfiwyd yn Dundee, yr Alban.

 

Gofynnodd y BCA am gymorth "Figure 8" a oedd hefyd yn ymwneud â Chomisiwn Cyffuriau Dundee. Mae cynigion ar gyfer rhoi ymagwedd mewn arddull comisiwn ar waith yn ardal Bae'r Gorllewin yn parhau i gael eu datblygu ac roeddent mewn sefyllfa lansio.

 

Byddai aelodaeth o'r Panel Cynghori Arbenigol yn annibynnol, ni fyddent yn dod o asiantaethau lleol a byddai ar sail wirfoddol. Ni fyddent yn cael eu talu am gymryd rhan ond byddent yn dod ag arbenigedd nad yw ar gael yn gyffredinol yn lleol. Byddai'r canfyddiadau hyn yn rhai annibynnol ac yn argymhellion.

 

Codwyd nifer o bryderon ynghylch y Llywodraethu ac i bwy y byddai'r panel yn atebol a sut byddai'r panel yn gweithredu yn ystod cyfnod neilltuaeth yr Etholiad Llywodraeth Leol. Fodd bynnag, byddai datblygiad gwasanaethau'n parhau wrth i'r panel ymgymryd â'i waith.

 

Roedd trafodaeth ynghylch y derminoleg ar gyfer y panel/Comisiwn a pham nad oedd y model cyflwyno ymagwedd cynghrair gwasanaeth unigol y cytunwyd arno'n flaenorol wedi gwneud cynnydd.

 

Cytunwyd y dylid cynnal trafodaethau pellach i ystyried gofynion a llywodraethu sefydlu Panel Cynghori Arbenigol a'r model cyflwyno ymagwedd cynghrair gwasanaeth unigol a rhoi diweddariad i gyfarfod Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn y dyfodol.

25.

Statws Dinas Hawliau Dynol. (Llafar)

Lee Wenham / Rhian Millar, Cyngor Abertawe

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad llafar.

Cofnodion:

Rhoddodd Rhian Millar, Cydlynydd Ymgynghoriadau, Cyngor Abertawe'r diweddaraf am y cynnydd ynghylch  gweledigaeth cyflawni statws Dinas Hawliau Dynol ar gyfer Abertawe.

 

Roedd cyfarfodydd y Grŵp Llywio a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r partneriaid ar y BGC wedi dechrau a threfnwyd y cyfarfodydd nesaf ar gyfer yr wythnos ganlynol.

 

Trefnwyd digwyddiad lansio ar gyfer Diwrnod Hawliau Dynol ar 10 Rhagfyr a fyddai'n lansio bwriad Abertawe i fod yn Ddinas Hawliau Dynol yn ffurfiol.

 

Roedd gwaith ymgysylltu wedi’i mynd yn ei flaen gyda grwpiau cymunedol a'r cyhoedd trwy fforymau a byddai arolwg ymwybyddiaeth  llinell sylfaenol yn cael ei ddatblygu'n fuan i ddeall yr ymwybyddiaeth bresennol o hawliau dynol a'r hyn y dylai'r blaenoriaethau ar gyfer Abertawe fod. 

 

Yn ogystal, byddai'r digwyddiad ar 10 Rhagfyr yn arddangos y gwaith sydd eisoes yn digwydd yn Abertawe. Gofynnwyd i aelodau'r Grŵp Llywio ddod ag enghreifftiau o waith da neu syniadau am yr hyn yr hoffent ei arddangos yn y digwyddiad lansio i gyfarfod nesaf y Grŵp Llywio.

 

Roedd cynnydd yn parhau mewn perthynas â fframwaith Ewrop ar gyfer Hawliau Dynol, ac roedd yn braf nodi ein bod yn bodloni'r rhan fwyaf o'r gofynion.

26.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Cysgu Allan yng Nghymru - Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i Neb. pdf eicon PDF 240 KB

Mark Wade / Steve Porter, Cyngor Abertawe

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Rhoddodd Mark Wade a Steve Porter, Cyngor Abertawe, y diweddaraf am sut roedd Abertawe'n mynd i'r afael â Chysgu Allan yn y ddinas ac ymateb i argymhellion Cysgu Allan yng Nghymru - Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i Neb | Swyddfa Archwilio Cymru

 

Cytunwyd ar y canlynol:

 

1)           Bydd aelodau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yn ymrwymo i ddefnyddio Offeryn Anghenion Cymhleth Swyddfa Archwilio Cymru wrth ddechrau partneriaeth, gwasanaeth, prosiect neu adolygiad/gwerthusiad o wasanaethau newydd sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth a amlinellir yn Atodiad A. (Byddai fersiwn gryno  ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu i bartneriaid).

2)           Mae aelodau'r BGC yn asesu eu gwasanaethau yn erbyn 'Swyddfa Archwilio Cymru - nodweddion gwasanaethau cyhoeddus sydd mewn sefyllfa well i ymateb i bobl sydd ag anghenion cymhleth' (Atodiad B).

27.

Statws Dinas Hawliau Dynol. (Llafar)

Cadeirydd

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad llafar.

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd yn falch o adrodd bod y rhan fwyaf o bartneriaid eisoes wedi darparu eu hymrwymiad ac wedi llunio’u camau gweithredu eu hunain ar gyfer yr argyfwng hinsawdd, fodd bynnag roedd ambell un heb ei wneud o hyd.

 

Datganodd y Bwrdd Iechyd a Charchar a Gwasanaeth Prawf Ei Mawrhydi eu hymrwymiad ar lafar yn ystod y cyfarfod.  Yn ogystal â hyn, datganodd Heddlu De Cymru ei ymrwymiad ar lafar gan ymddiheuro am yr oedi gan fod yr wybodaeth gyda'i Adran Gyfreithiol ar hyn o bryd.

28.

Opsiynau Fforwm Partneriaeth. pdf eicon PDF 453 KB

Suzy Richards, Cyngor Abertawe

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Suzy Richards, Cyngor Abertawe, gynigion i ysgogi trafodaeth ar gyfer ffocws a chyflawniad y BGC mewn ymateb i'r pandemig ar gyfer 2021/22.

 

Cytunwyd ar y canlynol:

 

1)           Cynhelir Fforwm Partneriaeth Rhithwir ym mis Tachwedd gan ganolbwyntio ar Hawliau Dynol/Dinas Hawliau Dynol;

2)       Cynhelir Fforwm Partneriaeth Rhithwir ym mis Ionawr/Chwefror 2022 gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o feysydd yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, Natur, Dinas Lles a Bywyd Gwyllt;

3)       Bydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA) yn cynnal y digwyddiad uchod yn dechnegol;

4)       Cynhelir Fforwm Partneriaeth personol ym mis Mehefin 2022 a fydd yn canolbwyntio ar Ddiwylliant Cymunedau a rhaglen waith y dyfodol;

5)       Mae nifer y gwahoddedigion yn agored i holl aelodau'r Fforwm Partneriaeth;

6)       Mae'r holl bartneriaid yn ymrwymo i gyfrannu hwyluswyr ystafell drafod gwirfoddol (bydd Leanne Ahern yn e-bostio partneriaid yn gofyn am enwebiadau).

29.

Llythyr Pwyllgor y Rhaglen Graffu dyddiedig 21 Hydref 2021. pdf eicon PDF 241 KB

Adam Hill, Cyngor Abertawe

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Er gwybodaeth.

30.

Llythyr Asesiad Lles at Lywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 102 KB

Cadeirydd

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Er gwybodaeth.

31.

Llythyr ymateb oddi wrth Lywodraeth Cymru dyddiedig 5 Hydref 2021. pdf eicon PDF 160 KB

Cadeirydd

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Er gwybodaeth.

32.

Rhaglen waith ar gyfer y dyfodol.

16 Rhagfyr 2021

·                     Gobaith yn Abertawe (Thom Lynch)

·                     Prosiect SWAN (Lynne Sanders)

·                     Rheoli Troseddwyr yn Integredig (Tracey Worth)

·                     Asesiad Lles (drafft i'w gymeradwyo)

 

10 Chwefror 2022

·                     Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol (Ruth/Jamie)

 

7 Ebrill 2022

·                     Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y BGC

·                     Ymgysylltu - Cynllun Lles

 

16 Mehefin 2022

·                     Ethol Cadeirydd y BGC ar gyfer 2022/2023

·                     Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynllunio Ardal (BCA) (Dave Howes, Cyngor Abertawe)

·                     Adroddiad Blynyddol Abertawe Mwy Diogel (Paul Thomas, Cyngor Abertawe)

 

11 Awst 2022

 

20 Hydref 2022

 

15 Rhagfyr 2022

 

Penderfyniad:

Fe’i nodwyd yn amodol ar yr ychwanegiadau canlynol:

 

16 Rhagfyr 2022

·                    Rheoli Integredig Troseddwyr i gynnwys datblygu Diogelwch Cymunedol / Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel

10 Chwefror 2022

·                    Adroddiad Blynyddol Cytundeb Compact Trydydd Sector Abertawe - Cyflwyniad.

Cofnodion:

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith yn amodol ar yr ychwanegiadau canlynol:

 

16 Rhagfyr 2022

·                     Bydd Rheoli Integredig Troseddwyr yn cynnwys datblygiad Diogelwch Cymunedol/Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel.

10 Chwefror 2022

·                     Adroddiad Blynyddol Cytundeb Compact y Trydydd Sector Abertawe - Cyflwyniad.