Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2021-2022. Penderfyniad: Etholwyd y Cynghorydd Andrea Lewis, Cyngor Abertawe. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd Andrea Lewis,
Cyngor Abertawe yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021-2022. |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2021-2022. Penderfyniad: Etholwyd Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid ethol Roger Thomas, Gwasanaeth Tân
ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig
2021-2022. Roger Thomas, Is-gadeirydd fu'n Llywyddu |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni wnaethpwyd
unrhyw ddatganiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 8 Ebrill 2021 fel cofnod cywir. |
|
Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol. PDF 85 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cytunwyd y
dylid nodi'r camau gweithredu. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol. PDF 473 KB Helen Grey a
Martyn Evans, Cyfoeth Naturiol Cymru Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Russell
De'Ath, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gyda chefnogaeth Helen Grey, gyflwyniad
ar yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR). Esboniodd fod
SoNaRR 2020 yn asesiad ynghylch i ba raddau yr oedd rheoli adnoddau naturiol yn
gynaliadwy yn cael ei gyflawni. Roedd yr
adroddiad yn darparu asesiad ar ba mor llwyddiannus yr oedd Cymru'n mynd i'r
afael â phedwar nod Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Roedd yn rhannu Cymru'n 8 ecosystem eang ac
yn asesu cyflwr pob ecosystem yn ei thro. Yna, roedd yn ystyried y pwysau
trawsbynciol a wynebir gan yr ecosystemau hyn: •
Newid
yn yr hinsawdd •
Newid
defnydd tir •
Llygredd •
Gor-ecsbloetio •
Rhywogaethau
Anfrodorol Ymledol Roedd hefyd yn
mynd i'r afael â'n hôl troed tramor. Amlinellodd y 4
cwestiwn a ddefnyddiwyd i gael y data a ddefnyddiwyd tuag at yr asesiad: ·
Fframio'r
cwestiynau - Nod 1 – A yw stociau o adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a'u
gwella? ·
Fframio'r
cwestiynau – Nod 2 – A yw ecosystemau'n gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac
anrhagweladwy? ·
Fframio'r
cwestiynau – Nod 3 – A oes gennym leoedd iach i bobl sy'n cael eu hamddiffyn
rhag risgiau amgylcheddol? ·
Fframio'r
cwestiynau – Nod 4 – A oes gennym economi adfywiol sy'n cyflawni lefelau
cynaliadwy o gynhyrchu a defnyddio? Y casgliad oedd
nad oedd Cymru ar hyn o bryd yn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ôl
SoNaRR2020, fel y nodir yn y 4 nod canlynol: 1. stociau sefydlog o adnoddau
naturiol, 2. ecosystemau cadarn, 3. lleoedd iach i bobl, sy'n rhydd o
risgiau amgylcheddol 4. economi adfywiol. Cynigiodd yr
adroddiad fod angen i Gymru ddilyn ymagwedd systemau at fynd i'r afael â
phroblemau amgylcheddol. Er mwyn gwneud defnydd Cymru o adnoddau naturiol yn
fwy cynaliadwy, roedd angen newid trawsnewidiol ar gyfer pethau fel y systemau
bwyd, ynni a thrafnidiaeth. Er nad y tair system hynny oedd yr unig rai a oedd
yn rhoi pwysau ar yr amgylchedd, roeddent yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r
effeithiau, felly roedd yn lle da i ddechrau ymagwedd systemau. Dywedodd y gallai CNC gefnogi datblygiad Asesiadau Lles drwy ddeall
arwyddocâd yr argyfyngau Hinsawdd a Natur a'u heffeithiau posib ar les
cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Mae CNC yn
argymell bod Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn defnyddio fframio Adroddiad
SoNaR (4 nod). Yn ogystal,
gallai'r fframwaith 'tri gorwel' (three horizons) helpu pobl i feddwl a
chynllunio ar gyfer y tymor hwy. Gellid
dylunio'r pecyn cymorth ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau
ac y mae angen iddynt ystyried y dyfodol a chenedlaethau'r dyfodol, fel cyrff
cyhoeddus yng Nghymru sydd â dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol. Roedd yn galluogi sefydliadau i feddwl am sut a pham nad oedd y ffordd
y caiff pethau eu gwneud ar hyn o bryd yn addas i'r diben, ym mha ffyrdd y
gallai tueddiadau sy'n dod i'r amlwg lywio'r dyfodol, sut y dylai dyfodol
delfrydol edrych a'r mathau o gamau gweledigaethol sydd eu hangen i ddod yn
agosach at y dyfodol hwnnw. Gallai CNC helpu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddeall arwyddocâd
Argyfyngau Hinsawdd a Natur a'u heffeithiau posib ar les cymdeithasol,
economaidd, amgylcheddol a diwylliannol drwy: - Rannu canfyddiadau eu hadroddiad SoNaRR. - Fframio'r cwestiynau i helpu'r asesiadau
o les lleol drwy'r 4 nod a ddefnyddir yn SoNaRR. - Gweithio drwy Ddatganiadau Ardal i
gyflawni canlyniadau llesiant sy'n cefnogi newid trawsnewidiol. - Cynnig cynnal
gweithdy "Tri Gorwel", i edrych ar ein heriau amgylcheddol drwy lens
cymdeithasol. Gellid dod o
hyd i wybodaeth ychwanegol ar wefan CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiad ar
Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) Cymru 2020 Dylid ystyried y
4 nod wrth drafod cyfeiriad y BGC yn y dyfodol yn ei rôl fel Dinas er Lles. Penderfynwyd nodi'r cyflwyniad. |
|
Dinas Hawliau Dynol. PDF 236 KB Rhian Millar &
Catherine Window, Cyngor Abertawe Penderfyniad: Cytunwyd. Cofnodion: Rhoddodd Lee
Wenham, gyda chefnogaeth Rhian Millar, Cyngor Abertawe, adroddiad er mwyn i'r
Cydbwyllgor ailgadarnhau ymrwymiad, nodi adnoddau a chytuno ar y broses i gefnogi uchelgais Abertawe i ddod yn ddinas Hawliau
Dynol. Er bod y
partneriaid yn parhau i gefnogi'r cynigion, nodwyd bod hwn yn ymrwymiad enfawr
yr oedd angen ei adolygu'n barhaus o ran y mewnbynnau gofynnol a'r ymrwymiad
amser dan sylw. Cytunwyd y dylai
Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe ailgadarnhau
ei ymrwymiad i Abertawe ddod yn Ddinas Hawliau Dynol drwy: ·
Ofyn i bob aelod statudol o'r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus lofnodi'r datganiad o uchelgais i fod yn Ddinas Hawliau Dynol; ·
Cytuno i greu corff newydd i oruchwylio'r daith; ·
Ymrwymo uwch adnodd i arwain ar hawliau dynol yn eich
sefydliad a bod yn rhan o'r grŵp llywodraethu newydd i lywio ein taith
(enwau i'w e-bostio at Lee Wenham); ·
Cytuno i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu dull Gweithredu
Dinas Hawliau Dynol drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
Papur Trafod - Ffocws a Chyflenwi 2021/22. PDF 590 KB Suzy Richards, Cyngor Abertawe Penderfyniad: Cytunwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Polisi Cynaliadwy gynigion i ysgogi trafodaeth ar gyfer ffocws a
chyflawniad y BGC mewn ymateb i'r pandemig ar gyfer 2021/22. Er y byddai'r 4
ffrwd waith yn parhau, byddent yn canolbwyntio ar: ·
Hawliau dynol; ·
Diwylliant Cymunedol; ·
Iechyd Meddwl; ·
Dinas er Lles a Bywyd Gwyllt. Nodwyd y dylid
cynnal trafodaethau gyda Bwrdd y Rhaglen Ranbarthol o ran yr eitem Iechyd
Meddwl er mwyn osgoi dyblygu. Cytunwyd: 1) Y bydd partneriaid yn ymdrin â meysydd o
ddiddordeb sy'n gorgyffwrdd ar gyfer cyflwyno â ffocws i fynd i'r afael yn
uniongyrchol ag adferiad Abertawe o effeithiau'r pandemig yn 2021/22 a'i
chynorthwyo. 2) Y bydd partneriaid yn nodi Arweinwyr Strategol ar gyfer pob un o'r ffrydiau gwaith os cânt eu cymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor. |
|
Adolygiadau Dynladdiadau Domestig. PDF 115 KB Paul Thomas & Jane
Whitmore, Cyngor Abertawe Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd. Cofnodion: Darparodd Paul
Thomas a Jane Whitmore, Cyngor Abertawe, adroddiad i dynnu sylw at y Broses
Adolygu Lladdiadau Domestig yn Abertawe. Cytunwyd bod y Cyd-bwyllgor yn cefnogi'r dull cyffredinol a'r cynnydd a gynigir yn yr adroddiad. |
|
Grwp Digwyddiadau Tyngedfennol - Ymddygiad gwrthgymdeithasol. PDF 114 KB Paul Thomas, Cyngor Abertawe Penderfyniad: Cytunwyd mewn
egwyddor – Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Cofnodion: Darparodd Paul
Thomas, Cyngor Abertawe adroddiad i ystyried sefydlu Grŵp Digwyddiadau
Tyngedfennol (GDT) i edrych ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn Abertawe ar ôl
COVID. Nodwyd y dylai'r
dyddiad ym mharagraff 1.2 ddarllen 20 Mai 2021. Dywedodd Adam
Hill ei bod yn bwysig nodi y byddai'r Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol hwn,
pe bai'n cael ei ffurfio, yn edrych ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar draws
Abertawe gyfan, nid yn unig mewn perthynas â digwyddiad Mayhill. Byddai'r GDT yn gyfyngedig o ran amser i 18
mis yn unig – tua 6 chyfarfod. Cytunwyd: 1)
Y
bydd y BGC yn cefnogi'r dull cyffredinol a'r cynigion a amlinellir yn yr
adroddiad; 2) Y bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal ynghylch pwy fydd yn Cadeirio'r Grŵp ac yn darparu cymorth ysgrifenyddol. |
|
Bwrdd Eiddo Lleol. (Cyflwyniad) Geoff Bacon, Cyngor Abertawe Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Geoff
Bacon, Cadeirydd y Bwrdd Eiddo Lleol, gyda chefnogaeth Hannah Thomas a Becky
Jones, Cyngor Abertawe, a James Colthart a Neil Farquhar o'r Tîm Amlddisgyblaethol (TA), gyflwyniad mewn
perthynas â Chanolfan Gymunedol gydweithredol Canol y Ddinas (hen adeilad BHS)
a fyddai'n ffurfio canolfan gyflogadwyedd ac yn cysylltu pob sector cyhoeddus. Amlinellodd
Hannah Thomas yr ymgysylltu a wnaed â rhanddeiliaid
mewnol ac allanol hyd yma mewn perthynas â'r nifer sy'n manteisio ar yr adeilad
drwy brydles neu aelodaeth. Amlinellodd
flas o wasanaethau mewnol rheng flaen sy'n cynnwys y Llyfrgell Ganolog,
Archifau, Hanes Teuluol, Opsiynau Tai, prosiectau Cyflogadwyedd, y Ganolfan
Gyswllt, Cyllid a Budd-daliadau a'r gwasanaethau Dysgu Gydol Oes, gyda
thrafodaethau cychwynnol wedi'u cynnal mewn perthynas â gofynion unigol. Cynhaliwyd
trafodaethau allanol gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog, Gyrfa Cymru, Cyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA), Cyngor ar Bopeth, yr Heddlu, yr Adran
Gwaith a Phensiynau (DWP), Canolfan Gofalwyr Abertawe, Prifysgolion a Choleg
Gŵyr Abertawe ac Iechyd. Byddai
angen ymrwymiad cadarn gan randdeiliaid allanol wrth i'r
prosiect fynd rhagddo. Rhoddodd James Colthart, arweinydd prosiect y Tîm Amlddisgyblaethol, yr
wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen a gynhaliwyd dros y 6-8 wythnos diwethaf: Mae Cam 1 newydd
gael ei gwblhau, a oedd yn cynnwys datblygu'r brîff ac adeiladu ar y gwaith a
wnaed eisoes gan y tîm. Fel y nodwyd, mae hynny wedi bod yn ymgysylltiad
cadarnhaol iawn â rhanddeiliaid gyda llawer o
synergeddau rhwng darparwyr gwasanaethau, yn fewnol ac yn allanol. Roedd Cam 2
newydd ddechrau a byddai mwy o'r gwaith dylunio yn mynd rhagddo, gan edrych ar
y trefniant gofodol a'r cynlluniau adeiladu.
Y gobaith oedd dechrau caffael contractwyr yn ddiweddarach eleni. O ran dechrau'r
gwaith ar y safle, byddai hyn yn debygol o gael ei rannu'n ddau gam: Byddai'r pecyn
gwaith galluogi yn cynnwys cael gwared ar yr asbestos a'r hen systemau, y
byddai angen cael gwared arnynt cyn dechrau ar y prif waith a fyddai'n dechrau
ar ddechrau 2022. Byddai'r prif
waith, gan gynnwys gwneud yr adeilad yn addas i'w ddefnyddio, yn dechrau ym mis
Mawrth 2022 a bwriedir i'r gwaith gael ei gwblhau o ddiwedd mis Medi tan
ddiwedd y flwyddyn honno. Darparodd Neil Farquhar ddelweddau amrywiol o'r adeilad ar ei ffurf
bresennol, yn fewnol ac yn allanol. Dywedodd fod nifer o heriau mewn perthynas
â'r adeilad, megis y to yr oedd angen ei atgyweirio'n sylweddol a bod y
gwasanaethau presennol ar ddiwedd eu hoes naturiol. Byddai'r rhain yn cael eu diweddaru yn
ogystal â ffabrig yr adeilad i wella effeithlonrwydd ynni a chymwysterau
cynaliadwy'r prosiect. Byddai'r
Penseiri'n cael gwybodaeth gan y rhanddeiliaid am
drefn y llety, trefniadau arbennig i gynllunio sut y byddent i gyd yn ffitio yn
yr adeilad er mwyn rhoi cymaint o amlygrwydd â phosib i bob maes gwasanaeth. O ran defnyddio
safonau enghreifftiol megis cynllun ardystio Safon Adeiladu WELL, cadarnhaodd
Geoff Bacon y byddem yn gweithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol, gan edrych ar
bob llinyn a lefel gynaliadwyedd gwahanol, a fyddai'n cynnwys y cynllun
ardystio WELL yn y cyfyngiadau ar y gyllideb sydd ar gael. Fodd bynnag, cafwyd cefnogaeth sylweddol gan
Lywodraeth Cymru, sy'n ystyried hyn yn gam pwysig tuag at adfywio Canol y
Ddinas. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Cytunwyd y dylid nodi'r cyflwyniad. |
|
Asesiad o Lesiant Lleol 2022: Cydweithrediad Rhanbarthol a Diweddariad Lleol PDF 629 KB Steve King, Cyngor Abertawe Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Steve King, Cyngor Abertawe adroddiad i nodi datblygiadau diweddar wrth baratoi
ar gyfer yr Asesiad o Les Lleol nesaf ar gyfer 2022. Cytunwyd nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. (Llafar) Adam Hill, Cyngor Abertawe Penderfyniad: Nodwyd y cynnydd. Cofnodion: Adroddodd Adam
Hill, Cyngor Abertawe fod yr Adroddiad Blynyddol wrthi'n cael ei gwblhau'r
wythnos honno ac y byddai'n cael ei ddosbarthu i bartneriaid ar 25 Mehefin i'w
wirio'n derfynol. Gofynnodd am lunio'r
adroddiad yn gyflym fel y gellid anfon y fersiwn derfynol i'w chyfieithu'n
Gymraeg er mwyn bodloni'r dyddiad cau ar ddiwedd mis Gorffennaf. Penderfynwyd cofnodi'r diweddariad llafar. |
|
Pynciau a Chynhadledd Cyfarfod y Fforwm Partneriaeth. (Llafar) Adam Hill, Cyngor Abertawe Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad. Cofnodion: Gofynnodd Adam
Hill, Cyngor Abertawe a hoffai unrhyw bartner â sgiliau trefnu da mewn
cyd-gynhyrchu ymuno â'r Grŵp Tasg a Gorffen Cydlynu ar gyfer y Fforwm
Partneriaeth. Cytunwyd y dylid anfon enwau at Adam Hill / Leanne Ahern. |
|
Grant Cymorth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. PDF 570 KB Adam Hill, Swansea
Council Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Er gwybodaeth. |
|
Rhaglen waith ar gyfer y dyfodol. 21 Hydref 2021 1.
Adrodd a Monitro Cynlluniau Gweithredu; 2.
Grŵp Dinas Hawliau Dynol; 3.
Trefniadau ac Agenda'r Fforwm Partneriaeth. 16 Rhagfyr 2021 1.
Siaradwr Gwadd (Iechyd); 2. Adolygiad 6 Mis o Gynlluniau Gweithredu. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer cyfarfodydd mis Hydref a mis Rhagfyr ac
anogodd bartneriaid eraill i ystyried darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am eu
sefydliad / pwnc penodol mewn cyfarfod yn y dyfodol. Penderfynwyd y dylid nodi'r Cynllun Gwaith. |