Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw
ddatganiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cytunwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion
Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 11 Chwefror
2021 fel cofnod cywir. |
|
Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol. PDF 90 KB Cofnodion: Rhoddodd Adam
Hill, Cyngor Abertawe, yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu sy'n
deillio o'r cyfarfod blaenorol. Er nad oedd y
camau wedi'u cwblhau, roedd pethau wedi symud ymlaen a byddai'n diweddaru
ymhellach fel rhan o Gofnod rhif 37, "Diweddariad/Llinell Amser yr Asesiad
Lles Lleol (Rhanbarthol)". Cytunwyd y dylid nodi'r diweddariad. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Agenda Werdd/Newid yn yr Hinsawdd. PDF 593 KB Martin
Nicholls, Cyngor Abertawe Cyflwyniad Cyngor Abertawe ar Newid yn yr
Hinsawdd -
Cofrestru
ar gyfer y siarter -
Paratoi
cynllun gweithredu -
Cynyddu Ymwybyddiaeth Cofnodion: Rhoddodd Martin
Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd Cyngor Abertawe, gyflwyniad ar yr Agenda
Werdd/Newid yn yr Hinsawdd o'r enw "Abertawe Ddi-garbon
Net". Amlinellodd: Ø
Y
cerrig milltir o ran yr hinsawdd hyd yma; Ø
Y
daith hyd yn hyn (Cyngor Abertawe Di-garbon Net erbyn 2030); Ø
Yr
amcanion; Ø
Siarter
Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd Abertawe a sut yr oedd yn cysylltu â
deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill; Ø
Camau
gweithredu allweddol ar gyfer Cyngor Abertawe Di-garbon Net; Ø
Siarter
Cyngor Abertawe ar Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd; Ø
Addewid
ar gyfer Abertawe Ddi-garbon Net erbyn 2050; Ø
Ymgysylltu; Ø
Y
camau cyntaf; Daeth â’r
cyflwyniad i ben drwy ofyn: •
A oedd
lle posib i ddull cydweithredol a arweinir gan y BGC? •
A
oedd y BGC wedi ymrwymo i egwyddorion tebyg? •
A
oedd unrhyw feysydd penodol y byddai'r BGC yn gweld gwerth mewn gweithio gyda'i
gilydd? Trafodwyd y
materion canlynol: Effaith tanau
glaswellt a difrod i goedwigaeth; Caffael cerbydau
trydan ar y cyd; Teithio
cynaliadwy (gan gynnwys teithio i'r gwaith); Mwy o bobl yn
beicio yn ystod y cyfnod clo; Defnyddio ystadau
a'r posibilrwydd o rannu swyddfeydd gyda phartneriaid yn fwy effeithiol
(canolfannau cymunedol); Dywedodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai'r cyngor yn hapus i rannu dysgu a'u profiadau er
mwyn osgoi i bartneriaid wneud yr un camgymeriadau. Gofynnodd i bartneriaid: 1)
Ymuno
â'r Siarter Newid yn yr Hinsawdd; 2)
Ymrwymo
i'w cynllun gweithredu sefydliadol unigol eu hunain. Cam
Gweithredu: 1)
Bydd
partneriaid yn darparu manylion cyswllt cynrychiolydd ym mhob sefydliad i
Leanne Ahern/Martin Nicholls er mwyn i'r trafodaethau cychwynnol ddechrau; 2)
Martin
Nicholls, Cyngor Abertawe, i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am feysydd
blaenoriaeth ac adborth ar y ffordd ymlaen mewn Cyd-bwyllgor Gwasanaethau
Cyhoeddus yn y dyfodol. |
|
Llinellau Sirol, Camddefnyddio Sylweddau, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel, Y Stryd Fawr. Paul Thomas, Cyngor Abertawe Cofnodion: Rhoddodd Paul
Thomas, Cyngor Abertawe, yr wybodaeth ddiweddaraf am Linellau Sirol, Camddefnyddio
Sylweddau, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel, Y
Stryd Fawr fel a ganlyn: Ø
Cytunwyd
ar ganiatâd cynllunio ac roedd contractwyr ar y safle yn adnewyddu safleoedd
gwag ar ben uchaf y Stryd Fawr; Ø
Roedd
gwaith ymgysylltu â'r gymuned wedi parhau o ran y bwriad i ddefnyddio'r 3 uned
fusnes wag; Ø
Llinellau
Sirol – er bod nifer o linellau sirol yn gweithredu yn Abertawe, roedd yr holl
bobl ifanc dan sylw yn cael eu trin fel dioddefwyr. Roedd nifer o warantau cyffuriau wedi'u
cynnal ar ben uchaf y Stryd Fawr/Matthew Street. Roedd dulliau stopio a chwilio a chasglu
gwybodaeth wedi parhau. Gosodwyd
posteri yn Matthew Street a'r Stryd Fawr yn nodi bod gwaith cudd yr Heddlu yn
parhau. Roedd hwn yn amlinellu'r cydweithio rhagorol a oedd yn parhau rhwng
Heddlu De Cymru, yr Adran Dai, yr Uned Cefnogi Cymdogaethau (NSU) a cheidwad y
Stryd Fawr wrth gyfeirio at faterion a risgiau yn yr ardal ac o'i chwmpas.
Roedd wedi arwain at nodi gwendidau sylweddol. Ø
Camddefnyddio
sylweddau – roedd gwaith allgymorth yn y Stryd Fawr wedi parhau yn ystod y
pandemig. Mae'r prosiect Cymorth, Lles,
Eiriolaeth, Galluogi (SWAN) a arweinir gan Gymorth i Fenywod yn ymddangos ar y
Stryd Fawr bedair noson yr wythnos yn gweithio ar y fan. Y gobaith oedd y byddai eiddo gwag ar ben
uchaf y stryd fawr yn cael ei ddefnyddio fel cyfleuster amgen, gan arwain at
amgylchedd mwy croesawgar. Gellid gweld
rhwng 10-20 o weithwyr rhyw y noson.
Roedd cyfleuster cyfnewid nodwyddau a nyrs iechyd rhywiol hefyd ar gael
ar y fan a chynhaliwyd profion feirws a gludir yn y gwaed unwaith y mis. Roedd chwe gweithiwr rhyw wedi cymryd rhan ym
mhroses y Gwasanaeth Mynediad Cyflym at Bresgripsiynau (RAPS) a gynhaliwyd gan
Dyfodol. Roedd hon yn enghraifft wych o ddull integredig o weithio ar raddfa
fach er bod angen ystyried darparu gwasanaethau'n ehangach. Gellid gwella'r
cyngor ar ymgysylltu/leihau niwed mewn fferyllfeydd. Gwaith parhaus gyda'r tîm trais yn erbyn
menywod, cam-drin domestig a rhywiol (VAWDASV) a Chynhadledd Amlasiantaeth
Asesu Risg (MARAC) gweithwyr rhyw mewn perthynas â chyngor ar iechyd rhywiol a
cham-drin domestig ynghyd â gwasanaethau cymorth ychwanegol. Amcan yr Heddlu; chwilio dadansoddi; ymateb;
asesu (OSARA)mae cynllun gweithredu datrys problemau asesu bellach yn golygu
bod yr holl bartneriaid yn gallu cyfrannu at broses cynllun gweithredu OSARA ar
gyfer y Stryd Fawr. Ø
Roedd
ymgynghoriad Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC) bellach wedi
cau, ond roedd cyllid wedi'i sicrhau o'r blaen i wella goleuadau ac edrychiad a
naws gyffredinol pen uchaf y Stryd Fawr, celfi stryd a mannau cyhoeddus yr
ardal, waeth beth fo canlyniad y GDMAC. Dywedodd Adam
Hill y byddai'r BGC yn parhau i dderbyn diweddariadau rheolaidd gan y
Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol drwy Paul Thomas a'i dîm. Yn ogystal, byddai'r
Dull Integredig o fynd i'r afael â Chamddefnyddio Sylweddau ar gyfer y
rhanbarth yn cysylltu â'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Cam gweithredu: cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Ymgyrch Dawns Glaw 2021. (Cyflwyniad) PDF 1 MB Mydrian Harries, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Cofnodion: Rhoddodd Mydrian
Harries, Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyflwyniad ar
Ymgyrch Dawns Glaw 2021 a oedd yn dasglu amlasiantaethol a sefydlwyd yn 2016 yn
dilyn cryn dipyn o danau glaswellt yn 2015. Amlinellodd: ·
Tanau
bwriadol yng Nghymru – Tueddiadau Hirdymor; ·
Ffigurau
ar gyfer nifer y tanau glaswellt blynyddol; ·
Cipolwg
o'r uchod......; ·
Beth
mae'r data yn ei ddweud wrthym; ·
Beth
yw Ymgyrch Dawns Glaw?; ·
Beth
mae Ymgyrch Dawns Glaw yn ei wneud?; ·
Sut y
gall y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gynorthwyo?; Trafododd y partneriaid feysydd problemus,
gan gynnwys Mynydd Cilfái, y tybiwyd mai hon oedd y goedwig drefol fwyaf yng
Nghymru ac awgrymodd gysylltu â Paul Thomas i sicrhau y gallai unrhyw faterion
diogelwch cymunedol gael eu hyrwyddo a'u datrys ar y cyd gan bartneriaid. Y gobaith oedd y byddai Cyfoeth Naturiol
Cymru yn gallu parhau i ddarparu'r arian grant, ond byddai hyn yn dibynnu ar
ddigon o adnoddau cyllidebol. Diolchodd y Cadeirydd a'r partneriaid i Mydrian
Harries am y cyflwyniad llawn gwybodaeth. Cytunwyd y dylid nodi'r cyflwyniad. |
|
Cadeirydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd ei bod wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod gyda'r Gweinidog, ynghyd
ag Adam Hill a Roger Thomas. Un o'r
negeseuon allweddol a amlygwyd yn y cyfarfod oedd y byddai'r BGC yn parhau ac y
byddai uno gwirfoddol yn cael ei groesawu.
Fodd bynnag, roedd yn amlwg y byddai Awdurdodau Lleol unigol yn dymuno
cynnal eu hunigoliaeth mewn unrhyw uno. Gallai cyfuno fod
yn ganlyniad cadarnhaol er mwyn lleihau nifer y cyfarfodydd a chanolbwyntio
ymdrechion er mwyn ychwanegu gwerth.
Awgrymwyd bod pynciau fel Diogelwch Cymunedol a Newid yn yr Hinsawdd yn
rhannu cyffredinrwydd ar gyfer BGC unedig Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, roedd yn amlwg y byddai angen i
unrhyw Asesiad Lles ganolbwyntio ar faterion lleol. Roedd ymateb
wedi'i ddrafftio i'r Gweinidog, ond cytunwyd y dylid cynnal trafodaethau
pellach yn y cyfarfod nesaf. Cam Gweithredu: Cynnal trafodaethau pellach yng nghyfarfod nesaf BGC ar y Cyd Abertawe. |
|
Diweddariad/Llinell Amser Yr Asesiad Lles Lleol (Rhanbarthol). PDF 547 KB Steve King, Cyngor Abertawe Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Steve
King, Cyngor Abertawe, adroddiad i nodi datblygiadau diweddar wrth baratoi ar
gyfer yr Asesiad Lles Lleol nesaf yn 2022. Dywedodd fod
pethau wedi datblygu ychydig ers y cyfarfod diwethaf. Roedd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd
Port Talbot wedi ysgrifennu at Gadeirydd BGC Abertawe i awgrymu eu bod yn
gweithio ar ddull cyffredin o gynnal Asesiadau Lles Lleol gyda chyfarfod y
Bwrdd Cydlynu wedi'i drefnu ar gyfer 16 Ebrill 2021. Yn ogystal,
derbyniwyd adroddiadau Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac roeddent wedi'u
hatodi yn Atodiad C. Gan fod y dimensiwn
rhanbarthol yn dal i ddod o hyd i'w ffordd, cynigiwyd y dylid sefydlu grŵp
asesu golygyddol cysgodol i ddechrau edrych ar wahanol dasgau, ond dylid nodi y
byddai hon yn broses gyfnewidiol.
Amlinellwyd amserlen ddrafft ym mharagraff 2.7 o'r adroddiad. Trafododd
partneriaid y mater yn fanwl iawn a chytunwyd y byddai grŵp asesu
golygyddol cysgodol lleol yn dechrau er mwyn casglu'r data perthnasol ac y
gallai gweithgorau/grwpiau golygyddol lleol ddod at ei gilydd yn ddiweddarach
er mwyn cyd-gynhyrchu i fodloni gofynion y Ddeddf. Cytunwyd: 1)
y
dylai'r Cyd-bwyllgor nodi'r adroddiad. 2)
Bod y
Pwyllgor yn nodi'r canllawiau sy'n dod i'r amlwg gan Lywodraeth Cymru a
Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. 3)
Yn
amodol ar ddatblygiadau ar lefel ranbarthol, gan gynnwys y Bwrdd Cyd-gysylltu
rhanbarthol arfaethedig, sefydlir Grŵp Asesu Golygyddol Cysgodol Abertawe
i ddatblygu'r Asesiad Lles Lleol i ddechrau. |
|
Grant Cymorth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. PDF 239 KB Adam Hill, Cyngor Abertawe Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Er gwybodaeth -
heb ei drafod. |
|
Cyllid Grant Cyfoeth Naturiol Cymru. PDF 676 KB Adam Hill, Cyngor Abertawe Cofnodion: Cyfeiriodd Adam
Hill, Cyngor Abertawe, at Grant Cyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd fod angen gwybodaeth derfynol am
gyfran o'r £25,000 erbyn yr wythnos nesaf.
Byddai ceisiadau llwyddiannus yn cael eu hadrodd maes o law. |
|
Rhaglen Waith ar Gyfer y Dyfodol: 17 Mehefin 2021 1.
Siaradwr Gwadd (Cyfoeth
Naturiol Cymru) 2.
Adrodd a Monitro
Cynlluniau Gweithredu 3.
Adolygiad Rheoli
Perfformiad 4.
Dyletswydd
economaidd-gymdeithasol 5.
Asesiad
Lles 6.
Sesiwn Ddatblygu Aelodau
Bwrdd y BGC 7.
Pynciau
a Chynhadledd Cyfarfod y Fforwm Partneriaeth 12 Awst 2021 - Wedi'i ganslo 1.
Adrodd a Monitro
Cynlluniau Gweithredu 2.
Grŵp Dinas Hawliau
Dynol 3.
Trefniadau ac Agenda'r
Fforwm Partneriaeth 21
Hydref 2021 1.
Siaradwr Gwadd (Iechyd) 2.
Adolygiad 6 Mis o
Gynlluniau Gweithredu Cofnodion: Adroddodd y
Cadeirydd ar Raglen Waith y dyfodol. Cytunwyd y dylid gohirio'r "Sesiwn ddatblygu Aelodau Bwrdd" ac eitemau agenda "Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol" nes cyfarfod yn y dyfodol. |