Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso. Cofnodion: Croesawyd pawb
i'r cyfarfod gan y Cynghorydd Clive Lloyd, Cadeirydd ar y Cyd, a gwnaed
cyflwyniadau. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni wnaethpwyd
unrhyw ddatganiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cytunwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion
cyfarfod Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 17
Mis Hydref 2019 fel cofnod cywir. Materion a
godwyd: Eitem 19
"Diweddariad gan y Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol - Stryd Fawr,
Abertawe” Nododd Alun
Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, bwysigrwydd a chyd-destun Cymraeg
ehangach y materion a amlygwyd gan y Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol (GDT)
yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd rhwng Abertawe a
Chastell-nedd Port Talbot a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020. Cyflwynodd y Prif
Gwnstabl Cynorthwyol, Jeremy Vaughan, bapur ar ran y Prif Gwnstabl a oedd yn
nodi, er y cymerwyd camau gweithredu penodol, roedd yn glir nad oeddent yn cael
yr effaith angenrheidiol nac yn datrys y broblem. Nododd Mr Michael fod
Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn yr ail a'r trydydd safle ar ôl Blackpool o ran marwolaethau sy'n ymwneud â chyffuriau yng
Nghymru. Ystyriodd y
gweinidogion eu pryderon, fodd bynnag roedd Karen Jones, Castell-nedd Port Talbot
(CNPT) a Joanna Maal, Heddlu De Cymru, Cadeiryddion y
Byrddau Cynllunio Ardal, yn gyfrifol am wneud cynnydd mewn perthynas â’r
materion ar sail "Cymru Gyfan". Apeliodd Mr
Michael i BID Abertawe roi'r eitem hon yn uwch ar ei agenda, a chydweithio i fwrw
ymlaen â’r gwaith mewn perthynas â: ·
Chamddefnyddio
Sylweddau; ·
Profiadau
Niweidiol yn ystod Plentyndod; ·
Iechyd
Meddwl; ·
Trais
yn erbyn Menywod a Merched. Amlinellodd
fanylion y cynllun 'DRIVE' - ymagwedd flaengar at droseddwyr cam-drin domestig
difrifol. Rhondda Cynon Taf a Merthyr fyddai’n treialu’r cynllun gyntaf, gyda
Chaerdydd yn ail. Byddai'r cynllun yn cael ei ehangu i Abertawe a Chastell-nedd
Port Talbot erbyn ail hanner y flwyddyn ariannol nesaf. Cydnabuwyd nad
oedd y partneriaid yn ymwybodol ar y pryd o'r swm enfawr o waith yr oedd angen
ei wneud i ddrafftio’r asesiadau lles lleol ar gyfer Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol ac a ddeilliodd o’r GDT.
Fodd bynnag, amlygwyd hyblygrwydd y partneriaid a'u gallu i ymateb a
gweithio gyda'i gilydd ar fyr rybudd er mwyn mynd i'r afael â'r problemau a
wynebwyd. Cam gweithredu - Adam Hill i drafod â Karen Jones a Joanna Maal ac Angharad Metcalfe (Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu) a dosbarthu'r wybodaeth berthnasol i Gyd-bwyllgor y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol. PDF 207 KB Cofnodion: Adroddodd y
Cynghorydd Clive Lloyd, Cyd-gadeirydd, am gamau gweithredu a ddeilliodd o’r
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd at 17 Hydref 2019. ·
Cynllun
Newid yn yr Hinsawdd - ni ddosbarthwyd y ddogfennaeth gan fod gwaith yn parhau
gyda'r cyfle posib i dendro ar gyfer prosiect newid yn yr hinsawdd cam 2.
Cynhelir trafodaethau pellach â’r ffrwd waith Gweithio gyda Natur, a darperir
diweddariad i gyd-bwyllgor y BGC yn y dyfodol; ·
Rhannu Cyllidebau - cau'r eitem tan fod angen yn codi; ·
Adolygu
cylch gorchwyl y BPRh a'r BGC - cynhaliwyd
cyfarfodydd amrywiol; cynhelir ymarfer pen bwrdd a chyflwynir papur i gyfarfod
yn y dyfodol ynghylch yr eitemau nad oedd modd cydweithio arnynt; ·
Clefyd coed ynn - adroddodd Peter Jordan fod Cyfoeth
Naturiol Cymru a Chyngor Abertawe wedi bod yn cydweithio ar y Rhaglen Clefyd
Coed Ynn. Os yw unrhyw bartneriaid eraill am fod yn rhan o'r rhaglen, dylent
roi gwybod iddo. Os bydd angen, gellir rhoi'r diweddaraf am gynnydd mewn
cyfarfod yn y dyfodol. Penderfynwyd nodi'r gweithredoedd. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored
agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnodd Mr Perrott 2 gwestiwn mewn perthynas â chyllid o ran
argyfyngau natur a hinsawdd, a'r dyletswyddau a osodwyd gan Ddeddf Rheoli
Llifogydd a Dŵr, a sut roedd yr arian cyfalaf yn cael ei ddefnyddio ar
gyfer 5 llinyn y strategaeth genedlaethol ar gyfer ardal BGC Abertawe. Darparodd Peter Jordan, Cyfoeth Naturiol Cymru, ymateb llafar cynhwysfawr i Mr Perrot. |
|
Amlygu Adroddiadau ar Lifoedd Gwaith yr Amcan Lles. (gan gynnwys cofnod o risgiau) PDF 446 KB ·
Y Blynyddoedd Cynnar - Bwrdd Iechyd Prifysgol
Bae Abertawe; ·
Byw'n Dda, Henediddio'n Dda - Adam Hill, Cyngor Abertawe; ·
Gweithio gyda Natur - Martyn Evans, Cyfoeth Naturiol Cymru; ·
Cymunedau Cryfach - Roger Thomas, Gwasanaeth
Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd pob un
o arweinwyr yr amcanion ddiweddariad am: ·
Y
Blynyddoedd Cynnar - dywedodd Siân Harrop-Griffiths na nodwyd unrhyw risgiau ar
gyfer y ffrwd waith hon; ·
Byw'n
Dda, Heneiddio'n Dda; ·
Gweithio
gyda Natur; ·
Cymunedau
Cryf - cafwyd trafodaeth ynghylch y materion a amlinellwyd yn yr Adroddiad
Amlygu a'r cofnod o risgiau. Cydnabuwyd bod angen ailwerthuso'r
gwaith a'r blaenoriaethau a nodwyd nad oedd y broblem yn unigryw i BGC
Abertawe. Roedd rhwystredigaeth ynghylch cyflymdra'r hyn yr oedd y BGC yn ei
wneud ac a oedd yn ychwanegu gwerth neu beidio. Er bod y BGC yn awyddus i
newid, byddai gweithio tuag at strwythur sengl â rhagor o bartneriaethau ond
llai o gyfarfodydd yn fuddiol. Gallai CLlC helpu i
resymoli'r strwythur. Gobeithiwyd hefyd y byddai mesur newydd Llywodraeth Leol
ac Etholiadau (Cymru) yn helpu. Nododd y
Cynghorydd Rob Stewart fod Cyngor Abertawe yn y broses o ddrafftio Strategaeth
Newid yn yr Hinsawdd, ac roedd yn gobeithio y byddai partneriaid yn awyddus i
ymrwymo iddi hefyd. Soniodd hefyd am Abertawe'n dod
yn Ddinas Hawliau Dynol cyntaf y DU, ac awgrymodd y dylid rhoi hyn fel eitem ar
yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y cyd-bwyllgor. Cytunwyd y dylid: 1)
Nodi'r
diweddariadau; 2)
Y
dylai'r BGC ailwerthuso blaenoriaethau Ffrwd Waith
Cymunedau Cryf yng nghyfarfod nesaf Fforwm BGC Abertawe a drefnwyd ar gyfer 12
Mai 2020. Byddai cyfarfod paratoi'n cael
ei gynnal yr wythnos ganlynol pe bai partneriaid am gymryd rhan. Hefyd
gofynnwyd i bartneriaid awgrymu lleoliad ar gyfer 70 i 100 o bobl - dylid anfon
gwybodaeth at Swyddog Cefnogi'r BGC. 3) Rhoi Dinas Hawliau Dynol ar yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf cyd-bwyllgor y BGC. |
|
Cofnodlyfr Risgiau/Cofnodlyfr Materion y Cyd-bwyllgor PDF 318 KB Cadeirydd Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Clive Lloyd, Cyd-gadeirydd, gofnod o faterion y cyd-bwyllgor.
Cytunwyd i nodi’r cofnod risgiau/materion y cyd-bwyllgor |
|
Adroddiad Sywyddfa Archwilio Cymru - Adolygiad o'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. PDF 406 KB Adam Hill Cofnodion: O ganlyniad i
Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adolygiad o Fyrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus, roedd Adam Hill a Siân Harrop-Griffiths wedi llunio
papur trafodaeth i ystyried y 4 argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad. Nododd Adam Hill fod BGC Abertawe mewn sefyllfa gymharol dda, fodd bynnag
roedd gwaith i'w wneud o hyd mewn perthynas â'r Strategaeth Gyfathrebu, ac
roedd angen ystyried cyfranogiad a mewnbwn dinasyddion a rhanddeiliaid,
fel rhan o bob ffrwd gwaith. Dywedodd Siân
Harrop-Griffiths wrth y pwyllgor fod BGC Castell-nedd Port Talbot yn sefydlu
Panel y Dinasyddion, a byddai hyn yn fan cychwyn da. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Argyfwng yr Hinsawdd - Arian cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Argyfyngau Natur a'r Hinsawdd/rhaglenni grant CNC. Pete Jordan Cofnodion: Darparodd Pete Jordan fanylion cryno cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru
ar gyfer argyfyngau natur a hinsawdd/rhaglenni grant Cyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd y
byddai'n darparu adroddiad mwy cynhwysfawr yn un o gyfarfodydd BGC Abertawe yn
y dyfodol i amlinellu'r union fanylion ar ôl eu derbyn yn swyddogol. Cytunwyd y dylid: 1)
Nodi'r
diweddariad: 2) Rhoi gwybod am fanylion ariannu pellach i gyd-bwyllgor y BGC ar ôl eu derbyn yn swyddogol. |
|
Adborth gan Banel Craffu Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 5 Chwefror 2020. (Verbal) Cadeirydd Cofnodion: Darparodd y
Cynghorydd Clive Lloyd, Cyd-gadeirydd, ddiweddariad llafar mewn perthynas â
Phanel Craffu Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 5
Chwefror 2020. Roedd Siân
Harrop-Griffiths, Adam Hill a'r Cynghorydd Lloyd wedi mynd i gyfarfod y panel i
ateb cwestiynau am ffrydiau gwaith y Blynyddoedd Cynnar a Byw'n Dda,
Heneiddio'n Dda. Nodwyd ei fod yn
gyfarfod cadarnhaol lle’r amlygwyd y ffaith bod y Partneriaethau'n gweithio'n
dda, eu bod yn gynhwysol a bod perthnasoedd gwaith da wedi'u sefydlu. Penderfynwyd cofnodi'r diweddariad llafar. |
|
Diweddariad ar Gyd-bwyllgor y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. (Verbal) Adam Hill Cofnodion: Trafodwyd yr
eitem eisoes yng Nghofnod 24 "cofnodion y cyfarfod diwethaf". |
|
Diweddariad ar y Grwp Digwyddiadau Argyfyngus. (Verbal) Adam Hill Cofnodion: Darparodd Adam
Hill ddiweddariad llafar am y Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol, fel a
ganlyn: ·
Roedd
yn cynnwys gweithwyr stryd diamddiffyn, ymddygiad gwrthgymdeithasol,
camddefnyddio sylweddau a thrais; ·
Roedd
asesiadau'n dangos gostyngiad o 37% o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a 47% o
ran trais gydag anaf; ·
Roedd
Adam Hill a'r Uwch-arolygydd Gareth Morgan wedi ymweld â Phrifysgol Cymru y
Drindod Dewi Sant i siarad â myfyrwyr y gyfraith - cafwyd adborth bod myfyrwyr
bellach yn teimlo'n ddiogel ar y Stryd Fawr; ·
Roedd
Heddlu De Cymru'n ystyried cynnal cyfarfodydd deufisol
â phreswylwyr a busnesau lleol; ·
Ystyried
cynnal sesiwn gyhoeddus flynyddol fel prawf modd; ·
Mae
prosiect allgymorth BAROD yn gweithio ochr yn ochr â phrosiect SWAN a
swyddogion Operation Jaeger; ·
Ehangwyd
y cynllun cyfnewid nodwyddau ac maent bellach ar gael o fan prosiect SWAN; ·
Byddai
unedau ar ben uchaf y Stryd Fawr yn cael eu rheoli a'u defnyddio fel 'mannau
diogel'; ·
Penodwyd
Ceidwad Canol y Ddinas ar gyfer y Stryd Fawr; ·
Roedd
newyddion cadarnhaol ynghylch y gwaith i adfer Theatr y 'Palace' Amlygwyd bod hyn
yn enghraifft dda o'r ffrwd waith 'Cymunedau Cryf' er y cyflawnwyd hyn drwy
fethodoleg arall. Cytunwyd y dylid cofnodi'r diweddariad. |
|
Diweddariad ar y Comisiwn Gwirionedd Tlodi. (Verbal) Cadeirydd Cofnodion: Darparodd Anthony
Richards, Rheolwr Strategaeth Tlodi a'i Atal a Datblygu, ddiweddariad llafar am
y Comisiwn Gwirionedd Tlodi. Nododd mai dyma
fyddai'r Comisiwn Gwirionedd Tlodi cyntaf yng Nghymru, ac y byddai'n: ·
Cyflwyno
newid, yn newid cymunedau, sefydliadau, ymddygiadau ac agweddau at dlodi ac yn
gweithredu i fynd i'r afael ag ef; ·
Dod â phenderfynwyr allweddol a phobl â phrofiad uniongyrchol o
dlodi ynghyd i ffurfio grŵp sy'n cynnwys 30 o gomisiynwyr, 15 o
Gomisiynwyr Dinesig/Busnes a 15 o Gomisiynwyr Cymunedol; ·
Creu ardal ddiogel er
mwyn i Gomisiynwyr gwrdd ac adeiladu ar berthnasoedd, ymddiriedaeth a magu
hyder yn ei gilydd; ·
Nodi materion
allweddol y byddant yn cydweithio arnynt, dros amserlen cyfnod cyfyngedig, a
arweinir gan brofiadau'r Comisiynwyr Cymunedol. (Y cyfnod rhwng y lansiad
cyhoeddus a'r Digwyddiad Cloi/Cyhoeddi'r Adroddiad Terfynol - 18 mis); ·
Sicrhau bod y rheini
y mae'r penderfyniadau'n effeithio arnynt yn ganolog i wneud penderfyniadau. Byddai gan y
comisiwn gylch bywyd o 2 flynedd. Byddai'r chwe mis cyntaf yn cynnwys sefydlu'r
tîm hwyluso, tystio comisiynwyr a nodi'r materion allweddol y byddai'r comisiwn
yn eu blaenoriaethu i weithio arnynt, y bobl ddylanwadol a fyddai'n cael eu
gwahodd i fod yn Gomisiynwyr Dinesig a Busnes. Dilynir hyn gan
lansiad cyhoeddus, tua mis Medi/Hydref, a fyddai'n nodi dechrau'r comisiwn a'i
broses deunaw mis. Byddai adroddiad yn cael ei lunio ar ddiwedd y broses i
egluro'r canlyniadau a'r effeithiau. Roedd y grŵp
newydd wedi dechrau ar y canlynol hyd yn hyn: ·
Dewis
sefydliad cynnal (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA)); ·
Sicrhau
arian digonol (gwnaed hyn yn rhannol ond roedd bwlch cyllid o £40 mil o hyd); ·
Recriwtio'r
Tîm Hwyluso (ar waith erbyn mis Ebrill 2020) Byddai'r Comisiwn
yn cael ei gynnal tan fis Ebrill 2022. Cytunwyd y dylid cofnodi'r diweddariad. |
|
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. Cofnodion: Atgoffodd Adam
Hill y partneriaid y byddai angen cwblhau'r adroddiad blynyddol cyn bo hir. Byddai templed yn
cael ei ddosbarthu, fodd bynnag byddai unrhyw enghreifftiau, lluniau neu
astudiaethau achos yn cael eu hanfon at Leanne Ahern, Swyddog Cefnogi'r BGC,
dros y pythefnos nesaf. Cam
Gweithredu: 1) Byddai angen i'r holl bartneriaid anfon esiamplau, lluniau neu astudiaethau achos i Leanne Ahern, Swyddog Cefnogi'r BGC o fewn y pythefnos nesaf. |