Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

10.

Cofnodion. pdf eicon PDF 105 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cofnodion Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir.

11.

Cylch Gorchwyl. pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ness Young, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Abertawe, Gylch Gorchwyl diweddaraf Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe i'w gymeradwyo.

 

Gofynnwyd i’r Bwrdd adolygu’r diwygiadau a wnaed a derbyn yr holl newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cylch gorchwyl diweddaredig.

12.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Questions can be submitted in writing to Democratic Services democracy@swansea.gov.uk up until noon on the working day prior to the meeting. Written questions take precedence. Public may attend and ask questions in person if time allows. Questions must relate to items on the open part of the agenda and will be dealt within a 10 minute period.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

13.

Y diweddariadau ar yr 8 cam yng Nghynllun Gweithredu'r BGC 2023-24. pdf eicon PDF 175 KB

·       Trawsnewid gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar ar draws Abertawe.

 

·       Adeiladu ar Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol.

 

·       Gweithio tuag at darged sero-net ac adferiad natur Abertawe.

 

·       Gwneud Abertawe’n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn fwy ffyniannus.

 

·       Datblygu cynnig diwylliannol integredig Abertawe.

 

·       Dylanwadu ar drefniadau llywodraethu eraill ar draws rhanbarth Bae Abertawe a chysylltu â hwy.

 

·       Gwella ansawdd data a hygyrchedd ar draws rhanbarth Bae Abertawe.

 

·       Datblygu trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd ac Cymeradwywyd..

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad ar ddatblygiad cynllun gweithredu 2023-24 a’r cynnydd ar y camau hyd yma.

 

Amlinellwyd, ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023, fod y camau yn y cynllun gweithredu wedi’u symud ymlaen. Roedd adroddiad yr Arweinwyr Strategol yn Atodiad A yn egluro'r cynnydd ar eu camau.

 

Ychwanegwyd y byddai'r eitem yn cael ei chyflwyno fel eitem safonol ym mhob cyfarfod ffurfiol y bwrdd. 

 

Cyflwynir amserlen a phroses arfaethedig ar gyfer datblygu camau gweithredu ar gyfer 2024-25 a thu hwnt i'r BGC yng nghyfarfod olaf y BGC ar gyfer 2023-24.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Nodi’r cynnydd a wnaed yn chwarter 2 2023-24.

2)    Bod adroddiad diweddaru ar y cynllun gweithredu a'i gynnydd yn cael ei gynnwys fel eitem sefydlog yng nghyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol.

14.

Digwyddiad 'Cerdded yn ein 'sgidiau ni' ar 17 Hydref 2023.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd Richard Felton, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (MWWFA), ddiweddariad llafar ynghylch y digwyddiad ‘Cerdded yn ‘Sgidiau ni’ a drefnwyd ar gyfer 17 Hydref 2023 yng Nghyfleuster Hyfforddi MWWFA Earlswood yn Jersey Marine.

15.

Rhaglen Waith y Dyfodol:

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd

 

Cynllunio Ardal Diweddariad ar glystyrau Meddygon Teulu

 

 

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Nodwyd y rhaglen waith ar gyfer y dyfodol.