Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2023-2024.

Cofnodion:

 

Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd Andrea Lewis, Cyngor Abertawe yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024.

 

Bu'r Cynghorydd Andrea Lewis (Cadeirydd) yn llywyddu

 

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2023-2024.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid ethol Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024.

 

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

 

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 242 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cofnodion Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2023 fel cofnod cywir

5.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

 

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

 

6.

Diweddariad ar Gynllun Gweithredu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. pdf eicon PDF 175 KB

a.    Cynllun terfynol

b.    Adroddiad Cynnydd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ness Young adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r BGC ar ddatblygiad cynllun gweithredu 2023-24 ac amlinellodd y cynnydd ar y camau gweithredu hyd yn hyn.

 

Amlinellodd ers cyfarfod diwethaf y BGC a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2023, penderfynwyd ar gynllun gweithredu ac atodwyd hwnnw i'r adroddiad a ddosbarthwyd yn Atodiad A.

 

Cyflwynodd Ness Young, Nerissa Vaughan, Roger Thomas a Helen Gray yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i'r BGC ar y camau gweithredu amrywiol a gymerwyd, y canlyniadau dymunol a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn ogystal â'r dyddiadau cerrig milltir ar gyfer cyflawni'r cynnydd gyda'r wyth maes a nodwyd yn y cynllun, yn bennaf

·       Cefnogi trawsnewid Gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar yn Abertawe i ddarparu cefnogaeth well i blant er mwyn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd iddynt;

·       Adeiladu ar ddatganiad Abertawe yn 2022 o fod yn Ddinas Hawliau Dynol;

·       Gweithio tuag at darged sero net Abertawe ac adfer natur;

·       Gwneud Abertawe'n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn fwy ffyniannus;

·       Datblygu Cynnig Diwylliannol Integredig Abertawe; (Bydd Ness Young yn darparu rhagor o fanylion i'r BGC ynghylch cam gweithredu rhif dau ac yn esbonio a oedd y cam yn GOCH mewn gwirionedd, ac os felly, pam?)

·       Dylanwadu ar drefniadau llywodraethu eraill a'u cysylltu ar draws rhanbarth Bae Abertawe;

·       Gwella ansawdd data a hygyrchedd ar draws rhanbarth Bae Abertawe;

·       Datblygu trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe sy'n mesur ac yn monitro cynnydd y BGC

 

Penderfynwyd y byddai'r Bwrdd yn gwneud y canlynol

1)    nodi'r cynnydd a wnaed yn ystod chwarter 1 2023-24.

2)    cytuno i dderbyn adroddiad diweddaru ar feysydd y cynllun gweithredu a'i gynnydd fel eitem sefydlog yn ystod cyfarfodydd y BGC yn y dyfodol. 

 

7.

Pwysau Iach, Cymru Iach (Iechyd Cyhoeddus Cymru). pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd Ness Young y cylch gorchwyl diwygiedig a ddiweddarwyd a manylwyd arnynt ar gyfer y BGC yn dilyn newidiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn eu hadolygu a'u cymeradwyo.

 

Nododd y byddai angen diwygiadau bach pellach ar y diagram a gynhwysir o fewn yr atodiad.

 

Penderfynwyd ar y canlynol 

1)    cytuno ar y cylch gorchwyl diwygiedig a'u mabwysiadu.

2)    rhoi'r awdurdod dirprwyedig i Ness Young newid y diagram a gynhwysir o fewn yr atodiad.

 

8.

Rhaglen Waith y Dyfodol.

·         Adroddiad Blynyddol y Bwrdd

·         Cynllunio Ardal Diweddariad ar glystyrau Meddygon Teulu

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.