Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

50.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

51.

Cofnodion. pdf eicon PDF 222 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid llofnodi a chymeradwyo cofnodion Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2023 fel cofnod cywir.

52.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Dim..

53.

Cyflwyniadau - Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

Derick Walker

Penderfyniad:

Nodwyd..

Cofnodion:

Cyflwynodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ei hun i'r Pwyllgor, gan amlinellu ei gefndir, y cynnydd y mae wedi'i wneud ers ei benodiad, gofynion y rôl a sut yr oedd yn bwriadu canolbwyntio ar ganlyniadau.

 

Pwysleisiodd themâu cyffredin o fewn cyrff cyhoeddus, gan rannu arfer da, sicrhau bod gan y BGC ddulliau/fframweithiau cyson, cydweithredu effeithiol, dysgu ar y cyd a chanolbwyntio'n ddyfnach ar lai o faterion.

 

Nododd y byddai'n cyhoeddi ei gynlluniau ym mis Hydref 2023.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr her i'r sector cyhoeddus, eiriolaeth ac elfennau hwylusydd y rôl. Amlygwyd cysondeb y BGC hefyd a dywedodd y Cadeirydd y byddai cyfarfod o Gadeiryddion y BGC yn ddatblygiad buddiol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol am fynychu'r cyfarfod.

54.

Cynllun Lles Lleol ar gyfer Cymeradwyaeth Terfynol. pdf eicon PDF 6 MB

Ness Young

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ness Young, Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Corfforaethol, Gynllun Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe 2023-2028 i'w gymeradwyo.

 

Amlygodd fod y cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan yr holl bartneriaid statudol ac y byddai'n cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y mis.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe 2023-2028.

55.

Cynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC) Cynllun Gweithredu 2023-2024. pdf eicon PDF 235 KB

Ness Young

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Darparodd Ness Young adroddiad a roddodd ddiweddariad i'r BGC ar ddatblygiad cynllun gweithredu 2023-24 a chynigiodd y camau nesaf.

 

Amlygodd Ness yr 8 cam a nodwyd a'r unigolion a oedd wedi gwirfoddoli i weithredu fel Arweinwyr Strategol ar gyfer pob un ohonynt. Darparodd Atodiad A y camau gweithredu a ddatblygwyd fel drafftiau cychwynnol gan yr Arweinwyr Strategol mewn ymgynghoriad â phartneriaid statudol y BGC. Roedd y camau gweithredu'n ceisio adlewyrchu cynnwys y Cynllun Lles a'r asesiad a oedd yn sail iddo.

 

Cynigiwyd y byddai Arweinwyr Strategol yn ymgysylltu ag aelodaeth ehangach y BGC i barhau i weithio ar y camau gweithredu.

 

Cynigiwyd hefyd bod Swyddogion Arweiniol Strategol yn cyfarfod i sicrhau bod y camau gweithredu'n cyd-fynd a sicrhau bod y cysylltiadau rhyngddynt yn cael eu mwyafu. Yn amodol ar gytundeb y BGC, byddai'r Swyddogion Arweiniol Strategol yn anelu at gwblhau'r Cynllun Gweithredu erbyn diwedd mis Mai er mwyn sicrhau y gellir dechrau ei weithredu o fewn chwarter cyntaf 2023-24.

 

Nodwyd y cynigiwyd bod Arweinwyr Strategol yn adrodd am gynnydd ar eu camau yn ystod pob cyfarfod ffurfiol o'r BGC, unwaith y bydd y Cynllun Gweithredu wedi'i gwblhau. Byddai trefniadau rheoli perfformiad manwl pellach yn cael eu datblygu o dan Gam 8 ac fe'u cyflwynir i'r BGC yn hwyrach yn y flwyddyn.

 

Cyflwynir amserlen a phroses arfaethedig ar gyfer datblygu camau gweithredu ar gyfer 2024-25 a thu hwnt i'r BGC yn ystod cyfarfod y trydydd chwarter yn 2023-24.

 

Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau ar y cynigion a phwysleisiwyd yr angen i osgoi dyblygu/unrhyw fylchau.

 

Penderfynwyd:-

 

1)    Nodi'r sylwadau ar ddrafft cynllun gweithredu 2023-24 yn Atodiad A.

 

2)    Dylai Arweinwyr Strategol ymgysylltu â holl gyfranogwyr y BGC ac aelodau'r Fforwm Partneriaeth a wahoddir i weithio gyda nhw er mwyn cwblhau'r cynllun erbyn diwedd mis Mai 2023.

 

3)    Cytuno ar adroddiad diweddaru ar y cynllun gweithredu fel eitem sefydlog mewn cyfarfodydd y BGC yn y dyfodol.

56.

Amlder y Cyfarfodydd/Cylch Gorchwyl.

Ness Young

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd Ness Young ddiweddariad llafar ynghylch amlder cyfarfodydd a'r cylch gorchwyl.

 

Ychwanegodd fod angen adolygiad o'r cylch gorchwyl. Nodwyd y cynhelir cyfarfodydd yn y dyfodol yn chwarterol a thynnwyd sylw at yr angen i gynnal cyfarfodydd anffurfiol. Trafodwyd diwygio'r teitl hefyd, yn enwedig gwaredu ar yr enw 'Cyd-bwyllgor'.

 

Penderfynwyd:-

 

1)    Cynnal cyfarfodydd chwarterol yn y dyfodol.

2)    Cynnal cyfarfodydd anffurfiol rhwng cyfarfodydd chwarterol.

3)    Newid y teitl i 'Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe'.

57.

Fforwm Partneriaeth.

Pawb

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Diweddarwyd y pwyllgor ar y canlynol: -

 

·       Strategaeth Iechyd y Boblogaeth

 

Rhoddodd Keith Reid, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd yr wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Iechyd y Boblogaeth (PHS), a gymeradwywyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar 31 Mawrth 2023.

 

Amlinellodd y gwahaniaethau y byddai'r Strategaeth yn eu gwneud i waith y Bwrdd Iechyd, yn enwedig wrth ddangos ymrwymiad clir gan y Bwrdd i dargedu Egwyddorion Marmot. Amlygodd y 4 piler a nodwyd gan y Bwrdd i gefnogi'r PHS fel a ganlyn: -

 

1)    Darparu cynnig clinigol a buddion iechyd y boblogaeth.

2)    Gweithlu.

3)    Ymddygiad fel endid corfforedig.

4)    Ymddygiad o fewn partneriaethau.

 

Ychwanegodd bod y Bwrdd Iechyd yn gweithio i ddatblygu'r Strategaeth, gan ganolbwyntio ar yr hyn y gall ei wneud i'w boblogaeth a sut y gall weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.

 

·       Cynllun Corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Rhannwyd y ddolen ar gyfer Cynllun Corfforaethol CNC, a oedd wedi'i gymeradwyo'n ddiweddar gan y Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r sefydliadau am eu diweddariadau.

58.

Rhaglen Waith y Dyfodol:

Cerdded yn ein 'sgidiau ni;

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynllunio Ardal;

Diweddariad ar Glystyrau Meddygon Teulu.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Darparwyd y rhaglen waith ar gyfer y dyfodol er gwybodaeth.

59.

Dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol:

13.07.2023

12.10.2023

11.01.2024

25.04.2024

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Darparwyd dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol er gwybodaeth.