Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

31.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

32.

Cofnodion. pdf eicon PDF 212 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2022 fel cofnod cywir.

33.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.  Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

34.

Matrics Aeddfedrwydd - Mamolaeth a'r Blynyddoedd Cynnar (Llafar)

Gary Mahoney

Penderfyniad:

Partneriaid i nodi uwch-arweinwyr noddi strategol ar gyfer y matrics a darparu diweddariad pellach i’r cyd-bwyllgor maes o law.

Cofnodion:

Bu Gary Mahoney, Cydlynydd Rhaglen y Blynyddoedd Cynnar, Cyngor Abertawe, yn amlinellu matrics aeddfedrwydd mamolaeth a'r blynyddoedd cynnar y Sefydliad Ymyrryd yn Gynnar (EIF) a ddatblygwyd i gefnogi ardaloedd lleol i weithredu dull system-eang ar gyfer gwella canlyniadau ar gyfer plant a theuluoedd. Esboniodd mai offeryn hunan-asesu yw hyn, sy'n cefnogi partneriaid lleol i ddeall y sefyllfa o ran ymyrryd yn gynnar yn ystod plentyndod, nodi meysydd i'w gwella a gweithio gyda'i gilydd i sicrhau newid cadarnhaol.

 

Y cais i Gyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe oedd nodi noddwr strategol ar gyfer y matrics er mwyn symud y gwaith yn ei flaen.

 

Camau Gweithredu:

 

1)           Dosbarthu'r adroddiad cychwynnol i'r Cyd-bwyllgor;

2)           Bydd partneriaid yn nodi uwch-arweinydd nawdd strategol o bob sefydliad ar gyfer y matrics;

3)           Darparu diweddariad i'r Cyd-bwyllgor maes o law.

35.

Y Diweddaraf am y Cynllun Lles Lleol a Chyngor gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. (Diweddariad llafar) pdf eicon PDF 278 KB

Suzy Richards

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd Suzy Richards, y Swyddog Polisi Cynaliadwy, ddiweddariad ar y cynnydd hyd yn hyn mewn perthynas â datblygiad y Cynllun Lles Lleol. Esboniodd fod y cyngor sydd yn y llythyr oddi wrth Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn hynod gadarnhaol a'u bod wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda thîm Comisiynwyr Cenedlaethau'r Dyfodol a bod rhai o'r camau eisoes wedi'u rhoi ar waith cyn derbyn y cyngor. Caiff tabl o faterion ac ymatebion posib yn ymwneud â'r camau penodol o fewn y llythyr eu llunio yn ystod yr wythnos neu'r bythefnos nesaf.

 

Trafododd y Pwyllgor y materion a amlygwyd gan nodi'r pethau cadarnhaol niferus a nodwyd yn y cynllun drafft. Roedden nhw'n cydnabod nad oedd yr heriau a nodwyd yn anghyfarwydd a nodwyd bod y gofyniad i fod yn fwy eglur ynghylch sut roedd yr asesiad lles wedi ein harwain at y pwynt hwn a'r angen i ddangos sut y byddai'r holl waith yn cael ei integreiddio. Roedden nhw'n cytuno y byddai'n fuddiol cwrdd yn fuan er mwyn cysoni'r amcanion. Esboniodd Suzy Richards y disgwylir i arweinwyr yr amcanion gyfarfod yr wythnos nesaf er mwyn ymateb i'r materion a amlinellwyd yn y llythyr ac ymdrin â nhw. Byddai'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ochr yn ochr â'r broses ymgynghori.

36.

Ffyrdd o weithio Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. (Trafodaeth)

Penderfyniad:

Mae angen trafodaethau pellach.

Cofnodion:

Holodd y Cadeirydd a allant wella'r ffordd y mae BGC  Abertawe'n gweithio er mwyn ychwanegu gwerth.

 

Bu'r Pwyllgor yn trafod sgyrsiau blaenorol ynghylch uno â BGC Castell-nedd Port Talbot a'r cyfle i alinio neu ymuno â'r gwaith cadarnhaol sydd eisoes yn mynd rhagddo gyda phartneriaid eraill er mwyn osgoi gweithio seilo.

 

Nodwyd bod Swyddfa Archwilio Cymru eisoes wedi nodi nifer y partneriaethau strategol yng Nghymru a arweiniodd at ddyblygu a dim digon o waith rhannu arferion gorau.

 

Cytunodd y Pwyllgor ei bod yn werth ailsefydlu sgyrsiau blaenorol i holi a oedd cyfleoedd i weithio'n agosach gyda'i gilydd fel grŵp a cheisio manteisio ar y berthynas dda a'r trafodaethau cadarnhaol a oedd eisoes yn bodoli rhwng y rheini sy'n ymwneud â'r cyflawniad gweithredol er mwyn canolbwyntio ar ganlyniadau cyffredin.

 

Camau Gweithredu:

 

1)           Cytunodd y Pwyllgor i gyfarfod yn fwy aml ar sail anffurfiol wyneb yn wyneb i nodi'r materion penodol o fewn y cynllun lles er mwyn meithrin perthynas a sicrhau bod atebion ar gael yn eu cylch;

2)           Byddai Roger Thomas yn ail-ddechrau trafodaethau gyda BGC Castell-nedd Port Talbot yr wythnos nesaf;

3)           Byddai'r Cadeirydd yn cychwyn y trafodaethau gwleidyddol.

37.

Ymgysylltu/Ymgynghori (Trafodaeth)

Penderfyniad:

Cyhoeddi fersiwn ar-lein o’r Cynllun Lles Lleol cwbl hygyrch, gan gynnwys fideo â sain/is-deitlau.

Cofnodion:

Esboniodd Suzy Richards, Swyddog Polisi Cynaliadwy, fod cyllideb fach o gyllid rhanbarthol ar gael mewn perthynas ag ymgynghori, ymgysylltu a chyhoeddi'r Cynllun Lles. Holodd y partneriaid a oedd yn bresennol a oedd unrhyw fformatau neu ofynion penodol y byddai angen eu hystyried mewn perthynas â'i gyhoeddi.

 

Camau Gweithredu:

 

Bydd fersiwn ar-lein, gwbl hygyrch o'r Cynllun Lles Lleol yn cael ei chynhyrchu, a bydd yn cynnwys fideo gyda sain/is-deitlau.

38.

Fframwaith Perfformiad/Adroddiadau Amlygu o'r 4 ffrwd waith. pdf eicon PDF 463 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Er gwybodaeth.

39.

Rhaglen Waith ar gyfer y dyfodol:

·                     Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel;

·                    Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynllunio Ardal.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Er gwybodaeth.