Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2022-2023.

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Andrea Lewis, Cyngor Abertawe

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd Andrea Lewis, Cyngor Abertawe yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023.

 

Bu'r Cynghorydd Andrea Lewis (Cadeirydd) yn llywyddu

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2022-2023.

Penderfyniad:

Etholwyd Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid ethol Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023.

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 243 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cymeradwywyd y cofnodion yn amodol ar y diwygiad canlynol:

 

Presenoldeb: Diwygio sefydliad Roger Thomas i ddarllen Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

5.

Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol.

Penderfyniad:

Dylai pob aelod statudol ymateb drwy e-bost ynghylch yr Adroddiad Blynyddol er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Cofnodion:

Er na chafwyd unrhyw ddiweddariad ar gamau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol, gofynnodd Adam Hill i bob aelod statudol ymateb drwy e-bost mewn perthynas â'r Adroddiad Blynyddol i sicrhau ei fod yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Gorffennaf.

6.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

7.

Adolygiad o'r Cylch Gorchwyl. pdf eicon PDF 412 KB

Cadeirydd / Adam Hill

Penderfyniad:

Cymeradwywyd, yn amodol ar ddiwygiadau

Cofnodion:

Amlinellodd Adam Hill, Cyngor Abertawe, y Cylch Gorchwyl y cytunwyd arno'n flaenorol ar gyfer Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, a ddylai, er mwyn llywodraethu da, gael ei adolygu ar ddechrau Cyfnod Swydd newydd yn dilyn Etholiad Llywodraeth Leol.

 

Fe’i cymeradwywyd yn amodol ar y diwygiadau canlynol:

 

1)           Mae'r ddogfen yn cyfeirio at Aelodau Statudol a Phartneriaid Statudol – mae angen cysondeb;

2)           8c yn darllen "Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru";

3)           9c yn darllen "Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru".

8.

Dwr Cymru - Cynllun Rheoli Draenio a Dwr Gwastraff (dros 25 mlynedd). (Cyflwyniad)

Steve Wilson

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd Steve Wilson, Dŵr Cymru, gyflwyniad mewn perthynas â'r Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff.  Roedd hyn o ganlyniad i ofyniad newydd ar gwmnïau dŵr ledled Cymru a Lloegr. 

 

Roedd y cyflwyniad yn amlinellu manylion y cynllun, yr amodau diffiniol a oedd yn cynnwys cynllun carthion, cynllun draenio a chynllun llifogydd brys ac yn amlinellu rôl:

 

·                    Byrddau Rhaglenni ar y Cyd – fe’i sefydlwyd i reoli cronfeydd ar y cyd a chytuno ar raglenni gwaith. 

·                    Byrddau Prosiect – sy’n gweithio fel galluogwyr rhwng Byrddau Rhaglenni a Phrosiectau Cymunedol i gytuno ar gynlluniau adnoddau ac adeiladu achosion busnes. 

·                    Prosiectau Cymunedol – sy’n gweithio gyda Byrddau Prosiectau Cymunedol i ddatblygu atebion i faterion llygredd a llifogydd lleol a'u rhoi ar waith.

 

Byddai cyfnod ymgynghori’n dechrau ar ddechrau mis Gorffennaf ac yn para am 10 wythnos.  Ymgynghorir â rhanddeiliaid amrywiol er mwyn datblygu cyfleoedd i reoli glawiad mewn ffordd wahanol.  Byddai cael gwared ar ddŵr wyneb o'r rhwydwaith carthffosydd yn her fawr i Gymru yn y 10-20 mlynedd nesaf.  Roedd trafodaethau â Swyddogion y Cyngor eisoes wedi dechrau mewn perthynas â cham nesaf gwaith ailddatblygu Canol y Ddinas.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Steve Wilson am ei gyflwyniad addysgiadol.

9.

Haf o Hwyl.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd Mark Gosney, Cyngor Abertawe gyflwyniad ar y prosiect Haf o Hwyl a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021.

 

Amlinellodd yr wybodaeth ganlynol:

 

Cynnydd;

Ystadegau ar gyfer y Gaeaf Llawn Lles;

Ystadegau ar gyfer y Gaeaf Llawn Lles 50+;

Arfarniad;

Camau nesaf.

 

Roedd y cyflwyniad hefyd yn cynnwys fideo a gynhyrchwyd y gellid ei weld drwy'r ddolen ganlynol:

 

BSLh264 - HD 1080p - HD 1080p.mov (dropbox.com)

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am y cyflwyniad.

10.

Cerdded yn ein 'sgidiau ni. (Llafar)

Roger Thomas

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Gwahoddodd Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bartneriaid i ddod i un o safleoedd y Gwasanaeth Tân er mwyn amlinellu eu gweithgareddau dyddiol a chadarnhau a ellid cydweithio/gweithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd.  Awgrymwyd y gallai partneriaid eraill gynnig yr un cyfle oherwydd gallai fod themâu a allai fod o fudd i raglenni gwaith yn y dyfodol.

 

Roedd y Cadeirydd yn llwyr gefnogi'r cynnig a diolchodd i'r Prif Swyddog Tân am y gwahoddiad.

11.

Dinas Hawliau Dynol. (Cyflwyniad)

Rhian Millar, Lee Wenham, Y Cynghorydd Louise Gibbard, Adele Dunstan

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Louise Gibbard, gyda chefnogaeth Lee Wenham ac Adele Dunstan, Cyngor Abertawe, gyflwyniad ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r Ddinas Hawliau Dynol.

 

Amlinellodd y cyflwyniad y canlynol:

 

Ø    Ein Hymrwymiad;

Ø    Cynnydd hyd yma;

Ø    Blaenoriaethau;

Ø    Cynllun Gweithredu i bawb;

Ø    Beth a ofynnwyd i'r Tîm Arweinyddiaeth yng Nghyngor Abertawe;

Ø    Yr hyn yr oedd Cyngor Abertawe yn arwain arno ar hyn o bryd.

 

Roger Thomas (Is-gadeirydd) fu'n Llywyddu

 

Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar:

·                    Beth allai'r BGC ei wneud gyda’i gilydd yn fwy i ychwanegu gwerth nag yr oedd wedi’i wneud o'r blaen?  Sut roedd y gwaith sy'n cael ei wneud yn cael effaith?  Awgrymwyd bod "Dinas Hawliau Dynol" yn eitem reolaidd ar agenda'r Cydbwyllgor, lle gallai enghreifftiau o arfer da/dysgu a rennir dynnu sylw at y gwaith gwych sy'n cael ei wneud ym mhob sefydliad.

·                    Datblygu'r cynllun lles gan ganolbwyntio ar "hawliau".

·                    Ffrydiau gwaith i arwain a bwydo'n ôl i'r Cydbwyllgor.

·                    Roedd amseru’n broblem felly byddai angen cyfarfod ar wahân i drafod y gwahanol bynciau yr oedd angen eu gosod yn y cynllun.

 

Cadarnhaodd Lee Wenham fod y cynllun cyfathrebu a oedd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd wedi'i rannu â Thimau Cyfathrebu partneriaid.  Byddai'r Arweinydd yn cyfarfod â phartneriaid allweddol yn y dyfodol agos i drafod holl gynnydd y Ddinas Hawliau Dynol.  Yn ogystal â hyn, byddai arweiniad poced yn cael ei ddatblygu a'r gobaith oedd y byddem yn gallu cyhoeddi Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol erbyn mis Rhagfyr.

12.

Y diweddaraf am yr Asesiad o Les Lleol. pdf eicon PDF 439 KB

Steve King

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Steve King, Arweinydd y Tîm Gwybodaeth, Ymchwil a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, Cyngor Abertawe adroddiad i nodi cynnydd ar yr Asesiad o Les Lleol 2022 ac amlinellu'r gofynion ar gyfer Cynllun Lles Abertawe erbyn 2023.

 

Awgrymwyd, oherwydd yr amserlenni, y dylid argymell y blaenoriaethau ar gyfer yr asesiad a fyddai'n cael eu hystyried drwy'r grŵp cynllunio ffurfiol a'r grŵp golygyddol i'r Cydbwyllgor drwy e-bost i sicrhau ei fod yn bodloni'r amserlen a amlinellir ym mharagraff 4.5.  Fodd bynnag, teimlai rhai partneriaid y dylid cynnal cyfarfod penodol ychwanegol i oruchwylio'r allbwn/cynigion er mwyn gallu ystyried ffurf a chynnwys y Cynllun Llesiant yn llawn. Pwysleisiwyd y byddai angen cynnal y cyfarfod yn ystod y 4-6 wythnos nesaf a byddai ymrwymiad gan yr holl bartneriaid i fod yn bresennol yn hanfodol.  Byddai angen i'r mynychwr/mynychwyr allu gwneud penderfyniadau strategol ar ran ei/eu sefydliad unigol.

 

Roedd angen eglurhad hefyd mewn perthynas â pharagraff 4.6 - a ellid drafftio'r amcanion cyn y cyfnod ymgynghori o 14 wythnos neu ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben?

 

Penderfynwyd:

 

1)        Y bydd y Cydbwyllgor yn nodi'r adroddiad, gan gynnwys casgliad yr asesiad, diweddariad ar y comisiwn dadansoddi, a gofynion/cyfnodau allweddol tuag at y Cynllun Llesiant.

 

2)        Bydd y Cydbwyllgor yn cymeradwyo sefydlu 'Grŵp Cynllun Lles', yn seiliedig ar yr ymagwedd a ddefnyddir ar gyfer y Grŵp Asesu Golygyddol ac sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r partneriaid statudol.

13.

Strategaeth, awgrymiadau, syniadau ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd (hyrwyddo'r BGC/Cynyddu ymwybyddiaeth). (Llafar)

Adam Hill

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Gofynnodd Adam Hill am syniadau gan y Cydbwyllgor er mwyn gwella ymgysylltiad â'r cyhoedd. Awgrymodd y dylid ychwanegu "Cyfleoedd Cyfathrebu" at y blaenoriaethau o fewn y fframweithiau perfformiad i dynnu sylw at ddigwyddiadau a gynlluniwyd er mwyn ymgysylltu â phob un o'r ffrydiau gwaith.  Awgrymodd hefyd y dylid ychwanegu eitem sefydlog at agenda'r Cydbwyllgor.

 

Dywedodd Sian Harrop-Griffiths ei fod yn debygol y byddai'r Bwrdd Iechyd yn gallu cynnig rhagor o gymorth yn ystod y misoedd nesaf gan eu bod wrthi’n ehangu eu trefniadau cyfathrebu.

 

Cam gweithredu: Gwneud "ymgysylltu" yn eitem sefydlog ar agenda'r Cydbwyllgor.

14.

Fframwaith Perfformiad/Adroddiadau Amlygu o'r 4 ffrwd waith. pdf eicon PDF 455 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cofnodwyd yr adroddiadau amlygu.

15.

Syniadau/Trefniadau'r Fforwm Partneriaeth ar gyfer y dyfodol.

Pawb

Penderfyniad:

Pynciau i’w hanfon at Leanne Ahern.

Cofnodion:

Gofynnodd Adam Hill am syniadau/pynciau gan bartneriaid ar gyfer y Fforwm Partneriaeth nesaf.

 

Cam gweithredu: Syniadau/pynciau i'w hanfon ymlaen at Leanne Ahern yn ystod yr wythnosau nesaf.

16.

Cefnogi Cais am Gyllid 2022/2023. pdf eicon PDF 315 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Er gwybodaeth.

17.

Llythyr Craffu (Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus). pdf eicon PDF 135 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Er gwybodaeth.

18.

Llythyr Craffu (Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel). pdf eicon PDF 167 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Er gwybodaeth.

19.

Llythyr oddi wrth Cadeirydd BGC Castell-nedd Port Talbot (Ffynnu yn y Gwaith). pdf eicon PDF 478 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Er gwybodaeth.

20.

Adborth ar yr Asesiad o Les gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol/Lywodraeth Cymru/Cyfoeth Naturiol Cymru. pdf eicon PDF 710 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Er gwybodaeth.

21.

Rhaglen waith ar gyfer y dyfodol.

·                     Grŵp Digwyddiadau Argyfyngus - Gwersi a ddysgwyd/nodwyd;

·                     Dinasoedd Iach;

·                     Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant a Chyfleoedd Chwarae.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.