Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau am Absenoldeb. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Chris Jones, Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru, i'r cyfarfod. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021 fel cofnod
cywir yn amodol ar y diwygiadau canlynol: ·
Diwygio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin
Cymru i Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. ·
Cofnod Rhif 18 – diwygio Y Cynghorydd Kelvyn
Curry i'r Cynghorydd Kelvin
Watson Curry. |
|
Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol. Cofnodion: Dim. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan
bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag
eitemau ar yr ag Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Diogelwch Cymunedol PDF 376 KB ·
Gobaith yn Abertawe - Thom Lynch (Matts
Café) ·
Prosiect SWAN - Lynne Sanders
(Cymorth i Fenywod) ·
Rheoli Troseddwyr yn Integredig - Tracey Worth
(Gwasanaeth Prawf) · Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol y Stryd Fawr - Paul Thomas (Cyngor Abertawe) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hope in Swansea (Matts Cafe) Rhoddodd Thom
Lynch ddiweddariad ar gyfeiriadur yr ap a oedd yn cynnwys manylion 118 o
wasanaethau cymorth cymeradwy. Bwriadwyd
i'r ap gael ei ddefnyddio wrth gefnogi unigolion agored i niwed ag anghenion
amrywiol ac mae am ddim i'w lawrlwytho. Defnyddir yr ap
gan y 109 o wirfoddolwyr yn Nhŷ Matthew yn wythnosol felly mae'n caniatáu
i wiriadau gael eu gwneud i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gyfredol. Cyfeiriodd at waith y tîm diogelu ac arwain
gan sicrhau bod diwydrwydd dyladwy yn cael ei arsylwi wrth gymeradwyo darparwyr
cymorth. Datblygwyd yr ap
o ganlyniad i gyllid gan Gyngor Abertawe, Cymdeithas y Plant a Chyfeillion
Tŷ Matthew a chroesawir rhoddion pellach. Cyfeiriodd Mr
Lynch at yr adborth cadarnhaol a gafwyd mewn perthynas â'r ap ac anogodd
gydweithwyr i rannu manylion yr ap er mwyn denu mwy o gynulleidfa. Diolchodd y
Cadeirydd i Mr Lynch am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth a'r fenter ragorol. Prosiect SWAN Rhoddodd Lynne Sanders drosolwg cynhwysfawr o'r prosiect a oedd â’r nod o
gefnogi menywod y mae'r diwydiant rhyw yn eu hecsbloetio'n rhywiol ar y
strydoedd, mewn puteindai ac ar-lein. Roedd 231 o
fenywod wedi cael eu cefnogi, yr oedd y mwyafrif llethol ohonynt yn fenywod a
gafodd eu hecsbloetio ar y strydoedd.
Rhannwyd y gwasanaeth yn ddwy adran, yn ystod y dydd ac yn ystod y nos. Nodwyd bod gan
ganran fawr o'r menywod ar y strydoedd broblemau gyda sylweddau a'u bod yn y
system cyfiawnder troseddol. Roedd
ymgysylltu yn allweddol wrth ddatblygu ymddiriedaeth defnyddwyr
gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth yn
canolbwyntio ar leihau niwed ac mae'n darparu llawer o wasanaethau gan gynnwys
mynediad at bresgripsiynau, tai, cynyddu incwm, cymorth lles, bwyd etc.
Manylodd ar y gwaith ar y cyd a oedd yn mynd rhagddo, yn enwedig rhannu
gwybodaeth â'r Heddlu. Cyfeiriodd Ms Sanders at anawsterau sy'n gysylltiedig â rhedeg y prosiect
o ganlyniad i gyllid grant heb unrhyw ffrwd incwm warantedig. Cyfeiriodd at y diffyg strategaeth ar draws
Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot mewn perthynas â chynorthwyo menywod y
mae'r diwydiant rhyw yn eu hecsbloetio. Cafwyd trafodaeth
ynghylch rôl Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel, Llywodraeth Cymru a Swyddfa
Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wrth dynnu sylw at waith y gwasanaeth,
datblygu strategaeth a oedd yn annog gweithio mewn partneriaeth a sicrhau
cyllid. Diolchodd y
Cadeirydd i Ms Sanders am ei chyflwyniad llawn
gwybodaeth a chanmolodd waith parhaus y gwasanaeth. Rheoli
Integredig Troseddwyr Rhoddodd Tracy Worth drosolwg o Reoli Integredig Troseddwyr. Nododd y Pwyllgor gefndir, demograffeg,
digwyddiadau ymgysylltu â phartneriaethau, nodau, dadansoddiad o ddata Rheoli
Integredig Troseddwyr – dadansoddiad anghenion, trais domestig a chamddefnyddio
sylweddau yn Abertawe a phatrymau troseddu. Manylodd Mr Alun
Michael ar ei waith wrth geisio pennu'r garfan leol o droseddwyr ym mhob un o'r
saith awdurdod lleol ar draws de Cymru a phwysigrwydd gweithio mewn
partneriaeth. Dywedodd fod rheoli
troseddwyr yn amhosib os nad oedd data i ddangos pwy oeddent. Canmolodd waith
rheoli integredig troseddwyr a chyfeiriodd at waith cadarnhaol y Bwrdd
Cymunedau Mwy Diogel a'r Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel. At hynny, dywedodd mai dim ond drwy weithio
gyda phartneriaid lleol, yn enwedig yr awdurdod lleol, y gellid llwyddo. Mewn ymateb i
gwestiwn, dywedodd Ms Worth ei bod wedi ymgysylltu
â'r Gwasanaeth Ynadon. Diolchodd y Cadeirydd
i Ms Worth am ei chyflwyniad llawn gwybodaeth a
chanmolodd waith parhaus y gwasanaeth. Grŵp
Digwyddiadau Tyngedfennol - Y Stryd Fawr Cyflwynodd Paul
Thomas adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Grŵp
Digwyddiadau Tyngedfennol – y Stryd Fawr, y cynnydd a wnaed hyd yma a dod â'r
grŵp i ben. Nododd y Pwyllgor
y cefndir, y canlyniadau a'r casgliad i'r graddau yr oedd y grŵp bellach
wedi cwblhau'r gwaith a byddai'n parhau i gyflawni drwy fusnes fel arfer. Roedd y Grŵp wedi cytuno i gau'r
ffrydiau gwaith a'r Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol. Fodd bynnag, byddai monitro parhaus yn parhau
fel rhan o Grŵp Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. Cyfeiriodd at y
gefnogaeth a gafwyd gan Hope in
Swansea a Phrosiect SWAN. Nododd Aelodau'r
Pwyllgor y cydweithio cadarnhaol wrth fynd i'r afael ag agenda anodd a
chymhleth iawn. Roedd cydweithio wedi
galluogi datblygu lleihau risg.
Ystyriwyd yr angen am un cyfarfod arall o'r grŵp hwn i archwilio'r
gwersi a ddysgwyd/a nodwyd er mwyn cynorthwyo grwpiau digwyddiadau tyngedfennol
yn y dyfodol. Cyfeiriwyd hefyd at y
buddsoddiad sylweddol a gynlluniwyd ar gyfer ardal y Stryd Fawr, gan gynnwys
adleoli'r Swyddfa Tai Ardal a datblygu man cymunedol a fyddai'n galluogi cymorth
i aelodau mwyaf agored i niwed gymdeithas. Diolchodd y
Cadeirydd i Mr Thomas am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth ac ymdrechion y tîm. Cyfeiriodd y
Cynghorydd Kelvyn Watson Curry
at benodiad diweddar Mr Roger Thomas fel Dirprwy Brif Swyddog Tân, Gwasanaeth
Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Llongyfarchodd y Pwyllgor Mr Thomas ar ei benodiad. [Gadawodd y Cynghorydd A S Lewis, Cadeirydd, y
cyfarfod] Roger Thomas, Cadeirydd oedd yn llywyddu (yn y
cyfamser). |
|
Adroddiad Blynyddol/Cyflwyniad Cytundeb Compact y Trydydd Sector Abertawe PDF 277 KB Jane Whitmore,
Cyngor Abertawe/Amanda Carr, CGGA Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Amanda
Carr a Jane Whitmore yr wybodaeth ddiweddaraf am Gytundeb Compact Trydydd
Sector Abertawe a'r gwaith a welwyd hyd yma gan Grŵp Cydgysylltu Compact a
ffurfiwyd fel rhan o Gytundeb Compact Abertawe a ddiweddarwyd gyda'r Sector
Gwirfoddol yn 2018. Nododd Aelodau'r
Pwyllgor gefndir, nodau, amcanion a phwrpas, aelodaeth, uchafbwyntiau,
goblygiadau COVID a rhaglen waith ar gyfer y dyfodol, cyllid y trydydd sector
2021 (Grantiau a Chontractau). Dywedodd Adam
Hill y byddai'r diweddariad yn cael ei ychwanegu at y Rhaglen Waith fel eitem
barhaus. Mewn ymateb i
gwestiwn, cadarnhaodd Amanda Carr fod perthynas gref rhwng y Bwrdd Iechyd. Diolchodd y
Cadeirydd i Amanda Carr a Jane Whitmore am eu cyflwyniad addysgiadol a'u gwaith
parhaus.
|
|
Diweddariad/Drafft i'w gymeradwyo - Asesiad o Les Lleol PDF 231 KB Steve King, Cyngor Abertawe Cofnodion: Cyflwynodd Steve
King adroddiad a oedd yn manylu ar ddatblygiadau diweddar Asesiad o Les Lleol
Abertawe 2022. Nododd Aelodau'r
Pwyllgor y datblygiadau diweddar, yr amserlen a'r dadansoddiad a'r camau/camau
gweithredu nesaf. Mynegwyd pryder
ynghylch y diffyg hyblygrwydd o ran yr amserlenni ar gyfer cwblhau a oedd
wedi'u trefnu ar gyfer 5 Mai, 2022. Byddai Asesiad o
Les Lleol Drafft 2022 yn cael ei fireinio ymhellach a'i anfon at Aelodau'r Pwyllgor
cyn dechrau'r ymgynghoriad ffurfiol. Diolchodd y
Cadeirydd i Steve King a'i dîm am yr adroddiad llawn gwybodaeth a'r gwaith sy'n
mynd rhagddo. |
|
Trafodaeth Cynnwys y Cyhoedd (Llafar) Adam Hill, Cyngor Abertawe Cofnodion: Cyfeiriodd Adam
Hill at yr heriau a wynebir wrth hyrwyddo ymgysylltu â'r cyhoedd. Er mwyn rhoi
cyfle i Aelodau'r Pwyllgor ystyried strategaethau/syniadau ar gyfer hyrwyddo
ymgysylltu â'r cyhoedd, cytunwyd y dylid gohirio'r mater i'r cyfarfod nesaf ac
y byddai'n cael ei grybwyll ar ddechrau'r agenda. |
|
Rhaglen waith ar gyfer y dyfodol. PDF 124 KB Cofnodion: Cyfeiriodd Adam
Hill at gais gan Dŵr Cymru i gyflwyno ei Gynllun Rheoli Draenio a Dŵr
Gwastraff i gyfarfod yn y dyfodol. Rhoddodd yr
wybodaeth ddiweddaraf i'w gydweithwyr am y pecyn cymorth ar gyfer Byrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru a nodwyd mai'r dyddiad cau ar gyfer
y cais oedd 28 Chwefror 2022. Byddai Abertawe'n arwain y cais ar ran rhanbarth Bae'r Gorllewin
gyda mewnbwn gan bartneriaid ar draws y Bwrdd.
O ystyried yr amserlenni cyfyngol ar gyfer cyflwyno ceisiadau, ni fu'n
bosib cyflwyno'r cais i'r Pwyllgor. Nodwyd y Blaenraglen Waith. |