Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae
Abertawe a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
gyhoeddiadau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd
Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd
cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn
cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol
i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10
munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Y diweddaraf am y Matrics Arloesi a'r Ardal Arloesi. (Er Gwybodaeth) PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Ian
Walsh, Uwch-swyddog Cyfrifol Matrics Arloesedd a
Geraint Flowers, Arweinydd Prosiect Matrics Arloesedd
adroddiad "Er Gwybodaeth" i roi'r diweddaraf i'r Cyd-bwyllgor ar
gynnydd y Prosiect Matrics Arloesedd a chanlyniadau'r
Adolygiad Gateway allanol diweddar. |
|
Blaengynllun Gwaith y Cydbwyllgor. PDF 194 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Jonathan Burns, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Bae Abertawe (SBCD) adroddiad i roi
gwybod i'r Cyd-bwyllgor am y Blaengynllun Gwaith diweddaraf. Penderfynwyd: 1) Cynigiodd y Cyd-bwyllgor y dylid cymeradwyo'r Blaengynllun Gwaith yn Atodiad A yn amodol ar drafodaethau pellach ynghylch cyfleoedd ariannu ar gyfer prosiectau. |
|
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Chris
Moore, Swyddog Adran 151 Bargen Ddinesig Bae Abertawe, adroddiad i'r cyd-bwyllgor i roi’r diweddaraf iddynt am sefyllfa ariannol
ddiweddaraf dinas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo adroddiad Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy’n rhoi’r diweddaraf am fonitro ariannol. |
|
Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2023/24. (Er Gwybodaeth) PDF 351 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Jonathan Burns, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Bae Abertawe adroddiad "er
gwybodaeth" i hysbysu’r Cyd-bwyllgor o Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen
Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i
raglenni/brosiectau cyfansoddol. |