Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Datgeliadau o Ffuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

14.

Cofnodion. pdf eicon PDF 390 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

15.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Cofnodion:

1)              Diweddariad gan Gyfarwyddwr y Rhaglen

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y diddordeb a ddangoswyd yn swydd Cyfarwyddwr y Rhaglen yn gadarnhaol ac y byddai'r Swyddog Monitro a'r Swyddfa Ranbarthol yn cwrdd ar 16 Medi 2019 i drafod y broses recriwtio.

 

2)              Cyfarfod Nesaf - 2.00pm ar 24 Medi 2019

 

Dywedodd y Cadeirydd y trefnwyd cyfarfod nesaf Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer 24 Medi 2019 am 2.00pm.  Mae angen cyflwyno'r holl adroddiadau i'r Swyddfa Ranbarthol a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd erbyn 16 Medi 2019.  Gobeithiwyd y byddai'r adroddiad "Amodau a Thelerau" yn cael ei ystyried yn y cyfarfod hwnnw.

16.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

17.

Datganiad o Gyfrifon - Enillion Blynyddol 2018/19 pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 Dinas-ranbarth Bae Abertawe'r "Datganiad o Gyfrifon - Adroddiad Blynyddol 2018-2019” ac amlygodd bod y cyfrifon ar gyfer y cyfnod o 29 Awst 2018 (cyfarfod cyntaf ffurfiol y Cyd-bwyllgor) i 31 Mawrth 2019.  Tynnodd sylw'r pwyllgor at y cyllid cyfredol sy'n cael ei ddarparu gan y cyfraniadau partner a nodwyd bod gweddill o £99,871 i'w ddwyn ymlaen o 31 Mawrth 2019.

 

Dywedodd hefyd, am y rheswm ei fod yn disgwyl i brif arian grant y Fargen Ddinesig gan y ddwy lywodraeth ddechrau llifo yn 2019-2020, y byddai gofyniad i lunio Datganiad o Gyfrifon llawn ar gyfer y flwyddyn hon.

 

Yna cyflwynodd Jason Garcia o Swyddfa Archwilio Cymru ei adroddiad archwilio'n unol â gofynion Adran 12 ac Adran 14 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.  Cadarnhaodd, ar sail eu hadolygiad, fod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad blynyddol yn eu barn hwy'n unol ag arferion priodol ac nid oedd materion a oedd yn peri pryder wedi dod i'w sylw o ran gofynion deddfwriaeth a rheoliadol nad oedd wedi'u bodloni.  Fodd bynnag, dywedodd fod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gwneud y ddau argymhelliad canlynol:

 

1)              Bydd angen i'r Cyd-bwyllgor adolygu cadernid y trefniadau llywodraethu newydd hyn i sicrhau eu bod yn gweithredu'n effeithiol;

 

2)              Mae angen sefydlu Grŵp Swyddogion i gytuno ar ba incwm, gwariant, asedau ac ymrwymiadau sy'n cael eu cynnwys yn natganiadau ariannol y pwyllgor yn y dyfodol."

 

Ymatebodd Jason Garcia (SAC) i gwestiynau'n ymwneud ag archwiliad, ac ymatebodd Chris Moore (Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor) i gwestiynau am sefyllfa Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Mynegodd y pwyllgor ei fod yn fodlon â'r ddau argymhelliad, fodd bynnag, byddai'n ceisio defnyddio grŵp sydd eisoes yn bod fel Grŵp Swyddogion Adran 151 Dinas-ranbarth Bae Abertawe (fel yn y cytundeb ar y cyd) a Bwrdd y Rhaglen i fodloni gofyniad yr ail argymhelliad uchod.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y bydd y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo cyfrifon ôl-archwiliad 2018-2019 ac Adroddiad Blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014.