Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

41.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

42.

Cofnodion. pdf eicon PDF 282 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir.

43.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Cofnodion:

1)              Dr Jonathan Burnes - Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Croesawodd y Cynghorydd Rob Stewart (Cadeirydd) Dr Jonathan Burnes i'r cyfarfod. Cafodd Dr Burnes ei benodi'r ddiweddar yn Gyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe a byddai'n dechrau'r rôl ym mis Mawrth 2020.

44.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

45.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe (Llafar)

Cofnodion:

Sir Gaerfyrddin 

Mae'r prosiect Pentref Llesiant yn datblygu'n dda. Mae trafodaethau â'r Partner Academaidd bron â dod i ben. Trefnwyd cyflwyno Achos Busnes y Prosiect i'r Cydbwyllgor yn ystod gwanwyn 2020. Byddai'r prosiect hefyd yn destun Adolygiad Cymheiriaid.

 

Castell-nedd Port Talbot

Trefnwyd cyflwyno Achos Busnes Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer i'r Cyd-bwyllgor ym mis Chwefror 2020.

 

Sir Benfro

Roedd gwaith ar brosiect Morol Doc Penfro yn datblygu'n dda. Gofynnodd y Llywodraethau am wybodaeth ychwanegol yr aed i'r afael â hi eisoes; fodd bynnag, anfonwyd ymateb ffurfiol ar 27 Ionawr 2020. Roedd yr awdurdod hefyd wrthi'n trafod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart MP.

 

Abertawe

Roedd prosiect Abertawe Ganolog - Cam 1 yn datblygu'n dda ac mae'r contractwyr ar y safle ar hyn o bryd.

 

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Roedd prosiect y pentref blychau'n datblygu'n dda fel rhan o'r datblygiad newydd yng Nglannau SA1 Abertawe.

 

Prifysgol Abertawe

Roedd prosiect Datblygu Campysau Prifysgol Abertawe yn datblygu'n dda.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi'r diweddariadau.

46.

Adroddiad Monitro Ariannol 2019/20 - Sefyllfa Alldro Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 560 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor adroddiad a oedd yn amlinellu sefyllfa alldro rhagweledig diwedd y flwyddyn mewn perthynas â swyddogaethau gweinyddol Swyddfa Rheoli'r Rhaglen, y Corff Atebol a'r Cyd-bwyllgor.

 

Penderfynwyd y byddai'r Cyd-bwyllgor yn adolygu cyfrifon blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

47.

Amodau a Thelerau Bargen Ddinesig Bae Abertawe (Llafar)

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor y diweddaraf mewn perthynas ag Amodau a Thelerau Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe a Dyfarnu Grantiau. Dywedodd y rhyddhawyd cyfran gyntaf y £18,000,000 a disgwylir rhyddhau cyfran bellach cyn 31 Mawrth 2020.

 

Dywedodd y trefnwyd i Swyddogion Adran 151 gwrdd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 3 Chwefror 2020 er mwyn trafod y Cytundeb Ariannu sydd yn nwylo'r cwmni cyfreithiol Geldards ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

48.

Trefniadau Llywodraethu Archwilio Mewnol. pdf eicon PDF 313 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol (Cyngor Sir Benfro), Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor, adroddiad a oedd yn amlinellu'r Siarter Archwilio Mewnol. Mae'r Siarter Archwilio Mewnol yn diffinio pwrpas, awdurdod a chyfrifoldeb am ddarparu Gwasanaeth Archwilio Mewnol ac yn cadarnhau safle Archwilio Archwiliad Mewnol o fewn y bartneriaeth, gan gynnwys llinellau adrodd y Pennaeth Archwilio Mewnol.

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Siarter Archwilio Mewnol Drafft a Chylch Gorchwyl Archwilio Mewnol 2019-2020 fel y'i hatodir yn yr adroddiad.

49.

Cynllun Gweithredu (Fersiwn 22). pdf eicon PDF 292 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddfa Ranbarthol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer fersiwn ddiweddaraf y Cynllun Rhoi ar Waith.

 

Penderfynwyd mabwysiadu fersiwn ddiweddaraf y Cynllun Rhoi ar Waith.

50.

MIPIM 2020. pdf eicon PDF 290 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddfa Ranbarthol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer presenoldeb Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn MIPIM 2020 a'r costau cysylltiedig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo presenoldeb Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn MIPIM 2020 a'r costau cysylltiedig.

51.

Cefnogi Prosiect Arloesedd a Thwf Carbon Isel (Castell-nedd Port Talbot). pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddfa Rhanbarthol adroddiad a oedd yn amlinellu'r Prosiect Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel. Datblygwyd y prosiect er mwyn cyflwyno twf cynaliadwy a chreu swyddi mewn modd cyd-drefnus sydd â ffocws penodol ar ardal Glannau Harbwr Port Talbot.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Ystyried yr adborth gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd ar y prosiectau Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel;

 

2)              Cymeradwyo cyflwyno'n ffurfiol gynllun busnes pum achos llawn y prosiect Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru;

 

3)              Rhoi pwerau dirprwyedig i swyddogion wneud unrhyw fân ddiwygiadau sy'n angenrheidiol i gael y gymeradwyaeth honno.

52.

Amodau a Thelerau a'r Diweddaraf am Ddyfarnu Grantiau. (Llafar)

Cofnodion:

Roedd yr eitem hon yn ddyblygiad o Gofnod 47 "Amodau a Thelerau Bargen Ddinesig Bae Abertawe" ac felly cafodd ei thynnu o'r agenda.

53.

Diweddariad gan Gyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe. (Llafar)

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Dr Jonathan Burnes i'r cyfarfod.  Cafodd Dr Burnes ei benodi'r ddiweddar yn Gyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe a byddai'n dechrau'r rôl ym mis Mawrth 2020.

54.

Adborth gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE). (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Cadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE) y diweddaraf am ei waith diweddar.

 

Ø    Cyfweld ag Ymgeiswyr fel Ymgynghorwyr i'r BSE;

Ø    Paratoi dogfen Egwyddorion Caffael i'w hystyried gan y Cyd-bwyllgor ym mis Mawrth 2020.

 

Penderfynwyd nodi'r adborth.