Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

19.

Cofnodion. pdf eicon PDF 446 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 10 Medi 2019 fel cofnod cywir.

20.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd y cytunwyd ar yr amodau a'r telerau drafft i ryddhau cam cyntaf y cyllid gwerth £18m ar gyfer y Fargen Ddinesig a'r gobaith yw y caiff yr arian ei ryddhau yn yr wythnosau nesaf, yn amodol ar sefydliadau partner y Fargen Ddinesig yn cymeradwyo'r amodau a'r telerau drafft.

 

Nododd ei fod yn siomedig ei bod wedi cymryd 16 o wythnosau i Lywodraeth Cymru gytuno ar yr amodau a'r telerau drafft.

21.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

22.

Diweddariad am Brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. (ar lafar)

Cofnodion:

Castell-nedd Port Talbot

Cyflwynwyd yr achos busnes diwygiedig sy'n cynnwys 4 rhan i'r Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE) ym mis Medi 2019.  Mae'n parhau i weithio ar amcan Tai fel Gorsafoedd Pŵer i'w gyflwyno i'r BSE y mis nesaf ac yna i'r Cyd-bwyllgor ym mis Rhagfyr.  Yn ogystal, dylai achos busnes newydd ar gyfer lleoliad y prosiect Gwyddoniaeth Dur gyrraedd swyddfa'r Is-ganghellor cyn bo hir.

 

Sir Gaerfyrddin 

Mae'r prosiect Pentref Llesiant wedi'i sefydlu â phartneriaid addysg uwch, a llywodraethu yw'r prif ysgogwr.  Rhoddir diweddariad yn ystod cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.

 

Abertawe

Caiff amodau a thelerau drafft eu defnyddio hefyd ar gyfer prosiect Cam Un Abertawe Ganolog, a'r gobaith yw y caiff ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Cabinet ar 21 Tachwedd 2019.

 

Sir Benfro

Cafwyd cytundeb rhwng Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau mewn perthynas â'r materion ariannu ar gyfer Prosiect Morol Doc Penfro. 

 

Penderfynwyd y byddai'r diweddaraf yn cael ei nodi.

23.

Cofnod o Faterion y Prosiect a Chofrestr Risgiau'r Rhaglen. pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddfa Ranbarthol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Cofnod o Faterion y Prosiect a Chofrestr Risgiau'r Rhaglen.

 

Nodwyd materion yn enwedig ynghylch y llif arian ac arian Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ar gyfer Prosiect Morol Doc Penfro.  Roedd cyfyngiadau amser ar y cyllid ac roedd risg y byddai'r cyllid yn cael ei golli.

 

Penderfynwyd nodi Cofnod o Faterion y Prosiect a Chofrestr Risgiau'r Rhaglen.

24.

Adroddiad Monitro Ariannol 2019/20 - Sefyllfa Alldro Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 540 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad i hysbysu'r Cyd-bwyllgor o sefyllfa diwedd blwyddyn swyddogaethau gweinyddol Swyddfa Rheoli'r Rhaglen, y Corff Atebol a'r Cyd-bwyllgor.

 

Penderfynwyd y byddai'r Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo cyfrifon blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

25.

Cynnig Ariannu Adnodd Ychwanegol. pdf eicon PDF 300 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddfa Ranbarthol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i ddatblygu cynnig manwl ar gyfer gwariant cyllid ar gyfer adnodd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru'n unol â'r cynnig amlinellol a gynhwysir yn yr adroddiad hwn.

 

Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfodydd Bwrdd Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe, argymhellwyd y dylid ychwanegu'r canlynol at baragraff 2.3.1 fel a ganlyn:

 

(iv)      Gofynion ychwanegol y Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE):

           Unrhyw wybodaeth/ymchwil bellach fel argymhelliad y BSE. Gall hyn gynnwys penodi ymgynghorydd achrededig i wneud gwaith ychwanegol at ddibenion eglurder.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y byddai'r Cyd-bwyllgor yn awdurdodi Bwrdd y Rhaglen i ddatblygu cynigion manwl o ran gwario cyllid ar gyfer adnodd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru;

2)              Seilio cynigion er mwyn gwario cyllid ar gyfer adnodd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar lwyddiant y pedwar prif amcan fel a nodwyd yn yr adroddiad hwn;

3)              Y byddai'r Cyd-bwyllgor yn cyflwyno'r cynnig amlinellol a nodwyd yn yr adroddiad hwn i Lywodraeth Cymru a'r DU i'w gymeradwyo.

26.

Sefydlu Is-Bwyllgor Trafnidiaeth. pdf eicon PDF 284 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot adroddiad i sefydlu is-bwyllgor ffurfiol o Gyd-bwyllgor y Dinas-ranbarth i oruchwylio materion ynghylch trafnidiaeth ac i ddatblygu cam cyntaf y cynigion er mwyn datblygu cynnig Metro Bae Abertawe.

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor y cafwyd argymhelliad, yn dilyn rhagor o drafodaethau, i sefydlu cyd-bwyllgor cysgodol a chyflwyno'r cylch gorchwyl yng nghyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion yn amodol ar y diwygiadau canlynol:

 

1)              Bydd y Cyd-bwyllgor yn sefydlu cyd-bwyllgor cysgodol yn ffurfiol, â chylch gwaith penodol ar drafnidiaeth, a bydd yn cynnwys Aelodau’r Cabinet neu eu henwebedigion gan y pedwar awdurdod cyfansoddol gyda chefnogaeth swyddog perthnasol;

 

2)              Yn y tymor byr, bydd y cyd-bwyllgor cysgodol yn goruchwylio cwblhau cynnig i'w gyflwyno i Weinidogion Cymru a rhanddeiliaid eraill sy'n amlinellu blaenoriaethau'r rhanbarth ar gyfer cam cyntaf y prosiect Metro a rhaglenni cysylltiedig. Dylai'r gwaith hwn ddefnyddio ffrydiau cyllido sy'n bodoli (tua £200,000) ac arwyddo'r cynnig erbyn 31 Mawrth 2020;

 

3)              Mae'r Cyd-bwyllgor yn gofyn i gylch gorchwyl penodol gael ei lunio i'w gadarnhau yn ystod cyfarfod mis Tachwedd er mwyn cyflawni'r (2) uchod;

 

4)              Os cytunir ar argymhellion 1-3 uchod, bydd Cadeirydd y Cyd-bwyllgor yn ysgrifennu'n ffurfiol at y gweinidogion i'w hysbysu o'n bwriad.

27.

Crynodeb o Lif Arian a Phroffil Grantiau. pdf eicon PDF 606 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad i hysbysu'r Cyd-bwyllgor am yr argymhellion mewn perthynas ag arian dros ben y rhaglenni, benthyciadau ar gyfer y rhaglen a chefnogaeth i gyflwyno Prosiect Doc Morol Penfro.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y byddai'r Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'r gwaith i ddadansoddi'r sefyllfa, gan werthuso'r gefnogaeth ariannol y gellir ei darparu i Gyngor Sir Penfro er mwyn cyflwyno Prosiect Doc Morol Penfro;

 

2)              Y byddai'r Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'r argymhellion a gynigiwyd gan Swyddog Adran 151 y Rhaglen (mewn ymgynghoriad â Swyddogion Adran 151 Rhanbarthol), i gynorthwyo Awdurdodau Arweiniol sy'n ysgwyddo pwysau ariannol cyflwyno prosiectau o fewn y Rhaglen.

28.

Llythyr gan Cydbwyllgor Craffu Ardal Dinas-ranbarth Bae Abertawe. pdf eicon PDF 359 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad am yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Abertawe.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Cyd-bwyllgor Craffu a phenderfynu a ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor.

 

Dyma'r tri phwynt i'w hystyried:

 

(a)            Lleihau rhif cworwm y Cyd-bwyllgor i 6.

(b)            Ail-ysgrifennu cymal 9.3 i ddarparu rhagor o eglurder ynghylch yr hyn sy'n cael ei indemnio a chan bwy.

(c)            Mae angen cael gwared ar y cafeat sy'n gofyn i'r Cyd-bwyllgor Craffu geisio caniatâd Pwyllgor Craffu'r Awdurdod.

 

Penderfynwyd y byddai'r Swyddog Monitro'n ymateb i Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe i gadarnhau'r canlynol:

 

(a)            Bydd Swyddogion Cyfreithiol o bob awdurdod yn ystyried a ellir gwneud y diwygiad i'r rhif cworwm dan bwerau dirprwyedig.

 

(b)       O ran cymal 9.3, dyma eiriad safonol ar gyfer cymal indemnio a lunnir i ddiogelu'r corff atebol fel cyflogwr Cyfarwyddwr y Rhaglen a Swyddfa Rheoli'r Portffolio ond sy'n cydnabod bod Cyfarwyddwr y Rhaglen yn derbyn cyfarwyddiadau gan y Cyd-bwyllgor ac yn atebol iddo. Felly, os bydd Cyfarwyddwr y Rhaglen neu Swyddfa Rheoli'r Portffolio'n ymddwyn mewn ffordd sy'n achosi unrhyw golled i'r cynghorau oherwydd cyfarwyddyd gan y Cyd-bwyllgor, mae'r cynghorau'n cytuno i rannu'r colledion hyn yn gyfartal. Os ceir colledion oherwydd gweithredoedd esgeulus y corff atebol fel cyflogwr Cyfarwyddwr y Rhaglen neu Swyddfa Rheoli'r Portffolio, bydd Cyngor Sir Gâr yn gyfrifol am y colledion hynny. Yn yr amgylchiadau hyn, ystyrir bod y cymal wedi'i eirio'n addas o safbwynt cyfreithiol.

 

(c)       Ychwanegwyd y cafeat o ran prosiectau unigol y Cyd-bwyllgor i amddiffyn uniondeb pwyllgorau craffu cyfansoddol unigol ac i osgoi dyblygu unrhyw waith. Disgwylir i bwyllgorau craffu unigol fod yn ystyriol o unrhyw ofyniad gan y Cyd-bwyllgor Craffu a gweithio gyda'r pwyllgor i osgoi dyblygu unrhyw waith craffu. Nid ystyrir ei fod yn addas i gael gwared ar y cafeat ond awgrymir bod unrhyw ofyniadau craffu ar y cyd yn cael eu monitro.

29.

Cydbwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Dyddiadau yn y Dyfodol 2020-2021. pdf eicon PDF 191 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Cyngor Abertawe adroddiad i ystyried dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd y pwyllgor yn y dyfodol.

 

Y cofnod diwethaf am ddyddiad ar gyfer Cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn y dyddiadur oedd 25 Chwefror 2020. Roedd yr adroddiad yn ceisio ymestyn y cyfarfodydd a drefnir hyd at fis Ebrill 2021.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r dyddiadau ar gyfer y dyfodol fel y'u hamlinellir ym mharagraff 3.3 yr adroddiad;

 

2)              Awgrymu i'r Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE) y dylid cynnal cyfarfodydd yn Abertawe ar yr un diwrnod â chyfarfod y Cyd-bwyllgor er mwyn iddo ystyried gwneud hynny;

 

3)              Awgrymu i Fwrdd y Rhaglen gynnal ei gyfarfodydd oddeutu pythefnos cyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor er mwyn iddo ystyried gwneud hynny;

 

4)              Dosbarthu'r dyddiadau i gyrff cyhoeddus eraill fel Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gorllewin Morgannwg er mwyn osgoi gwrthdaro.

30.

Achos Busnes Prosiect Morol Doc Penfro.

31.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 283 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

32.

Creu rhestr fer ar gyfer Cyfarwyddwr Rhaglen.

Cofnodion:

Cyflwynodd Paul Thomas, Prif Weithredwr Cynorthwyol - Rheoli Pobl, Cyngor Sir Gâr, adroddiad a oedd yn amlinellu'r broses ddewis a'r gofynion i benodi Cyfarwyddwr Rhaglen Rhanbarthol Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)      Y byddai Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe'n cymeradwyo'r rhestr fer o ymgeiswyr a nodwyd;

 

2)      Y byddai Cyd-bwyllgor Penodi Dinas-ranbarth Bae Abertawe'n cymeradwyo ymagwedd y Ganolfan Asesu;

 

3)      Y byddai partneriaid/rhanddeiliaid perthnasol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y broses asesu.