Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 173 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2019 fel cofnod cywir yn amodol ar y diwygiadau canlynol:

 

1)                 Yn y rhestr o'r rheini a oedd yn bresennol:

                     a)                Dileu'r geiriau "Aelod wrth Gefn" wrth ymyl enwau'r Cynghorwyr E Dole D Simpson ac R Jones;

                     b)                Ychwanegu "Steven Jones, Cyfarwyddwr Datblygiad (Cyngor Sir Penfro) i'r rhestr o'r rheini a oedd yn bresennol.

 

2)                 Cofnod 1 "Ymddiheuriadau am Absenoldeb". Diwygio'r cyfeiriad at "Phil Roberts (Prifysgol Abertawe)" i ddarllen "Phil Roberts (Cyngor Abertawe)";

 

3)                 Cofnod 8 "Morlyn Llanw Bae Abertawe - Adolygiad Opsiynau Strategol Ynys Ynni".  Diwygio'r cyfeiriad at "Paul Marshall" a "Mr Marshall" i ddarllen "Paul Marsh" a "Mr Marsh".

 

3.

Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd byddai cyfnod o 10 munud o Gwestiynau gan y Cyhoedd yn cael ei ychwanegu at bob agenda ar gyfer Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn y dyfodol.

4.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Y Diweddaraf am Gynnydd. pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y caiff swm o £36 miliwn ei ryddhau mewn dau dalp o £18 miliwn, yn amodol ar y rhanbarth yn derbyn ac yn cyflawni amodau a thelerau priodol. Mae'r talp cyntaf o arian ar gyfer Yr Egin, Glannau Abertawe ac Achosion Busnes Ardal Ddigidol yn benodol, a bydd yr ail dalp ar gael wedi i argymhellion yr adolygiad gael eu rhoi ar waith. Dywedodd mai'r gobaith oedd y gellid cael gafael ar y £36 miliwn lawn cyn Nadolig 2019.

 

Rhoddodd bob partner y diweddaraf ynghylch eu Prosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Abertawe

Prosiect Abertawe Ganolog - Roedd gwaith galluogi ar waith yn yr ardal ger yr LC. Byddai'r gwaith hwn yn arwain at y prif waith ar gyfer yr Arena. Disgwylir sicrwydd cost erbyn diwedd mis Awst 2019 gydag adroddiad goblygiadau ariannol llawn yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet maes o law.

 

Castell-nedd Port Talbot

Roedd achos busnes diwygiedig ar waith a oedd yn cynnwys 4 rhan. Roedd nifer o'r prosiectau wedi cael eu hail-weithio; ond ni newidiodd y prosiect Gwyddoniaeth Dur. Roedd y prosiect Canolfan Ragoriaeth yng Ngwasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf wedi newid a byddai bellach yn gweithio ar thema datgarboneiddio. Yn amodol ar benderfyniad cadarnhaol gan y Cabinet ar 31 Gorffennaf, caiff y prosiectau eu cyflwyno i'r Bwrdd Strategaeth Economaidd ym mis Medi 2019.

 

Sir Benfro

Roedd y Cabinet wedi ystyried ei Phrosiect Morol Doc Penfro'n ddiweddar. Caiff ei hachos busnes drafft bellach ei ystyried gan y ddwy Lywodraeth. Nodwyd bod oediadau parhaus o ran cymeradwyo'r prosiect yn fygythiad cynyddol i'r cyllid Ewropeaidd sy'n gysylltiedig â'r prosiect a bod Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau'n cwrdd â'r ddwy lywodraeth dros yr wythnosau i ddod i geisio datrys y problemau ariannu sy'n atal y prosiect rhag cael ei gymeradwyo.

 

Sir Gaerfyrddin

Roedd y prosiectau Campws a Phentref Gwyddorau Bywyd a Lles yn y broses o gael eu hailfrandio ac roeddent wrthi'n ymgynghori â'r rhanddeiliaid. Gwnaed cais am Bartner Meddygol Addysg Bellach. Roedd y gwaharddiad ar gyfer cynllunio ar y safle wedi'i godi. Byddai'r diweddaraf am yr achos busnes ar gyfer y prosiect ei gyflwyno i'r Bwrdd Strategaeth Economaidd ym mis Medi 2019.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd mai dyma'r gyfres nesaf o brosiectau i'w cymeradwyo cyn y Nadolig:

 

Ø    Pentref Gwyddor Bywyd a Lles Llanelli;

Ø    Achos Busnes newydd Castell-nedd Port Talbot

Ø    Prosiect Morol Doc Penfro;

Ø    Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.

 

Penderfynwyd y byddai'r diweddaraf yn cael ei nodi.

5.

Y Diweddaraf am Arweinydd y Prosiect. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddwyd y diweddaraf ar lafar ynghylch y prosiect Menter Sgiliau a Thalentau a'r prosiect Isadeiledd Digidol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Swyddfa Ranbarthol sicrhau bod holl Achosion Busnes newydd Castell-nedd Port Talbot yn cael eu cyflwyno'n anffurfiol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau y cydymffurfir â threfniadau llywodraethu Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer y model presennol a'r trefniadau sydd ar y gweill.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi’r diweddaraf;

 

2)              Y bydd y Swyddfa Ranbarthol yn cyflwyno achos busnes newydd Castell-nedd Port Talbot i Lywodraethu Cymru a Llywodraeth y DU.

6.

Y diweddaraf gan Gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd - Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Llafar - Edward Tomp)

Cofnodion:

Rhoddodd Ed Tomp, Cadeirydd Bwrdd Strategaeth Economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe, ddiweddariad ar waith y Bwrdd Strategaeth Economaidd.

 

Dywedodd bod y prosiectau canlynol naill ai wedi cael eu hystyried neu y byddent yn cael eu hystyried yng Nghyfarfod Bwrdd mis Medi 2019:

 

Ø    Isadeiledd Digidol;

Ø    Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer;

Ø    Pentref Gwyddorau Bywyd a Lles;

Ø    Prosiect Morol Doc Penfro;

Ø    Menter Sgiliau a Thalentau.

 

Gofynnodd a allai'r Bwrdd Strategaeth Economaidd gael rôl mewn cynghori'r Cyd-bwyllgor Penodiadau Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar benodi Cyfarwyddwr Rhaglen.

 

Dywedodd cadeirydd y Cyd-bwyllgor na all gynrychiolwr neu gynrychiolwyr o'r Bwrdd Strategaeth Economaidd gael bleidlais; ond roedd yn barod i weld sut fyddai rôl ymgynghorol yn gweithio, yn unol ag Arweinwyr Cynghorau eraill yn cytuno. Rhoddodd Arweinwyr Cynghorau eraill eu cefnogaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r diweddariad;

 

2)              Y bydd Cadeirydd y Cyd-bwyllgor yn siarad â Swyddog Monitro'r Cyd-bwyllgor a Chyngor Sir Gâr ynghylch y posibilrwydd o ganiatáu i gynrychiolydd neu gynrychiolwyr o'r Bwrdd Strategaeth Economaidd gael rôl ymgynghorol heb bleidlais wrth benodi'r Cyfarwyddwr Rhaglen.

7.

Recriwtio Ymgynghorwyr Arbenigol ar gyfer y Bwrdd Strategaeth Economaidd. pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddfa Ranbarthol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r Cyd-bwyllgor ddechrau penodi Ymgynghorwyr Arbenigol i'r Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE) yn unol â'r weithdrefn a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y bydd y Cyd-bwyllgor yn dechrau penodi Ymgynghorwyr Arbenigol i'r Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE) yn unol â'r weithdrefn a amlinellir yn yr adroddiad.

8.

Cofnod o Broblemau Prosiect a Chofrestr Risgiau'r Rhaglen pdf eicon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddfa Ranbarthol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Cofnod o Faterion y Prosiect a Chofrestr Risgiau'r Rhaglen.

 

Penderfynwyd nodi Cofnod o Faterion y Prosiect a Chofrestr Risgiau'r Rhaglen.

9.

Diwygiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor. pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer newidiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor cyn derbyn cadarnhad gan bob un o'r pedwar Cyngor cyfansoddol.

 

Cynigiodd y Cadeirydd ddiwygiadau pellach mewn perthynas ag:

 

a)              Amserlen 1 "Cylch Gorchwyl y Cyd-bwyllgor", yn benodol Paragraff 5 "Pleidleisio" a Pharagraff 8 "Cworwm";

 

b)              Argymhelliad 2 yn yr adroddiad, er mwyn dileu'r angen am gymeradwyo Cytundeb diwygiedig y Cyd-bwyllgor gan Lywodraethau Cymru a'r DU. Dywedodd fod hyn yn unol â thrafodaethau â'r gweinidogion perthnasol.

 

Trafodwyd a chefnogwyd y diwygiadau ychwanegol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cytuno i'r diwygiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor fel yr amlinellir yn Atodiad 2 o'r adroddiad yn amodol ar y diwygiadau canlynol:

 

a)              Atodlen 1 "Cylch Gorchwyl y Cyd-bwyllgor", Paragraff 5 "Pleidleisio". Ychwanegu Paragraff 5.2 i ddarllen:

 

"Nid oes hawl gan y Cyd-bwyllgor bleidleisio i gymeradwyo achos busnes neu unrhyw fater arall sy'n ymwneud â phrosiect os nad yw'r aelod sy'n cynrychioli cyngor sy'n ymwneud â'r prosiect hwnnw'n bresennol yn y cyfarfod."

 

b)              Amserlen 1 "Cylch Gorchwyl y Cyd-bwyllgor", Paragraff 8 "Cworwm". Diwygio Paragraff 8.1 i ddarllen:

 

"Bydd y cworwm ar gyfer cyfarfod y Cyd-bwyllgor yn cynnwys cynrychiolydd o dri o'r pedwar cyngor."

 

2)              Anfon Cytundeb diwygiedig y Cyd-bwyllgor ymlaen at Lywodraethau Cymru a'r DU er gwybodaeth;

 

3)              Y bydd pob awdurdod cyfansoddol yn cyflwyno adroddiad i'w cyngor yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y diwygiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor;

 

4)              Awdurdodi'r Swyddog Monitro i gysylltu â'i chymheiriaid ym mhob cyngor cyfansoddol er mwyn gwneud mân ddiwygiadau pellach i Gytundeb y Cyd-bwyllgor.

10.

Recriwtio Cyfarwyddwr Rhaglen pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddfa Ranbarthol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddechrau proses i recriwtio Cyfarwyddwr Rhaglen ar y raddfa gyflog a fanylir yn yr adroddiad ac Atodiad A o'r adroddiad.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cyflog Cyfarwyddwr Rhaglen ar raddfa Pennaeth Gwasanaeth (£88-478 - £94,373);

 

2)              Cymeradwyo'r disgrifiad swydd fel y'i hamlinellir yn yr adroddiad a chymeradwyo dechrau'r broses i recriwtio Cyfarwyddwr Rhaglen ar unwaith gyda dyddiad cau yng nghanol mis Medi 2019.

11.

Cyllideb wedi'i Hailfodelu pdf eicon PDF 426 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu cyllideb dros dro wedi'i hailfodelu ac opsiynau ariannu mewn perthynas â'r swyddogaeth cefnogi gweinyddiaeth ar gyfer Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r gyllideb dros dro gan amlygu'r opsiynau ariannu amrywiol;

 

2)              Cymeradwyo model "Cyllid Cytunedig" Opsiwn 1 fel cyllideb a chyllid dros dro ar gyfer y Cyd-bwyllgor, y Corff Atebol a'r Swyddfa Ranbarthol ar gyfer 2019-2020.

12.

Cyfarfodydd y Dyfodol

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd a ellir gohirio cyfarfod y Cyd-bwyllgor a drefnwyd ar gyfer 27 Awst 2019 ac os yw'n bosib, trefnu dyddiad ar gyfer dechrau mis Medi 2019.

 

Dyma'r dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor yn y dyfodol (Pob un yn dechrau am 2.00pm):

 

24 Medi 2019

26 Tachwedd 2019

28 Ionawr 2020

29 Hydref 2019

20 Rhagfyr 2019

25 Chwefror 2020