Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

15.

Cofnodion. pdf eicon PDF 287 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir.

16.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Gwnaed y cyhoeddiadau canlynol:

 

1)             Diolchodd y Cadeirydd i'r Athro Medwin Hughes a oedd newydd ymddeol o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am ei gefnogaeth a'i waith wrth gyfrannu at gyflawni Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Byddai ei olynydd, yr Athro Elwen Evans, yn cael gwahoddiad i gyfarfodydd yn y dyfodol.

2)             Mynegodd y Cadeirydd hefyd ei ddiolch a'i ddymuniadau gorau i Mark Hackett, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a oedd hefyd wedi rhoi'r gorau i'w rôl.

17.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Questions can be submitted in writing to Democratic Services democracy@swansea.gov.uk up until noon on the working day prior to the meeting. Written questions take precedence. Public may attend and ask questions in person if time allows. Questions must relate to items on the open part of the agenda and will be dealt within a 10 minute period.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

18.

Monitro Ariannol Chwarter 1 2023/24. pdf eicon PDF 760 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Moore, Swyddog Adran 151, adroddiad i'r cyd-bwyllgor i roi’r diweddaraf iddynt ar sefyllfa ariannol ddiweddaraf Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd y bydd y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'r adroddiad sy’n rhoi’r diweddaraf am fonitro ariannol.

19.

Adroddiad Uchafbwyntiau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 282 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Bae Abertawe, adroddiad “Er Gwybodaeth” i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyd-bwyllgor am gynnydd y rhaglenni/prosiectau sy’n rhan o Bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe fel yr amlinellir yn Atodiad A.  Darparwyd diweddariadau ynghylch y canlynol:

 

·                Ymgysylltu â Busnesau a Chyfathrebu;

·                Yr Egin;

·                Pentre Awel;

·                Isadeiledd digidol;

·                Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS);

·                Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau;

·                Prosiect Morol Doc Penfro.

 

O ran Prosiect Morol Doc Penfro, nodwyd bod risg newydd wedi'i nodi oherwydd y rownd arwerthu contractau ar gyfer gwahaniaeth aflwyddiannus mewn perthynas ag ynni gwynt ar y môr gan Lywodraeth y DU.  Fodd bynnag, roedd y risg yn cael ei lliniaru a'i rheoli ac roedd cynllun gwaith wedi'i lunio er mwyn cyflawni canlyniadau ar gyfer Prosiect Morol Doc Penfro, yn enwedig o ran isadeiledd arloesedd, a fyddai'n gwasanaethu uchelgeisiau trawsnewid ynni am ddegawdau i ddod.

20.

Asesiad Effaith Adeiladu. pdf eicon PDF 401 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Bae Abertawe, adroddiad "Er Gwybodaeth" i hysbysu'r Cyd-bwyllgor o'r Crynodeb o'r Asesiad Effaith Adeiladu fel yr amlinellir yn Atodiad A.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr yr wybodaeth yn yr adroddiad a oedd yn nodi nad yw'r statws risg wedi newid, fodd bynnag, eglurodd fod y costau sy'n gysylltiedig â dau brosiect wedi cynyddu mewn perthynas â Champysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Phrosiect Morol Doc Penfro.  Esboniodd y gwaith sy'n mynd rhagddo mewn perthynas â'r ddau brosiect ac amlinellodd y mesurau lliniaru a oedd yn cael eu rhoi ar waith i leihau'r risgiau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Darren Price i HAPS yn benodol gael ei ystyried mewn fformat neu adroddiad gwahanol i sicrhau bod y Pwyllgor yn gallu olrhain effaith pwysau chwyddiant yn y dyfodol ar y cynllun.

21.

Adroddiad Argymhellion a Chynllun Gweithredu Adolygiad Portffolio Gateway. pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd & cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe, adroddiad i hysbysu'r Cyd-bwyllgor ynghylch canlyniad Adolygiad Portffolio Gateway ac i gytuno ar y Cynllun Gweithredu mewn ymateb i argymhellion yr adolygiad.

 

Penderfynwyd:

 

1)             y bydd y Cyd-bwyllgor yn nodi canlyniad Adolygiad Portffolio Gateway ac yn cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu sydd ynghlwm yn Atodiad B a'r ymateb i argymhellion yr Adolygiad (Atodiad A).