Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas Ranbarth Bae Abertawe.

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Rob Stewart.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R C Stewart yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Bu'r Cynghorydd RC Stewart (Cadeirydd) yn llywyddu

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 286 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 11 Mai 2023 fel cofnod cywir.

4.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau.

5.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

6.

Adroddiad Argymhellion Archwilio Mewnol 2022-23. (Matthew Holder) pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Matthew Holder, Bargen Ddinesig Bae Abertawe, adroddiad er mwyn ystyried a chymeradwyo canfyddiadau a chamau gweithredu adolygiad Archwilio Mewnol 2022-23 ym Mhortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe (BDdBA).

 

Penderfynwyd y byddai Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe'n cymeradwyo canfyddiadau a chamau gweithredu adolygiad Archwilio Mewnol 2022-23 ym Mhortffolio BDdBA.

7.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 2023. pdf eicon PDF 289 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Amlinellodd Jason Blewitt, Swyddfa Archwilio Cymru, y cynllun a'r cwmpas mewn perthynas â'r archwiliad allanol a amlinellwyd yn Atodiad A a gynhelir gan Swyddfa Archwilio Cymru fel rhan o Ddatganiad o Gyfrifon Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2022/23.

 

Penderfynwyd y byddai Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe'n cymeradwyo'r cynllun a gynigiwyd a chwmpas yr archwiliad allanol a wneir gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Ddatganiad o Gyfrifon Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2022/23.

8.

Diweddariad y Rhaglen Sgiliau a Thalent. (Er Gwybodaeth - Jane Lewis/Sam Cutlan) pdf eicon PDF 282 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Samantha Cutlan adroddiad "er gwybodaeth" a chyflwyniad i gyd-fynd ag ef er mwyn hysbysu Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe ynghylch y cynnydd a wnaed a statws y fenter Sgiliau a Thalent.

9.

Diweddariad y Rhaglen Isadeiledd Digidol. (Er Gwybodaeth - Gareth Jones) pdf eicon PDF 355 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Gareth Jones adroddiad "er gwybodaeth" a chyflwyniad i gyd-fynd ag ef er mwyn hysbysu Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe ynghylch y cynnydd a wnaed a statws Rhaglen Isadeiledd Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

10.

Monitro Portffolio Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 473 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd Jonathan Burnes, Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe, adroddiad "er gwybodaeth" i hysbysu Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe ynghylch Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol.

11.

Monitro Ariannol Chwarterol Ch4 2022/23 - Sefyllfa'r Alldro Terfynol. pdf eicon PDF 1 MB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Moore, Swyddog Adran 151 Steven TO Aldred-Jones, a oedd wedi cymryd lle Richard Arnold fel Rheolwr Cyllid Rhanbarthol y Pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad i ddarparu gwybodaeth ynghylch y sefyllfa alldro terfynol ar gyfer 2022/23 Dinas-Ranbarth Bae Abertawe i Gyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd y byddai Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe'n cymeradwyo'r sefyllfa alldro terfynol ar gyfer 2022/23.

12.

Datganiad o Gyfrifon Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Moore, Swyddog Adran 151, gyflwyniad er mwyn darparu Datganiad o Gyfrifon Blynyddol y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2022/23 i Gyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, fel y'i hamlinellwyd yn Atodiad A ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd y byddai Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe'n cymeradwyo'r Datganiad o Gyfrifon Cyn Archwilio Blynyddol.

13.

Adroddiad Blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jonathan Burnes, Bargen Ddinesig Bae Abertawe adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth oddi wrth Gyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe ar fersiwn derfynol Adroddiad Blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe mis Ebrill 2022-mis Mawrth 2023 fel y'i hamlinellir yn Atodiad A ar ran Heidi Harris.

 

Penderfynwyd y byddai Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe'n cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2022-2023.