Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

57.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

58.

Cofnodion. pdf eicon PDF 282 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2023 fel cofnod cywir.

59.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau.

60.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

61.

Monitro Portffolio Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Phil Ryder adroddiad i hysbysu'r Cyd-bwyllgor o adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i raglenni / brosiectau cyfansoddol.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Y bydd Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn nodi'r Adroddiad Monitro Chwarterol ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i raglenni / brosiectau cyfansoddol;

2)           Darparu diweddariad ffurfiol neu anffurfiol ar y prosiectau Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS).

62.

Dyraniad Dros Dro o £5.3m o Gronfeydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu Uwch - Crynodeb o Ddiwygiad y Prosiect. pdf eicon PDF 303 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jonathan Burnes adroddiad i ofyn yn ffurfiol i Gyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe gymeradwyo diweddaru'r achos busnes Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel (SILCG) er mwyn cynnwys Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu Uwch gwell (AMPF), sef cynnwys Canolfan Ragoriaeth Sgiliau Sero-net Genedlaethol.

 

Penderfynwyd bod Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe:

 

1)           Yn cymeradwyo bod y £5.3 miliwn o gyllid Bargen Ddinesig Bae Abertawe sydd heb ei ddyrannu yn cael ei ddyrannu mewn egwyddor i Gyngor Castell-nedd Port Talbot at y dibenion a amlinellir yn y Crynodeb Prosiect Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu Uwch gwell sydd ynghlwm wrth Atodiad A;

2)           Yn gofyn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot fwrw ymlaen yn ffurfiol i ddatblygu Achos Busnes SILCG i gynnwys y prosiect Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu Uwch gwell;

3)           Yn cymeradwyo'r Achos Busnes gan ddilyn y broses cymeradwyo a newid achosion busnes fel yr amlinellir yn Atodiad B.

63.

Adroddiad Buddsoddiad/Cyfraniad y Sector Preifat. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd Peter Austin adroddiad "Er Gwybodaeth" i ddiweddaru Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe am y sefyllfa bresennol gyda buddsoddiad a chyfraniadau portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe fel yn Atodiad A.

64.

Blaenraglen Waith y Cyd-bwyllgor. pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jonathan Burnes adroddiad i hysbysu Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe o'r Flaenraglen Waith ddiweddaraf.

 

Penderfynwyd bod Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn cymeradwyo'r Flaenragolen Waith fel yn Atodiad A.

 

65.

Diolch.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod Phil Ryder wedi llwyddo i sicrhau swydd newydd y tu allan i Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Ar ran y Pwyllgor diolchodd i Phil Ryder am ei holl waith gyda'r Fargen Ddinesig a'i gyfraniad i'r Rhanbarth.