Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

50.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

51.

Cofnodion. pdf eicon PDF 292 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2023 fel cofnod cywir.

52.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Llongyfarchodd y Cadeirydd gydweithwyr yng nghyngor Castell-nedd Port Talbot a Sir Penfro ar eu ceisiadau llwyddiannus am Borthladd Rhydd Celtaidd.

 

Cyhoeddodd hefyd fod y gyfran nesaf o gyllid gwerth £23m wedi dod i law am y flwyddyn.  Ailadroddodd mai Bargen Ddinesig Bae Abertawe oedd yr unig ranbarth o hyd i gael statws “byw” ar gyfer ei holl brosiectau.

53.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

54.

Y diweddaraf am Brosiect Pentre Awel. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 1 MB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Dr Sharon Burford, Rheolwr Prosiect Pentre Awel adroddiad “Er Gwybodaeth” i hysbysu'r Cyd-bwyllgor o'r cynnydd a wnaed a statws Prosiect Pentre Awel.

 

I gefnogi'r adroddiad cyhoeddedig rhannodd hefyd gyflwyniad Powerpoint a oedd yn cynnwys fideo byr.

 

Er mai adroddiad “er gwybodaeth” oedd hwn, cynigiodd y Pwyllgor yn ffurfiol ei fod yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i dynnu sylw at y pwysau o ran costau adeiladu.

55.

Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe adroddiad i roi Achos Busnes Portffolio’r Fargen Ddinesig wedi’i ddiweddaru i’r Cyd-bwyllgor i’w gyflwyno i Lywodraethau Cymru a’r DU.

 

Dywedodd fod mân newidiadau wedi eu gwneud i’r ddogfen ond bod y rhain yn adlewyrchu’n well gynnydd y prosiectau, heriau’r sefyllfa economaidd bresennol a'r trefniadau llywodraethu cynyddol aeddfed yn hytrach nag unrhyw newidiadau sylfaenol i gyfansoddiad neu ddichonoldeb y busnes.

 

Penderfynwyd bod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cymeradwyo Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe sydd ynghlwm yn Atodiad A i'w gyflwyno i Lywodraethau Cymru a'r DU.

56.

Adroddiad Uchafbwyntiau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 287 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Phil Ryder, Rheolwr Swyddfa'r Portffolio, Bargen Ddinesig Bae Abertawe, adroddiad “Er Gwybodaeth” i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyd-bwyllgor am y rhaglenni/prosiectau sy’n rhan o Bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe fel yr amlinellir yn Atodiad A.