Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

38.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad, datganwyd y cysylltiad canlynol:

 

Datganodd Chris Foxall gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnodion rhif 42 a 43 a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitemau hyn gael eu trafod.

39.

Cofnodion. pdf eicon PDF 290 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir.

40.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Cofnodion:

Er nad oedd unrhyw gyhoeddiadau, roedd y Cadeirydd yn falch o  ailadrodd bod y 9 prosiect/rhaglen yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe wedi cael eu cymeradwyo'n llawn. Agorwyd Arena Abertawe yn 2022 ac mae'r gwaith i adeiladu 71/72 Ffordd y Brenin wedi hen ddechrau. Dinas-ranbarth Bae Abertawe oedd yr unig Fargen Ddinesig i glustnodi ei holl arian ac roedd pob prosiect yn cael ei gyflwyno.

41.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.  Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

42.

Cyd-bwyllgor Rhanbarth Dinas Bae Abertawe wedi'i Gyfethol. pdf eicon PDF 120 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Phil Ryder (Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Rheolwr Swyddfa'r Portffolio) adroddiad i adolygu aelodau cyfetholedig y Cyd-bwyllgor ar gyfer y pedwar sefydliad partner a chytuno arnynt.

 

Estynodd y Cadeirydd ddiolch ar ran y Cyd-bwyllgor i Steve Wilkes am ei gyfraniad yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

 

Penderfynwyd y bydd y Cyd-bwyllgor yn cadarnhau'r aelodau cyfetholedig presennol a nodwyd yn nhabl 1 ac yn cymeradwyo penodi Paul Boyle yn aelod cyfetholedig newydd Prifysgol Abertawe.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mr Boyle a’i longyfarch ar ei benodiad.

43.

Adolygiad o Gadeirydd y Bwrdd Strategol Economaidd. pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Jonathan Burnes (Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cyfarwyddwr y Portffolio) adroddiad i geisio cymeradwyaeth am yr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd. 

 

Penderfynwyd:

 

1)               Ailbenodi Chris Foxall yn Gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd;

2)               Ailbenodi Amanda Davies yn Is-gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd.

44.

Adroddiad Monitro Ariannol 2022/23 - Sefyllfa Alldro Dros Dro ar gyfer Chwarter 3. pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Moore (Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Swyddog Adran 151) adroddiad i'r cyd-bwyllgor i roi’r diweddaraf iddynt ar sefyllfa ariannol ddiweddaraf dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd y bydd y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'r adroddiad sy’n rhoi’r diweddaraf am fonitro ariannol.

45.

Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Phil Ryder (Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Rheolwr y Swyddfa Portffolio) adroddiad a oedd yn amlinellu'r Adroddiad Monitro Chwarterol ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol.

 

Penderfynwyd nodi'r Adroddiad Monitro Chwarterol ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol.

46.

Diweddariad ar gynnydd Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau. pdf eicon PDF 432 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Huw Mowbray (Cyngor Abertawe - Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol) adroddiad "er gwybodaeth" i roi gwybod i'r cyd-bwyllgor am y canlynol:

 

1)           Y cynnydd a wnaed a statws rhaglen Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau BDdBA.

2)           Datblygiad achos busnes diweddaraf y rhaglen fel yn Atodiad A.

3)           Canlyniad Adolygiad Asesiad Perfformiad Gateway fel yn Atodiad B a'r cynllun gweithredu fel yn Atodiad C.

47.

Diweddariad ar Gefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel. pdf eicon PDF 413 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Dr Brett Sudell (Rheolwr Rhaglen CATCI) adroddiad "er gwybodaeth" i hysbysu’r cyd-bwyllgor o’r cynnydd a wnaed a statws rhaglen Cefnogi Arloesedd mewn Twf Carbon Isel Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

48.

Asesu Costau Adeiladu Cynyddol. pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Jonathan Burnes (Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cyfarwyddwr y Portffolio) adroddiad "er gwybodaeth" i roi'r diweddaraf i'r cyd-bwyllgor ar gostau adeiladu chwyddiannol a chynyddol sy'n effeithio ar brosiectau o fewn y portffolio a’r camau gweithredu lliniarol sy'n cael eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â hwy fel y disgrifir yn Atodiad A.

49.

Adroddiad Asesu Lleihau Carbon Portffolio. pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Jonathan Burnes (Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cyfarwyddwr y Portffolio) adroddiad "er gwybodaeth" i asesu'r cyfraniadau at dargedau lleihau carbon rhanbarthol a wnaed gan raglenni a phrosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe.