Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

24.

Ethol Cadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas Ranbarth Bae Abertawe.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Rob Stewart yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Rob Stewart, pleidleisiwyd i ethol Cadeirydd Dros Dro. 

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Darren Price yn Gadeirydd Dros Dro ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.

25.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

26.

Cofnodion. pdf eicon PDF 349 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir.

27.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

28.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.  Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

29.

Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2022-23. pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Matthew Holder (Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Pennaeth Archwilio Mewnol) adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol 2022-2023.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol 2022-2023 fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad.

30.

Siarter Archwilio Mewnol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Matthew Holder (Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Pennaeth Archwilio Mewnol) adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Siarter Archwilio Mewnol Ddrafft ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Siarter Archwilio Mewnol Ddrafft.

31.

Y Diweddaraf am Gartrefi fel Gorsafoedd Pwer. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Oonagh Gavigan (Rheolwr y Prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer) adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu cynnydd y prosiect.

32.

Adroddiad Monitro Ariannol 2022/23 - Sefyllfa Alldro Dros Dro ar gyfer Chwarter 2. pdf eicon PDF 973 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Moore (Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Swyddog Adran 151) adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am sefyllfa ariannol ddiweddaraf Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r adroddiad diweddaru am Fonitro Ariannol.

33.

Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 344 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Amanda Halfhide (Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn amlinellu'r Adroddiad Monitro Chwarterol ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol.

 

Penderfynwyd nodi'r Adroddiad Monitro Chwarterol ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol.

34.

Proses Datblygu Achos Busnes Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 302 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Williams (Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Proses Ddatblygu Achos Busnes Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer diweddaru a datblygu'r achosion busnes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Proses Datblygu a Diweddaru Achos Busnes Bargen Ddinesig Bae Abertawe fel y’i hatodir i'r adroddiad.

35.

Fframwaith Sicrwydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Williams (Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Fframwaith Sicrwydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n manylu ar y trefniadau sicrwydd ar gyfer y Portffolio a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Fframwaith Sicrwydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad a'r cylch gorchwyl cysylltiedig.

36.

Trefniadau Sicrwydd Portffolio 'Gateway'. pdf eicon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Williams (dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn amlinellu canlyniad Adolygiad Portffolio Gateway ac roedd yn gofyn i’r aelodau gytuno ar y Cynllun Gweithredu mewn ymateb i argymhellion yr adolygiad.

 

Penderfynwyd nodi canlyniad Adolygiad Portffolio Gateway a chymeradwyo'r cynllun gweithredu a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad mewn ymateb i argymhellion yr adolygiad.

37.

Blaengynllun Gwaith y Cydbwyllgor. pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Amanda Burns (Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn amlinellu'r Flaenraglen Waith.

 

Penderfynwyd cytuno ar y Flaenraglen Waith.