Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae
Abertawe a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
Darren Price (Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin) a'r Cynghorydd Steve Hunt
(Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot) i'w cyfarfod cyntaf erioed o
Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Mae’n rhaid i gwestiynau gael
eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol
dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod
o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Y diweddaraf ar Isadeiledd Digidol. PDF 294 KB Cofnodion: Cyflwynodd Gareth
Jones (Swyddfa Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad gwybodaeth a oedd
yn amlygu'r cynnydd a wnaed a statws Rhaglen Isadeiledd Digidol Bargen Ddinesig
Bae Abertawe. |
|
Adroddiad(au) Chwarterol/Adroddiad Amlygu Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 261 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Jon
Burnes (Cyfarwyddwr Portffolio Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn
rhoi'r diweddaraf am Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe
(BDdBA) ar gyfer y Portffolio BDdBA
a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol. Darparodd yn
benodol ddiweddariadau am gynnydd ynghylch y canlynol: ·
Adroddiad
Uchafbwyntiau BDdBA Ø
Ymgysylltu
â busnesau Ø
Cyfathrebu
a Marchnata Ø
Prosiect
Morol Doc Penfro. Ø
Isadeiledd
digidol. Ø
Pentre
Awel. Ø
Ardal
Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau. Ø
Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer. Ø
Cefnogi
Arloesedd a Thwf Carbon Isel. Ø
Yr
Egin. Ø
Campysau
BDdBA. Ø
Sgiliau
a doniau. ·
Dangosfwrdd Monitro Chwarterol. ·
Adroddiad
Monitro Chwarterol BDdBA (Portffolio a
Rhaglenni/Phrosiectau). ·
Cynllun
Cymeradwyo a Sicrwydd Integredig. ·
Cofrestr
Risg Portffolio. ·
Asesiad
Effaith COVID-19. ·
Cynllun
Gweithredu ar gyfer Adolygu Portffolio 'Gateway' 0 ·
Gwaith
caffael sydd ar y gweill. ·
Cofnod
o faterion y portffolio. ·
Gwireddu
buddion. ·
Crynodeb
o'r effaith adeiladu Penderfynwyd nodi'r Adroddiad Monitro Chwarterol ar
gyfer y Portffolio BDdBA a'i raglenni/prosiectau
cyfansoddol. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd
Richard Arnold (Swyddfa Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn rhoi'r
diweddaraf am sefyllfa ariannol ddiweddaraf Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd adolygu'r adroddiad diweddaru am Fonitro
Ariannol a'i gymeradwyo. |
|
Cyllideb Ddiwygiedig y Cyd-bwyllgor 2022/2023. PDF 664 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Richard Arnold (Swyddfa Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd
yn rhoi'r diweddaraf am gyllideb ddiwygiedig mewn perthynas â gweinyddu a
chefnogi swyddogaethau ar gyfer portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Penderfynwyd ystyried y gyllideb ddiwygiedig mewn
perthynas â'r weinyddiaeth y mae ei hangen i gefnogi a chyflwyno Bargen
Ddinesig Bae Abertawe, a'i chymeradwyo. |
|
Adroddiad Archwilio Mewnol. PDF 721 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Matthew Holder (Archwilio Mewnol Dinas-ranbarth Bae
Abertawe) adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer canfyddiadau a
chamau gweithredu’r adolygiad Archwilio Mewnol i Bortffolio Bargen Ddinesig Bae
Abertawe. Penderfynwyd y dylid nodi canfyddiadau a chamau
gweithredu'r adolygiad Archwilio Mewnol i Raglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe. |
|
Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio 2021/22. PDF 269 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Jason Blewitt a Non Jenkins (Archwilio Cymru) adroddiad a oedd yn
rhoi gwybod am y cynllun a'r cwmpas mewn perthynas ag archwiliad allanol o
Ddatganiad o Gyfrifon Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Penderfynwyd adolygu cynllun a chwmpas arfaethedig yr
archwiliad allanol fel a amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad a chytuno
arnynt, a bod Archwilio Cymru'n archwilio i Ddatganiad o Gyfrifon Cyd-bwyllgor
Bargen Ddinesig Bae Abertawe. |
|
Adborth ar Ddigwyddiad Arddangos Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Heidi
Harries (Swyddfa Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad gwybodaeth am
yr adroddiad ar ôl digwyddiad a oedd yn trafod Digwyddiad Arddangos y Fargen
Ddinesig a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2022, fel a amlinellwyd yn Atodiad A yr
adroddiad. |
|
Dogfennaeth a ddarperir gan y Cyd-bwyllgor. PDF 158 KB Cofnodion: Cyflwynodd Phil
Ryder (Swyddfa Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer darparu dogfennaeth i'r Cyd-bwyllgor a'r Cyd-bwyllgor
Craffu yn y dyfodol. Penderfynwyd cymeradwyo'r cynnig a amlinellwyd yn
Adran 2 yr adroddiad a'r ddogfennaeth i'w darparu i'r Byrddau Llywodraethu. |