Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Election of Chair Pro Tem.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Emlyn Dole yn Gadeirydd y Cydbwyllgor dros dro.

 

Y Cynghorydd Emlyn Dole (Cadeirydd) fu’n llywyddu.

 

36.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

37.

Cofnodion. pdf eicon PDF 298 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2022 fel cofnod cywir.

 

 

38.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Cofnodion:

Cynigiodd y Cadeirydd y dylid gohirio Eitem 7 ar yr agenda - Trefniadau Sicrwydd Portffolio ‘Gateway’ Bargen Ddinesig Bae Abertawe i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am gymeradwyaeth i ystyried Eitem 9 ar yr agenda - Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn dilyn cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

 

Penderfynwyd y dylid cytuno ar y diwygiadau uchod i'r agenda.

 

 

39.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

40.

Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio (Dinas-ranbarth Bae Abertawe) Achos Busnes Portffolio'r Fargen Ddinesig wedi’i ddiweddaru, yr oedd angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'r DU.

 

Manylodd ar y cefndir a thynnodd sylw at y newidiadau sylweddol a oedd yn cynnwys:

 

• Gwybodaeth wedi'i diweddaru am gydweddiad strategol y portffolio â pholisïau/strategaethau Cymru, y DU a Rhanbarthol a mentrau cyfredol y sector cyhoeddus, gan gynnwys Cynllun Cyflawni Economaidd De-orllewin Cymru, y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol a mentrau'r Gronfa Codi'r Gwastad/Ffyniant Gyffredin

• Yr adran Achos dros Newid wedi'i diweddaru gyda'r blaenoriaethau polisi economaidd rhanbarthol a'r sylfaen dystiolaeth yng Nghynllun Cyflawni Economaidd De-orllewin Cymru. Nodwyd tueddiadau, anghenion a chyfleoedd cyfredol

• Statws datblygu a chymeradwyo achosion busnes diwygiedig ar gyfer pob rhaglen a phrosiect sydd bellach wedi cael cymeradwyaeth ranbarthol a llywodraeth ac mae Portffolio BDdBA bellach yn cael ei gyflawni’n llawn erbyn hyn

• Gwybodaeth ddiwygiedig am arfarniadau economaidd ar gyfer portffolios, rhaglenni a phrosiectau

• Gwybodaeth am gyllid a buddsoddiadau wedi'i diweddaru gan y rhagwelir mai cyfanswm buddsoddiad portffolio BDdBA fydd £1.241bn erbyn hyn

• Gwybodaeth monitro a gwerthuso wedi'i diweddaru ar gyfer y portffolio, gan gynnwys cynllun Monitro a Gwerthuso wedi'i ddiweddaru a gwybodaeth gyfredol ar gyfer risgiau, materion, budd-daliadau a monitro ariannol

• Trefniadau sicrwydd annibynnol arfaethedig ar gyfer y portffolio a'r trefniadau ar gyfer datblygu a chymeradwyo Achosion Busnes Llawn

• Cynllun Cyfathrebu a Marchnata ac amserlen wedi'u diweddaru

• Map ffordd cyflawni'r portffolio cyfredol ar gyfer pob rhaglen a phrosiect

 

Nododd y Pwyllgor fod fersiwn ymgynghoriad drafft o Achos Busnes y Portffolio wedi'i dosbarthu i'r holl Uwch-berchnogion Cyfrifol ac arweinwyr rhaglenni/prosiectau ar 14 Ionawr i gael sylwadau ac adborth. Ystyriwyd yr adborth a dderbyniwyd ac fe'i hymgorfforwyd yn yr achos busnes lle bo hynny'n briodol. Dosbarthwyd yr achos busnes drafft a'r atodiadau i aelodau Bwrdd y Rhaglen, y Cyd-bwyllgor a swyddogion allweddol yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar 18 Chwefror. Cynigiwyd sesiynau briffio ar gynnwys yr achos busnes hefyd i randdeiliaid.

 

Cafodd yr Achos Busnes ei ystyried a'i gytuno yng nghyfarfod Bwrdd y Rhaglen (Portffolio) ar 1 Mawrth.

 

Mae'r Achos Busnes yn cynnwys adborth gan randdeiliaid ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor, hwn fydd y fersiwn derfynol i'w hanfon at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

Penderfynwyd bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo’r Achos Busnes Portffolio BDdBA sydd wedi'i atodi yn Atodiad A yr adroddiad.

 

 

41.

Adroddiad ar Brif Bwyntiau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Phil Ryder (Swansea Bay City Deal Programme Office) provided a “For Information” report to inform Swansea Bay City Region Joint Committee of the Swansea Bay City Deal Quarterly Monitoring & Monthly Highlight Report for both the Swansea Bay City Deal Portfolio and its constituent programmes / projects.

 

He outlined and updated the Joint Committee on the progress relating to the following:

 

·                 Communications and Marketing;

·                 Pembroke Dock Marine;

·                 Pentre Awel;

·                 Yr Egin;

·                 Supporting Innovation & Low Carbon Growth;

·                 Swansea City & Waterfront Digital District;

·                 Digital Infrastructure;

·                 Homes as Power Stations;

·                 Skills & Talent; and

·                 SBCD Campuses.

 

The Committee congratulated organisers for the recent successful Scarlets Showcase event.

 

The Chair thanked Mr Ryder for the updates.

 

 

 

 

42.

Fframwaith Sicrwydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r adroddiad i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

43.

Cytundeb y Cyd-bwyllgor - Atodlen 15. pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd Jon Burnes (Cyfarwyddwr Portffolio BDdBA) am gymeradwyaeth ar gyfer Cytundeb y Cyd-bwyllgor – Atodlen 15 Rolau a Chyfrifoldebau BDdBA a'r CSRhP.

 

Nododd y Pwyllgor rolau a chyfrifoldebau Swyddfa Reoli BDdBA, a oedd yn weithred amrywio ofynnol yn ôl cais y Cyd-bwyllgor yn dilyn yr Adolygiad Actica allanol.

 

Penderfynwyd bod Cytundeb y Cyd-bwyllgor – Atodlen 15 fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.