Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas Ranbarth Bae Abertawe. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R C Stewart yn
Gadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Bu'r Cynghorydd R C Stewart (Cadeirydd) yn
llywyddu. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Cod
Ymddygiad, datganwyd y buddiannau canlynol; Chris Foxall – Cofnod Rhif 6 - Adolygiad Cadeirydd y Bwrdd
Strategaeth Economaidd – budd personol a rhagfarnol. Gadawodd Chris Foxall
y cyfarfod wrth i eitem 6 gael ei hystyried. Steve Wilks – Cofnod Rhif 7
- Achos Busnes Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe - cysylltiad
personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo cofnodion
cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2021 a 28
Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adolygiad Cadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd. PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau
Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd. Penderfynwyd: 1)
Penodi
Chris Foxall yn Gadeirydd y Bwrdd Strategaeth
Economaidd; ac 2)
Amanda
Davies yn Is-gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd. |
|
Achos Busnes Campysau Bargen Dinas Bae Abertawe. PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd Keith
Lloyd (Arweinydd Prosiect/Uwch-berchennog Cyfrifol) adroddiad/gyflwyniad a oedd
yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Achos Busnes Amlinellol y Gwyddorau Bywyd,
Llesiant a Chwaraeon i'w gyflwyno i Lywodraethau'r DU a Chymru gyda'r bwriad o
ddefnyddio gwerth £15m o fuddsoddiad cyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
Achos Busnes i'w gyflwyno i Lywodraeth y DU a Chymru yn ffurfiol. |
|
Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau - Cais am newid y matrics arloesedd. PDF 225 KB Cofnodion: Penderfynwyd ystyried gohirio'r adroddiad tan y
cyfarfod nesaf. |
|
Adroddiad ar Brif Bwyntiau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 289 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd Phillip
Ryder (Swyddfa Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe) ddiweddariad ‘er
gwybodaeth’ ar gynnydd rhaglenni/prosiectau sy’n rhan o Bortffolio Bargen Ddinesig
Abertawe. Rhoddodd yr
wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyd-bwyllgor ac amlinellodd y cynnydd mewn perthynas
â'r canlynol: ·
Ymgysylltu
â busnesau ·
Yr
Egin. ·
Ardal
Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau. ·
Pentre Awel. ·
Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer. ·
Isadeiledd
digidol. ·
Prosiect
Morol Doc Penfro. ·
Cefnogi
Arloesedd a Thwf Carbon Isel. ·
Sgiliau
a doniau. ·
Campysau
BDdBA. Diolchodd y Cadeirydd i Mr Ryder am ei
gyflwyniad llawn gwybodaeth a mynegodd ei ddiolch. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Ian Williams
(Rheolwr Datblygu Portffolio BDdBA) adroddiad a oedd
yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Gweithredu mewn ymateb i
Argymhellion Adolygiad Gateway 0. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
Cynllun Gweithredu Adolygiad Gateway (y manylir arno
yn Atodiad A) fel yr ymateb i Argymhellion Adolygiad Gateway
0 (manylir arno yn Atodiad B). |
|
Strategaeth Gwrth-dwyll a Gwrth-lygredd. PDF 190 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Richard Arnold (Rheolwr Cyllid Dinas-ranbarth Bae Abertawe) y Strategaeth
Gwrth-Dwyll a Gwrth-lygredd ar gyfer Bargen Dinas Bae Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
Strategaeth Gwrth-dwyll a Gwrth-lygredd. |
|
Monitro Ariannol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2020/21 - Sefyllfa Canlyniad Rhagolwg. PDF 1013 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Richard Arnold (Rheolwr Cyllid Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad diweddaru
am sefyllfa ariannol ddiweddaraf Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd : 1)
Y
bydd y Cyd-bwyllgor yn adolygu’r adroddiad diweddaru monitro ariannol. |
|
Canllaw Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer y Gymraeg. PDF 346 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Amanda
Burns (Uwch-swyddog Cymorth Portffolio) adroddiad a oedd yn manylu ar
Ganllawiau Cymraeg Portffolio BDdBA. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
arweiniad a nodwyd gan CSRhP BDdBA
(fel y nodir yn Atodiad A). |
|
Protocol Cyfarfodydd Bwrdd Llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 204 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Jonathan
Burnes, Cyfarwyddwr (Dinas-ranbarth Bae Abertawe)
adroddiad a oedd yn manylu ar Brotocol Cyfarfod Bwrdd Llywodraethu BDdBA. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
protocol cyfarfodydd Bwrdd Llywodraethu BDdBA. |