Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 637732
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Ymddiheuriadau
Cofnodion:
- Y Cyng. Cyril
Anderson
- Y Cyng. Hazel
Morris
|
2. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
3. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
·
Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan
agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.
Cofnodion:
|
4. |
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Trosolwg a Diweddariad PDF 206 KB
·
Y Cynghorydd Mary Sherwood – Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell (Pobl)
·
Paul Thomas – Rheolwr Integreiddio Cymunedol a Phartneriaeth
·
Gareth Pritchard – Cydlynydd Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Cofnodion:
- Mae cydleoli
gwasanaethau yn gweithio'n dda iawn ac yn caniatáu i swyddogion nodi
problemau'n gynnar er mwyn atal cynnydd
- Erbyn hyn mae
ymagwedd fwy cyfannol tuag at ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Mae cronfa ddata
sy’n cofnodi'r tramgwyddwyr a'r bobl sy'n dioddef ymddygiad
gwrthgymdeithasol dro ar ôl tro
- Mae rhai achosion
wedi newid sut yr ymdrinnir ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac wedi creu
llawer mwy o ymagwedd bartneriaeth
- Mae cynllun 4 cam
wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Mae ymagwedd
integredig wedi creu un pwynt cyswllt ar gyfer problemau ymddygiad
gwrthgymdeithasol ac mae'n golygu bod yr holl dimau perthnasol megis
gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr ieuenctid, Tîm am y Teulu ac ati yn
cymryd rhan yn y cam cychwynnol i atal dyblygu
- Mae'r tîm yn
cyflwyno Contractau Ymddygiad Derbyniol (ABCs)
- Mae'r tîm tai yn
ymdrin â gwaharddebau mewn perthynas â phobl sydd â thenantiaeth cyngor
- Anfonir tua 30 o
lythyrau rhybudd bob mis a dim ond tua 2 - 3% sy'n cael eu dwysáu -
ymagwedd lwyddiannus iawn
- Mae'r tîm yn
cydlynu ymatebion priodol - mae cefnogaeth ar gyfer y dioddefwr a'r
tramgwyddwr
- Nid oes gan rai
heriau rhwng anghydfodau sifil agwedd droseddol ac nid ydynt yn faterion
i'r heddlu, a gall y cyngor weithredu os yw'r tenant yn un o denantiaid
tai'r cyngor yn unig.
- Mae cydberthynas
rhwng ymddygiad gwrthgymdeithasol a thlodi
- Mae tystiolaeth yn
dangos bod llai o droseddu mewn cymdeithasau mwy cyfartal
- Mae llai o adnoddau
i bobl ifanc yn effeithio ar gymunedau
- Bydd yn parhau i
wella gweithio'n agos
- Model diogelu
newydd yn edrych ar agweddau anstatudol e.e. modelau
cymdeithasol/amgylcheddol
- Cysylltiadau â
Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus 'Cymunedau Cryfach'
- Edrych ar sut gall
cymunedau weithio gyda'i gilydd e.e. Cydlynwyr Ardaloedd Lleol
- Gweithio'n agos
gyda'r brifysgol
- Mae rhai prosiectau
yn ymwneud â chymdogion da lle mae tenantiaid newydd yn cael eu cyflwyno
i'w cymdogion
- Mae gweithio gyda
chymunedau'n bwysig iawn
- Mae clywed bod
ymagweddau cydweithredol ar waith yn galonogol
- Rhan fach o agenda
cynhwysiad cymdeithasol ehangach
- Mae diogelu data'n
bwysig iawn
- Mae digonedd o
waith da yn cael ei wneud a'i gydlynu
- Mae ysgolion ac
addysg hefyd yn cael eu cynnwys mewn sawl cam
- Cofnodir ystadegau
i olrhain mannau sy'n peri problemau dro ar ôl tro a thueddiadau
- Mae'n anodd
rhagweld ymddygiad gwrthgymdeithasol ac olrhain tueddiadau am eu bod yn
oddrychol iawn
- Gellir olrhain
gweithgarwch fesul ward a dyrannu cymorth ac adnoddau yn unol â hynny
- Rhai problemau yn
ymwneud â defnyddio cyffuriau a chyfarpar yn Uplands - adborth i'w
gyflwyno i'r Bwrdd Cynllunio Ardal
- Mae iechyd meddwl
yn broblem barhaus ac mae trafodaethau ar lefel strategol yn parhau
- Mae atal troseddau
wedi'i gynnwys yng nghamau cynllunio datblygiadau e.e. canolfannau siopa
- Roedd maint a natur
gydweithredol y gwaith wedi creu argraff ar y panel
|
5. |
Cyfle i'r panel drafod yr adroddiad
Cofnodion:
- Trafododd y panel
yr hyn a glywon nhw a'r cyflwyniad a gawson nhw a phenderfynu ar gynnwys
eu llythyr
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 511 KB
|