Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

 

2.

Adroddiad Gorfodi Amgylcheddol pdf eicon PDF 223 KB

Cyng. Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd
Chris Howell,
Pennaeth Rheoli Gwastraff, Parciau a Glanhau

Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, Chris Howell, Pennaeth Rheoli Gwastraff, Parciau a Glanhau, a Frances Williams, Arweinydd y Tîm Gorfodi, yn bresennol i friffio'r gweithgor ac i ateb cwestiynau.

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol:

 

  • Mae'n ardal heriol ar gyfer yr awdurdod. 
  • Mae atal yn bwysig iawn, rydym am weld nifer yr achosion yn lleihau.  Gorfodi yw'r cam olaf. 
  • Mae tipio anghyfreithlon yn costio arian i'r awdurdod y gellid ei ddefnyddio ar gyfer pethau eraill.  Mae angen lledaenu'r neges hon.  Mae datganiadau i'r wasg yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd.
  • Mae nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon ar dir y cyngor wedi lleihau 39% dros y ddwy flynedd ddiwethaf.  Mae'r gweithgor yn credu bod hyn yn drawiadol iawn a dylai'r awdurdod gyhoeddi hyn.
  • Dyfarnwyd contract i 3GS yn 2013 i leihau sbwriel yng nghanol y ddinas.  Mae 3GS yn gyfrifol am orfodi atal sbwriel a baw cŵn.  Ni ddarparwyd y gwasanaeth hwn yn flaenorol.  Mae'n gost niwtral i'r awdurdod.  Mae 3GS yn derbyn canran y derbynebau o hysbysiadau o gosb benodol.  Hoffai'r gweithgor gael gwybodaeth ariannol fanwl - sawl hysbysiad o gosb benodol a gyflwynir, cost yr erlyniadau, etc. a hoffai weld meini prawf y contract gyda 3GS.
  • Mae perchnogion tir yn gyfrifol am gael gwared ar dipio anghyfreithlon ar dir preifat.  Mae'r awdurdod yn cefnogi hyn ond nid yw'n cael gwared arno.
  • Pan fydd aelodau'n adrodd am broblem, maent am gael gwybod yr hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad.  Dylai fod yn rhan o'r broses i roi gwybod i aelodau/y cyhoedd am yr hyn sy'n cael ei wneud.
  • Gall yr awdurdod wneud 2 fath o oruchwyliaeth - CCTV a gwyliadwriaeth gudd.  Maent yn destun deddfwriaethau gwahanol.  Mae'n dibynnu ar gyfranogiad cymunedol i adnabod pobl. 
  • Gellir defnyddio ffilm camerâu borden flaen fel tystiolaeth ar gyfer erlyniadau taflu sbwriel ond efallai bydd angen i'r person sy'n rhoi'r dystiolaeth fynd i'r llys.
  • Gall tystiolaeth ffotograffig ar y cyfryngau cymdeithasol fod yn ddefnyddiol ond bydd angen bod yn ofalus oherwydd ei bod yn destun sawl deddf.
  • Hysbysiadau o gosb benodol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â'r troseddwyr sbwriel mwyaf parhaus. 
  • Mae angen atgyfnerthu'r neges i dimau bod angen iddynt godi unrhyw sbwriel sydd wedi cwympo allan o'r sachau ar yr un pryd pan fyddant yn casglu sachau du sydd wedi cael eu tipio fel nad oes angen iddynt ddychwelyd, am fod hyn yn wastraff o adnoddau.
  • Mae bandiau elastig yn cael eu gollwng ar y ffyrdd a'r palmentydd gan swyddogion y post.  Cytunodd Aelod y Cabinet i anfon llythyr i Swyddfa'r Post i ofyn i swyddogion y post beidio â'u gollwng.
  • Bydd angen monitro gwm cnoi sy'n cael ei ollwng ar y palmentydd yn ofalus, yn enwedig ar balmentydd newydd yng nghanol y ddinas.  Gellir gofyn i 3GS newid ei ffocws i ganolbwyntio ar balmentydd newydd ar Ffordd y Brenin, etc.
  • Os adroddir am faw cŵn, bydd yr awdurdod yn dod ac yn cael gwared arno ond nid yw'n flaenoriaeth, felly bydd angen aros nes bod tîm glanhau yn yr ardal.
  • Bydd angen i'r cyhoedd wybod y gallant gael gwared ar faw cŵn yn eu sachau du gartref.  Bydd rhaid cyhoeddi hyn.
  • Gwaherddir cŵn yn llwyr ar y traethau yn ystod yr haf.  Mae cosb benodol amdano ac os na fydd perchnogion yn ei dalu ac yn mynd i'r llys, bydd angen iddynt dalu £2,000.  Byddai'n braf gweld ffigurau sy'n dangos sawl gwaith y gorfodir y gwaharddiad cŵn ar draethau.
  • Os adroddir am faw ceffylau ar balmentydd, bydd yr awdurdod yn ceisio ei lanhau pan fydd tîm glanhau yn yr ardal.
  • Mae map o'r holl finiau gwastraff/finiau gwastraff cŵn ar gael.  Byddai'n ddefnyddiol petai hwn yn cael ei ddosbarthu i'r holl aelodau.  Hoffai'r gweithgor fod yr awdurdod yn ail-drafod lleoliadau biniau gwastraff cŵn.
  • Mae'r gweithgor wedi'i siomi â nifer yr erlyniadau ar gyfer baw cŵn yn Abertawe.  Mae'n isel iawn o'i gymharu ag awdurdodau eraill.  Nodwyd bod hyn yn dibynnu ar ffocws yr awdurdodau.
  • Mae 3GS yn gyfrifol am orfodi atal baw cŵn.  Gall yr awdurdod ofyn i'r cwmni ganolbwyntio ar ardaloedd penodol wrth i achosion gael eu hadrodd.  Mae'r gweithgor yn teimlo y dylai baw cŵn fod yn fwy o flaenoriaeth.
  • Mae parcio ar balmentydd yn fater pwysig i bawb.  Os nad oes llinellau melyn yno, cyfrifoldeb yr heddlu ydyw.  Mae'r gweithgor yn teimlo bod problem sylweddol oherwydd bod palmentydd yno at ddefnydd pobl.  Nid yw parcio ar balmentydd yn drosedd oni bai ei fod yn creu rhwystr ac mae'n rhaid i'r heddlu weld y weithred o rwystro wrth iddi ddigwydd. Yr unig ddatrysiad yw cydweithio rhwng yr heddlu a'r awdurdod lleol. 
  • Awgrymodd y gweithgor ymchwilio i sut y defnyddir y wardeniaid cymunedol yn ardaloedd Abertawe, a fyddai'n gyfrifol am dynnu sylw at yr holl faterion gorfodi yn yr ardal.
  • Yr hyn sy'n denu sylw'r gweithgor yw'r dryswch ynghylch y ddeddfwriaeth.  Dylai'r awdurdod ystyried rhoi pwysau ar bwy bynnag sy'n gyfrifol - Llywodraeth Cymru neu'r llywodraeth genedlaethol - i adolygu ac egluro'r ddeddfwriaeth.
  • Ychwanegiad arfaethedig i'r is-ddeddf (pwynt 18.2 yr adroddiad) - hoffai'r gweithgor dderbyn eglurhad ar yr hyn y gallai hyn alluogi'r awdurdod i'w wneud.
  • Mae dryswch ynghylch yr is-ddeddfau sy'n gysylltiedig â phriffyrdd a llwybrau a'r hyn mae'r awdurdod yn ei orfodi.  Mae angen egluro'r hyn y gall yr awdurdod ei wneud/yr hyn na nall yr awdurdod ei wneud ynghylch gorfodi, er mwyn i'r cyhoedd gael gwybod am yr hyn rydym yn gyfrifol amdano a phwy i gysylltu ag ef os nad ydym yn gyfrifol am rywbeth. 
  • Nid yw'r aelodau wedi cael profiad da o'r awdurdod yn mynd i'r afael ag adroddiadau am ganghennau bargodol.  Ni dderbyniwyd ymateb i nifer ohonynt ac nid ydynt wedi derbyn adborth.
  • Cynghorodd Aelod y Cabinet yr aelodau i gysylltu â'u goruchwyliwr ardal lleol os oes mannau poblogaidd penodol yn eu wardiau - ar gyfer tipio anghyfreithlon, taflu sbwriel, etc. - oherwydd mai’r goruchwyliwr sydd yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â'r materion.  

 

3.

Trafodaeth a Chwestiynau

Gofynnir i Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet:

 

a) Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?

 

b) Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?

 

c) Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt?

 

Cofnodion:

Trafododd y gweithgor gynnydd a daeth at y casgliadau canlynol:

 

  1. Hoffem ganmol y tîm am eu gwaith da a'r hyn maent yn ei wneud.
  2. Teimlwn fod nifer o faterion y mae angen i'r awdurdod eu cyhoeddi'n fwy er mwyn lledaenu'r neges:

a)    Cost tipio anghyfreithlon i'r awdurdod, sef arian y gellid ei ddefnyddio ar gyfer pethau eraill

b)    Gellir cael gwared ar faw cŵn yn eich sachau du gartref

c)     Straeon cadarnhaol megis lleihau nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon ar dir cyngor yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn sylweddol

  1. Hoffem dderbyn gwybodaeth ariannol fanwl am orfodi, er enghraifft sawl hysbysiad o gosb benodol sy'n cael eu cyflwyno, costau erlyniadau, etc.
  2. Byddai'n ddefnyddiol i'r gweithgor weld meini prawf y contract â 3GS.
  3. Rydym yn argymell newid gweithrediadau er mwyn i aelodau/y cyhoedd gael gwybod yn awtomatig am yr hyn sy'n digwydd o ganlyniad pan fyddant yn adrodd am broblemau.
  4. Hoffem dderbyn cynnig Aelod y Cabinet i anfon llythyr i Swyddfa'r Post i ofyn i swyddogion y post beidio â gollwng bandiau elastig ar y palmentydd pan fyddant yn dosbarthu'r post.
  5. Hoffem dderbyn ffigurau sy'n dangos sawl gwaith y gorfodir y gwaharddiad cŵn ar y traethau yn yr haf, oherwydd nad ydym wedi gweld llawer o dystiolaeth o orfodi.
  6. Hoffem ofyn i'r map o'r holl finiau gwastraff/gwastraff cŵn gael ei ddosbarthu i'r holl aelodau oherwydd ei bod yn wybodaeth ddefnyddiol iddynt ei dosbarthu yn eu wardiau.
  7. Rydym wedi'n siomi â nifer yr euogfarnau am faw cŵn yn Abertawe a theimlwn yn gryf fod angen sicrhau bod gorfodi atal baw cŵn yn fwy o flaenoriaeth.
  8. Hoffem i'r awdurdod ymchwilio i sut y defnyddir wardeniaid cymunedol yn ardaloedd Abertawe, a fyddai'n gyfrifol am adnabod yr holl faterion gorfodi yn yr ardal.
  9. Hoffem fynegi ein pryder ynghylch y dryswch o ran deddfwriaeth sy'n gysylltiedig â phriffyrdd a llwybrau. Teimlwn y dylai'r awdurdod roi pwysau ar bwy bynnag sy'n gyfrifol - Llywodraeth Cymru neu'r llywodraeth genedlaethol - i adolygu ac egluro'r ddeddfwriaeth.
  10. Teimlwn fod angen i'r awdurdod roi gwybod i'r cyhoedd am yr hyn mae'n gyfrifol amdano o ran gorfodi a phwy i gysylltu ag ef os nad yw'r awdurdod yn gyfrifol am rywbeth. Rydym yn awgrymu dangos yr wybodaeth hon ar y wefan.
  11. Hoffem dderbyn eglurhad ar yr hyn y gallai ychwanegiad arfaethedig is-ddeddf, o dan Ddeddf Gorllewin Morgannwg, alluogi'r awdurdod i'w wneud o ran cymryd camau gweithredu yn erbyn modurwyr sy'n parcio ar droedffyrdd ac ymylon yn rheolaidd, ac eu rhwystro.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

  • Caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth gynullydd y gweithgor i Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu meddyliau ac argymhellion y gweithgor.

 

Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 5 Chwefror 2019) pdf eicon PDF 146 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 5 Chwefror 2019) pdf eicon PDF 307 KB