Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

2.

Adroddiad Er Gwybodaeth pdf eicon PDF 1 MB

a) Cyngor Ar Bopeth - Credyd Cynhwysol Abertawe – Blwyddyn yn Ddiweddarach

Cofnodion:

Roedd Jackie Preston o Gyngor ar Bopeth yn bresennol a rhoddodd adroddiad i'r Gweithgor am y 12 mis diwethaf ers cyflwyno Credyd Cynhwysol yn Abertawe.  Fe'i hariennir gan yr awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau ac mae'n canolbwyntio ar ddiwygio lles.

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol:

  • Dechrau gweld cynnydd yn nyled aelwydydd fel a ragwelwyd
  • Mae hanner y cynnydd yn y galw am dalebau bwyd oherwydd Credyd Cynhwysol
  • Mae Cyngor ar Bopeth yn ymdrin ag ymholiadau ynghylch taliadau annibynnol personol o hyd
  • Mae Cyngor ar Bopeth wedi dod ar draws rhai landlordiaid didrwydded.  Dan Gredyd Cynhwysol, nid oes rhaid i'r Adran Gwaith a Phensiynau wirio am achrediad â Rhentu Doeth Cymru felly mae tenantiaid ar drugaredd landlordiaid.  Roedd y Gweithgor yn poeni y gallai pobl fod yn byw mewn tai sy'n is na'r safon.
  • Gall pobl dderbyn taliadau am dai drwy Gredyd Cynhwysol o hyd, hyd yn oed os nad yw'r landlord wedi cofrestru â Rhentu Doeth Cymru
  • Nid yw system TG yr Adran Gwaith a Phensiynau'n ddigonol ac mae'n gwneud cyfrifiadau anghywir, er enghraifft, ar gyfer treth ystafell wely.  Mae Cyngor ar Bopeth wedi hysbysu'r Adran Gwaith a Phensiynau ac mae'r broblem yn cael ei datrys
  • Didynnir arian o Gredyd Cynhwysol ar gyfer gordaliadau budd-daliadau etifeddiaeth
  • Mae'r system budd-daliadau tai wedi newid, sy'n gadarnhaol
  • Mae gan Gyngor ar Bopeth berthynas dda â Threth y Cyngor

 

3.

Adroddiad Diwygio Lles pdf eicon PDF 177 KB

Mary Sherwood, Aelod y Cabinet - Cymunedau Gwell

Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a’i Atal

Cofnodion:

Roedd Mary Sherwood, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell (Pobl) a Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a'i Atal yn bresennol.  Cyflwynont yr adroddiad, gan amlygu'r prif faterion ac ateb cwestiynau.

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol:

  • Ychydig iawn o ddyletswydd statudol sydd gan yr awdurdod lleol (ALl) yn y maes hwn. Mae'n talu budd-daliadau ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • O safbwynt ataliol, mae gwneud pobl yn ymwybodol o'r hyn y mae ganddynt hawl iddo o fantais i'r awdurdod
  • Mae gan y tîm Hawliau Lles gyfradd lwyddiant o 95% ar gyfer apeliadau
  • Nid yw'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n derbyn budd-daliadau'n ymwneud o gwbl â'r ALl.  Dim ond y bobl sydd mewn trafferthion mawr sy’n gwneud hynny
  • Mae'r Adran Refeniw a Budd-daliadau'n gweithio ar bolisi i ganiatáu rhannu rhywfaint o ddata.  Bydd yn targedu pobl sy'n hysbys drwy fudd-daliadau tai a budd-dal treth y cyngor i'w hysbysu am y cyngor a'r cymorth sydd ar gael gan yr awdurdod.  Caiff llythyr ei anfon o'r Adran Refeniw a Budd-daliadau i ddechrau ac, os byddant yn ymateb, byddant yn cael eu rhoi mewn cysylltiad â'r Tîm Tlodi a'i Atal. Teuluoedd gyda phlant sydd ar fin troi'n 5 oed fyddai'r bobl gyntaf i gael eu targedu
  • Mae Aelod y Cabinet yn meddwl ei bod yn hanfodol bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn i bobl am eu sefyllfa ariannol pan fyddant yn ymweld â'u cartrefi'n gyntaf
  • Byddai'n ddefnyddiol i'r Tîm Hawliau Lles gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac aelodau staff rheng flaen eraill a bod yn ymwybodol o'r llinell gyngor ar gyfer Hawliau Lles. Byddai hefyd yn ddefnyddiol i gynghorwyr gael eu hatgoffa am hyn.
  • Mae'r awdurdod yn gweithio'n fwyfwy mewn ffordd drawsffiniol ac yn ymdrechu i ddefnyddio ymagwedd ataliol.  Gall roi cyngor i bobl ar gyllido, dysgu sgiliau newydd etc
  • Byddai'n ddefnyddiol i bawb sy'n gweithio yn y gymuned dderbyn hyfforddiant gan Hawliau Lles neu gardiau fflach neu ryw fath o restr wirio i'w defnyddio pan fyddant allan
  • Mae'r gweithgor yn pryderu bod nifer mawr o weithwyr asiantaeth gan fod swydd gweithiwr cymdeithasol yn llawn straen a lefelau salwch yn uchel.  Mae hyn yn ei wneud yn anodd sicrhau eu bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth a chyngor diweddar.  Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn lleihau nifer y gweithwyr asiantaeth yn raddol
  • Nid oes gan yr awdurdod lawer o gyswllt â'r Adran Gwaith a Phensiynau na dylanwad arni, ond mae'n meddwl bod rhai pethau y gallem eu gwneud yn lleol a gallem fanteisio ar y berthynas dda sydd gennym â'r Adran Gwaith a Phensiynau'n lleol. 
  • Nid yw'r Adran Gwaith a Phensiynau'n cynnal unrhyw asesiadau fforddadwyedd. Teimla'r Gweithgor a'r awdurdod lleol fod yn rhaid cynnal y rhain yn enwedig ar allu pobl i ad-dalu blaendaliadau Credyd Cynhwysol.
  • Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o'r ffaith nad oes rhaid iddynt symud i Gredyd Cynhwysol nes i'r broses fudo lawn fynd rhagddo gan y gallent fod mewn sefyllfa waeth. Mae'n rhaid defnyddio ffyrdd o atgyfnerthu'r neges hon.  Gall y tîm Hawliau Lles ddefnyddio cynghorwyr yn fwy i ledaenu'r neges
  • Mae cylchlythyr o'r enw 'Quids In' wedi cael ei ddosbarthu i lyfrgelloedd a'r holl gynghorwyr. Dylid ailddosbarthu hwn i gynghorwyr er mwyn iddynt hwy ei ddosbarthu 
  • Gallai fod swyddog hawliau lles mewn timau yn yr awdurdod megis Tai, Rhentu etc a allai wneud gwahaniaeth.  Mae'r tîm Hawliau Lles ar hyn o bryd yn darparu hyfforddiant i adrannau, sef yr opsiwn ail orau.  Mae'r adran yn edrych ar sut y darperir hyfforddiant i geisio cynyddu'r dylanwad. 
  • Mae'r tîm Hawliau Lles yn llunio bwletin hyfforddiant. Byddai'n ddefnyddiol i'r holl gynghorwyr dderbyn hwn.
  • Byddai'n ddefnyddiol i'r gweithgor dderbyn holl adroddiadau 'Policy in Practice' fel y gallent weld y cyd-destun a'r hanes llawn.

 

4.

Trafodaeth a Chwestiynau

Gofynnir i Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet:

 

a) Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?

 

b) Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?

 

c) Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt?

 

Cofnodion:

Trafododd y gweithgor gynnydd a daeth at y casgliadau canlynol:

 

  1. Argymhellwn ein bod yn gweithio cyn gynted â phosib gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau'n lleol i sicrhau bod pobl yn derbyn A) y cyngor cywir ynglŷn ag a ddylent symud i Gredyd Cynhwysol ai peidio a B) cymorth digonol fel, os na fyddant yn gallu ymdopi heb ragdaliad, cynhelir asesiad fforddadwyedd bob amser i wneud yn siŵr bod yr ad-daliadau'n rhesymol.
  2. Hoffem ganmol y tîm am y gwaith mae'n ei wneud – am yr ymagwedd ragweithiol ac ataliol mae'n ei gymryd.
  3. Hoffem fynegi'n pryder ynghylch Cofrestr Landlordiaid Rhentu Doeth Cymru.  Mae angen i'r system hon newid oherwydd, mewn rhai achosion, gall rhai landlordiaid dderbyn rhent dan Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os nad ydynt wedi cofrestru.

 

  1. Mae'r gweithgor yn falch bod gan y tîm berthynas waith dda â'r Adran Tai ond teimlwn y gall mwy gael ei wneud gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol – mwy o hyfforddiant etc.

 

  1. Teimlwn ei bod yn llawer gwell i ni gael staff parhaol a chanddynt wybodaeth leol dda ac sy'n pryderu, er enghraifft, ynghylch y defnydd o weithwyr asiantaeth mewn gwasanaethau cymdeithasol.

 

  1. Hoffem weld yr awdurdod yn archwilio cael swyddog Hawliau Lles mewn timau gwahanol megis Tai.

 

  1. Teimlwn ei fod yn gam cadarnhaol y bydd polisi ar waith yn fuan fel y gellir rhannu rhywfaint o ddata.  Dylai hyn ein galluogi i dargedu pobl i'w hysbysu am y cyngor a'r cymorth sydd ar gael gan yr awdurdod.

 

  1. Teimlwn y gallai'r tîm Hawliau Lles ddefnyddio cynghorwyr yn fwy i ledaenu'r neges am y cyngor a'r cymorth sydd ar gael.  Dylai gwybodaeth gael ei rhannu'n rheolaidd â chynghorwyr fel bod cyfrifoldeb ar y ddwy ochr. Er enghraifft, byddai'n ddefnyddiol i gynghorwyr dderbyn y cylchlythyr ‘Quids In’ i'w ddosbarthu.

 

  1. Hoffem weld yr holl staff, yn enwedig y cynghorwyr a'r staff rheng flaen, yn derbyn hyfforddiant hawliau lles.  Teimlwn y byddai'n werth chweil darganfod a ellir cynnal yr hyfforddiant hwn ar-lein.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

  • Caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth gynullydd y Gweithgor i Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu meddyliau ac argymhellion y Gweithgor.

 

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 14 Ionawr 2019) pdf eicon PDF 158 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 14 Ionawr 2019) pdf eicon PDF 362 KB