Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd holl gyfranogwyr y cyfarfod a gofynnodd i'r Prif Gyfreithiwr
amlinellu'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr is-bwyllgor wrth ystyried y cais.
Rhoddodd y Prif Gyfreithiwr drosolwg cynhwysfawr o'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr is-bwyllgor wrth ystyried y cais. Adroddodd y swyddog trwyddedu am y cais am drwydded mangre mewn perthynas ag Overdraft, 41 Y Stryd Fawr, Clydach, Abertawe SA6 5LQ. Cyfeiriodd at y cais, cefndir y fangre flaenorol, yr amcanion trwyddedu, sylwadau perthnasol, ystyriaethau polisi a'r canllawiau gan y Swyddfa Gartref. Cyfeiriwyd yn benodol at gynllun y lleoliad yn Atodiad A, cynllun o'r fangre arfaethedig yn Atodiad B, yr amodau sy'n gyson â'r atodlen weithredu yn Atodiad C a'r sylwadau a wnaethpwyd gan bobl eraill yn Atodiad CH.
Derbyniwyd wyth sylw gan bobl eraill. Roedd y sylwadau'n ymwneud â niwsans cyhoeddus ac atal troseddu ac anhrefn.
Ehangodd Mr Craig Jones, cwnsel ar ran y sylwadau gan "bobl eraill", ymhellach ar sylwadau ysgrifenedig oedd yn gwrthwynebu'r cais a thynnodd sylw at bryderon y gwrthwynebwyr ynghylch tanseilio'r Amcanion Trwyddedu Statudol mewn perthynas ag atal troseddu ac anhrefn a niwsans cyhoeddus.
Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau cadarnhaodd yr ymgeisydd: ·
Ei fod wedi rhoi'r oriau agor yn yr hysbyseb yn hytrach
na'r amserau ar gyfer Gweithgareddau Trwyddedadwy, a
gallai hynny fod wedi golygu bod y bobl eraill yn meddwl y byddai'r fangre ar agor am gyfnod hwy na'r hyn a fwriadwyd mewn
gwirionedd. Eglurodd yr ymgeisydd yr oriau a geisiai a nodwyd ym mharagraff 3
yr adroddiad; · Y diben oedd sefydliad yfed drud. Roedd yn ddyn busnes ymarferol a fyddai'n cadw llygad barcud ar ei fusnes o ran sicrhau bod yr amcanion trwyddedu'n cael eu hyrwyddo; · Byddai system CCTV yn cael ei gosod, ac ni fyddai hawl smygu y tu mewn na'r tu allan yn yr ardd gwrw. · Byddai arwyddion yn cael eu gosod y tu mewn a ger y fynedfa/allanfa i atgoffa cwsmeriaid i leihau'r sŵn er mwyn parchu'r cymdogion; · Byddai llyfr cofnodi damweiniau i gofnodi unrhyw ddigwyddiadau neu achosion o daflu allan. Yn ogystal, byddai unrhyw ymgais gan bobl dan oed i fynd i mewn i'r fangre hon yn cael eu monitro; · Eglurodd fod tua 40 o seddi yn y fangre, a lle i uchafswm o bron 60 o bobl (59); · Cadarnhaodd ei fod yn berchen ar 2 fusnes arall felly roedd yn ymwybodol o lynu wrth arweiniad perthnasol etc; · Nid oedd am i'r ardd gwrw yn y cefn fod yn ardal smygu, fodd bynnag, byddai'n ystyried darparu lloches smygu pe bai angen gan ei fod yn cydnabod nad yw'n beth da gweld pobl yn smygu o flaen y fangre; · Cadarnhaodd ei fod yn berchen ar fflat un ystafell wely uwchben y fangre y gellir ei chyrraedd drwy'r ardd gwrw gefn. Mae un tenant gwrywaidd yn byw yno ar hyn o bryd, ac nid oedd yntau'n gwrthwynebu'r cais. Roedd e' hefyd wedi siarad â dau wrthwynebydd arall i egluro'i gais yn llawn; · O ran cyflogi goruchwylwyr drws SIA trwyddedig (a fyddai hefyd wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf), nid oedd yn meddwl y byddai eu hangen, ond byddai'n seilio'r gofyniad hwn ar asesiadau risg y câi eu cynnal ar gyfer pob digwyddiad unigol. · Pe bai tân, byddai larwm "atseinio'n" cychwyn ac yn trechu sŵn unrhyw gerddoriaeth fyw sy'n cael ei chwarae. Roedd yn dal yn y broses o gysylltu â'r Swyddog Tân mewn perthynas ag unrhyw ofynion diogelwch tân eraill, megis seirenau yn y toiledau · Byddai'r staff yn monitro'r ardal y tu allan wrth gasglu gwydrau'n rheolaidd. Byddai'r ardal hon hefyd yn cael ei monitro drwy CCTV. Byddai staff y bar/sy'n casglu gwydrau hefyd yn monitro nifer y bobl yn y fangre (uchafswm o 59) i sicrhau nad yw'r nifer yn fwy na'r uchafswm. · Mewn ymateb i'r sylw ysgrifenedig ar dudalen 21 ynghylch sŵn cerddoriaeth yn dianc, esboniodd fod gwydro dwbl drwy'r fangre a choridor rhwng lle y byddai'r gerddoriaeth fyw ac wedi'i recordio'n cael ei chwarae, ac allanfa yn y blaen. Cadarnhaodd na fyddai seinyddion na cherddoriaeth y tu allan yn yr ardal allanol. Hefyd dywedodd yr ymgeisydd y byddai caewyr drysau'n cael eu gosod i sicrhau bod y drysau'n aros yng nghau. · Cytunodd yr ymgeisydd i amrywio'r amser symud poteli o'r ardal y tu allan, ac y byddai'n dod i ben am 21:00. · Cadarnhaodd na fyddai bwyd (poeth neu oer) yn cael eu darparu, dim ond creision, cnau a thameidiau. Fodd bynnag, roedd wedi prynu peiriant coffi i annog cwsmeriaid i'w ddefnyddio yn ystod yr amser 'gorffen yfed' er mwyn tawelu pethau. Cadarnhawyd y canlynol yn dilyn cwestiynau agored: - Cytunodd yr ymgeisydd i ddiwygio'r amserau agor i'r canlynol: Dydd Llun i ddydd Mercher - 10:00 i 23:30 Dydd Iau i ddydd Sul - 10:00 i 00:30 Cydnabu'r ymgeisydd y golygai hyn y byddai gweithgareddau trwyddedadwy'n dod i ben 30 munud cyn yr amserau cau. Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch goruchwylwyr drws trwyddedadwy SIA, dywedodd ymgeisydd fod y gymuned yn un glos, ac roedd yn adnabod y cwsmeriaid, a oedd yn cynnwys ffrindiau a theulu. Ni fu problemau tebyg yn unrhyw un o'r ddau sefydliad yfed yn yr ardal, ac ailadroddodd ei safiad o gynnal asesiadau risg ar gyfer pob digwyddiad unigol a gynhelir. Cytunodd hefyd i ddilyn y cwrs goruchwyliwr drws SIA ei hun. Dywedodd mai Rheolwr y Bar ac ef ei hun fyddai'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig (GMD). Dywedodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor mai 1 GMD fyddai ar gyfer y fangre bob amser.
PENDERFYNWYD eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, er mwyn i'r Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.
(SESIWN GAEËDIG)
Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais.
(SESIWN AGORED)
Rhoddodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Is-bwyllgor drosolwg cynhwysfawr o'r cyngor cyfreithiol a roddwyd.
Dywedodd y Cadeirydd fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried y cais a'r sylwadau a wnaed ynghyd â holl anghenion a buddion yr holl bartïon o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r atodlen weithredu ac fel y'u diwygiwyd ac fel y'u hystyrir yn briodol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod.
1.
Bydd llyfr cofnodi achosion,
mewn trefn rifiadol, yn cael ei gadw yn y fangre sy'n
dangos manylion dyddiad ac amser pob ymosodiad, niwed, damwain neu achos o
daflu allan, yn ogystal â manylion aelodau'r staff sy'n rhan o'r broses, natur
y digwyddiadau a'r cam gweithredu/canlyniad. Rhaid bod y llyfr ar gael i'w
archwilio gan yr heddlu a swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Lleol; 2.
Ni cheir symud, gwaredu na
gosod gwastraff, gan gynnwys poteli, yn yr ardaloedd awyr agored rhwng 2300 ac
0800 o'r gloch (gweler yr addasiad isod); 3.
Caiff cynllun prawf oedran Her
25 ei weithredu yn y fangre a'r unig ffurfiau adnabod
derbyniol fydd llun, dyddiad geni a marc holograffig; 4.
Darperir CCTV ar ffurf system
recordio sy'n gallu darparu lluniau o safon dystiolaethol ym mhob golau, yn
enwedig cydnabyddiaeth wyneb. Bydd camerâu'n ffilmio pob mynedfa ac allanfa i'r
fangre, allanfeydd tân, pob ardal a ddefnyddir gan y
cyhoedd ac unrhyw ardaloedd yfed allanol. Rhaid bod cyfarpar yn gweithio'n dda,
rhaid i'r system recordio'n gyson pan fydd y fangre
ar agor ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy ac ar
bob adeg pan fydd cwsmeriaid yn y fangre. Rhaid i
recordiadau gael eu hamseru a'u dyddio'n gywir, rhaid cadw recordiadau yn nhrefn
eu dyddiad, wedi'u rhifo mewn trefn a'u cadw am 31 diwrnod a chael eu rhoi i
Swyddog yr Heddlu/Swyddog yr Awdurdod Lleol ar gais. Rhaid i Ddeiliad Trwydded
y Fangre sicrhau bod Goruchwyliwr Mangre
Dynodedig (GMD) neu aelod penodedig o staff yn alluog ac yn gymwys i lawrlwytho
ffilm CCTV mewn fformat y gellir ei recordio i Swyddog Heddlu/Swyddog Awdurdod
Lleol ar gais. Cedwir y cyfarpar recordio mewn amgylchedd diogel dan reolaeth
GMD neu unigolyn cyfrifol arall a enwir. Rhaid cynnal cofnod dyddiol, ynghyd â
llofnod, sy'n nodi bod y system wedi'i gwirio a'i bod yn cydymffurfio. Os bydd
y system CCTV yn methu, dylid cofnodi'r camau gweithredu a gymerir, a rhaid i
ddeiliad y Drwydded Mangre/y GMD adrodd am y methiant
i'r heddlu/awdurdod lleol. 5.
Cedwir cofnod yn rhoi manylion
pob achos o wrthod gwerthu alcohol. Bydd y cofnod yn cynnwys y dyddiad, yr
amser a'r rheswm dros wrthod y gwerthu a ffyrdd o adnabod yr aelod o staff a
wrthododd ei werthu. Dylai'r cofnod fod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar
bob achlysur pan fydd y fangre ar agor; 6.
Rhaid i'r fangre
gadw cofnodion cyfoes o hyfforddiant staff o ran gwerthu yn ymwneud ag oedran,
gan gynnwys gwerthu i bobl feddw ac adnabod ac atal camddefnyddio cyffuriau, ar
ffurf ysgrifenedig neu electronig, sydd ar gael i'w harchwilio gan swyddog
awdurdodedig. Dyma'r amodau
addasedig i'w hychwanegu at y drwydded:- · Yn Atodiad C (Amod 3 uchod) o'r adroddiad - diwygio 23:00 i 21:00. Ychwanegwyd yr amodau canlynol hefyd:- 7. Gosodir hysbysiadau mewn mannau amlwg wrth bob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion preswylwyr lleol ac i adael yr ardal yn dawel; 8. Gosodir hysbysiadau mewn mannau amlwg a ddefnyddir ar gyfer smygu yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion trigolion lleol ac i ddefnyddio'r ardal yn dawel; 9. Bydd rhif ffôn uniongyrchol ar gyfer rheolwr y fangre ar gael i'r cyhoedd bob tro mae'r fangre ar agor. Rhaid rhoi'r rhif ffôn hwn i breswylwyr yr ardal; 10. Bydd yr ardal allanol yn cael ei goruchwylio'n rheolaidd gan staff y fangre pan fydd yn cael ei defnyddio; 11. Bydd y toiledau'n cael eu monitro'n rheolaidd pan fydd y fangre'n cael ei defnyddio;
12. Rhaid i hysbysiadau gael eu harddangos yn glir yn y fangre er mwyn pwysleisio i gwsmeriaid nad yw alcohol yn cael ei werthu i bobl dan 18 oed; 13. Rhaid i bobl ifanc dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn; 14. Gwaherddir yfed diodydd meddal neu alcoholig a brynwyd yn y fangre ar y briffordd y tu allan i'r fangre; 15. Heblaw am rai a werthwyd i'w cymryd oddi ar y safle mewn cynwysyddion a seliwyd, ni chaniateir cymryd unrhyw ddiodydd o'r ardal drwyddedig a'r ardal allanol sydd wedi'i nodi ar y cynllun adnau; 16. Ni chaiff seinyddion eu gosod yng nghyntedd y fynedfa nac yn ardal allanol adeilad y fangre; 17. Rhaid cadw'r holl ffenestri a drysau allanol ar gau ar unrhyw adeg pan fydd cerddoriaeth fyw neu wedi'i recordio'n cael ei chwarae ac eithrio i ganiatáu i bobl ddod i mewn neu adael yn syth; 18. Rhaid bod pob cwsmer wedi gadael yr ardal allanol erbyn 22:00; 19. Rhaid cyflogi o leiaf 1 goruchwyliwr drws trwyddedig yn y fangre ar gyfer 21:00 hyd at ddiwedd amser busnes ar nosweithiau Gwener, Sadwrn a Sul yn ystod gwyliau banc a diwrnodau yr ystyrir eu bod yn ddigwyddiadau pwysig; 20. Bydd sêff gyffuriau yn y fangre; 21. Rhaid arddangos arwyddion yn amlwg wrth y fynedfa i'r fangre, yn y cyfleusterau toiledau ac mewn mannau strategol allweddol yn yr ardaloedd cyhoeddus i ddweud bod defnyddio cyffuriau'n annerbyniol; 22. Rhaid archwilio'r toiledau ar hap at ddiben atal cyffuriau;
23. Bydd cynllun Diogel Rhag Cyffuriau ar waith i safonau Heddlu De Cymru; 24. Ni chaiff cerddoriaeth fyw ei chwarae yn yr ardal allanol ar ôl 21:00; 25. Caiff arwyddion "CCTV yn gweithredu" eu harddangos yn amlwg yn y fangre.
Rheswm dros y penderfyniad Ystyriodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu'r holl sylwadau ysgrifenedig a llafar a'r consesiynau a wnaed gan yr ymgeisydd ynghylch oriau agor a phenderfynodd, gyda'r addasiadau, na fyddai caniatáu'r cais yn tanseilio'r amcanion trwyddedu. Canfu'r Is-adran Trwyddedu fod eiddo preswyl yn agos i'r fangre y gallai caniatáu'r cais ar y ffurf y'i cyflwynwyd effeithio arnynt. Nododd yr Is-bwyllgor Trwyddedu fod yr ymgeisydd wedi rhoi'r oriau agor yn yr hysbyseb yn hytrach na'r amserau ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy, a gallai hynny fod wedi golygu bod y bobl eraill yn meddwl y byddai'r fangre ar agor am gyfnod hwy nag a fwriadwyd mewn gwirionedd. Eglurodd yr ymgeisydd fod yr oriau yr oedd yntau'n eu ceisio wedi'u nodi ym mharagraff 3 o'r adroddiad. Canfu'r Is-adran Trwyddedu mai mangre gwerthu alcohol fyddai hon yn hytrach na mangre gwerthu bwyd, ac roedd lle yno i hyd at 60 o bobl. Felly, roedd posibilrwydd y câi'r amcanion trwyddedu eu tanseilio ar sail y cais fel y'i gwnaed. Nodwyd na chafwyd ymatebion gan yr heddlu nac awdurdodau cyfrifol eraill, ond nid oedd hyn yn rhywbeth a oedd yn pennu nad oedd posibilrwydd i'r amcanion trwyddedu gael eu tanseilio. Nododd yr Is-bwyllgor ymateb yr ymgeisydd i'r sylw ysgrifenedig ar dudalen 21 ynghylch sŵn cerddoriaeth yn dianc sef bod gwydro dwbl yn y fangre gyfan a choridor rhwng y man lle byddai'r gerddoriaeth fyw ac wedi'i recordio'n cael ei chwarae a'r allanfa yn y blaen. Cadarnhaodd yr ymgeisydd na fyddai seinyddion na cherddoriaeth y tu allan yn yr ardal allanol. Dywedodd yr ymgeisydd hefyd y byddai caewyr drysau'n cael eu gosod i sicrhau bod y drysau'n aros ynghau. O ran yr oriau agor, nododd yr Is-bwyllgor Trwyddedu fod yr ymgeisydd yn cytuno i'r rhain gael eu diwygio i'r canlynol:- Dydd Llun i ddydd Mercher - 10:00 i 23:30 Dydd Iau i ddydd Sul - 10:00 i 00:30 Cydnabu'r ymgeisydd y golygai hyn y byddai gweithgareddau trwyddedadwy'n dod i ben 30 munud cyn yr amserau cau. Felly, roedd yn dilyn na fyddai lluniaeth yn hwyr y nos nac adloniant wedi'i reoleiddio (cerddoriaeth fyw ac wedi'i recordio) o ddydd Llun i ddydd Mercher oherwydd yr amser yr oedd angen trwydded ar ei gyfer er mwyn cynnal y gweithgareddau trwyddedadwy hyn oedd ar ôl 23:00. Byddai alcohol yn cael ei werthu o ddydd Llun i ddydd Mercher o 10:00 i 23:00. O ddydd Iau i ddydd Sul, byddai'r gweithgareddau trwyddedadwy (gwerthu alcohol/lluniaeth yn hwyr y nos/adloniant a reoleiddir) yn cael eu cynnal o oddeutu 10:00 i 00:00 ond na fyddai unrhyw gerddoriaeth fyw neu wedi'i recordio ar ôl 23.00. Roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu'n ddiolchgar i'r ymgeisydd am leihau nifer yr oriau ond teimlai, o gofio sylwadau'r bobl eraill, y byddai cerddoriaeth fyw ac wedi'i recordio yn achosi niwsans sŵn ar nos Iau. Felly, teimlai'r pwyllgor o gofio'r cyfyngiadau y cytunwyd arnynt ar gyfer dydd Llun i ddydd Mercher, y dylai'r un amserau ar gyfer y gweithgarwch trwyddedadwy hwnnw fod yn berthnasol i ddydd Iau hefyd. Yn dilyn y drafodaeth ac ymatebion yr ymgeisydd i'r cynrychiolydd ar gyfer y bobl eraill, gwnaed nifer o gonsesiynau eraill gan yr ymgeisydd, ac mae'r rhain wedi'u cynnwys yn yr amodau i'w hychwanegu at y drwydded. Nododd yr Is-bwyllgor Trwyddedu nad oedd cytundeb rhwng yr ymgeisydd a'r bobl eraill o ran amod 1 a gynigiwyd ar yr Atodlen Weithredu a'r angen i gael o leiaf 1 aelod o staff drws SIA wrth y drws ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn i ymdrin â materion mewn perthynas â defnyddio'r ardal allanol a chyfyngu ar yr yfed/ymddygiad cwsmeriaid ar yr hyn sy'n debygol o fod yr amserau prysuraf yn ardal uniongyrchol y fangre. Wedi ystyried sylwadau'r bobl eraill a'r ymgeisydd, teimlai'r Is-bwyllgor Trwyddedu fod cynrychiolydd y bobl eraill yn gywir ac y dylai fod o leiaf un aelod o staff drws wrth y drws ar amserau/nosweithiau penodol oherwydd bod posibilrwydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Teimlai'r Is-bwyllgor Trwyddedu na fyddai'r ymgeisydd yn gallu ymdrin â hyn, gan iddo ddweud na fyddai yno bob amser a bod ganddo staff bar ifanc i gasglu gwydrau. Teimlai'r Is-bwyllgor Trwyddedu fod y cyfyngiad ar yr amserau a'r diwrnodau yn cyrraedd cydbwysedd rhwng y bobl eraill a'r ymgeisydd, a'i fod yn briodol ar gyfer gweithrediad yfed gyda hyd at 60 o gwsmeriaid sy'n agor tan 00:30 ger eiddo preswyl. Teimlai'r Is-bwyllgor Trwyddedu hefyd nad oedd yr ymgeisydd wedi rhoi digon o ystyriaeth i'w atodlen weithredu na sut roedd yn bwriadu hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, o gofio bod y cais roedd yn ei geisio'n golygu y byddai amodau pellach yn briodol i sicrhau y câi'r amcanion trwyddedu eu hyrwyddo. Ystyriwyd bod yr amodau canlynol yn briodol gan eu bod yn mynd i'r afael â'r newidiadau a wnaed gan yr ymgeisydd i'w gais ac yn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. |