Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

8.

Deddf Trwyddedu 2003 - Cais Adran 51 am Adolygiad o Drwydded Mangre - Yangtza River Chinese Takeaway, 106 Stryd Fawr, Abertawe. pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd holl gyfranogwyr y cyfarfod a gofynnodd i'r Prif Gyfreithiwr amlinellu'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Rhoddodd y Prif Gyfreithiwr drosolwg cynhwysfawr o'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu am gais Adran 51 Deddf Trwyddedu 2003 am adolygiad o drwydded mangre. Cyfeiriodd at atal troseddu ac anrhefn, gweithdrefn, hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, ystyriaethau'r polisi ac arweiniad gan y Swyddfa Gartref. Cyfeiriwyd yn benodol at gynllun lleoliad Atodiad A a'r cais i adolygu trwydded mangre yn Atodiad B.

 

Amlinellodd yr Arweinydd Tîm ar gyfer trwyddedu'r amodau presennol ar gyfer trwydded gyfredol y fangre yn ogystal ag amodau diwygiedig posib gan y pwyllgor. Darparodd hefyd ddiweddariad presennol ar gyfer trwydded gyfredol y fangre.

 

Tynnodd y Swyddog Gorfodi Mewnfudo, a oedd yn cynrychioli'r ymgeisydd, sylw pellach at y cais ysgrifenedig a nododd ei phryderon mewn perthynas â'r amcan trwyddedu i atal troseddu ac anrhefn yn ogystal â phwysigrwydd atal gweithio'n anghyfreithlon.

 

Anerchodd Deiliad y Drwydded Mangre y pwyllgor a siaradodd yn erbyn y cais. Nododd yr achos am gynnal y drwydded mangre.

 

Gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddog Gorfodi mewnfudo a Deiliad y Drwydded Mangre a ymatebodd yn briodol. Cadarnhaodd Deiliad y Drwydded Mangre fod y CCTV angenrheidiol ar gyfer y drwydded mangre wedi torri ers rhai misoedd.

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 Deddf Rheoleiddio Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, er mwyn i'r is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Darparodd y Prif Gyfreithiwr drosolwg cynhwysfawr o'r cyngor cyfreithiol a roddwyd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr is-bwyllgor wedi ystyried y cais a'r sylwadau a wnaed ynghyd â holl anghenion a buddion yr holl bartïon o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Penderfynodd yr is-bwyllgor ddiddymu'r drwydded mangre am y rhesymau a amlinellir isod. 

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Nododd yr aelodau fod yr Arweiniad Statudol yn nodi rheoli mewnfudo fel amcan trwyddedu ar gyfer atal troseddu ac anrhefn a'r pwyslais a roddir ar atal gweithio'n anghyfreithlon yn yr Arweiniad Statudol.

 

Dangosodd y pwyllgor fod cais y Swyddfa Gartref wedi bodloni'r gofynion gofynnol ar gyfer adolygiad yn absenoldeb cosb sifil yn cael ei chyflwyno i ddeiliad y drwydded mangre, Xiang Liu, gan ystyried penderfyniad yr Uchel Lys yn achos East Lindsey DC yn erbyn Abu Hanif (sy'n masnachu fel Zara's Restaurant and Takeaway). Canfu'r llys nad oedd angen i drosedd gael ei hadrodd, eih erlyn na'i chrybwyll yn y llys yn ôl yr amcan atal troseddau. Nid yw'r amcan atal troseddu'n ôl-weithredol, yn hytrach, mae'n ymwneud ag osgoi niwed yn y dyfodol.

 

Ystyriodd y pwyllgor yr opsiwn o addasu amodau'r drwydded ond nid oedd wedi ystyried y byddai hyn yn hyrwyddo'r amcan trwyddedu atal troseddu yng ngoleuni cyfaddefiadau deiliad y drwydded mangre ei bod wedi bod yn gweithredu'r busnes ar ôl 23:00 er nad yw ei CCTV yn gweithio, a'i bod yn ymwybodol bod hyn yn amod o'i thrwydded mangre.

 

Yn ogystal, roedd y pwyllgor yn teimlo, gan ystyried sylwadau deiliad y drwydded mangre fod ei horiau prysuraf cyn 23:00, rhwng 21:00 a 22:00, a'i bod hi'n cau'r fangre erbyn 23:00 yn aml, ni fyddai'n gwneud llawer o wahaniaeth os yw'r drwydded mangre'n cael ei diddymu neu y byddai'n cydymffurfio ag unrhyw amodau addasedig a orfodwyd ar unrhyw achlysur.

 

Derbyniodd y pwyllgor dystiolaeth y Swyddfa Gartref y gwelwyd 2 ddyn mewn jîns a chrys-t yn y gegin pan oedd bwyd yn cael ei baratoi ar adeg yr ymweliad er nad oedd ganddynt yr hawl i fod yn gweithio na helpu dan eu hamodau mechnïaeth mewnfudo presennol. Nodwyd bod y swyddog wedi dweud nad oedd hi wedi gweld y 2 ddyn yn cwblhau unrhyw dasgau. Nododd a derbyniodd y pwyllgor hefyd sylwadau'r swyddogion mewn perthynas â diffyg gwaith papur - slipiau tâl - ar gyfer y busnes.

 

Roedd y pwyllgor yn bryderus bod y 2 berson nad oeddent wedi'u gwisgo'n addas yn y gegin lle roedd bwyd yn cael ei baratoi yn ddiarwybod i ddeiliad y drwydded mangre a heb ei chaniatâd. Er bod hyn wedi codi pryderon mewn perthynas â hylendid bwyd, derbyniodd y pwyllgor y cyngor cyfreithiol yn unol â'r Arweiniad Statudol (paragraffau 1.16 a 2.7) nad oedd hyn o fewn ei swyddogaeth drwyddedu a bod rhaid mynd i'r afael â hyn o dan ddeddfwriaeth arall.

 

Nid oedd deiliad y drwydded mangre wedi darbwyllo'r pwyllgor ei bod hi'n deall, fel deiliad y drwydded mangre, fod angen iddi hyrwyddo'r amcan trwyddedu i atal troseddau neu y byddai'n rhaid iddi wneud hynny yn y dyfodol oherwydd ei sylwadau am beidio â chadw amodau'r drwydded mangre 'yn y cof' a'r ffaith nad yw hi'n gallu rheoli pwy sy'n 'galw heibio'r fangre'.

Roedd deiliad y drwydded mangre wedi cyfaddef nad oedd hi wedi ystyried bod amodau ei thrwydded yn bwysig nes iddi glywed yn wahanol gan y Swyddog Trwyddedu.

 

Methodd deiliad y drwydded mangre fodloni'r pwyllgor ei bod wedi mynd i'r afael â'r materion/pryderon a godwyd gan y Swyddfa Gartref ac nid oedd yn sicr na fyddai'r materion hynny'n cael eu hailadrodd wrth fynd ymlaen.

 

Barn y mwyafrif llethol o'r pwyllgor oedd y byddai'r amcan trwyddedu i atal troseddu ac anhrefn yn cael ei danseilio os byddai'r drwydded mangre'n parhau i fod ar waith.