Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol. pdf eicon PDF 121 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfreithiwr Arweiniol Weithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth.

3.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am Drwydded Mangre - Premier Stores, 9 Dillwyn Street, Swansea, SA1 4AE. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol a gofynnodd i bawb a oedd yn bresennol gyflwyno'u hunain.

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu ar y cais am drwydded mangre mewn perthynas â Premier Stores, 9 Dillwyn Street, Abertawe SA1 4AE a dderbyniwyd gan yr Awdurdod ar 15 Rhagfyr 2023.

 

Cyfeiriodd at amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, canllawiau gan y Swyddfa Gartref a'r camau gweithredu ar ôl ystyried Cynrychiolaeth yr Awdurdod Cyfrifol a Phobl Eraill. 

 

Cyfeiriodd yn benodol at y cais (a'r cynllun) am drwydded mangre yn Atodiad A ac A1. Manylwyd ar y cynllun lleoliad yn Atodiad B a nodwyd rhestr o fangreoedd trwyddedig yn yr ardal yn B1. Tynnwyd sylw at yr amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu yn Atodiad C. Manylwyd ar Sylwadau Perthnasol yn Atodiad D. 

 

Derbyniwyd sylw gan Heddlu De Cymru ar 11 Ionawr 2024. Roedd y sylw yn seiliedig ar atal trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. 

 

Ymhelaethodd Cwnstabl yr Heddlu Nicola Evans, Swyddog Trwyddedu'r Heddlu, ar ei sylwadau ysgrifenedig ymhellach ynghylch tanseilio'r pedwar amcan trwyddedu.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch amseroedd agor/cau mangreoedd trwyddedig eraill yng nghyffiniau'r safle.

 

Dywedodd Mr Sami, cynrychiolydd yr Ymgeisydd, fod yr ymgeisydd wedi nodi'r sylwadau a wnaed gan Heddlu De Cymru o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig yfed ar y stryd ac y byddai'n cyflwyno mesurau priodol i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd. Ychwanegodd fod yr ymgeisydd wedi gofyn i'r safle fod yn drwyddedig i fod ar agor tan 2am ac i system deledu cylch cyfyng a diogelwch gwell gael eu darparu, yn enwedig rhwng 11pm a 2am.

 

Dywedodd hefyd y byddai'r ymgeisydd yn cydweithio'n agos â'r awdurdodau a'r gymuned leol i fynd i'r afael ag yfed ar y stryd a'i atal. Ychwanegodd y byddai agor tan 2am yn cyfrannu at ddeinameg canol y ddinas a byddai gweithredu fel busnes cyfrifol yn cyfrannu'n gadarnhaol at yr economi leol. Byddai'r mesurau diogelu sy'n cael eu cyflwyno'n mynd i'r afael â'r materion y mae Heddlu De Cymru'n tynnu sylw atynt.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch nifer y mangreoedd sy'n eiddo i'r ymgeisydd, yr eitemau sy'n cael eu gwerthu yn y fangre a'r ymgynghoriadau a gynhaliwyd gyda phreswylwyr lleol. Gofynnwyd am eglurhad hefyd ynghylch y mesurau diogelwch sy'n cael eu cyflwyno a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal y fangre.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd wrth yr Is-bwyllgor fod yr ymgeisydd yn berchen ar 3 mangre arall, 1 yn Abertawe a 2 ym Mhort Talbot. Byddai'r adeilad yn siop gyfleustra sy'n gwerthu hanfodion pob dydd a phapurau newydd. Cadarnhawyd mai dim ond busnesau oedd yng nghyffiniau'r safle, roeddent ar agor tan 11pm neu'n hwyrach ac roedd y fangre'n wag ar hyn o bryd.

 

Amlinellwyd y byddai gwarchodwr diogelwch trwyddedig ar ddyletswydd bob dydd rhwng 11pm a 2am a fyddai'n atal pobl rhag ymgynnull y tu allan i'r safle. Byddai unrhyw unigolion sy'n achosi niwsans yn cael eu recordio ar gamerâu teledu cylch cyfyng ac ni fyddent yn cael eu gwasanaethu yn y fangre.

 

Mynegodd Cwnstabl yr Heddlu Nicola Evans, Swyddog Trwyddedu'r Heddlu bryder bod cefn y siop yn wynebu ardal breswyl ac y byddai'r gweithredwr diogelwch sy'n gwasgaru unigolion yn symud y problemau i fangreoedd eraill o fewn y cyffiniau a cheisiwyd eglurhad ynghylch sut y byddent yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Cadarnhaodd Gynrychiolydd yr Ymgeiswyr ni fyddai unrhyw unigolion sy'n cael eu recordio'n achosi niwsans yn cael eu gwasanaethu yn y safle.  

 

I gloi, ychwanegodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd y byddai'r ymgeisydd yn gweithio gyda Heddlu De Cymru i helpu i leddfu'r problemau o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion yn ymwneud â'r cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w hystyried yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod: 

 

Cyflenwi alcohol

Dydd Llun – Dydd Sul

07:00 - 02:00

 

Lluniaeth yn Hwyr y Nos

Dydd Llun – Dydd Sul

23:00 - 02:00

 

1.    Bydd system teledu cylch cyfyng gynhwysfawr sy'n gallu recordio yn cael ei gosod a'i chynnal a'i chadw a bydd yn recordio pob rhan o'r fangre a phob mynedfa i'r fangre, ac allanfa ohoni. Rhaid i'r system teledu cylch cyfyng recordio'n barhaus pan fydd y fangre ar agor ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy ac ar bob adeg pan fydd cwsmeriaid yn y fangre. Rhaid i'r system allu darparu lluniau o safon dystiolaeth, yn enwedig cydnabyddiaeth wyneb. Rhaid i bob recordiad gael ei storio am o leiaf 31 o ddiwrnodau a dangos dyddiad ac amser. Bydd y recordiadau ar gael yn syth ar gais yr Heddlu neu Swyddog Awdurdodedig.

 

2.    Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos data neu luniau diweddar i'r heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â phosib pan y gofynnir amdanynt.

 

3.    Bydd yr holl alcohol a gaiff ei werthu i'w yfed oddi ar y safle mewn cynwysyddion wedi'u selio yn unig, ac ni fyddant yn cael eu hyfed ar y safle.

 

4.    Rhaid i'r fangre gadw cofnodion wedi'u diweddaru sydd ar gael i'w harchwilio o hyfforddiant staff yn unol â gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag oedran.

 

5.    Bydd Deiliad y Drwydded Mangre a'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw beth sy'n cael ei werthu yn y fangre'n cael ei hysbysebu'n gywir a'u bod yn cynnwys rhybudd bod yr alcohol ar werth i bobl dros 18 oed yn unig.

 

6.    O na fydd person yn gallu darparu tystiolaeth o oedran ar adeg y casgliad bydd hyn yn negyddu'r gwerthiant a bydd pob gwrthodiad o werthiant yn cael ei gofnodi ar y daflen gofnodi gwrthodiad o werthiant.

 

7.    Cedwir cofnod yn rhoi manylion pob achos o wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r cofnod gynnwys dyddiad ac amser gwrthod y gwerthu ac enw'r aelod o staff a wrthododd ei werthu. Dylai'r cofnod fod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar bob achlysur pan fydd y fangre ar agor.

 

8.    Gosodir hysbysiadau mewn man amlwg wrth bob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion trigolion lleol ac i adael yr ardal yn dawel.

 

9.    Gweithredir cynllun prawf oedran Her 25 yn y fangre a'r unig ffurfiau adnabod derbyniol fydd llun, dyddiad geni a marc holograffig.

 

10. Dylai'r hysbysiadau gael eu harddangos yn glir yn y fangre er mwyn pwysleisio i gwsmeriaid nad yw alcohol yn cael ei werthu i bobl dan 18 oed.

 

11. Nid oes modd gwerthu alcohol sy'n cynnwys ABV (alcohol fesul cyfaint) o dros 6.5% mewn un can unigol.

 

12. Dylai Deiliad Trwydded Bersonol fod ar ddyletswydd bob amser pan fo'r fangre ar agor er mwyn gwerthu alcohol.

 

13.  Cyflogir goruchwylwyr drws trwyddedig Awdurdod y Diwydiant Diogelwch bob amser y mae'r safle ar agor ar gyfer gwerthu alcohol o 23:00 awr hyd nes y bydd y fangre'n cau.

 

Rheswm dros y penderfyniad: 

 

Nododd y pwyllgor fod sylwadau wedi cael eu gwneud gan un Awdurdod Cyfrifol (Heddlu De Cymru).

 

Derbyniwyd y sylw gan Heddlu De Cymru ar 11 Ionawr 2024 ac roedd yn seiliedig ar atal troseddu ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed.

 

Nododd y pwyllgor nad oedd unrhyw sylwadau wedi'u derbyn gan Safonau Masnach, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Iechyd a Diogelwch, Awdurdod Cynllunio, Is-adran Llygredd, Amddiffyn Plant, Y Bwrdd Iechyd Lleol, Mewnfudo neu unrhyw bobl arall.

 

Ystyriodd y Pwyllgor sylwadau'r awdurdodau cyfrifol.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr ymgeisydd yn bwriadu cydweithio â Heddlu De Cymru pan fo'r fangre'n masnachu a gweithio gydag awdurdodau cyfrifol i gynorthwyo wrth ddatrys problemau lleol sy'n deillio o'r safle.

 

I gloi, roedd y Pwyllgor o'r farn bod y sylwadau a wnaed, ar ôl addasu cynnwys yr amodau ychwanegol, 11, 12 a 13, yn ddigonol ac yn ddigon arwyddocaol i leddfu'r sylwadau i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.