Agenda, penderfyniadau a cofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cyfreithiwr arweiniol a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth.

 

3.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am Drwydded Mangre - Booze & News, 11A Nelson Street, Swansea, SA1 3QE. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol a gofynnodd i bawb a oedd yn bresennol gyflwyno'u hunain.

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu ar y cais am Drwydded Mangre mewn perthynas â Booze & News, 11A Nelson Street, Abertawe, SA1 3QE a dderbyniwyd gan yr Awdurdod ar 10 Tachwedd, 2023.

 

Cyfeiriodd at amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, canllawiau gan y Swyddfa Gartref a'r camau gweithredu ar ôl ystyried sylwadau'r Awdurdod Cyfrifol a phobl eraill. 

 

Cyfeiriodd yn benodol at y cais (a'r cynllun) am drwydded mangre yn Atodiad A ac A1. Manylwyd ar gynllun lleoliad yr adeilad yn Atodiad B. Atodwyd rhestr o fangreoedd trwyddedig yn yr ardal yn Atodiad B1. Manylwyd ar yr amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu yn Atodiad C.

 

Gwnaed cynrychiolaeth gan un Awdurdod Cyfrifol (Heddlu De Cymru) yn Atodiad D. Derbyniwyd dau ddatganiad gan bobl eraill yn Atodiad D1 a D2.

 

Cafwyd sylwadau gan Heddlu De Cymru ar 24 Tachwedd, 2023.  Roedd y sylw yn seiliedig ar atal trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. 

 

Derbyniwyd 2 sylw gan bobl eraill. Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad D1 a D2. Roedd y sylwadau'n ymwneud ag atal trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cyfreithiwr Arweiniol, cadarnhaodd pob parti eu bod wedi derbyn yr wybodaeth atodol a ddosbarthwyd yn flaenorol.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr Arweiniol at y llythyr mewn ymateb i sylwadau gan PC Licensing Consultancy, lle manylwyd ar yr amserlen weithredu arfaethedig. Nodwyd y byddai'r ddau bwynt cyntaf yn cael eu gweithredu ni waeth a roddwyd y drwydded:

 

1.     Cynyddu CCTV y tu allan i'r fangre (roedd tystiolaeth ffotograffig wedi'i dosbarthu'n flaenorol).

2.     Bydd y Trwyddedai'n cyfarwyddo aelodau o staff i wneud gwiriadau rheolaidd o'r ardal yn union y tu allan i'r fangre a chael gwared ar unrhyw sbwriel, p'un a yw wedi dod o'r fangre ai peidio. Bydd y palmant y tu allan i'r fangre'n cael ei ysgubo a'i lanhau'n rheolaidd.

3.     Codi oedran gwerthu alcohol i bobl dros 21 oed yn unig.

4.     Ni all unrhyw alcohol gael ei werthu mewn caniau unigol.

5.     Bydd deiliad trwydded bersonol ar ddyletswydd bob amser pan fydd y fangre ar agor er mwyn gwerthu alcohol.

 

Ymhelaethodd yr Heddwas Nicola Evans, Swyddog Trwyddedu'r Heddlu, ei sylwadau ysgrifenedig a cheisiodd gadarnhad bod yr ymgeisydd yn cytuno i'r ddau amod a gyflwynwyd gan Heddlu De Cymru, sef:

 

1.     Ni all unrhyw alcohol gael ei werthu mewn caniau unigol.

2.     Bydd deiliad trwydded bersonol ar ddyletswydd bob amser pan fydd y fangre ar agor er mwyn gwerthu alcohol.

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd cynrychiolydd yr ymgeisydd fod yr ymgeisydd wedi derbyn y ddau amod a gyflwynwyd gan Heddlu De Cymru. Dywedodd y Cyfreithiwr Arweiniol fod yr amodau ychwanegol a gyflwynwyd gan Heddlu De Cymru yr un fath â'r rhai a gynigiwyd gan gynrychiolydd yr ymgeisydd.

Dywedodd yr Heddwas Nicola Evans, Swyddog Trwyddedu'r Heddlu, nad oedd sylwadau ar ran Heddlu De Cymru wedi cael eu tynnu'n ôl.

 

Ymhelaethodd Mr Steve Gallagher, ar ran Abertawe yn Erbyn Troseddau Busnes (SABC), ei sylwadau ysgrifenedig ynghylch tanseilio'r pedwar Amcan Trwyddedu ymhellach. Rhoddodd fanylion am y problemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal a cheisiodd gael cadarnhad gan yr ymgeisydd nad oedd unrhyw alcohol wedi'i werthu y tu allan i'r hysbysiadau TENs a ganiateir, gan fod dogfen wrthod a gyflwynwyd gan gynrychiolydd yr ymgeisydd yn cyfeirio at wrthod gwerthiant.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr Arweiniol at ystyried y cais yn ôl ei rinweddau ei hun a dywedodd y gellid priodoli'r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal hefyd i'r eiddo trwyddedig arall yn yr ardal.

 

Mewn ymateb, cyfeiriodd Mr Gallagher at 6-7 o fusnesau annibynnol yn yr ardal a oedd yn dymuno aros yn ddienw rhag ofn ôl-effeithiau gan gwsmeriaid. Roedd gan yr eiddo trwyddedig arall sydd wedi'i leoli yn y Cwadrant y fantais o gael gwarchodwr diogelwch.

 

Dywedodd Mr Gallagher fod yr ardal yn destun Gorchymyn Gwarchod Diogelwch y Cyhoedd, felly gallai pecyn o bedwar can o alcohol gael eu hatafaelu'n gyfreithlon, a fyddai'n cael mwy o effaith ar yr unigolyn yn hytrach nag atafaelu un can yn unig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu nad oedd gan y Co-op, a oedd agosaf i'r fangre arfaethedig, unrhyw amod sy'n atal gwerthiant caniau sengl o alcohol.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr Arweiniol at ganiau sengl mewn ffurfiau eraill, e.e., gwirodydd a chymysgwyr a dywedodd y byddai gwaharddiad ar werthu caniau sengl hefyd yn cynnwys mathau eraill o alcohol.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr Arweiniol at y sylw bellach gan Bobl Eraill nad oeddent yn bresennol a dywedodd y rhoddwyd ystyriaeth ddyledus i gynnwys y sylw.

 

Dywedodd Mr Conisbee, cynrychiolydd yr ymgeisydd, fod y modd y cafodd y fangre ei reoli'n flaenorol yn berthnasol gan fod yr ymgeisydd wedi rhoi ystyriaeth briodol i'r holl faterion a godwyd yn y sylwadau. Cyfeiriodd at y drwydded flaenorol a ddaeth i ben ac oni bai am hynny, ni fyddai'r ymgeisydd wedi bod yn ymwybodol o unrhyw broblemau gan nad oedd unrhyw wrthwynebiadau i'r hysbysiadau o ddigwyddiad dros dro.

 

Manylodd ar y mesurau a fabwysiadwyd gan yr ymgeisydd, gan gynnwys cyflwyno llyfr gwrthod a oedd yn ymdrin â gwrthodiadau mewn perthynas ag alcohol, e-sigaréts a sigaréts. Nid oedd y fangre wedi gwerthu alcohol ers 12 Tachwedd, 2023 ac eto roedd unigolion yn parhau i ymgynnull yn y cyffiniau.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd yr ymgeisydd fod y gwrthodiad y cyfeiriwyd ato yn y ddogfennaeth oherwydd nad yw'r fangre'n gwerthu alcohol.

 

Dywedodd fod yr ymgeisydd yn fodlon cyflwyno mesurau fel gwerthu alcohol i gwsmeriaid dros 21 oed yn unig, camerâu CCTV ychwanegol (a oedd eisoes wedi'u gosod o flaen y fangre) a gwrthod gwerthu caniau unigol o alcohol. Cyfeiriodd at fathau penodol o alcohol a allai fod yn ddeniadol i yfwyr stryd a oedd â lefel alcohol o 6.5 ABV ac uwch. Dywedodd fod yr ymgeisydd yn awyddus i ymgysylltu ag asiantaethau i ddatrys unrhyw broblemau.

 

Cadarnhaodd Mr K Shanthan, yr ymgeisydd, ei fod yn cytuno â sylwadau ei gynrychiolydd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y canlynol:

 

1.     Pan nad oedd alcohol yn cael ei werthu yn y fangre, roedd unigolion yn dal i ymgynnull yn agos at y fangre.

2.     Roedd yr ymgeisydd yn awyddus i gadw blaen yr adeilad yn lân ac yn daclus ac roedd yn falch o'r fangre.

3.     Roedd yr ymgeisydd yn ystyried newid enw'r fangre.

4.     Roedd yr ymgeisydd yn cytuno i wrthod gwerthu caniau sengl o alcohol.

5.     Nid oedd yr ymgeisydd am ychwanegu at unrhyw broblemau yn yr ardal na bod yn gatalydd iddynt.

 

Rhannodd y Prif Gyfreithiwr fap o'r ardal a chadarnhawyd bod unigolion yn ymgynnull yn Nelson Street, Plymouth Street ac ardal y Cwadrant.

 

I gloi, cyfeiriodd cynrychiolydd yr ymgeisydd at yr ymdrechion a wnaed gan yr ymgeisydd i liniaru'r materion a amlygwyd yn y sylwadau'n rhagweithiol. Dywedodd y byddai profiad ac ethos yr ymgeisydd yn fuddiol ac nid yn rhwystr.

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w hystyried yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod: 

 

Cyflenwi alcohol

Dydd Llun – Dydd Sul

0600 - 2200 awr

 

 

1.          Bydd cofnod digwyddiad yn cael ei gadw yn y fangre, a bydd ar gael ar gais i swyddog awdurdodedig y cyngor neu'r Heddlu, a bydd yn cofnodi'r canlynol:

·       pob trosedd a adroddir i'r lleoliad.

·       pob achos o droi cwsmer allan.

·       unrhyw gwynion a dderbyniwyd am drosedd ac anhrefn.

·       unrhyw ddigwyddiadau o anhrefn.

·       unrhyw ddiffygion yn y system CCTV.

·       unrhyw ymweliad gan awdurdod perthnasol neu wasanaeth brys.

 

2.          Bydd CCTV yn cael ei osod, ei weithredu a'i gynnal bob amser y mae'r fangre ar agor ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy, er mwyn cydymffurfio â'r meini prawf canlynol. Bydd y trwyddedai'n sicrhau bod y system yn cael ei gwirio bob pythefnos i sicrhau bod y system yn gweithio'n iawn a bod y dyddiad a'r amser yn gywir. Bydd cofnod o'r gwiriadau hyn, sy'n dangos dyddiad ac amser y person sy'n gwirio, yn cael ei gadw a bydd ar gael i'r heddlu neu swyddogion awdurdodedig y cyngor ar gais. Rhaid hysbysu'r heddlu os na fydd y system yn gweithredu am fwy nag un diwrnod o fusnes am unrhyw reswm. Bydd un camera'n dangos y fynedfa i'r fangre'n agos, er mwyn dangos delwedd glir, hyd llawn o unrhyw un sy'n dod i mewn. Bydd y system yn darparu fideo o unrhyw ran allanol o'r fangre sydd ar gael i'r cyhoedd. Bydd y system yn cofnodi mewn amser real a bydd recordiadau'n dangos dyddiad ac amser. Cedwir recordiadau am o leiaf 31 diwrnod a bydd fideos wedi'u lawrlwytho'n cael eu darparu yn rhad ac am ddim i'r heddlu neu swyddogion awdurdodedig y cyngor ar gais, (yn amodol ar Ddeddf Diogelu Data 1998) o fewn 24 awr i unrhyw gais, ac ar bob adeg mae'r fangre ar agor ar gyfer gweithgaredd trwyddedadwy, bydd person yn y fangre sy'n gallu gweithredu'r system yn ddigonol i ganiatáu i'r heddlu neu swyddogion awdurdodedig y cyngor weld fideos ar gais.

 

3.          Bydd arwyddion sy'n nodi bod CCTV ar waith yn y fangre'n cael eu harddangos yn glir yn y fangre.

 

4.          Bydd y defnydd o CCTV yn y fangre'n cael ei gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynwyr Gwybodaeth (SCG)

 

5.          Cedwir cofnod sy'n manylu ar bob achos o wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r cofnod gynnwys dyddiad ac amser gwrthod y gwerthu ac enw'r aelod o staff a wrthododd ei werthu. Dylai'r cofnod fod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor neu'r heddlu ar bob achlysur pan fydd y fangre ar agor.

 

6.          Bydd blwch cymorth cyntaf ar gael yn y fangre ar bob adeg.

 

7.          Bydd asesiad risg diogelwch tân yn cael ei gwblhau'n flynyddol yn unol â chanllawiau'r llywodraeth (Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005) a'i gynhyrchu i swyddogion awdurdodedig y cyngor, yr heddlu a'r Gwasanaeth Tân ar gais.

 

8.          Bydd yr holl lwybrau ymadael ac ardaloedd cyhoeddus yn cael eu cadw'n ddirwystr, bydd ganddynt arwynebau nad ydynt yn llithrig ac sy'n wastad, byddant yn rhydd o beryglon baglu a bydd arwyddion clir arnynt.

 

9.           Bydd hysbysiadau'n cael eu harddangos yn amlwg yn y fangre yn gofyn i gwsmeriaid adael yn dawel a pharchu natur breswyl yr ardal.

 

10.       Ni fydd sbwriel yn cael ei symud i'r tu allan i'r fangre rhwng 9pm a 7am.

 

11.       Bydd y trwyddedai'n cyfarwyddo aelodau o staff i wneud archwiliadau rheolaidd o'r ardal allanol yn union o amgylch y fangre, gan dynnu unrhyw sbwriel sy'n deillio o'r fangre.

 

12.       Bydd y fangre bob amser yn gweithredu polisi Her 25 i atal unrhyw gwsmeriaid sy'n ceisio prynu alcohol ac sy'n edrych i'r aelod staff ei fod o dan 25 oed heb ddarparu dogfennaeth adnabod yn gyntaf. Dim ond trwydded gyrrwr Prydeinig ddilys sy'n dangos ffotograff o'r person, pasbort dilys neu gerdyn prawf oedran sy'n dangos yr hologram 'Pass' sydd i'w dderbyn fel dogfennaeth adnabod. Gellir derbyn cardiau adnabod milwrol hefyd. Bydd hysbysiadau a/neu bosteri sy'n hysbysebu'r polisi Her 25 yn cael eu rhoi mewn lleoedd amlwg yn y fangre.

 

13.       Bydd pob aelod o staff sy'n gwerthu alcohol neu a fydd yn ei werthu yn y fangre'n derbyn hyfforddiant llawn sy'n berthnasol i'r Ddeddf Trwyddedu, yn benodol o ran gwerthiannau â chyfyngiad oedran, ac yn gwrthod gwerthu i bersonau y credir eu bod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

 

14.       Mae'r holl hyfforddiant o'r fath yn cael ei ddogfennu'n llawn a'i lofnodi nid yn unig gan y gweithiwr ond y person sy'n darparu'r hyfforddiant. Cedwir cofnodion hyfforddiant yn y fangre a byddant ar gael ar gais i naill ai Swyddogion yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor.

 

15.       Bydd staff sy'n cael eu cyflogi i werthu alcohol yn derbyn hyfforddiant ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu. Bydd hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, bolisi gwirio oedran y fangre, ymdrin â gwrthod gwerthiannau, prynu drwy ddirprwy, nodi ymdrechion gan bobl feddw i brynu alcohol, a nodi arwyddion o feddwdod.

 

16.       Cynyddu CCTV y tu allan i'r fangre.

 

17.       Bydd y trwyddedai'n cyfarwyddo aelodau o staff i wneud gwiriadau rheolaidd o'r ardal yn union y tu allan i'r fangre a throsglwyddo unrhyw sbwriel, p'un a yw'n deillio o'r fangre ai peidio. Bydd y palmant y tu allan i'r fangre'n cael ei ysgubo a'i lanhau'n rheolaidd.

 

18.       Ni ellir gwerthu unrhyw alcohol ag ABV dros 6.5% mewn caniau unigol.

 

19.       Bydd deiliad trwydded bersonol ar ddyletswydd bob amser pan fydd y fangre ar agor er mwyn gwerthu alcohol.

  

Rheswm dros y penderfyniad: 

 

Nododd y Pwyllgor y gwnaed sylwadau gan un Awdurdod Cyfrifol (Heddlu De Cymru) a derbyniwyd dau sylwad gan bobl eraill

 

Roedd y sylw a dderbyniwyd gan Heddlu De Cymru ar 24 Tachwedd 2023 yn seiliedig ar atal troseddu ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed.

 

Derbyniwyd dau sylw ychwanegol gan bobl eraill, sef PLlTB a masnachwr lleol, a oedd yn ymwneud ag atal trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed.

 

Cadarnhaodd pob parti eu bod wedi derbyn yr wybodaeth atodol a ddosbarthwyd yn flaenorol.

  

Nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw sylwadau wedi'u derbyn gan Safonau Masnach, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Iechyd a Diogelwch, yr Awdurdod Cynllunio, yr Is-adran Llygredd, Amddiffyn Plant, y Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Adran Mewnfudo.

 

Ystyriodd y Pwyllgor uwch sylwadau'r awdurdodau cyfrifol fel y'u nodwyd yn ystod cyfarfod y Pwyllgor.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr ymgeisydd wedi ymgysylltu â'r awdurdodau cyfrifol cyn cyfarfod y Pwyllgor a thrafodwyd amodau addasedig a fyddai'n hyrwyddo'r amcanion ymhellach.

 

Nododd y Pwyllgor er bod y sicrwydd yn bodloni sylwadau'r heddlu, ni wnaethant dynnu eu sylwadau'n ôl.

  

Nododd y Pwyllgor fod yr ymgeisydd yn cydnabod pob sylw.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd barodrwydd i weithio gydag awdurdodau cyfrifol i gynorthwyo i ddatrys problemau lleol sy'n deillio o'r fangre.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr ymgeisydd wedi ymgysylltu â phartïon gyda'r bwriad o liniaru pryderon y cynrychiolydd, ac oherwydd hynny roedd yr ymgeisydd wedi cynnig amodau ychwanegol a/neu addasedig.

 

Byddai nodi pwyntiau 1 a 2 yn cael eu gweithredu ni waeth a roddwyd y drwydded:

 

1. Cynyddu CCTV y tu allan i'r fangre (roedd tystiolaeth ffotograffig wedi'i dosbarthu'n flaenorol).

2. Bydd y Trwyddedai yn cyfarwyddo aelodau o staff i wneud gwiriadau rheolaidd o'r ardal yn union y tu allan i'r fangre a chael gwared ar unrhyw sbwriel, p'un a yw wedi dod o'r fangre ai peidio. Bydd y palmant y tu allan i'r fangre'n cael ei ysgubo a'i lanhau'n rheolaidd.

3. Codi oedran gwerthu alcohol i bobl dros 21 oed yn unig.

4. Ni all unrhyw alcohol gael ei werthu trwy werthu caniau unigol.

5. Bydd deiliad trwydded bersonol ar ddyletswydd bob amser pan fydd y fangre ar agor er mwyn gwerthu alcohol. 

 

Nododd y Pwyllgor fod yr ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth ar gyfer hynny ym mhwynt 1. Roedd CCTV eisoes wedi'i roi ar waith a phan ddefnyddiwyd TENS, roedd yr ymgeisydd wedi gweithredu cofnod gwrthod hollgynhwysol, a ddarparwyd i'r pwyllgor fel rhan o'r wybodaeth ychwanegol.

 

Nododd y Pwyllgor ymwybyddiaeth yr ymgeisydd wrth hyrwyddo'r amcanion drwy sicrhau bod gwiriadau rheolaidd o'r ardal y tu allan i'r fangre a sicrhau bod deiliad trwydded bersonol ar ddyletswydd bob amser pan fydd y fangre ar agor at ddibenion gwerthu alcohol.

 

Nododd y Pwyllgor barodrwydd yr ymgeisydd i godi oedran gwerthu alcohol i bobl dros 21 oed yn unig, ond nid oes modd gorfodi cyflwr o'r fath yn unol â deddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod amod 12 yn nodi y byddant yn gweithredu polisi Her 25.

 

Nododd y Pwyllgor fod sylw'r ymgeisydd wedi addasu ymhellach pwynt 4 o'i gyflwyniad ychwanegol "ni all unrhyw alcohol i'w werthu mewn caniau unigol" i "Ni ellir gwerthu alcohol gydag alcohol ABV dros 6.5% mewn caniau unigol". Nododd y cynrychiolydd y rhesymeg dros ychwanegu "ABV dros 6.5%" o ganlyniad i'w brofiad fel ymgynghorydd trwyddedu ac yn ei gyflogaeth flaenorol fel heddwas a oedd yn ymdrin â thrwyddedu. Trafodwyd y pwynt ymhellach gan Heddlu De Cymru a'r cynrychiolydd o PLlTB wrth i'r pwyllgor gydnabod ei sylw a'i brofiad yn y maes.

 

I gloi, roedd y Pwyllgor o'r farn bod y mesurau lliniaru a gynigir, gydag addasiadau drwy gynnwys yr amodau ychwanegol 16, 17, 18 a 19 yn ddigonol ac yn ddigon arwyddocaol i leddfu'r sylwadau i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

 

Hawl i Apelio:

 

Ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn mae gennych hawl i apelio i'r Llys Ynadon.

 

Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig i Brif Weithredwr yr Ynadon o fewn 21 diwrnod i ddyddiad derbyn yr hysbysiad hwn.