Agenda, penderfyniadau a cofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd S Joy – Personol – Cofnod rhif 3 - Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am Drwydded Mangre - Traeth Abertawe, Mumbles Road, Brynmill, Abertawe SA2 0AY - (cyfesurynnau 51.610827, -3.966594).

 

2.

Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfreithiwr Cyswllt a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth.

 

3.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am Drwydded Mangre - Swansea Beach, Mumbles Road, Brynmill, Swansea, SA2 0AY - (51.610827, -3.966594 co-ordinates) pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol a gofynnodd iddynt gyflwyno'uu hunain.

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu ar y cais am Drwydded Mangre mewn perthynas â thraeth Abertawe, Mumbles Road, Brynmill, Abertawe SA2 0AY (cyfesurynnau 51.610827, -3.966594) a dderbyniwyd gan yr Awdurdod hwn ar 11 Hydref, 2023. 

 

Cyfeiriodd at amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, canllawiau gan y Swyddfa Gartref a'r camau gweithredu ar ôl ystyried Sylwadau'r Awdurdod Cyfrifol a Phobl Eraill.  Cyfeiriwyd yn benodol at y cais (a'r cynllun) ar gyfer trwydded mangre yn Atodiad A i A3. Cynhwyswyd copi o'r Cynllun Rheoli Digwyddiadau a'r Asesiad Risg yn Atodiad A4 ac A5. Manylwyd ar gynllun lleoliad y fangre yn Atodiad B a B1. Atodwyd rhestr o safleoedd trwyddedig yn yr ardal yn Atodiad B2. Manylwyd ar yr amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu yn Atodiad C. Y sylwadau a wnaed gan Is-adran Llygredd yr Awdurdod Cyfrifol (Heddlu De Cymru yn Atodiad D a D1) yn Atodiad D2 a'r Awdurdod Trwyddedu yn Atodiad D3. Derbyniwyd dau sylw gan bobl eraill yn Atodiad D4.

 

Derbyniwyd sylw gan Heddlu De Cymru ar 23 Hydref, 2023.  Roedd y sylw yn seiliedig ar atal trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. 

 

Derbyniwyd sylw gan yr Is-adran Llygredd a Thîm Tai'r Sector Preifat ac roedd yn ymwneud ag atal niwsans cyhoeddus.

 

Derbyniwyd sylw gan yr Awdurdod Trwyddedu ac roedd yn ymwneud ag atal trosedd ac anhrefn, amddiffyn plant rhag niwed ac atal niwsans cyhoeddus.

 

Derbyniwyd dau sylw gan bobl eraill.  Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad D4.  Roedd y sylwadau'n ymwneud â diogelwch y cyhoedd ac atal niwsans cyhoeddus.

 

Dywedodd PC Chris Dix, Swyddog Trwyddedu'r Heddlu, fod cyfarfod wedi cael ei gynnal gyda'r Ymgeisydd wedi iddynt gyflwyno sylwadau a chytunwyd ar y materion canlynol:

 

1)    Roedd Heddlu De Cymru'n hapus i dderbyn trwydded am flwyddyn yn y lle cyntaf. Pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu ac nad oedd yr Ymgeisydd yn gallu cytuno ar ddyddiad addas yn 2024 oherwydd llanw ac argaeledd adnoddau Heddlu De Cymru, byddai'r Ymgeisydd yn ceisio trosglwyddo'r drwydded i ddyddiad addas a gytunwyd arno yn 2025.

2)    Byddai'r Ymgeisydd yn anrhydeddu pob cais rhesymol am Wasanaeth Heddlu Arbennig. Byddai hyn yn cynnwys darparu adnoddau ym Mharth X.

3)    Y contractwr a ffefrir ar gyfer Rheoli Traffig oedd JPS Consulting sy'n brofiadol iawn ar ôl rheoli'r cynllun traffig ar y safle yng ngŵyl gerddoriaeth Glastonbury a'r cynllun traffig oddi ar y safle yng ngŵyl gerddoriaeth Boardmasters ers blynyddoedd lawer. Byddent yn cael eu comisiynu i gwblhau Cynllun Rheoli Traffig gyda sylw penodol i groesi'r ffordd ddeuol ger y traeth a llwybrau i Barc Singleton ac oddi yna.

4)    Mae'r Ymgeisydd yn brofiadol mewn rheoli gwyliau ar ymyl y dŵr. Y contractwr diogelwch dŵr a ffefrir gan yr ymgeisydd yw Coast to Coast Water Safety. Mae Ymgynghorydd Diogelwch Digwyddiad yr Ymgeisydd yn Rheolwr Diogelwch Dŵr cymwys gyda Surf Life Saving Association GB a fydd yn goruchwylio'r cynllun diogelwch dŵr a ddarperir gan Coast to Coast Water Safety. Bydd yr Ymgeisydd yn gofyn am arweiniad lleol penodol Vinny Vincent, Goruchwyliwr Arweiniol Lleol Achubwyr Bywyd yr RNLI. Bydd yr Ymgeisydd yn cefnogi unrhyw batrolau achubwyr bywyd presennol a byddent yn darparu achubwyr bywyd eu hunain tan ddiwedd y digwyddiadau bob dydd o 6pm pan fydd gwasanaeth achubwyr bywyd yr RNLI yn gweithredu ac o 12 canol dydd ar ddiwrnodau pan nad yw'r gwasanaeth achubwyr bywyd yn gweithredu.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru bod niferoedd digonol o Swyddogion i ddarparu gwasanaeth ar benwythnos arfaethedig y digwyddiad. Yn ogystal, gan fod y cytundeb ar gyfer trwydded blwyddyn yn unig, ni ragwelwyd y byddai newid y dyddiad yn achosi anawsterau o ran staffio'r Heddlu.

 

Dywedodd Tom Evans, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Adrannol, Rheoli Llygredd a Thai'r Sector Preifat, fod cyfarfod wedi cael ei gynnal yn dilyn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Byddai cytundeb yr ymgeisydd i drwydded blwyddyn yn helpu cyn belled â digwyddiad prawf. Ymdrinnir â materion sy'n ymwneud â gwastraff, sŵn etc yn ystod proses y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Rhanbarthol y byddai lefelau sain yn cael eu monitro mewn modd tebyg i ddigwyddiadau mawr eraill a gynhelir yn y ddinas.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu at ddiwygiadau ynghylch yr amodau arfaethedig fel a ganlyn:

Amod 2

Newid yr isafswm o 3 mis i 4 mis.

Amod 9

Newid o 56 o ddiwrnodau i 4 mis.

Amod Ychwanegol

Bydd deiliad y drwydded mangre yn cynnwys manylion y cynllun rheoli traffig ar gyfer y traeth er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng cerbydau a cherddwyr i sicrhau diogelwch y cyhoedd bob amser.

Amod 11

Ychwanegu Polisi gwasgaru, cynllun diogelwch dŵr a pharth X.

Amod 49

Ychwanegu cynllun gwasgaru.

Cynllun Rheoli Traffig

Bydd angen mynd i'r afael â'r ddarpariaeth trafnidiaeth i'r digwyddiad ac oddi yno.

Amod Ychwanegol

Nodi na ddylid cynnal unrhyw ddigwyddiad yn ystod unrhyw lanw uchel/llanwau'r gwanwyn a dylai polisi diogelwch dŵr cynhwysfawr fod ar waith.

Dileu Amod 71 a nodi'r canlynol yn ei le –

Darparwr diogelwch dŵr annibynnol yn lle'r RNLI neu yn ogystal â'r darparwyr y cytunwyd arnynt, Coast to Coast Water Safety, Surf Life Saving Association GB a Vinny Vicent, Goruchwyliwr Arweiniol Lleol Achubwyr Bywyd yr RNLI. 

Amod Ychwanegol

Gwneir darpariaeth ar gyfer diogelwch dŵr drwy gydol y digwyddiad ac nid yw'n gyfyngedig i 1800.

 

Awgrymodd y Cadeirydd ohirio'r cais i ganiatáu i'r Ymgeisydd ystyried yr amodau diwygiedig.

 

Wedi ei ohirio am 10:52

 

Ailymgynnull am 11:10

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyfreithiwr Cyswllt, dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch i fod i gwrdd ar 9 Ionawr, 2024.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr Cyswllt at gynrychiolaeth gan y Cynghorydd P M May, Cynghorydd Ward nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn ystod cyfarfod y Pwyllgor. Dywedodd fod y rhan fwyaf o'r materion a oedd wedi cael eu cynnwys wedi cael eu datrys yn ystod gwrandawiad y Pwyllgor.

 

Croesawodd y Cadeirydd Tommy Job (Ymgeisydd) gyda chymorth Kevin Instance a fanylodd ar y cais. Dywedodd ei fod yn dymuno cynnal digwyddiad i deuluoedd dros dri diwrnod, a fyddai'n fuddiol i'r gymuned ac a fyddai'n cynhyrchu incwm i'r ddinas. Cyfeiriodd at y posibilrwydd o newid y dyddiad i sicrhau bod y cynlluniau'n gynhwysfawr.

 

Dywedodd Mr Kevin Instance, Ymgynghorydd Diogelwch Digwyddiadau, ei fod yn fodlon ar y diwygiadau arfaethedig i'r amodau. Roedd materion heb eu hystyried fel y trefniadau gwasgaru, trefniadau parth X, y traeth, y promenâd, y llwybr o'r maes parcio etc. a fyddai'n dod yn fwy clir pan fydd y Cynllun Rheoli Traffig wedi'i gwblhau. Awgrymodd Mr Instance y byddai'r cyfnod rhybudd o 4 mis a gynhwysir o fewn amod 9 yn gwneud y dyddiad arfaethedig o 3-5 Mai yn anymarferol a chyda ffactorau eraill fel gêm pêl-droed Millwall byddai dyddiad arall yn debygol o gael ei geisio. Gofynnodd Mr Instance i'r term 'llanw uchel' gael ei dynnu o'r amodau ychwanegol, gan fod llanw uchel yn digwydd yn aml.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Ymgeisydd:

 

1)    Dewiswyd Abertawe fel y lleoliad arfaethedig gan ei bod yn ychydig yn debyg i Gernyw. Ar ben hynny, mae'r traeth yn agos at ganol y ddinas.

2)    Pe bai'r cais yn llwyddiannus, byddai cyfathrebu manwl yn digwydd gyda'r lleoliad agosaf i'r digwyddiad arfaethedig. Mae sgyrsiau cychwynnol wedi dechrau ac adroddwyd bod y lleoliad wedi'i gyffroi gan y syniad o'r digwyddiad.

3)    Byddai darparwyr gwasanaethau Abertawe yn cael eu defnyddio pe bai'r digwyddiad yn cael ei ganiatáu ac felly byddai hynny'n creu incwm ar gyfer yr economi.

4)    Byddai'r digwyddiad i deuluoedd yn denu bandiau 'canu ar hyd' sy'n addas i deuluoedd, fel McFly, Busted.

5)    Byddai'r digwyddiad yn ceisio cyfyngu ar ôl troed carbon ac yn gweithio gyda Surfers Against Sewerage. Byddai cwsmeriaid yn cael eu hannog i ddefnyddio beiciau.

6)    Roeddent yn blaenoriaethu gweithio gydag arbenigwyr lleihau sŵn i sicrhau nad oedd llawer o aflonyddwch i'r gymuned leol.

7)    Manylwyd ar y mathau o rwystrau a'r trefniadau diogelwch.

8)    Cadarnhaodd yr ymgeisydd nad oedd yn bwriadu defnyddio unrhyw dân gwyllt yn ystod y digwyddiad.

 

I gloi, diolchodd yr Ymgeisydd i'r Pwyllgor a phawb a oedd yn bresennol am y ddeialog adeiladol.

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais ar gyfer cyfnod o flwyddyn yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u diwygiwyd yn briodol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod:  

 

Cerddoriaeth Fyw - Dydd Gwener – Dydd Sul 12:00-23:00

 

Cerddoriaeth wedi'i recordio - Dydd Gwener – Dydd Sul 12:00-23:00

 

Perfformiad Dawns - Dydd Gwener – Dydd Sul 12:00-22:00

 

Unrhyw beth sy'n debyg i'r disgrifiad o'r hyn sy'n cael ei gynnwys o fewn Cerddoriaeth fyw/wedi'i recordio - Dydd Gwener – Dydd Sul 12:00-22:00

 

Lluniaeth yn Hwyr y Nos - Nos Wener - Nos Sul 23:00-23:30

 

Gwerthu Alcohol - Dydd Gwener – Dydd Sul 12:00-23:00

 

Oriau Agor - Dydd Gwener – Dydd Sul Canol Dydd – Canol Nos

 

Rhoddir y drwydded am flwyddyn ar gyfer uchafswm o 3 diwrnod olynol.

Dydd Gwener i Ddydd Sul rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2024 fel y cytunwyd gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch neu rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2025 os na chynhaliwyd digwyddiad yn 2024 – dylid rhoi hysbysiad o'r union ddyddiadau ymlaen llaw.

 

 1.      Digwyddiad blwyddyn yw hwn, gyda gweithgareddau trwyddedadwy yn cael eu cynnal dros gyfnod o ddim mwy na 3 diwrnod. Bydd y 3 diwrnod yn olynol a bydd yn cael ei gynnal rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2024, fodd bynnag, os na chynhelir digwyddiad yn 2024 bydd y drwydded yn cael ei throsglwyddo am flwyddyn yn unig ar gyfer digwyddiad i'w gynnal rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2025. 

 

2.        Cytuno ar union ddyddiau a dyddiadau digwyddiadau sy'n cael eu cynnal o dan y Drwydded hon gyda'r Awdurdod Trwyddedu, Tîm Digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe (DASA), Heddlu De Cymru (HDC) ac aelodau eraill o'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch o leiaf 3 mis cyn dyddiad dechrau'r digwyddiad.

 

3.        Uchafswm nifer y bobl fydd 9,999 (gan gynnwys bob person ar y safle).

 

4.        Cytunir ar y niferoedd gwirioneddol ar gyfer pob digwyddiad gyda'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn ystod y broses gynllunio.

 

5.        Bydd unrhyw ddigwyddiadau sy'n digwydd dan y drwydded hon yn cael eu cyflwyno i’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch ac yn destun craffu ganddo.

 

6.        Bydd deiliad y drwydded mangre yn rhoi gwybod i'r Awdurdod Trwyddedu yn fisol o ddyddiad gwerthu'r/dosbarthu'r tocynnau cyntaf beth yw cyfanswm nifer y tocynnau a brosesir ar gyfer y digwyddiad.

 

7.        Bydd y Goruchwyliwr Mangre Dynodedig (GMD) neu ei gynrychiolydd sydd wedi'i awdurdodi'n briodol (a fydd hefyd yn ddeiliad y drwydded bersonol) ar ddyletswydd yn y fangre bob amser pan fo'r fangre wedi'i hawdurdodi i werthu alcohol.

 

8.        Rhaid i ddeiliad y drwydded mangre sicrhau bod y cofnodion diweddaraf ar gael i'w harchwilio o hyfforddiant staff mewn perthynas â gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag oedran, fel yr amlinellir yng Nghynllun Rheoli Alcohol y CRhDD.

 

9.        Bydd Cynllun Rheoli Diogelwch Digwyddiad addas a digonol (CRhDD) sy'n benodol i'r digwyddiad a'r safle'n cael ei ddatblygu a'i gyflwyno i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch o leiaf 3 mis cyn i ddigwyddiadau gael eu cynnal, gan gynnwys manylion cynllun rheoli traffig ar y traeth i osgoi gwrthdaro rhwng cerbydau a cherddwyr, gan sicrhau diogelwch y cyhoedd bob amser.

 

10.      Bydd y CRhDD yn cael ei ddatblygu yn unol â'r arferion gorau a nodir mewn cyhoeddiadau fel: The Purple Guide (2017), The Event Safety Guide (HSG195), Managing Crowds Safely (HSG154), Guide to Safety at Sports Grounds (Green Guide), Fire Safety Risk Assessment (Open Air Events & Venues).

 

11.      Bydd y CRhDD yn cynnwys manylion am y pynciau canlynol: Cynllun Rheoli Traffig, Polisi Cyffuriau, Eitemau Gwaharddedig, Polisi Chwilio, Cyfathrebu, Cynllun Digwyddiadau Mawr, Rheoli Gwastraff, Cynllun Diogelwch a Rheoli Torfeydd, Mesurau Gwrthderfysgaeth, Gweithdrefnau Pandemig/Clefydau Trosglwyddadwy, Cynllun Rheoli Sŵn, Trefn y Rhaglen/Amserau Gweithredu'r Digwyddiad, Cynllun Rheoli Alcohol, Cynllun Allanfeydd, Asesiad Risg, Asesiad Risg Tân, Cynllun Meddygol, Cynllun Rheoli Gwynt, Cynllun Tywydd Garw, Cyfrifiadau Lleoedd, Gweithdrefnau Gadael mewn Argyfwng, Cynllun Goleuo, Polisi Lles a Phobl sy’n Agored i Niwed/Polisi Plant coll neu sydd wedi'u darganfod, polisi gwasgaru, cynllun diogelwch dŵr a chynnwys ystyried ac ymdriniaeth o barth X.

 

12.      Bydd y CRhDD a'i atodiadau cysylltiedig yn cael eu hystyried yn ddogfennau 'byw' a chânt eu diweddaru a'u diwygio yn ystod camau cynllunio'r digwyddiad.

 

13.      Cyflwynir fersiwn derfynol o'r CRhDD i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod cyn y digwyddiad.

 

14.      Caiff cynllun y safle ei gyflwyno i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch o leiaf 56 diwrnod cyn y cynhelir y digwyddiadau. Bydd cynllun y safle’n cynnwys nifer a safle'r llwyfannau, bariau, masnachwyr bwyd, mynedfeydd/allanfeydd, allanfeydd argyfwng, cyfleusterau toiled ac ati.

 

15.      Cyflwynir fersiwn derfynol cynllun y safle i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod cyn i'r digwyddiadau ddechrau.

 

16.      Bydd trefn rhaglenni'r digwyddiadau a darpariaeth artistiaid yn cael eu trafod ymlaen llaw, gyda rhanddeiliaid allweddol perthnasol gan gynnwys Heddlu De Cymru. Bydd y rhestr artistiaid yn cael ei darparu i Heddlu De Cymru 31 diwrnod cyn y digwyddiad.

 

17.      Rhaid trafod unrhyw newidiadau i drefn y rhaglen â rhanddeiliaid allweddol, a chytuno arnynt, gan gynnwys cyfarfodydd ar y safle ar ddiwrnod y digwyddiad(au).

 

18.      Rhaid anfon unrhyw newidiadau i'r rhestr o artistiaid at Heddlu De Cymru cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol.

 

19.      Dylai holl rannau'r ardal drwyddedig fod ar gael i'w harchwilio yn ystod y cyfnod y bydd deiliad y drwydded mangre'n defnyddio'r safle, gan unrhyw swyddog a enwir o Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Awdurdod Trwyddedu Cyngor Abertawe neu unrhyw randdeiliad allweddol perthnasol a awdurdodwyd yn briodol at y diben.

 

20.      Bydd gan ddeiliad y drwydded mangre yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus hyd at o leiaf £5,000,000.00 (£5m/pum miliwn o bunnoedd) ar waith ar gyfer unrhyw ddigwyddiad. Dylai'r dyddiad y bydd yr yswiriant mewn grym fod o 7 niwrnod cyn dechrau codi'r adeiledd ar gyfer y digwyddiad, tan ac yn cynnwys 7 niwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben. Dylai deiliad y drwydded mangre ddarparu copïau ardystiedig o'r polisi a'r tystysgrifau yswiriant, neu brawf yswiriant derbyniol arall, i'r Awdurdod Trwyddedu ac unrhyw randdeiliad allweddol perthnasol ar gais.

 

21.      Bydd deiliad y drwydded mangre yn gweithio gyda DASA, Heddlu De Cymru, y Contractwr Diogelwch penodedig, darparwyr gwasanaethau brys allweddol eraill a rhanddeiliaid allweddol eraill i wneud trefniadau addas i atal achosion o droseddu ac anhrefn.

 

22.     Bydd deiliad y drwydded mangre'n anrhydeddu pob cais rhesymol gan Heddlu De Cymru i ddefnyddio

Gwasanaethau Heddlu Arbennig (GHA).

 

23.      Yn ystod y camau cynllunio ar gyfer pob digwyddiad, bydd deiliad y drwydded mangre a Heddlu De Cymru yn penderfynu p'un ai bod angen cŵn canfod cyffuriau i helpu i orfodi'r Polisi Cyffuriau ai peidio.

 

24.      Os ystyrir bod angen cŵn canfod cyffuriau ar gyfer digwyddiadau penodol sy'n cael eu cynnal dan y drwydded hon, cytunir ar nifer y cŵn gyda Heddlu De Cymru.

 

25.      Caiff cwmni diogelwch a stiwardio dibynadwy a phrofiadol Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ei benodi i sicrhau diogelwch y cyhoedd ac i atal troseddu ac anhrefn.

 

26.      Lle bo hynny'n berthnasol ac yn dilyn trafodaeth gyda'r Awdurdod Trwyddedu, Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch a'r heddlu, bydd nifer cytunedig o oruchwylwyr drysau sy’n gwisgo camerâu fideo sy'n recordio'n ddigidol yn cael eu defnyddio yn y fangre. Defnyddir y camerâu fideo a wisgir ar y corff i gofnodi unrhyw ddigwyddiadau sy'n digwydd y tu mewn neu'r tu allan i'r fangre sy'n ymwneud â chwsmeriaid, darpar gwsmeriaid neu unrhyw aelod o staff, sy'n effeithio ar unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu. Bydd cofnodion data ar gael ar unwaith i swyddog awdurdodedig yr awdurdod lleol neu i swyddog yr heddlu, ynghyd â chyfleusterau i'w gweld ar gais, yn amodol ar ddarpariaethau'r Ddeddf Diogelu Data. Caiff y manylion hyn eu storio am o leiaf 31 diwrnod.

 

27.      Bydd eitemau gwaharddedig yn cael eu trafod a'u cytuno gyda rhanddeiliaid allweddol perthnasol. Ym mhob achos, ni chaniateir sylweddau anghyfreithlon, arfau, sylweddau peryglus, tân gwyllt a ffaglau (ac eithrio'r rheini a gyflenwir gan gontractwyr) i'r digwyddiadau.

 

28.      Bydd biniau amnest yn cael eu darparu a'u diogelu wrth fynedfa'r fangre ar gyfer eitemau gwaharddedig y gallai fod gan bobl. Bydd y gwaith o waredu cynnwys y biniau amnest yn cael ei gydlynu â Heddlu De Cymru.

 

29.      Ni chaniateir i gwsmeriaid ddod â'u halcohol eu hunain i'r safle. Caiff hyn ei amlinellu yn y CRhDD.

 

30.      Bydd arwyddion priodol yn bresennol ar y safle a fydd yn hysbysu'r rheini sy'n bresennol bod Polisi Cyffuriau mewn grym a bod chwiliadau'n amod mynediad.

 

31.      Bydd y Polisi Cyffuriau yn cynnwys sylweddau dan reolaeth, sylweddau seicoweithredol newydd yn ogystal â NO2/NOS/ocsid nitraidd. Ni chaniateir yr un o'r sylweddau hyn ar y safle.

 

32.      Bydd y gwaith chwilio'n cael ei gynnal yn unol â'r Polisi Chwilio yn y CRhDD a rhaid ei gynnal wrth fynd i mewn i sicrhau diogelwch y cyhoedd/staff.

 

33.      Bydd staff cofrestredig Awdurdod y Diwydiant Diogelwch yn cynnal chwiliadau o bobl o'r un rhyw â nhw.

 

34.      Gwrthodir mynediad i unrhyw sydd â mwy na'r symiau y cytunwyd arnynt ar gyfer defnydd personol (fel yr amlinellir yn y polisi cyffuriau) o sylweddau dan reolaeth neu sylweddau seicoweithredol newydd, a bydd yr heddlu'n cael gwybod ar unwaith.

 

35.      Gwrthodir mynediad i unrhyw un sydd ag arf ymosodol a bydd yr heddlu'n cael gwybod ar unwaith.

 

36.      Dylid cadw Cofrestr Achosion yn yr eiddo sy'n dangos manylion dyddiad ac amser pob ymosodiad, niwed, damwain neu droadau allan, yn ogystal â manylion aelodau'r staff sy'n rhan o'r broses, natur y digwyddiadau a'r cam gweithredu/canlyniad. Rhaid i'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio gan yr heddlu neu swyddogion awdurdodedig.

 

37.      Bydd cofrestr o wrthodiadau yn cael ei chadw sy'n rhoi manylion pob achos o wrthod gwerthu alcohol.

 

38.      Bydd deiliad y drwydded mangre yn darparu dŵr yfed cludadwy am ddim yn unol â'r amodau gorfodol a bydd hwn ar gael drwy gydol y digwyddiadau.

 

39.      Bydd Ymgynghorydd Diogelwch y Digwyddiad cymwys a phrofiadol ar ddyletswydd bob amser yn ystod y digwyddiadau.

 

40.      Darperir Ystafell Gyswllt/Caban Argyfwng er mwyn gallu monitro’r digwyddiad yn gyson mewn lleoliad gorchymyn ar gyfer cynrychiolwyr yr awdurdod lleol a'r gwasanaethau brys sy'n bresennol ar y safle.

 

41.      Bydd Cofnodwr Rheoli Digwyddiadau yn cael ei ddarparu i sicrhau bod unrhyw broblemau'n cael eu cofnodi'n amserol, yr ymgynghorir arnynt a'u bod yn cael eu diweddaru drwy gydol y digwyddiad.

 

42.      Bydd deiliad y drwydded mangre a'i gynrychiolwyr, gan gynnwys Ymgynghorydd Diogelwch y Digwyddiad, yn trefnu ac yn hwyluso sesiynau briffio rheolaidd ar y safle i Awdurdodau Cyfrifol a'r Gwasanaethau Brys fel y cytunwyd gyda'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.

 

43.      Deiliad y drwydded mangre, neu gynrychiolydd enwebedig, sy’n gyfrifol am y digwyddiad a bod yn bresennol drwy'r amser ynddo, ac eithrio lle bydd swyddogion awdurdodedig y Gwasanaethau Brys yn gyfrifol am y fath reolaeth, ac ni ddylai gyflawni unrhyw weithgareddau eraill a fydd yn ei atal rhag goruchwylio'r digwyddiad yn gyffredinol.

 

44.      Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded mangre sicrhau bod yr holl stiwardiaid a phersonél diogelwch wedi'u hyfforddi'n briodol ac yn gallu cyflawni'r dyletswyddau a glustnodir iddynt, ac yn 18 oed neu'n hŷn, a phan fyddant ar ddyletswydd dylent ganolbwyntio ar eu dyletswyddau'n unig ac nid ar yr adloniant.

 

45.      Bydd y CRhDD a'r Cynllun Rheoli Torfeydd yn amlinellu nifer, safle a rolau'r staff diogelwch a stiwardio sy'n gweithio yn y digwyddiadau.

 

46.      Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded mangre sicrhau bod stiwardiaid a phersonél diogelwch yn deall eu rolau a'r ffordd briodol o ymdrin ag achosion, eu cofnodi ac adrodd amdanynt. Dylai personél o'r fath:

a.     beidio â gadael eu safle heb ganiatâd;

b.     peidio ag yfed na bod dan ddylanwad diodydd meddwol, gan gynnwys alcohol neu gyffuriau;

c.     rhaid iddynt aros yn ddigyffro a bod yn gwrtais tuag at bob aelod o'r gynulleidfa.

 

47.      Bydd pob stiward a phersonél diogelwch yn gwisgo dillad arbennig i sicrhau y gellir eu hadnabod yn unigol.

 

48.      Dylid cynnal cofrestr o stiwardiaid a phersonél diogelwch bob amser ar y safle. Dylai cofrestr o'r fath gynnwys enw, rhif cofrestru Awdurdod y Diwydiant Diogelwch, manylion cyswllt yr aelod o staff ynghyd â'r dyddiad a'r amser ar ddyletswydd ac oddi ar ddyletswydd.

 

49.      Darperir "cynllun gwasgaru" ar gyfer mynediad i'r digwyddiad(au) a gadael y digwyddiad(au) i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch a'u cytuno i'w cynnwys yn y CRhDD gan gynnwys y ddarpariaeth cludiant i'r digwyddiad ac oddi yna a'r Cynllun Rheoli Traffig/Cynllun Allanfeydd hollgynhwysol.

 

50.      Lle yr ystyrir bod hynny'n angenrheidiol gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, darperir arwyddion rhybudd ymlaen llaw digonol/arwyddion mynediad i ddigwyddiadau ar y safle i gynorthwyo gyda phroblemau traffig yn yr ardal a cheisio'u lleihau.

 

51.      Cynhelir Asesiadau Risg ac Asesiadau Risg Tân addas a digonol gan berson cymwys. Bydd y digwyddiadau'n gweithredu yn unol â'r Asesiadau Risg a'r CRhDD.

 

52.      Darperir y math a'r nifer priodol o gyfarpar difodd tân ar draws y safle. Nodir lleoliadau a niferoedd y cyfarpar yn y CRhDD a'r Asesiad Risgiau Tân.

 

53.      Gosodir arwyddion addas i sicrhau y gall cwsmeriaid ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas y safle (bariau, dŵr yfed, toiledau, Cymorth Cyntaf) ac allanfeydd argyfwng.

 

54.      Bydd mynediad addas a llwybrau argyfwng yn cael eu cynnal bob amser.

 

55.      Caiff cynllun manwl o osodiad terfynol y safle ei gyflwyno i'r Awdurdod Trwyddedu a'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch o leiaf 14 niwrnod cyn i'r digwyddiad ddechrau, a dylai'r ardal lle bydd y gerddoriaeth sydd wedi'i mwyhau a'i threfnu yn cael ei chwarae gael ei hamlinellu'n glir yn goch. Dylid nodi lleoliad yr holl adeileddau a chyfleusterau gan gynnwys ffyrdd ac ardaloedd y digwyddiad yn glir a dylid dangos mynedfeydd ac allanfeydd yr holl adeileddau ac ardaloedd. Dangosir lleoliadau Cyfarpar Diffodd Tân, Mannau Cymorth Cyntaf a Mannau Gwybodaeth hefyd. Dylai'r cynllun safle gynnwys grid a chyfeirnodau.

 

56.      Bydd system giwio yn cael ei chynllunio a'i gweithredu wrth y brif fynedfa i leihau amser aros wrth gynnal diogelwch y dorf.

 

57.      Darperir lefel addas o oleuni ger yr holl fynedfeydd/allanfeydd, llwybrau mynediad/gadael a llwybrau dianc mewn argyfwng ar gyfer parhad y digwyddiad.

 

58.      Lle defnyddir goleuadau tŵr, bydd y rhain naill ai'n cael eu gosod yn ardaloedd cefn y tŷ neu wedi'u ffensio i atal mynediad i'r cyhoedd.

 

59.      Dylai bod gan y digwyddiadau system ddigonol o gyfrif a chofnodi pobl sy'n mynd i mewn ac allan o safle'r digwyddiad ar waith i sicrhau nad yw lefelau cwsmeriaid ym mhob ardal yn fwy na'r terfyn a gymeradwyir yn yr asesiad risg a'r CRhDD. Rhaid sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i swyddogion awdurdodedig drwy gydol y digwyddiad ac ar gais.

 

60.      Yn ystod y digwyddiadau byw, ni fydd unrhyw gerbydau yn symud mewn ardal gyhoeddus, oni bai bod angen fel rhan o weithgareddau hanfodol a gyflawnwyd gan y Gwasanaethau Brys.

 

61.      Os bydd yn hanfodol symud cerbydau, caiff hyn ei awdurdodi gan Ymgynghorydd Diogelwch y Digwyddiad a'i oruchwylio gan staff diogelwch.

 

62.      Llwyfannau/Pebyll/Pebyll Mawr/Adeileddau Dros Dro - Bydd gan bob strwythur adeiledd dystysgrif gwblhau a gyhoeddir gan berson cymwys o'r cwmni cyflenwi ac a ddarperir i Ymgynghorydd Diogelwch y Digwyddiad.

 

63.      Rhaid darparu tystysgrif cymeradwyo trydanol briodol, a gyhoeddwyd ar adeg y gwaith gan berson cymwys, ar gyfer pob gwaith trydanol dros dro i Ymgynghorydd Diogelwch y Digwyddiad, a rhaid iddi fod ar gael i'w harchwilio os gofynnir i chi wneud hyn gan Swyddogion Awdurdodedig.

 

64.      Dylai deiliad y drwydded mangre gydymffurfio â holl geisiadau rhesymol yr awdurdod trwyddedu ac unrhyw randdeiliad allweddol perthnasol ynghylch unrhyw ddiffygion yn y tystysgrifau a'r dogfennau y cyfeirir atynt yn y drwydded hon a sicrhau y cynhelir y safonau a ardystiwyd yn ystod y digwyddiad.

 

65.      Bydd deiliad y drwydded mangre neu'r cynrychiolydd enwebedig yn rheoli'r systemau sain fel y gall negeseuon sy'n cael eu cyhoeddi dorri ar draws yr adloniant cerddorol ac y gellir eu cyflwyno'n glir ac yn glywadwy i bob ran o'r safle.

 

66.      Ni chaniateir poteli gwydr na chynwysyddion yfed gwydr yn yr ardaloedd sy'n hygyrch i'r cyhoedd a bydd deiliad y drwydded mangre yn cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i atal personau rhag dod ag unrhyw eitemau gwydr i'r safle. Bydd gwydr yn cael ei gadw y tu ôl i fariau a bydd diodydd yn cael eu harllwys i lestri plastig neu bolycarbonad. Bydd caniau hefyd yn cael eu harllwys i lestri plastig. Gall nifer cyfyngedig o wydrau fod yn bresennol mewn ardaloedd artistiaid a lletygarwch cefn llwyfan ond bydd gan ddeiliad y drwydded mangre fesurau ar waith i sicrhau nad yw'r rhain yn cael eu cario i'r prif ardaloedd adloniant cyhoeddus.

 

67.      Bydd awdurdodau perthnasol yn cymeradwyo unrhyw byrodechnegau/laserau ymlaen llaw a chânt eu storio i leihau unrhyw risg i ddiogelwch y rheini sy'n defnyddio'r fangre.

 

68.      Bydd unrhyw arddangosiadau pyrotechnegol yn dilyn yr holl ganllawiau deddfwriaeth cyfredol a dim ond cyflenwyr cymwys y mae eu safonau wedi'u harchwilio ymlaen llaw fydd yn ymgymryd â nhw.

 

69.      Bydd pob agwedd ar ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei thrafod ymlaen llaw gyda'r rhanddeiliaid allweddol perthnasol yn ystod y broses Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch. Amlinellir manylion y rhain yn llawn yn y CRhDD.

 

70.      Cyn i safle'r digwyddiad agor i'r cyhoedd, gwahoddir aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch i gynnal archwiliad o'r safle.

 

71.      Bydd trefnwyr yn cyflogi darparwr diogelwch dŵr annibynnol yn lle, neu yn ogystal â'r RNLI, cytunir ar ddarparwyr fel Coast to Coast Water Safety, Surf Life Saving Association GB a Goruchwyliwr Achubwyr Bywyd yr RNLI Lleol a fydd yn rhoi sylw i ddiogelwch dŵr drwy gydol y digwyddiad ac yn sicrhau nad yw'r digwyddiad yn amharu ar batrol yr RNLI lleol ac maent yn gallu darparu eu gwasanaethau arferol.

 

72.      Na ddylid cynnal unrhyw ddigwyddiad yn ystod llanwau'r gwanwyn a bod polisi diogelwch dŵr cynhwysfawr ar waith.

 

Meddygol a Lles

 

73.      Bydd deiliad y drwydded mangre yn cynnal Asesiad Risg Meddygol addas a digonol yn ogystal â defnyddio HSG195 i bennu'r lefel briodol o ddarpariaeth Cymorth Cyntaf ar gyfer y digwyddiadau, fel nad oes galw gormodol ar adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Darperir manylion llawn yn y Cynllun Meddygol a'r CRhDD.

 

74.       Darperir cyfleusterau lles fel yr amlinellir yn y CRhDD.

 

75.       Bydd Polisi Pobl Agored i Niwed yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r CRhDD.

 

76.      Dylai deiliad y drwydded mangre wneud trefniadau addas i alluogi pobl ag anableddau i fynd i'r digwyddiadau. Dylid rhoi sylw penodol i fynedfeydd ac allanfeydd, llwybrau dianc/gadael mewn argyfwng a'r cyfleusterau gwylio i bobl o'r fath.

 

 

Rheoli Gwastraff/Toiledau

 

77.      Bydd gweithdrefnau casglu a gwaredu sbwriel digonol ar waith y tu mewn ac o gwmpas cyffiniau'r digwyddiad. Bydd y gwaith glanhau ar ôl y digwyddiad yn cael ei gynllunio a'i drafod ymlaen llaw gyda'r rhanddeiliaid allweddol perthnasol er mwyn bod mor effeithiol â phosib o ran amser. Cytunir ar gwmpas y gwaith glanhau ar ôl y digwyddiad gyda’r Tîm Parciau cyn y digwyddiad.

 

78.      Cesglir a gwaredir gwastraff yn aml i atal sbwriel a/neu ddeunyddiau hylosg a all fod yn beryglus, rhag cronni.

 

79.      Darperir digon o garthffosiaeth yn unol ag arweiniad cyfredol (The Purple Guide 2017) a'r hyn a fanylir yn y CRhDD.

 

80.      Bydd darpariaeth iechydol ddigonol yn cael ei rhoi ar waith yn y digwyddiad ac mewn ardaloedd allanol yn y cyffiniau y cytunwyd arnynt (os ystyrir bod hynny'n angenrheidiol gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch).

 

81.      Ni chwaraeir unrhyw gerddoriaeth sydd wedi'i mwyhau ar ôl 23:00.

 

82.      Bydd Ymgynghorydd Rheoli Sŵn profiadol sydd â chymwysterau addas yn cymryd rhan er mwyn cysylltu â Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd i ddatblygu a gweithredu Cynllun Rheoli Sŵn y CRhDD.

 

83.      Ni ddylai'r Lefel Sŵn Cerddoriaeth mewn mangreoedd sy'n sensitif i sŵn yn y cyffiniau fod yn uwch na 65 dBA dros gyfnod o 15 munud.

 

84.      Bydd yr Ymgynghorydd Rheoli Sŵn yn monitro lefelau sŵn o'r digwyddiad yn ofalus er mwyn sicrhau nad ydynt yn uwch na'r lefelau dB hyn. Bydd pob darlleniad dB ar gael i Swyddog Iechyd yr Amgylchedd gydag adroddiad llawn ar ôl y digwyddiad yn cael ei ddarparu heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod ar ôl y digwyddiad.

 

85.      Bydd preswylwyr lleol yn derbyn hysbysiad ymlaen llaw am bob digwyddiad gan gynnwys manylion amseru'r digwyddiad (gan gynnwys gwiriadau sain). Cytunir ar radiws dosbarthu'r llythyr hysbysu gyda'r awdurdod lleol. Mae hyn i gynnwys busnesau lleol y gallai mynychwyr effeithio arnynt wrth ddod i mewn ac allan o'r digwyddiad.

 

86.      Bydd "llinell gymorth" sŵn hefyd yn cael ei chynnwys i ganiatáu i breswylwyr gysylltu â chynrychiolydd digwyddiad os bydd angen iddynt wneud cwyn yn ystod y digwyddiad.

 

87.      Bydd yr holl alwadau i'r llinell gymorth sŵn yn cael eu cofnodi a bydd yr wybodaeth berthnasol yn cael ei rhoi i'r Ymgynghorydd Rheoli Sŵn.

 

88.      Lle y bo'n bosib, gwneir cyflenwadau/casgliadau o'r safle ar adeg resymol er mwyn cael yr effaith leiaf bosib ar breswylwyr lleol.

 

89.      Gosodir arwyddion a fydd yn dweud wrth fynychwyr digwyddiadau i adael yn dawel er mwyn peidio ag amharu ar breswylwyr lleol.

 

90.      Ni chaniateir adloniant i oedolion.

 

91.      Bydd Polisi Her 25 mewn grym ym mhob bar ar y safle.

 

92.      Bydd arwyddion addas ar waith i roi gwybod i gwsmeriaid am y Polisi Her 25.

 

93.      Rhoddir sylw arbennig i wirio cardiau adnabod wrth i bobl gyrraedd y a bariau.

 

94.      Rhaid i unrhyw un o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn wrth gyrraedd y safle (gweler y Cynllun Rheoli Digwyddiadau – Cynllun Tocynnau am ragor o fanylion)

 

95.      Lle bo'n berthnasol ac fel y cytunwyd gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, bydd gweithwyr lles plant proffesiynol â chymwysterau addas/profiad (sydd â gwiriad GDG) yn bresennol i helpu gyda materion o ran pobl ddiamddiffyn/diogelu.

 

96.      Bydd polisi plant/pobl sy'n agored i niwed coll/a ganfuwyd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r CRhDD.

 

97.      Bydd personél meddygol â chymwysterau addas ar gael i ymdrin ag unrhyw faterion sy'n ymwneud â phlant fel y bo'n briodol.

 

 

Rheswm dros y Penderfyniad:   

 

Nododd y Pwyllgor sylwadau a dderbyniwyd gan yr awdurdodau cyfrifol.

 

Nododd y Pwyllgor yr holl sylwadau gan drigolion lleol a'r sylwadau a wnaed gan y cynghorydd ward lleol.

 

Nododd y pwyllgor nad oedd unrhyw sylwadau wedi'u derbyn gan Safonau Masnach, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, yr awdurdod cynllunio, amddiffyn plant, y bwrdd iechyd lleol neu fewnfudo.

 

Ystyriodd y pwyllgor y sylwadau sydd wedi'u cyfoethogi gan yr awdurdodau cyfrifol fel y nodwyd yn ystod cyfarfod y pwyllgor.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi ymgysylltu â'r awdurdodau cyfrifol cyn y pwyllgor a bod amodau addasedig sy'n hyrwyddo'r amcanion wedi'u trafod, wrth hefyd roi sicrwydd a chyllid ar gyfer GHA sy'n bodloni'r heddlu'n ddigonol gan achosi iddynt ddiddymu eu sylwadau a chefnogi'r cais bellach.

 

Nodwyd unwaith eto, ar ôl trafod ymlaen llaw ac addasiad arfaethedig pellach i'r amodau gan yr ymgeisydd, y gallai'r is-adran lygredd gefnogi'r cais ar yr amod y cydymffurfir â'r holl amodau ac nad oes unrhyw doriadau na niwsans yn codi wrth gynnal y digwyddiad. Pe bai unrhyw doriadau o'r fath yn codi yna byddent yn ymdrin â'r digwyddiad dan eu pwerau statudol.

 

Gwellodd yr awdurdod trwyddedu eu sylwadau ymhellach a chynhigiwyd amodau ychwanegol sylweddol gyda'r bwriad o hyrwyddo cynnal y digwyddiad yn ddiogel yn unol â'r amcanion trwyddedu ond gan ei wneud yn ofynnol i'r ymgeiswyr ymgysylltu'n gynnar ac yn barhaus â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.

 

Nododd y pwyllgor fod yr ymgeisydd yn cydnabod yr holl sylwadau a phryderon trwy ymgysylltu ymlaen llaw â phob parti gyda'r bwriad o liniaru pryderon y cynrychiolwyr a chynnal y digwyddiad yn unol ag amcanion trwyddedu a dewis artistiaid sy'n addas ar gyfer y lleoliad.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd hefyd barodrwydd i weithio gyda phreswylwyr lleol i helpu wrth ddatrys problemau lleol sy'n dod o'r safle.

 

Mae'r ymgeisydd yn agored i ymgysylltu â'r grŵp cynghori ar ddiogelwch yn gynnar ac yn cydnabod manteision arferion gwaith da gyda'r holl awdurdodau cyfrifol.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd yn dweud ei fod yn fodlon â'r amodau arfaethedig ychwanegol, er wrth wneud hynny awgrymodd y byddai addasu amod 9 i gyfnod rhybudd o 4 mis yn gwneud y dyddiad arfaethedig yn anymarferol ac felly byddai'n debygol y byddai angen chwilio am ddyddiad arall. Ystyriodd yr aelodau sylw a chynigion yr awdurdodau trwyddedu a'r posibilrwydd o ddyddiad arall. Penderfynodd yr aelodau fod cynnydd o 56 o ddiwrnodau i 3 mis yn gymesur gan roi amser ychwanegol i bob parti ymgysylltu â'r grŵp cynghori ar ddiogelwch, wrth ganiatáu i'r digwyddiad gael ei gynnal ar y dyddiad arfaethedig a hefyd gyd-fynd â sylwadau'r heddlu i allu trosglwyddo cyrff sydd eisoes ar gael i'r digwyddiad pe bai angen.

 

Felly, teimlai'r aelodau fod y mesurau lliniaru sy'n cael eu cynnig, gydag addasiadau sy'n cynnwys rhai o'r argymhellion a gyflwynwyd gan yr awdurdod trwyddedu sef amodau 9, 11, 49, 71, 72 a bod y drwydded yn un blwyddyn yn ddigonol ac yn ddigon sylweddol i liniaru'r sylwadau sy'n weddill i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

 

 

Hawl Apelio:

 

Ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn mae gennych hawl i apelio i'r Llys Ynadon.

 

Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig i Brif Weithredwr yr Ynadon o fewn 21 diwrnod i ddyddiad derbyn yr hysbysiad hwn.