Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod. Rhoddodd y Cyfreithiwr drosolwg cynhwysfawr o'r weithdrefn i'w mabwysiadu
gan yr is-bwyllgor wrth ystyried y cais. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ar y cais am drwydded mangre mewn perthynas ag Arena Abertawe, Oystermouth Road, Bae Copr, Abertawe SA1 3BX. Cyfeiriodd at yr amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi a'r arweiniad gan
y Swyddfa Gartref. Cyfeiriwyd yn benodol at y cais am drwydded mangre yn Atodiad A, cynllun lleoliad y safle yn Atodiad B,
yr amodau sy'n gyson â'r atodlen weithredu yn Atodiad C, y sylwadau a wnaed gan
Bobl Eraill yn Atodiad E a datganiad sefyllfa gan yr Awdurdod Cynllunio yn
Atodiad F. Derbyniwyd sylwadau yn cefnogi'r cais gan Heddlu De Cymru ar 26 Awst,
2021. Roedd y sylwadau'n manylu ar y cyfarfodydd niferus a gynhaliwyd
gyda'r Ymgeisydd ynghylch y cynllun gweithredol ar gyfer y safle. Cefnogwyd y cais ar y sail bod y fangre'n Arena amlswyddogaethol, a fyddai'n gwella a
hyrwyddo diwylliant y ddinas. Roedd
amserlen weithredol fanwl a oedd yn cynnwys nifer o amodau mewn perthynas â
chynlluniau rheoli sy'n benodol i ddigwyddiadau a fyddai'n sicrhau gweithrediad
cadarn a diogel wrth hefyd hyrwyddo amcanion trwyddedu troseddu ac anhrefn,
diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. Roedd yr amodau wedi ystyried anghenion
gweithredol yr Arena ynghyd â sut i darfu cyn lleied â phosib ar y gymuned leol
a'r gymuned ehangach o ran niwsans sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Nododd y sylwadau nad oedd y cais yn cael effaith andwyol ar yr amcanion
trwyddedu ac nid oedd unrhyw sylwadau eraill gan yr heddlu mewn perthynas â'r
cais. Mewn ymateb i gwestiynau gan Bobl Eraill a Chynghorwyr, dywedodd Mr
Hancock: 1)
Nad oedd Heddlu De Cymru wedi
cysylltu â'r preswylwyr yn uniongyrchol. 2)
Byddai plismona digwyddiadau
yn dibynnu ar y Cynllun Rheoli Digwyddiadau.
Oherwydd yr amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynigir,
ni fyddai angen i Heddlu De Cymru fod yn bresennol mewn rhai ohonynt. Byddai cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu
cynnal gyda'r gweithredwyr ynghylch digwyddiadau sydd ar y gweill a rheoli
risg. Y gweithredwyr sy'n gyfrifol yn y
pen draw am sicrhau bod eu cynlluniau gweithredu’n gadarn. 3)
Nid oedd unrhyw wybodaeth am
lygredd sŵn ac unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol o ganlyniad i gwsmeriaid
yn gadael yr Arena. Fodd bynnag, roedd y
broses angenrheidiol ar waith pe bai materion o'r fath yn codi. 4)
Ni ellid gwarantu amserau
ymateb yr heddlu mewn perthynas â digwyddiadau yn y Marina oherwydd bod y
gwasanaeth yn cael ei 'arwain gan y galw' ar draws y sir. 5)
Disgwyliad Heddlu De Cymru yw
y bydd y gweithredwyr yn llwyddiannus ac y bydd o fudd i Ddinas a Sir Abertawe. 6)
Rhagwelir y byddai preswylwyr
yn cysylltu'n uniongyrchol â'r gweithredwyr pe bai unrhyw broblemau'n deillio o
ddigwyddiadau. Byddai angen adrodd am
broblemau sy'n digwydd yn y Marina i'r Heddlu yn y modd arferol. Derbyniwyd 32 o sylwadau gan bobl eraill. Atodwyd copi o'u sylwadau yn
Atodiad E. Roedd y sylwadau'n ymwneud ag atal troseddu ac anhrefn a niwsans
cyhoeddus. Ymhelaethodd Mr A P Lewis ,a oedd hefyd yn
cynrychioli R J Williams nad oedd yn bresennol, ymhellach ar y sylwadau
ysgrifenedig a oedd yn gwrthwynebu'r cais a thynnodd sylw at ei bryderon mewn
perthynas â thanseilio'r Amcanion Trwyddedu Statudol mewn perthynas ag atal
trosedd ac anhrefn a niwsans cyhoeddus. Tynnodd Mr G Edwards sylw pellach at ei sylwadau ysgrifenedig a oedd yn
gwrthwynebu'r cais ac amlygodd ei bryderon mewn perthynas â thanseilio'r
Amcanion Trwyddedu Statudol mewn perthynas ag atal troseddu ac anrhefn a
niwsans cyhoeddus. Cyfeiriodd y Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor at sylwadau a wnaed
gan Mr J Woolliscroft nad oedd yn bresennol yn y
cyfarfod. Fodd bynnag, cadarnhaodd fod sylwadau Mr Woolliscroft
wedi'u nodi gan y Pwyllgor. Tynnodd Mrs N Smith sylw pellach at ei sylwadau ysgrifenedig a oedd yn
gwrthwynebu'r cais, ac amlygodd ei phryderon ynghylch tanseilio'r Amcanion
Trwyddedu Statudol mewn perthynas ag atal troseddu ac anrhefn a niwsans
cyhoeddus. Cyfeiriodd y Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor at y sylwadau a
wnaed gan Mrs N Smith, ynghylch llygredd golau (o ganlyniad i'r croen goleuadau
LED) a oedd yn fater i’r gyfundrefn gynllunio fynd i’r afael ag ef. Tynnodd Mr S Simmonds sylw pellach at ei sylwadau
ysgrifenedig a oedd yn gwrthwynebu'r cais ac amlygodd ei bryderon mewn
perthynas â thanseilio'r Amcanion Trwyddedu Statudol mewn perthynas ag atal
troseddu ac anrhefn a niwsans cyhoeddus. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor,
nododd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd nad oedd Mr Woolliscroft
yn bresennol yn y cyfarfod. Penderfynwyd gohirio'r
Pwyllgor tan 11.25am. Ailalwyd y cyfarfod am
11.25am. Cyfeiriodd Mr MacGreggor, Cyfreithiwr sy'n
cynrychioli'r Ymgeisydd, at y cydweithio a oedd wedi digwydd rhwng yr
awdurdodau cyfrifol, y gwasanaethau brys a phreswylwyr lleol wrth gyflwyno'r
cais i'r Pwyllgor i'w ystyried. Dywedodd Mr MacGreggor y byddai'n cael cymorth
gan Claire Dixon, Cyfarwyddwr Busnes Ambassador Theatre Group Limited (ATG), Lisa
Mart, Rheolwr Cyffredinol Penodedig, Arena Abertawe,
Lara Caple-Harding, Rheolwr Gweithrediadau, Abertawe,
Paul Laffan, Rheolwr Risg ac Arweinydd Diogelwch
Grŵp a Lee Richards, Cyfarwyddwr Prosiect, Cyngor Abertawe. Rhoddodd wybodaeth gefndir am Ambassador Theatre Group (ATG), datblygiad Bae Copr a'r Arena. Cyfeiriodd at gais a oedd yn ceisio trwydded am 365 o ddiwrnodau, o 10:00
tan 02:00 o'r gloch a chadarnhaodd na fyddai'r safle'n gweithredu ar bob
diwrnod o'r flwyddyn. Cyfeiriodd at y
gwahanol lefelau o graffu ynghylch gweithredu'r safle a'r cynllun rheoli
gweithredol ar y cyd. Cyfeiriodd Mr MacGregger at y ddogfen
cyflwyniadau amlinellol a oedd yn cefnogi'r cais a rhoddodd drosolwg
cynhwysfawr mewn perthynas â'r canlynol: ·
cyfundrefnau cynllunio a
thrwyddedu. ·
amodau sy'n gysylltiedig â'r
cais. ·
cyfarfodydd ac ymweliadau
safle helaeth (gan gynnwys y gofyniad i gyfarfod â Heddlu De Cymru a'r Awdurdod
Trwyddedu drwy gydol y flwyddyn). ·
amserlen weithredu. ·
gwerthu oddi ar y safle (a
fyddai'n cael ei gyfyngu i wyliau bwyd, priodasau etc). ·
polisi gwasgaru. ·
cynllun rheoli digwyddiadau. ·
categoreiddio'r math o
ddigwyddiadau. ·
hyfforddiant staff
(gwerthiannau dan oed, diogelwch drws). ·
Llythyr o gefnogaeth oddi wrth
Heddlu De Cymru a diffyg sylwadau gan unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol eraill. Rhannodd Mr MacGreggor fideo hyrwyddo o'r Arena a
oedd yn cynnwys arddangosfa tân gwyllt.
Fodd bynnag, nodwyd na fyddai arddangosfeydd tân gwyllt yn digwydd bob
nos o'r flwyddyn. Cyflwynodd Claire Dixon (Cyfarwyddwr Busnes Ambassador
Theatre Group Limited
(ATG)), a Lisa Mort (Rheolwr Cyffredinol Arena Abertawe) eu hunain a rhoesant
drosolwg byr o'u rolau o fewn y sefydliad. Rhannodd Mr MacGreggor gynllun o'r Arena a
chyfeiriodd at broffil risg, gweithdrefnau mynediad a gogwydd yr Arena o ran yr
LC a Chei Victoria. Anogodd Mr S Simmonds Aelodau'r Pwyllgor i gynnal
ymweliad safle â Chei Victoria cyn gwneud penderfyniad. Penderfynwyd gohirio'r
Pwyllgor tan 1.30pm. Ailalwyd y cyfarfod am
1.30pm. Rhoddodd Mr MacGreggor drosolwg cynhwysfawr o
staff, diogelwch, cyfathrebu (cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad), traffig a
chludiant yr arena a'r polisi gwasgaru. Dywedodd Lee Richards (Cyfarwyddwr Prosiect, Cyngor Abertawe) ei fod, fel
Rheolwr Adfywio Ffisegol y cyngor, yn gyfrifol am gyflawni prosiectau mawr a'i
fod wedi bod yn ymwneud â'r prosiect ers 8 mlynedd. Cyfeiriodd at y ddarpariaeth teledu cylch
cyfyng uwch ar draws y Ddinas (gan gynnwys ger mynedfa'r bwâu) ac ym meysydd
parcio'r Arena, rôl ceidwaid canol y ddinas a'r 7 aelod newydd o staff, parcio
ceir, y ddarpariaeth parcio a theithio, y croen goleuadau LED sy'n cwmpasu'r
adeilad (a fu'n rhan o'r datblygiad hwn ers cais cynllunio 2018), y cynigion ar
gyfer panel gwrychoedd a threftadaeth 1.8m rhwng Cei Fictoria a'r Arena, y
lefelau helaeth o gydweithio sy'n gysylltiedig â'r prosiect a'r sylwadau gan
breswylwyr. Mewn ymateb i gwestiwn aelod ynghylch y croen goleuadau LED, cadarnhaodd y
Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor fod hwn yn fater cynllunio. Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dywedodd cynrychiolwyr ATG: ·
Gellid cadw lle ar gyfer
digwyddiadau gydag un mis o rybudd, er y gallai hyn fod yn fyrrach. ·
Nid oedd y ddarpariaeth siop
ddiodydd drwyddedig yn rhan bwysig o'r busnes.
Cadarnhaodd Mr MacGreggor y byddai gwerthu
alcohol i'w yfed oddi ar y safle yn dod i ben am 20:00. ·
Byddai cyntedd lefel 2 ar agor
i'r cyhoedd rhwng 10:00 a 18:00 bob dydd at ddiben prynu tocynnau etc. Ni fyddai alcohol na bwyd ar gael yn ystod yr
oriau hyn. ·
Cyfrifoldeb y cyngor oedd y
croen goleuadau LED o amgylch yr adeilad ac fe'i rheoleiddiwyd o dan
ddeddfwriaeth gynllunio. Byddai'r croen
goleuadau LED yn cael ei brofi fel rhan o'r digwyddiadau prawf. Pe bai unrhyw broblemau, gellid gwanhau'r
goleuadau ar y croen goleuadau. ·
Byddai lleoedd parcio ceir yn
cael eu hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol cyn unrhyw ddigwyddiadau, ynghyd â
dulliau eraill o deithio. ·
Nid oedd yr oriau gweithredu a
geisiwyd gan yr ymgeisydd yn anarferol ar gyfer Arenâu neu Stadia o ystyried
natur y busnes a oedd yn gofyn am hyblygrwydd gyda dyddiadau ac oriau gweithredu
wrth drefnu bandiau, sioeau theatr etc. ·
Roedd mesurau cadarn (a oedd
yn cynnwys ardaloedd gollwng cyfyngedig a gweithdrefnau gwasgaru cyflym ar
gyfer cwsmeriaid) ar waith er mwyn rheoli'r risg sy'n gysylltiedig â
therfysgaeth a chamddefnyddio cyffuriau.
Roedd y polisi diogelwch yn gofyn am gydweithio â'r cyngor, Ceidwaid
Canol y Ddinas a Heddlu De Cymru gan sicrhau bod cyfrifoldeb cyffredinol yn
cael ei rannu. ·
Roedd angen tocynnau ar gyfer
digwyddiadau ac roedd yn ofynnol i gwsmeriaid gyrraedd gyda thocyn, ar yr amser
priodol a oedd yn benodol i berfformiad.
Roedd cwsmeriaid wedi'u gwahardd rhag ceisio mynd yn ôl i mewn i'r
lleoliad ar ôl ei adael (o 12 hanner nos), ac eithrio'r rheini sy'n dymuno
smygu yn yr ardaloedd smygu dynodedig. ·
Byddai potelu'n cael eu
gwaredu yn y lleoliad ac ni fyddai hyn yn digwydd rhwng 23:00 ac 08:00. ·
Byddai rhif cyswllt y tu allan
i oriau ar gael i breswylwyr lleol. ·
Byddai cais am Oruchwyliwr Mangre Dynodedig yn cael ei wneud yn ddiweddarach. Dywedodd Mr J Hancock, Heddlu De Cymru, fod y sylwadau ynglŷn â'r
ffaith nad oedd yr Heddlu wedi mynegi unrhyw bryderon yn anghywir a bod y cais
wedi'i ystyried yng nghyd-destun yr Amcanion Trwyddedu. Er bod digwyddiadau yn ardal y Marina yn
hanesyddol, byddai unrhyw faterion sy'n gysylltiedig â throseddu ac anhrefn yn
deillio o gwsmeriaid sy'n mynd i’r Arena yn destun yr un gorfodaeth gadarn ag
ardaloedd eraill yng Nghanol y Ddinas. Daeth Mr MacGreggor i'r casgliad: ·
Fod yr ymgeisydd yn arweinydd
byd-eang wrth weithredu lleoliadau adloniant ar raddfa fawr. ·
Mae'r cais yn gyson â Pholisi
Trwyddedu'r cyngor. ·
Mae'r cais yn gyson â'r
Canllawiau Cenedlaethol Diwygiedig ar gyfer Awdurdodau Trwyddedu dyddiedig
Ebrill 2018. ·
Mae'r cais yn gyson â'r
caniatâd cynllunio a roddwyd gan Bwyllgor Cynllunio'r Awdurdod Trwyddedu. ·
Mae'r cais yn gyson â
blaenoriaeth strategol y cyngor i adeiladu a datblygu Arena perfformiadau byw a
man cynadledda o'r radd flaenaf. ·
Mae'r Canllawiau Cenedlaethol
a pholisi trwyddedu'r cyngor ei hun yn cydnabod pwysigrwydd integreiddio
strategaethau cynllunio, trwyddedu a diwylliannol ymysg pethau eraill. ·
Mae'r Ymgeisydd wedi cytuno ar
atodlen ddiwygiedig o amodau gyda'r awdurdodau cyfrifol. ·
Nid oes unrhyw sylwadau
negyddol ynghylch y cais gan unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol. ·
Cefnogir y cais gan Heddlu De
Cymru. ·
Mae'r Cynlluniau Arena a
Rheoli Digwyddiadau y cyfeirir atynt yn amserlen caniatâd cynllunio a
gweithredu'r drwydded yn ymdrin yn uniongyrchol â'r pryderon a godwyd gan y
preswylwyr lleol a byddant yn destun craffu gofalus gan y cyngor a chyrff
statudol eraill. ·
Bydd y cynlluniau Arena a
Rheoli Digwyddiadau yn parhau i gael eu haddasu a'u diwygio unwaith y bydd yr
Arena ar agor. ·
Os caiff pryderon preswylwyr
lleol eu gwireddu, mae gweithdrefnau a phrotocolau adolygu a gorfodi
cynhwysfawr i'w dilyn, a phrotocol 37. Wrth gydbwyso pryderon y preswylwyr yn
erbyn y cais, dan yr holl amgylchiadau mae'n iawn ac yn briodol i'r Is-bwyllgor
Trwyddedu ddod i'r casgliad, yn seiliedig ar brofiad, nad yw'r safleoedd hyn yn
debygol o danseilio'r amcanion trwyddedu a, dan yr holl amgylchiadau, mae pob
rheswm da pam y dylid cymeradwyo'r cais. Penderfynwyd
eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau
Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor
cyfreithiol. (Sesiwn
Gaeëdig) Trafododd yr aelodau'r materion
ynghylch y cais. Penderfynodd yr
Is-bwyllgor gymeradwyo'r cais y gwnaed cais amdano yn amodol ar
amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u diwygiwyd yn briodol i
hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod. 1)
Bydd y Safle'n gweithredu fel
man digwyddiadau a chynadledda amlswyddogaethol. 2)
Bydd Cynllun Rheoli
Digwyddiadau (CRhD) sy'n benodol i safle yn cael ei
ddatblygu a'i rannu gyda'r Awdurdod Trwyddedu, yr Heddlu ac Awdurdodau Cyfrifol
eraill (yn ôl y gofyn) yn barhaus. 3)
Bydd y CRhD
yn cynnwys manylion am bynciau fel (ond heb fod yn gyfyngedig i): ·
Gynllun safle ·
Cynlluniau trefn ·
Asesiadau risg ·
Proffil artistiaid ·
Mesurau gwrthderfysgaeth ·
Asesiad Risg Tân ·
Cynllun Rheoli Diogelwch ·
Rheoli nifer y bobl yn y
lleoliad ·
Defnyddio gwydrau gwydr ·
Polisi Cyffuriau ·
Cynllun Rheoli Alcohol ·
Cynllun Rheoli Traffig ·
Cynllun Rheoli Meddygol ·
Cynllun Tywydd Garw ·
Cynllun Cyfathrebu mewn
Argyfwng ·
Cynllun Rheoli Sŵn ·
Cynllun Mynediad, Gadael a
Gwasgariad ·
Polisi Lles Plant/Pobl
Ddiamddiffyn ·
Ymgysylltu â Phreswylwyr a'r
Gymuned Leol 4)
Bydd y CRhD
(a'r atodiadau) yn ddogfennau 'byw' a fydd yn cael eu hadolygu a'u diwygio yng
nghyfnodau cynllunio digwyddiadau'r safle. Mae'r dogfennau hyn i'w rhannu ag
Adran Trwyddedu'r Awdurdod Lleol a Thrwyddedu'r Heddlu i'w hystyried cyn eu
gweithredu. 5)
Bob blwyddyn ym mis Ionawr
rhaid bod trafodaeth ffurfiol yn cael ei chynnal rhwng yr Awdurdod Trwyddedu,
deiliad y drwydded mangre a Heddlu De Cymru i drafod
y digwyddiadau arfaethedig ar gyfer y flwyddyn. Bydd trafodaethau'n cynnwys
proffil o'r digwyddiad a nifer disgwyliedig y bobl a fydd yn dod iddo, a
byddant yn nodi unrhyw adnoddau ychwanegol y gall fod eu hangen. 6)
Rhaid i Ddeiliad y Drwydded
Safle gydymffurfio â'r CRhD. 7)
Bydd Deiliad y Drwydded Safle
yn ymgysylltu â chyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch (SAG) ac yn eu
mynychu. 8)
Digwyddiadau Bach – Ar gyfer
digwyddiadau lle nad oes mwy na 1,000 o bobl yn bresennol (gan gynnwys, er
enghraifft, ond heb fod yn gyfyngedig i giniawau ffurfiol, seremonïau gwobrwyo,
digwyddiadau preifat etc.) yr awr derfynol ar gyfer gwerthu alcohol fydd 02:00,
gyda'r safle i fod yn glir o gwsmeriaid erbyn 02:30. 9)
Digwyddiadau Canolig – Yn
amodol ar amod 10 isod, ar gyfer digwyddiadau lle nad yw nifer y bobl yn fwy na
2,500 (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i setiau DJ, nosweithiau clwb) yr
awr derfynol ar gyfer gwerthu alcohol fydd 02:00 gyda'r safle i fod yn glir o
gwsmeriaid erbyn 02:30. 10)
Digwyddiadau Mawr – Ar gyfer
digwyddiadau lle mae nifer y bobl yn fwy na 2,500, yr awr derfynol ar gyfer
gwerthu alcohol a darparu Gweithgareddau Trwyddedadwy
(ac eithrio'r ardaloedd VIP) fydd 23:00 gyda'r safle i fod yn glir o gwsmeriaid
erbyn 23:30 ac eithrio'r ardal VIP lle mai 00:00 fydd yr awr derfynol ar gyfer
gwerthu alcohol. Bydd yr ardal VIP yn glir o gwsmeriaid erbyn 00:30. 11)
Caiff digwyddiadau lle mae DJ
fel y brif ffynhonnell adloniant a thros 2,000 o bobl yn bresennol, lle mae'r
ddarpariaeth adloniant a reoleiddir yn dod i ben ar ôl 00:00, eu cynnal ar
ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddydd Llun Gŵyl y Banc yn unig,
gydag un digwyddiad ar y mwyaf yn cael ei gynnal bob penwythnos (i gynnwys dydd
Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a Dydd Llun Gŵyl y Banc) a bydd yn
gyfyngedig i 12 digwyddiad yn unig mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. 12)
Rhaid i Ddeiliad y Drwydded
Safle sicrhau: a)
Bod camerâu teledu cylch cyfyng
ar gael yn y safle i gwmpasu pob ardal gyhoeddus, gan gynnwys yr holl
fynedfeydd ac allanfeydd. b)
Bod y system yn cofnodi
delweddau clir sy'n caniatáu adnabod unigolion. c)
Bod y system teledu cylch
cyfyng yn gallu cipio o leiaf 24 ffrâm yr eiliad a rhaid cadw'r holl luniau a
gofnodwyd yn ddiogel am o leiaf 28 niwrnod. ch) Bod y system teledu cylch cyfyng yn gweithredu bob
amser tra bo'r safle ar agor ar gyfer Gweithgareddau Trwyddedadwy. d)
Rhaid i'r amser a'r dyddiad
fod yn gyson a chywir ar yr holl gyfarpar. dd)
Bod gan y system teledu cylch
cyfyng swyddogaethau diogelwch i atal ymyrryd â recordiadau h.y. wedi'u diogelu
â chyfrinair. e)
Bod aelodau o staff
hyfforddedig yn y safle yn ystod oriau gweithredu sy'n gallu darparu copïau y
gellir eu gweld ar gais i'r Heddlu neu Swyddogion Awdurdodedig cyn gynted ag y
bo'n rhesymol ymarferol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 (neu unrhyw
ddeddfwriaeth newydd). 13)
Bod cofnod o ddigwyddiadau (y
gellir ei gofnodi'n electronig) yn cael ei gadw yn y safle am o leiaf chwe mis,
a'i fod ar gael ar gais i'r Heddlu neu swyddog Awdurdodedig yr Awdurdod
Trwyddedu, a fydd yn cofnodi'r digwyddiadau canlynol gan gynnwys manylion
perthnasol: (a)
Bod yr holl droseddau'n cael
eu hadrodd i'r lleoliad, neu gan y lleoliad i'r Heddlu. (b)
Unrhyw achosion o droi
cwsmeriaid allan. (c)
Unrhyw achosion o anhrefn. ch) Unrhyw gyffuriau, arfau tramgwyddus, cardiau adnabod
twyllodrus neu eitemau eraill sy'n
cael eu hatafaelu. (d)
Unrhyw ddiffygion yn y system
teledu cylch cyfyng, offer chwilio neu offer sganio. (dd)
Unrhyw wrthodiad i werthu
alcohol. (e)
Unrhyw ddiffygion yn y system
teledu cylch cyfyng. (f)
Unrhyw ymweliad gan Awdurdod
Perthnasol neu Wasanaeth Brys. (ff)
Amserau dyletswydd, enwau a
rhifau trwydded goruchwylwyr drws trwyddedig a gyflogir gan y safle. 14)
Rhaid bod "Blwch Cyffuriau"
y gellir ei gloi yn y fangre nad oes gan unrhyw aelod
o staff, heblaw'r Goruchwyliwr Safle Dynodedig (GSD)
ac aelodau rheoli enwebedig, fynediad iddo. Rhaid i'r holl gyffuriau rheoledig
neu eitemau yr amheuir eu bod yn cynnwys cyffuriau rheoledig a geir yn y safle
gael eu rhoi yn y blwch hwn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a rhaid
rhoi'r cyfan i swyddog dynodedig Heddlu De Cymru i'w waredu'n briodol. 15)
Rhaid i Ddeiliad y Drwydded
Safle lenwi ffurflen asesu ysgrifenedig, fel y nodir gan yr Awdurdod Trwyddedu,
a sicrhau ei bod ar gael i'w harchwilio o leiaf 7 niwrnod cyn digwyddiad sy'n ·
cael ei gynnal gan unrhyw
berson nad yw'n gysylltiedig â'r lleoliad: ac ·
sydd wedi'i hyrwyddo/hysbysebu
i'r cyhoedd. 16)
Caiff staff perthnasol a phriodol
eu hyfforddi ynghylch y canlynol: a)
Cyfyngiad oedran perthnasol
mewn perthynas â nwyddau â chyfyngiad oed. b)
Adnabod arwyddion meddwdod a
bod yn agored i niwed. c)
Sut mae gor-wasanaethu
alcohol yn effeithio ar bedwar Amcan Trwyddedu Deddf Trwyddedu 2003. ch) Polisi Dyletswydd Gofal y Safle, deall ac ymdrin â
sefyllfaoedd sy'n ymwneud â
phobl sy'n agored i niwed. d)
Camau i'w cymryd os bydd
argyfwng, gan gynnwys cadw'r man fel mae a rhoi gwybod am ddigwyddiad i'r
gwasanaethau brys. dd)
Yr amodau sydd mewn grym o dan
y drwydded hon. 17)
Rhaid i'r hyfforddiant gynnwys
tystiolaeth bod yr hyfforddai wedi ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o'r
hyfforddiant, a all gynnwys prawf neu gwis, wedi'i gwblhau a'i lofnodi gan yr
hyfforddai. Cedwir cofnodion wedi'u dogfennu o'r hyfforddiant a gwblhawyd ar
gyfer pob aelod o staff. 18)
Bydd hyfforddiant yn cael ei
adnewyddu'n rheolaidd, o leiaf bob 6 mis. 19)
Bydd cofnodion hyfforddi ar
gael i'w harchwilio ar gais Swyddog Heddlu neu Swyddog Awdurdodedig yr
Awdurdod. 20)
Bydd y safle'n arddangos
arwyddion amlwg sy'n nodi (ar unrhyw adeg gwerthu, wrth fynedfa'r safle) ei bod
yn drosedd prynu, neu geisio prynu, alcohol i berson dan 18 oed. 21)
Rhaid gweithredu'r cynllun Her
21 i sicrhau y bydd unrhyw berson y mae'n ymddangos ei fod dan 21 oed yn darparu
prawf wedi'i ddogfennu ei fod dros 18 oed. Dim ond pasbort, trwydded yrru â
llun, cerdyn adnabod cenedlaethol yr UE/AEE neu ddogfen debyg, cerdyn gwarant
Lluoedd EM, cerdyn sy'n cynnwys hologram PASS neu unrhyw dechnoleg dilysu
oedran electronig neu fiometrig a gymeradwywyd gan yr
Awdurdod Trwyddedu a ystyrir fel prawf o oedran. 22)
Rhaid cadw cofnod gwrthod yn y
safle sy'n rhoi manylion yr holl wrthodiad i werthu alcohol. 23)
Rhaid i'r cofnod hwn gynnwys
dyddiad ac amser y digwyddiad, disgrifiad o'r cwsmer, enw'r aelod o staff a
wrthododd y gwerthiant a'r rheswm pam y gwrthodwyd y gwerthiant. Rhaid gwneud
pob cais o fewn 24 awr i'r gwrthodiad. Rhaid i'r cofnod fod ar gael i'w
archwilio a'i gopïo o fewn 24 awr i gais gan Swyddog Awdurdod Cyfrifol. 24)
Bydd darpariaeth diogelwch
drws ar y safle'n destun asesiad risg. 25)
Bydd copi o'r asesiad risg yn
cael ei gadw ar y safle a bydd ar gael i'r Heddlu a'r Awdurdod Trwyddedu ar
gais. 26)
Caiff yr asesiad risg ei
adolygu o leiaf bob blwyddyn. 27)
Wrth gyflogi Goruchwylwyr
Drysau, caiff cofrestr ohonynt ei chadw. Rhaid i'r gofrestr ddangos y manylion
canlynol: ·
Rhif cofrestru SIA llawn. ·
Dyddiad ac amser y dechreuodd
y Goruchwyliwr Drws ei ddyletswydd, wedi'i gydlofnodi gan y Rheolwr Dyletswydd. ·
Dyddiad ac amser gorffen y
Goruchwyliwr Drws. ·
Rhaid cofnodi unrhyw
ddigwyddiad neu ddigwyddiad o ddiddordeb sy'n ymwneud â Throseddu ac Anhrefn
neu Ddiogelwch y Cyhoedd, gan roi enwau'r Goruchwyliwr Drws sydd ar
ddyletswydd. 28)
Bydd y gofrestr Goruchwyliwr
Drysau yn cael ei chadw yn y safle a bydd ar gael i'w harchwilio gan Swyddog
Awdurdodedig o'r Awdurdod Lleol a'r Heddlu, a chaiff ei chadw am gyfnod o 12
mis. 29)
Gellir gwerthu alcohol o fariau a ganiateir fel y dangosir ar y cynlluniau a
adneuwyd, o fariau dros dro a chan werthwyr symudol. 30)
Caiff unrhyw far dros dro/far
symudol ei leoli o fewn yr ardal drwyddedig fel y dangosir ar y cynllun a
adneuwyd. 31)
Bydd lleoliad unrhyw far
symudol dros dro yn destun asesiad risg gan Ddeiliad y Drwydded a chaiff ei leoli
mewn lle nad yw'n rhwystro neu atal mynediad i'r safle/gadael y safle neu
lwybrau dianc. 32)
Bydd copi o'r asesiad risg yn
cael ei gadw ar y safle a bydd ar gael i gynrychiolwyr awdurdodedig yr Heddlu
a'r Awdurdod Trwyddedu ar gais. 33)
Gwerthir unrhyw alcohol i'w
yfed oddi ar y safle mewn cynwysyddion wedi'u selio yn unig. 34)
Ni osodir unrhyw unedau sain
allanol ar y safle. Mae'r cais wedi'i addasu ac ychwanegir yr amodau canlynol:- a)
Dim alcohol a werthwyd i'w
gymryd oddi ar y safle ar ôl 8pm b)
Ni chaniateir symud, gwaredu
na gosod gwastraff, gan gynnwys poteli, yn yr ardaloedd awyr agored rhwng 23:00
ac 08:00. c)
Dim mynediad nac ail-fynediad
i ddigwyddiadau ar ôl hanner nos; ac eithrio pobl sy'n gadael i smygu. d)
Darperir rhif cyswllt y
rheolwr ar ddyletswydd perthnasol i breswylwyr ar yn ystod oriau gweithredu. e)
Sicrheir bod y poteli sy'n
cael eu gwaredu i'r man sbwriel wedi'i gyfyngu i'r man amgaeedig. Rheswm dros y Penderfyniad Ystyriodd yr Aelodau'n llawn yr holl sylwadau gan breswylwyr a ddarparwyd
yn ysgrifenedig, ac yr ymhelaethwyd arnynt ar lafar yn ystod y pwyllgor. Nododd yr Aelodau sylwadau'r preswylwyr ynghylch yr oriau gweithredu y
gwnaed cais amdanynt a rhoddwyd ystyriaeth lawn iddynt. Nododd y Pwyllgor hefyd
y sylw a roddwyd gan yr Ymgeiswyr yn cadarnhau'r rhesymau pam eu bod wedi gofyn
am oriau llawn bob dydd. Nododd y Pwyllgor y sylw y byddai unrhyw oriau
gweithredu llai yn cael effaith andwyol ar y posibilrwydd o denu artistiaid a
gweithredu'r Arena. Nododd yr Aelodau'r anawsterau gweithredol o ddefnyddio lleoliad fel yr
Arena hon 365 diwrnod o'r flwyddyn.
Roeddent yn gwerthfawrogi bod y cynllunio, y sefydlu a newid y cynllun
ar gyfer lleoliad amlswyddogaethol yn wahanol iawn ac yn gofyn am amser rhwng
digwyddiadau. Roedd hyn yn arbennig o
berthnasol i bryderon y preswylwyr lleol y gellid defnyddio'r lleoliad hwn am
365 niwrnod y flwyddyn tan 2.30am. Cadarnhawyd gan yr Ymgeisydd nad oeddent yn
bwriadu defnyddio'r Arena 365 diwrnod y flwyddyn. Nododd yr Aelodau fod HDC yn cefnogi'r cais yn dilyn nifer o ddeialogau
cadarn a heriol gydag ATG, lle ffurfiwyd yr CRhD.
Mae'r amodau a gynigir yn y CRhD
yn caniatáu i swyddogion lleol yr Heddlu a'r cyngor herio effeithiolrwydd y CRhD yn barhaus a delio ag unrhyw faterion yn rheolaidd,
ond roedd y pwyllgor o'r farn y dylid cynnwys sylwadau'r preswylwyr hefyd wrth
ystyried y CRhD yn barhaus. Nododd yr Aelodau y bwriedir cynnal tri digwyddiad prawf yn gynnar y
flwyddyn nesaf cyn defnyddio'r Arena yn llawn ac y byddai'r holl randdeiliaid a phreswylwyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan
a rhoi adborth i lywio unrhyw newidiadau sydd eu hangen i'r CRhD. Nododd yr Aelodau fod y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig sydd wedi bod yn rhan
o'r cynllun a gynlluniwyd i wagio pobl o'r cyffiniau yn cael ei ystyried ar hyn
o bryd ac fe'i croesawyd gan rai preswylwyr sy'n byw yn y marina i leihau
traffig yng Nghei Victoria, sy'n ffordd bengaead, yn hwyr yn y nos/yn gynnar yn
y bore pan gynhelir digwyddiadau. Nododd yr Aelodau y bu deialog sylweddol gyda'r holl bartïon ac ATG cyn y
gwrandawiad a bod hyn wedi llywio'r Cynllun Rheoli Digwyddiadau hyd yn
hyn. Nodwyd hefyd mai dogfen fyw oedd
hon a fyddai'n destun ymgynghoriad cyson a diwygiadau/adolygiad. Nodwyd y byddai Ceidwaid y Ddinas ychwanegol yn cael eu cyflogi ac y
byddent yn cael eu defnyddio i gynorthwyo aelodau o'r cyhoedd a helpu i wasgaru
pobl sy'n gadael digwyddiadau. Nododd yr Aelodau'r polisi gwasgaru drafft a chydnabuwyd ei bod hefyd yn
ddogfen fyw a fydd yn cael ei hadolygu'n gyson.
Derbyniwyd y materion sy'n peri pryder ynghylch y cwsmeriaid hynny sy'n
dymuno gwasgaru i'r Marina a derbyniwyd y mesurau o fewn y polisi gwasgaru
presennol i osgoi niwsans ac anhrefn i breswylwyr lleol drwy gyfeirio pobl i
ffwrdd o'r platfform, naill ai ar draws y bont neu i lawr y grisiau i'r llwybr
troed ac i'r heol gyfagos ar gyfer cysylltiadau cludiant. A thrwy hynny leihau
nifer yr ymwelwyr yn ardal Cei Victoria gan liniaru'r pryderon a godwyd mewn
sylwadau. Dywedwyd bod gan groen goleuadau LED yr ardal botensial i achosi niwsans;
Felly, cafodd y pwyllgor ei gyfeirio'n benodol at bwyntiau 2.15, 2.16, 2.20 a
2.21 o a182 Canllawiau Deddf Trwyddedu 2003 a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref
ym mis Ebrill 2018. Mewn ymateb, cynghorwyd y Pwyllgor bod y croen goleuadau LED wedi'i
gynllunio i raddoli o amgylch yr arena a diffodd o amgylch y cefn. Cafodd y
Pwyllgor ei gysuro gan y cadarnhad bod gweithrediad y goleuadau'n ystyriaeth
barhaus; o'r herwydd, mae modd addasu ei weithrediad a'i ddefnydd. Dywedwyd wrth yr Aelodau nad yw gweithredu'r croen goleuadau LED dan
reolaeth yr Ymgeiswyr ac felly nid yw'n orfodadwy dan
amod trwyddedadwy. Fodd bynnag, mae'r croen goleuadau
LED yn rhan o'r cynllun datblygu ac wedi'i gynnwys yn y datganiad cynllunio a
mynediad, a chan fod y croen LED yn y cam profi, dywedodd cynrychiolydd o'r
cyngor y bydd barn preswylwyr yn cael ei hystyried o ran ei ddefnydd. Nododd yr Aelodau sylwadau'r preswylwyr ynghylch lefel yr ardal blatfform a
oedd yn gyfagos i lefel ffenestri cartrefi'r preswylwyr, a achosodd bryder i'r
Aelodau. Fodd bynnag, nodir bod yr Arena yn dal i gael ei hadeiladu ac nid yw'r
wal dreftadaeth na'r sgrinio byw ar waith ar hyn o bryd. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd y bydd y gwaith plannu a sgrinio treftadaeth ar
waith cyn unrhyw ddefnydd effeithiol o'r Arena, gan felly liniaru'r pryderon
posib. Nododd yr Aelodau hefyd fod cyfleusterau parcio ychwanegol oddi ar y safle
ar gael a bod y cynllun gwasgaru yn cyfeirio pobl at y lle parcio ychwanegol
hwn. Dywedwyd hefyd y gellid hyrwyddo'r defnydd o wasanaethau parcio a theithio
lleol i helpu i arwain pobl i ffwrdd o safle'r Arena a'r ardaloedd cyfagos. I gloi, ac ar ôl rhoi ystyriaeth derfynol i'r holl wybodaeth a gyflwynwyd
i'r Pwyllgor, roedd yr Aelodau'n fodlon yr ymdriniwyd yn briodol â'r sylwadau a
gyflwynwyd, ac y byddai’r Amcanion Trwyddedu’n cael eu cynnal o ganlyniad i
ystyried y CRhD yn barhaus, ynghyd â'r rhestr
gynhwysfawr o amodau ar y drwydded a sicrwydd yr Ymgeisydd o gydymffurfio â'r
amodau a'r camau lliniaru sylweddol. |