Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y
cadeirydd yr holl gyfranogwyr i'r cyfarfod gan amlinellu'r weithdrefn i'w
mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais. Gofynnodd y
Cadeirydd i'r holl gynrychiolwyr gyflwyno'u hunain. Adroddodd y Swyddog
Trwyddedu am y cais am drwydded mangre newydd mewn
perthynas â Bonymaen Local,
1 Heol Llanerch Bôn-y-maen, Abertawe SA1 7AY
Cyfeiriodd at yr amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi a'r arweiniad gan y
Swyddfa Gartref. Cyfeiriwyd yn benodol at y cynllun lleoliad ar gyfer y fangre yn atodiad A, cynllun lleoliad y fangre
yn Atodiad B, amodau sy'n gyson â'r atodlen weithredu yn Atodiad C, y sylwadau
a wnaed gan bobl eraill yn Atodiad D1, D2, D3, D4 a D5. Crynhodd fanylion y deisebau. Atodwyd copi
o'u sylwadau yn Atodiad D1. Roedd y sylw'n ymwneud ag atal niwsans cyhoeddus. Cyfeiriodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu at sylw gan Karen Fender
nad oedd yn gallu dod i'r cyfarfod, ac roedd wedi gofyn a allai'r pwyllgor
ystyried ei e-bost fel helaethiad o'i sylw gwreiddiol yn Atodiad D3. Nododd
aelodau'r sylwadau a helaethwyd. Ar ran llofnodwyr
dwy ddeiseb yn Atodiad D1, ymhelaethodd y Cynghorydd P Lloyd, Cynghorydd Ward
dros Fôn-y-maen, ymhellach ar y sylwadau ysgrifenedig a oedd yn gwrthwynebu'r
cais, ac amlygodd ei bryderon ynghylch tanseilio'r Amcanion Trwyddedu Statudol
mewn perthynas â niwsans cyhoeddus. Dywedodd Mr S Kanapathi, yr Asiant a oedd yn cynrychioli'r ymgeisydd, Mr
E Thamilselvan, fod gan yr ymgeisydd 10 mlynedd o
brofiad o redeg busnes yng Nghaerdydd, sy'n debyg. Mae'r ymgeisydd yn byw
uwchben y fangre yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.
Cyfeiriodd at y sylwadau ysgrifenedig a datganodd fod yr ymgeisydd yn dymuno
lleihau'r awr derfynol i 10pm. Mewn ymateb i
gwestiynau'r aelodau cadarnhaodd yr ymgeisydd y canlynol: ·
Roedd
ganddo berthynas ddymunol â phreswylwyr gerllaw ei fangre
bresennol. ·
Mae'n
bwriadu cyflogi dau aelod o staff yn ei siop. ·
Nid
yw'r ardal o gwmpas ei siop bresennol yn dioddef unrhyw ymddygiad
gwrthgymdeithasol. ·
Ei
fwriad ef oedd byw uwchben y siop, wrth reoli'r ddwy siop. ·
Byddai
biniau sbwriel yn cael eu darparu y tu allan i'r siop. ·
Ymdrinnir
ag unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy gyfathrebu cyfeillgar. ·
Mewn
perthynas ag amod 4 yn Atodiad C, cadarnhaodd y byddai biniau sbwriel yn cael
eu gosod ac y byddai'r ardal yn cael ei glanhau'n rheolaidd. PENDERFYNWYD eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r
gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau)
2005,fel y gall yr Is-bwyllgor gael
cyngor cyfreithiol. (SESIWN GAEËDIG) Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais. (SESIWN AGORED) Rhoddodd y cyfreithiwr a oedd
yn cynghori'r Is-bwyllgor drosolwg cynhwysfawr o'r cyngor cyfreithiol a
roddwyd. Dywedodd y Cadeirydd fod yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y cais a'r sylwadau a wnaed ynghyd â holl anghenion a buddion yr
holl bartïon o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, arweiniad statudol a
gofynion Deddf Trwyddedu 2003. PENDERFYNODD
yr
Is-bwyllgor GANIATÁU'R cais ar yr amod bod amodau'n gyson â'r amserlen
weithredu ac wedi'u diwygio fel yr ystyrir eu bod yn briodol ar gyfer
hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod. 1. Cyflenwi alcohol oddi ar y fangre - dydd Llun i ddydd Sul 0700 – 2200. 2. Bydd system
recordio teledu cylch cyfyng gynhwysfawr yn cael ei gosod a'i chynnal a bydd yn
ffilmio'r ardaloedd masnachu a'r holl fynedfeydd ac allanfeydd yn y fangre. Rhaid i'r system recordio'n barhaus pan fydd y fangre ar agor ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy
ac ar bob adeg pan fydd cwsmeriaid yn y fangre. Rhaid
i'r system allu darparu lluniau o safon dystiolaeth, yn enwedig cydnabyddiaeth
wyneb. Bydd y recordiadau ar gael yn syth ar gais yr Heddlu neu swyddog
awdurdodedig. 3. Bydd aelod o staff y fangre
sy'n deall sut i weithredu'r system teledu cylch cyfyng ar yr fangre o hyd pan fydd ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod o
staff yn gallu dangos data neu luniau diweddar i'r heddlu neu swyddogion
awdurdodedig ar gais gyda chyn lleied o oedi â phosib. 4. Byddai'r siop yn
gweithredu'r gyfraith iechyd, diogelwch a diogelwch tân mewn perthynas â siop
gyfleustra. Byddai hefyd yn gweithredu polisïau a gweithdrefnau a bennwyd gan y
grŵp cyfanwerthu. 5.
Mae'r siop mewn ardal breswyl. Bydd yn gweithio'n agos gyda phobl leol i
gadw'r ardal yn lân ac yn daclus drwy'r amser neu'n cymryd camau i sicrhau
hynny. Rhoddir biniau sbwriel o flaen y fangre, a'r
ymgeisydd fydd yn gyfrifol am gynnal y biniau. 6.
Gweithredir cynllun prawf oedran Her 25 yn y fangre
a'r unig ffurfiau adnabod derbyniol fydd llun, dyddiad geni a marc holograffig. 7. Cedwir
cofnod yn rhoi manylion pob achos o wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r cofnod gynnwys dyddiad ac amser
gwrthod y gwerthu ac enw'r aelod o staff a wrthododd ei werthu. Dylai'r cofnod fod ar gael i'w archwilio yn y
fangre gan yr heddlu neu swyddog awdurdodedig y
cyngor ar bob achlysur pan fydd y fangre ar agor. 8.
Rhaid i'r fangre gadw cofnodion wedi'u
diweddaru sydd ar gael i'w harchwilio o hyfforddiant staff yn unol â
gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag oedran. 9. Bydd
llyfr cofnod achosion yn cael ei gadw yn y fangre
sy'n dangos manylion dyddiad ac amser pob ymosodiad, anaf, damwain, ymyriad
staff neu achos o droi allan, yn ogystal â manylion aelodau'r staff sy'n rhan
o'r broses, natur y digwyddiad a'r cam gweithredu/canlyniad. Rhaid bod y llyfr ar gael i'w archwilio gan
yr heddlu a swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Lleol. 10. Rhaid
arddangos arwyddion o flaen y fangre sy'n annog unigolion
i beidio ag ymgynnull yno. Rhaid i Swyddogion Trwyddedu gytuno ar yr union
eiriad i’w datblygu. |