Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

10.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am Drwydded Mangre - Boo's Kitchen, 2 Woodville Road, Y Mwmbwls, Abertawe. pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd holl gyfranogwyr y cyfarfod a gofynnodd i'r Prif Gyfreithiwr amlinellu'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Rhoddodd y Prif Gyfreithiwr drosolwg o'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu am gais i amrywio trwydded mangre ar gyfer Boo's Kitchen, 2 Heol Woodville, y Mwmbwls. Cyfeiriodd at yr amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi a'r arweiniad gan y Swyddfa Gartref. Cyfeiriwyd yn benodol at yr amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded mangre yn Atodiad A, cynllun lleoliad y fangre yn Atodiad B, a'r sylwadau a wnaed gan bobl eraill yn Atodiad C.

 

Dywedodd nad oes modd gorfodi amod sydd ynghlwm wrth y drwydded wreiddiol a roddwyd yn 2012 - “Bydd y fangre ar gau i'r cyhoedd ar ddydd Sul” - a dylid ei ddileu o'r drwydded yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod y safle wedi cael caniatâd cynllunio/oriau gweithredu diwygiedig yn ddiweddar o 08:00 i 22:30 (dydd Sul i ddydd Iau) ac o 08:00 i 23:30 (dydd Gwener i ddydd Sadwrn).

 

Yn absenoldeb y bobl eraill, darllenodd y Prif Gyfreithiwr gynnwys y ddau lythyr a dderbyniwyd.

 

Amlinellodd Angharad Bethan Boo (yr ymgeisydd) y rhesymau a'r rhesymeg y tu ôl i'w chais a chyfeiriodd at weithrediad presennol ac arfaethedig y caffi bach llysieuol annibynnol yn y dyfodol yr oedd hi wedi bod yn ei weithredu ers mis Mai 2018.

 

Dywedodd ei bod wedi cynnal rhai digwyddiadau prawf gyda'r nos ym mis Rhagfyr yn dilyn awgrymiadau gan gwsmeriaid. Profodd y rhain yn llwyddiannus, felly roedd hi'n bwriadu ehangu ei busnes i gynnwys agor gyda'r nos yn rheolaidd. Awgrymodd ei bod yn gobeithio cyflogi staff amser llawn ychwanegol o ganlyniad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, cadarnhaodd yr ymgeisydd y materion canlynol:

Ardaloedd awyr agored sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer bwyta/yfed, prinder arwyddion sy'n ymwneud ag ysmygu, y cwynion a dderbyniwyd ynghylch y wyntyll echdynnu a phroblemau parcio yn y fangre, mae'r fflat uwchben y fangre yn llety rhent, gweinir bwyd/diodydd i gwsmeriaid trwy wasanaeth bwrdd yn unig, roedd ei rhif cyswllt ar gael i drigolion lleol ar gyfer unrhyw gwynion/faterion, hyfforddiant staff mewn perthynas â Her 21.

 

Yn dilyn cwestiynau pellach, nododd y byddai'n hapus i'r ardal awyr agored gael ei defnyddio tan 6pm, ac i arddangos arwyddion wrth yr allanfa gan ofyn i gwsmeriaid barchu cymdogion o ran sŵn/aflonyddwch ac ati.

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 Rheoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, er mwyn i'r is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Rhoddodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r is-bwyllgor drosolwg cynhwysfawr o'r cyngor cyfreithiol a roddwyd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr is-bwyllgor wedi ystyried y cais a'r sylwadau a wnaed ynghyd â holl anghenion a buddion yr holl bartïon o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Penderfynodd yr is-bwyllgor amrywio'r cais yn ddibynnol ar yr amodau diwygiedig a amlinellir isod:

 

1.   Yn unol â chyngor cyfreithiol, dylid dileu'r cyfeiriad at gau’r fangre i'r cyhoedd ar ddydd Sul o'r drwydded gan nad yw'n briodol at ddibenion Deddf Trwyddedu 2003 ei gael ar y drwydded mangre.

 

2.   Cymeradwywyd yr amrywiad yn unol â'r cais i werthu alcohol o 10:00 i 23:00 o ddydd Llun i ddydd Sul ac Amod Rhif 2 ar y drwydded yn cael ei addasu i ddarllen “… Ni ddylid defnyddio'r ardal awyr agored ar ôl 18:00…”.

Rheswm dros y penderfyniad

 

Nododd yr is-bwyllgor y diweddariad ynglŷn â'r cais cynllunio a bod oriau agor wedi eu caniatáu o 08:00 i 22:30 o ddydd Sul i ddydd Iau ac o 08:00 i 23:30 ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Yn unol â chyngor cyfreithiol, ystyriodd aelodau’r is-bwyllgor y cais o'u blaenau yn unol â'u dyletswydd o dan A5 Deddf Trwyddedu 2003 a hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

 

Rhoddodd yr is-bwyllgor ystyriaeth i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu yng nghyd-destun y cais ac ystyriodd effaith yr amrywiad arfaethedig i gynyddu’r oriau gwerthu alcohol fel a nodwyd yn y ddau sylw perthnasol a dderbyniwyd.

 

Gan nad oedd y naill berson na’r llall yn bresennol, roedd yr is-bwyllgor yn ei chael yn anodd penderfynu a fyddai cymeradwyo’r cais yn cael yr effaith a awgrymwyd o danseilio'r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus, gan fod y sylwadau ysgrifenedig yn amwys ac ni allai'r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i'r bobl eraill i ymhelaethu neu ehangu ar y materion a godwyd ganddynt. Roedd yn rhaid diystyru rhai cwynion ynglŷn â pharcio a chyfeiriadau at synau oddi wrth gyffiniau'r fangre fel rhai nad oeddent yn berthnasol i'r penderfyniad yn unol â Deddf 2003 ac Arweiniad Statudol.

 

Gofynnodd yr is-bwyllgor i'r ymgeisydd am unrhyw gwynion a wnaed. Clywsant gyfeiriadau at gwynion yn ymwneud â'r materion cynllunio a bod oddeutu 34 o wrthwynebiadau wedi dod i law, sef problemau gyda pharcio a gwyntyll echdynnu swnllyd a oedd wedi ei datrys ganddi, agor yn rhy gynnar a phroblemau sbwriel nad oeddent yn fai ar y fangre ac roedd hi wedi tynnu lluniau fel tystiolaeth.

 

Nododd yr is-bwyllgor fod yr ymgeisydd wedi dweud nad oedd ei chwsmeriaid yr un rhai â'r rheiny a oedd yn mynychu Heol Newton ac nad oedd safle tacsis gerllaw. Ymhellach, nid oedd y fangre drws nesaf i'r cymydog gan fod fflat rhyngddynt. Cadarnhaodd nad oes ganddi fanciau poteli a bod yr holl ailgylchu yn cael ei wneud y tu mewn i'r fangre. Dywedodd nad oedd safle tacsis gerllaw. Airbnb oedd y fflat ac ni fyddai defnydd o'r ardal awyr agored yn dderbyniol yn hwyr y nos, felly ni ddefnyddiwyd hi ar ôl 17:00.

 

Yn absenoldeb unrhyw sylwadau gan awdurdodau cyfrifol a gyda gwybodaeth gyffredinol a chyfyngedig yn unig ynglŷn â niwsans cyhoeddus wedi'i chyflwyno gan bobl eraill, canfu'r is-bwyllgor nad oedd unrhyw dystiolaeth o sŵn yn dod o'r fangre yn ystod yr oriau gweithredu.

 

Roedd yr is-bwyllgor o'r farn bod potensial ar gyfer niwsans cyhoeddus o ddefnyddio ardal awyr agored y fangre ond roedd yn fodlon y byddai addasu amod Rhif 2 yn atal unrhyw sŵn o'r ardal awyr agored ar adegau sensitif o ran sŵn.

 

Roedd yr is-bwyllgor yn fodlon, o ystyried natur y fangre, ei chapasiti cyfyngedig a'i hamodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i weinyddwyr ddarparu alcohol i gwsmeriaid sy'n eistedd wrth fyrddau'n unig, na fyddai'r oriau ychwanegol ar gyfer gwerthu alcohol yn tanseilio'r amcan trwyddedu er mwyn atal niwsans cyhoeddus os cymeradwywyd oriau a geiswyd. Roedd yr is-bwyllgor hefyd yn fodlon bod deiliad y drwydded mangre a'r goruchwyliwr mangre dynodedig bellach yn gwbl gyfarwydd â'r amodau sydd ynghlwm wrth ei thrwydded mangre a'r angen i gydymffurfio â hwy. Cadarnhaodd yr ymgeisydd fod ei rhif cyswllt ar gael i unrhyw un a oedd â phroblemau wrth reoli'r fangre.