Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

6.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am drwydded mangre - Singleton Park, Abertawe. pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd holl gyfranogwyr y cyfarfod a gofynnodd i'r Uwch-gyfreithiwr amlinellu'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Rhoddodd yr Uwch-gyfreithiwr drosolwg cynhwysfawr o'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Roedd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor yn ceisio gohiriad i ymgynghori â chwnsler yr ymgeisydd ynghylch cais a dderbyniwyd gan Mrs Davies i siarad ar ran  Grŵp Cefnogi'r Gymdogaeth.

 

Torrodd y cyfarfod am 10:15

 

Ailalwyd y cyfarfod am 10:20

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu am y cais am drwydded mangre newydd ar gyfer Parc Singleton, Heol Ystumllwynarth, Sgeti, Abertawe SA2 8QJ.  Cyfeiriodd at yr amcanion trwyddedu, cynllun lleoliad y fangre yn Atodiad A, amodau'n gyson â'r amserlen weithredu yn Atodiad B, y sylwadau a wnaed gan awdurdodau cyfrifol yn Atodiad C, sylwadau a wnaed gan bobl eraill yn Atodiad D, ystyriaethau polisi ac arweiniad gan y Swyddfa Gartref. 

 

Derbyniwyd sylwadau gan yr Is-adran Llygredd ar 15 Ionawr, 2019.  Roedd y sylw'n gofyn a allai'r ymgeisydd atodi amodau ychwanegol a ddangosir yn Atodiad C i'r drwydded mangre. Roedd yr ymgeisydd wedi diwygio'r amserlen weithredu i adlewyrchu'r cyngor a roddwyd gan yr Is-adran Llygredd a rhestrir yr amodau hyn yn Atodiad B.

 

Ymhelaethodd y Swyddog Rheoli Llygredd ymhellach ar y pum amod ychwanegol gan fanylu ar y rhesymeg y tu ôl i bob un ohonynt.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r Swyddog Rheoli Llygredd a ymatebodd yn briodol.

 

Roedd pymtheg sylw wedi'u derbyn oddi wrth bobl eraill, un preswylydd yn cefnogi'r cais, a phedwar ymgeisydd ar ddeg yn gwrthwynebu'r cais. Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad D. Roedd y pedwar sylw ar ddeg a oedd yn gwrthwynebu'r cais yn ymwneud ag atal troseddu ac anhrefn, niwsans cyhoeddus, diogelwch y cyhoedd a diogelu plant rhag niwed.

 

Cyfeiriodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor at y sylw a wnaed gan Mr Keen ar dudalen 23.  Er gwaetha'r ffaith nad oedd Mr Keen yn bresennol i ymhelaethu ymhellach ar ei sylw, cadarnhaodd fod aelodau wedi ystyried y cynnwys.

 

Ymhelaethodd Mr Williams ymhellach ar y sylwadau ysgrifenedig (y manylwyd arnynt ar dudalen 32) gan wrthwynebu'r cais ac amlygodd ei bryderon ynghylch tanseilio'r Amcanion Trwyddedu Statudol mewn perthynas ag atal troseddu ac anrhefn a niwsans cyhoeddus.

 

Cyfeiriodd cwnsler yr ymgeisydd at y cais a dderbyniwyd gan Mrs Davies i siarad ar ran Cymdeithas Cefnogi'r Gymdogaeth. Dywedodd fod yr ymgeisydd wedi gwrthwynebu'r cais gan na chafwyd penderfyniad ffurfiol gan Gymdeithas Cefnogi'r Gymdogaeth i ganiatáu Mrs Davies i siarad ar ei rhan. Roedd diffyg eglurder ynghylch a oedd y ddau lofnodwr yn cefnogi neu'n gwrthwynebu'r cais, ac roedd diffyg sylwadau ehangach.  Ar ben hynny, nodwyd bod gan y bobl eraill ddigon o amser i gyflwyno sylwadau mewn pryd. 

 

Ymhelaethodd Miss Davies ymhellach ar y sylwadau ysgrifenedig (y manylir arnynt ar dudalen 37) a oedd yn gwrthwynebu'r cais a mynegodd ei phryderon ynghylch tanseilio'r Amcanion Trwyddedu Statudol mewn perthynas ag atal troseddu ac anrhefn a niwsans cyhoeddus.

 

Roedd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor yn ceisio cytundeb gan Miss Davies ynghylch y sylw ar dudalen 43, yr oedd Miss Davies wedi'u crybwyll wrth ymhelaethu ar ei gwrthwynebiadau ysgrifenedig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, manylodd Miss Davies ar amserau a hyd y gwasanaethau yn Eglwys St Paul.

 

Ymhelaethodd Miss Davies ymhellach ar y sylwadau ysgrifenedig (y manylwyd arnynt ar dudalen 41) a oedd yn gwrthwynebu'r cais ac amlygodd ei phryderon ynghylch tanseilio'r Amcanion Trwyddedu Statudol mewn perthynas ag atal troseddu ac anrhefn a niwsans cyhoeddus.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Miss John, nodwyd y canlynol gan y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor: mae'r drwydded bresennol yn caniatáu lle i 19,999 o bobl yn y parc; cytunodd yr ymgeisydd ar yr amodau diwygiedig a manylodd ar y diffiniad o fangre sy'n sensitif i sŵn.

 

Amlinellwyd natur y cais gan gwnselwr yr ymgeisydd. Dywedodd fod rhywfaint o gytundeb ynghylch y ffaith bod hwn yn lle mawr iawn er mwynhad pawb yn Abertawe.  Roedd yr ymgeisydd wedi cytuno ar yr amodau diwygiedig a awgrymwyd gan yr ymgeisydd.  Roedd yr ymgeisydd yn ceisio caniatâd i gynnal digwyddiadau ar 8 niwrnod y flwyddyn, ac ni fyddai digwyddiadau'n cael eu cynnal ar benwythnosau olynol.  Fodd bynnag, roedd rhai manteision (o ran symud isadeiledd) i gynnal digwyddiadau ar benwythnosau olynol. Dywedodd unwaith eto fod trwydded mangre ar waith, a'r unig wahaniaeth yw bod y cais newydd yn ymwneud â faint o bobl all fynd yno.  Y pwrpas yw ystyried bod hon yn ardal gyhoeddus, sy'n darparu cyfle mawr ar gyfer ddigwyddiadau a cherddoriaeth fyw. Byddai cynnull y fath ddigwyddiadau yn Abertawe'n gyfle enfawr i dwristiaeth, byddai'n codi proffil y ddinas ac yn creu incwm ar gyfer preswylwyr. Byddai cymeradwyo'r cais yn golygu y byddai modd i hyrwyddwyr farchnata'r lleoliad yn fwy a byddai'n denu artistiaid i'r ardaloedd lle byddai'r drwydded ar waith i ganiatáu 29,999 o unigolion. Mae'r ymgeisydd yn derbyn y cyfrifoldeb sy'n gysylltiedig â chydbwyso anghenion pobl leol a'r gymuned ehangach. Cyfeiriodd at yr amodau a gynigiwyd eisoes yr oeddent wedi'u hystyried yn ofalus. 

 

Mewn ymateb i'r cwestiynau a ofynnwyd gan y cwnsler, nodwyd y canlynol gan yr ymgeisydd:

 

·       Ni fyddai chwyddleisio cerddoriaeth o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer y bobl yn cael unrhyw effaith niweidiol ar lefel sŵn y gerddoriaeth mewn unrhyw fangre sy'n sensitif i sŵn sydd yn y cyffiniau. Ni ddylai'r sŵn fod yn fwy na 65dBA dros gyfnod o 15 munud ar gyfer yr holl ddigwyddiadau sy'n ddigwyddiadau mawr tebyg i gyngerdd sy'n parhau tan yr hwyr, lle'r prif elfen yw cerddoriaeth sy'n cael ei chwyddleisio.

·       Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag Ysbyty Singleton a Phrifysgol Abertawe.  Ni chafwyd cwynion o'r naill le na'r llall.  

·       O ran canslo'r gwasanaethau yn Eglwys St Paul ar y dydd Sul, roedd y llynedd yn eithriad. Cynhaliwyd trafodaethau â'r curad/ficer ac awgrymwyd dewisiadau amgen ar gyfer addolwyr (stiwardio'r maes parcio, parcio amgen).  Fodd bynnag, penderfynodd ganslo'r gwasanaeth hwyrol.  Nid effeithiwyd ar y gwasanaethau bore. Fel rheol gyffredinol, nid yw digwyddiadau arbennig yn cychwyn cyn 12pm-2pm.

·       Cafwyd cynllun traffig sylweddol ar gyfer Parc Singleton a oedd yn cynnwys mewnbwn gan Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Roedd 5,5000 o leoedd ar gael, a hanner ohonynt yn unig a ddefnyddiwyd ar bob diwrnod o Benwythnos Mawr y BBC. Roedd mannau parcio a theithio a mannau gollwng dynodedig ar gael. Caewyd Stryd De la Beche a darparwyd lle parcio amgen.  Derbyniwyd adborth cadarnhaol gan breswylwyr Heol De La Beche gan fod preswylwyr yn ddiolchgar bod ganddynt sicrwydd o le parcio ar gyfer y penwythnnos.

·       Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion eraill.

·       Mae maint yr ystafell reoli'n dibynnu ar faint y digwyddiad. Mae'r ystafell reoli'n ystafell amlasiantaeth gyda chynrychiolwyr o blith yr holl bartneriaid allweddol, uwch-aelodau o'r heddlu/gwasanaeth tân/swyddogion trwyddedu. Roedd yr ystafell reoli'n dilyn strwythur 'arian' o safbwynt cynllunio ar gyfer argyfwng. Mae'r ystafell reoli'n weithredol o 8am hyd nes yr ymdrinnir â'r holl faterion sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.

·       O ran isadeiledd a chynnal Parc Singleton, gan ddefnyddio enghraifft y trefniadau ar gyfer Penwythnos Mawr y BBC, cymerodd bythefnos i godi'r isadeiledd. Yn ystod y gwaith paratoi, roedd traean i hanner y parc ar gael i breswylwyr.  Cliriwyd y safle gan y BBC o fewn 7 niwrnod ac mewn modd trefnus.  Dechreuodd y Tîm Parciau waith hamdden a defnyddiwyd adnoddau sylweddol ar y parc, gan gynnal y draenio, arwyddion a oedd yn ganlyniad uniongyrchol i fuddsoddiad o gyngherddau. 

·       Rydym yn ymwybodol o ble'r ydym a chomisiynir tîm sbwriel penodol i weithio yn y parc ac o'i gwmpas. Darperir rhifau ffôn i breswylwyr. Mae'r tîm digwyddiadau arbennig yn parhau i wella pethau, yn seiliedig ar brofiad blaenorol.

·       Derbyniwyd cyfanswm o 6 chwyn corfforaethol yn dilyn Penwythnos Mawr y BBC.  Roedd y cwynion yn ymwneud â pharcio, sŵn (a dderbyniwyd ar ôl y penwythnos), anallu i astudio ar gyfer arholiadau a phreswylwyr anfodlon nad oeddent wedi gallu prynu tocynnau.

·       Denodd Penwythnos Mawr y BBC 30,000 o unigolion bob dydd, cyfanswm o 60,000 dros y penwythnos.

·       O ran yr effaith ar yr ardal gyffredinol, mae digwyddiadau o'r math hwn yn ddiwydiant sylweddol y mae'r cyngor yn gwneud ei orau i'w hyrwyddo.  Derbyniodd y ddinas £3m o ran gwariant uniongyrchol yn sgîl y digwyddiad.  Mesurwyd y ffigur hwn yn annibynnol ac roedd yn cynnwys teithio, llety, effaith ar gyflogaeth ac effaith cyfryngau cymdeithasol. Roedd Abertawe'n edrych yn wych ac o ganlyniad uniongyrchol, cysylltodd hyrwyddwyr â ni fel dinas gynnal sy'n gallu darparu gwasanaethau ar y lefel hon.

·       Cynhaliwyd digwyddiadau mawr yn y parc ers 2014, sydd wedi cynnwys y Proms, Katherine Jenkins, Noel Gallagher, Olly Murs, y Penwythnos Mawr, Jess Glynn a Sterophonics.

·       Roedd y cwynion a dderbyniwyd ers 2014 yn ymwneud â sŵn a diffyg toiledau.  Derbyniwyd un gŵyn ynghylch cyngerdd Noel Gallagher.

·       Mae Tîm Digwyddiadau'r cyngor yn rheoli ac yn cyflwyno digwyddiadau yn y cyngor. Mae tua chwarter miliwn o ymwelwyr yn ymweld â Bae Abertawe ar gyfer y Sioe Awyr a reolir yn fewnol â Thîm Digwyddiadau hynod brofiadol. Mae'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn yr awdurdod yn gyfrifol, gyda rhanddeiliaid allweddol. 

·       Ni dderbyniwyd cwynion gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch mewn perthynas â'r Amcanion Trwyddedu. 

 

Cyfeiriodd y cwnsler ar gyfer yr ymgeisydd at fanteision y cais a oedd wedi'u crybwyll o ran yr economi, cyfiawnhad y cyngor a rhesymeg. Mae tudalen 3, paragraff 9.4 yn cyfeirio at y budd i'r gymuned yn gyffredinol. 

 

Manylodd ar faterion yn ymwneud â'r pedwar amcan trwyddedu.

 

Troseddu ac anhrefn - ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan yr heddlu o ran materion neu bryderon sy'n gysylltiedig â throseddu ac anrhefn. Mae gan yr heddlu gyfrifoldeb i blismona'r digwyddiadau hyn. Roedd yr ymgeisydd mewn sefyllfa unigryw oherwydd cynhaliwyd y digwyddiad y llynedd.  Roedd hyn yn arwyddocaol wrth ystyried amcanion trwyddedu. 

 

Niwsans cyhoeddus - mae amodau llym iawn yn bodoli o ran stopio'r gerddoriaeth ar ôl 11pm. Mae gan y tîm digwyddiadau berthynas dda â phartïon â diddordeb (e.e. yr eglwys) ac maent wedi dangos agwedd ragweithiol er mwyn sicrhau y cynigir datrysiadau amgen ar gyfer unrhyw broblemau posib. Mae'r amodau'n manylu ar ymateb cyflym ac amserol i gwynion.

 

Diogelwch y Cyhoedd - ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau o ran diogelwch y cyhoedd.  Mae'r ymgeisydd yn fodlon bod yr amodau'n lliniaru unrhyw faterion gan fod yr amodau'n bodloni'r amcan hwn.

 

Roedd manteision yn deillio o'r diffyg sylwadau a chwynion o ddigwyddiad mawr blaenorol. Derbyniodd yr awdurdod lleol un gŵyn am sŵn ac roedd y llall yn ymwneud â diogelwch. Mae'r cais hwn yn gallu hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ac mae'n gwneud hynny, cyfle er lles pobl eraill. Sylweddolwyd bod preswylwyr yn poeni am faterion ond lliniarwyd rhai o'r pryderon hyn. Mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng nifer y gwrthwynebiadau a'r cynnwys (sioe awyr).

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nododd yr ymgeisydd:

 

·       Gan ddibynnu ar y canlyniad heddiw, caiff y drwydded flaenorol ei diddymu.

·       Nid yw'n hysbys faint o ddigwyddiadau mawr fydd yn cael eu cynnal yn y parc.  

·       Pe bai hyrwyddwr mawr yn cysylltu â ni, byddai'r cyngor yn ystyried barn y grŵp ehangach o randdeiliaid, fodd bynnag byddai'n bosib trefnu digwyddiad o fewn 4 mis neu hyd yn oed 6 wythnos.

·       Byddai'r cais, os caiff ei gymeradwyo, yn caniatáu i'r cyngor roi ymateb cyflym a chadarnhaol i'r ymholiad. 

·       Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion gan Ysbyty Singleton nac unrhyw gartrefi preswyl. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan bobl eraill, nodwyd y canlynol gan yr ymgeisydd:

 

·       O ran Penwythnos Mawr y BBC, gorffennodd y perfformiwr olaf am 9.30pm - y cyrffyw oedd 10.30pm. 

·       O ran Penwythnos Mawr y BBC, roedd y BBC wedi llogi cwmni i helpu i glirio'r safle. Y Tîm Digwyddiadau oedd yn rheoli'r digwyddiad cyfan. 

·       Cyflogwyd contractwyr cymeradwy i helpu i reoli'r digwyddiad.

·       Yn sgîl y refeniw o Benwythnos Mawr y BBC llwyddwyd i wneud gwaith adfer yn y parc e.e. draenio newydd sydd wedi creu safle llawer mwy sych.

·       Y Swyddog Rheoli Llygredd a'r peiriannydd sain sy'n cytuno ar y gwaith i fonitro'r pwyntiau agosaf sy'n sensitif i sŵn. Gwneir gwaith paratoi ymlaen llaw a chaiff cynlluniau eu haddasu er mwyn ystyried prifwyntoedd etc.

·       Hysbysir preswylwyr cyn ac ar ôl digwyddiadau mawr, a rhoddir dulliau amrywiol iddynt i gysylltu â'r cyngor. Mae'r cyngor yn mynd ati i geisio adborth gan breswylwyr.

 

Manylodd y cwnsler ar gyfer yr ymgeisydd y drwydded mangre gyfredol a'r gweithgareddau trwyddedadwy. Ailadroddodd fod y cais yn cynnwys consesiwn sylweddol gan mai 8 niwrnod yn unig y gofynnir amdanynt, ac mae gan y cyngor system gadarn, ragweithiol ac ymatebol i ymdrin â chwynion. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 Rheoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, er mwyn i'r Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried y cais a'r sylwadau a wnaed ynghyd â holl anghenion a buddion yr holl bartïon o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003. ŵ

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor Ganiatáu'r cais ar yr amod bod amodau'n gyson â'r amserlen weithredu ac wedi'u diwygio fel yr ystyrir eu bod yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod. 

 

1.     Bob blwyddyn ym mis Ionawr rhaid bod trafodaethau ffurfiol yn cael eu cynnal rhwng yr Awdurdod Trwyddedu, deiliad y drwydded mangre a Heddlu De Cymru i drafod y digwyddiadau arfaethedig ar gyfer y flwyddyn. Bydd trafodaethau'n cynnwys proffil o'r digwyddiad a nifer disgwyliedig y bobl a fydd yn dod iddo, a rhaid iddynt nodi unrhyw adnoddau ychwanegol y gall fod eu hangen.

 

2.     Oni bai y cafwyd cytundeb â holl randeiliaid allweddol y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, dylai deiliad y drwydded mangre lunio  Cynllun Rheoli Digwyddiad (CRhD) a'i gyflwyno i Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Dinas a Sir Abertawe (DASA) 6 mis cyn pob digwyddiad. Rhaid i hyn gynnwys trosolwg o arwynebedd y fangre i'w defnyddio, a fydd yn amlinellu sut caiff y digwyddiad ei reoli, y rhagofalon y gymerwyd a'r asesiadau risg a gynhaliwyd i ddarparu ar gyfer yr holl bethau annisgwyl y gellir eu rhagweld ac a fydd yn arddangos  gweithdrefnau, rolau a chyfrifoldebau penodol y tîm rheoli, y tîm diogelwch a phersonél cysylltiedig.

 

3.     Dylai deiliad y drwydded sicrhau y caiff fersiwn derfynol y cynllun ei chyflwyno i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch ac y caiff ei chymeradwyo o fewn 14 diwrnod cyn i'r digwyddiad gychwyn (neu gyda chytundeb holl bartïon perthnasol y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch).

 

4.     Dylai deiliad y drwydded mangre gynnal/ fynychu cyfarfodydd cynllunio rheolaidd i drafod yr holl agweddau ar y digwyddiad(au) â'r rhanddeiliad allweddol perthnasol amrywiol fel rhan o'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.

 

5.     Dylai deiliad y drwydded mangre neu ei berson enwebedig gynnal/fynychu cyfarfodydd rheolaidd ar y safle rhwng rhanddeiliad/rhanddeiliaid allweddol perthnasol yn ystod y digwyddiad(au) fel a gytunwyd â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.

 

6.     Mae'r CRhD yn ddogfen fyw sydd ar droed ac mae angen iddo ymateb i newidiadau munud olaf. Er enghraifft, bygythiad cynyddol o derfysgaeth, bygythiad i iechyd, digwyddiad cenedlaethol, clefyd pandemig etc. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded mangre ddiweddaru'r CRhD ar adegau cyn pob digwyddiad a rhaid i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch gytuno ar yr holl newidiadau.

 

7.         Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod gweithdrefnau a chynlluniau ysgrifenedig (gan gynnwys cynlluniau gwrthderfysgaeth ac ar gyfer argyfyngau gan ystyried y ddogfen 'Crowded Places Guidance') yn cael eu darparu fel rhan o'r CRhD a byddant yn manylu ar yr eitemau isod yn dilyn trafodaeth â rhanddeiliaid allweddol perthnasol y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch:

 

a.      Cynllun Rheoli Traffig

b.      Polisi Cyffuriau

c.      Eitemau a waherddir

ch.  Polisi Chwilio

d.       Amodau a Thelerau Mynediad

dd.    Dulliau cyfathrebu

e.       Cynllun Rheoli Gwastraff

f.       Cynllun Rheoli Torfeydd

ff.   Cynllun Rheoli Sŵn

g.      Polisi Iechyd a Diogelwch

ng. Cynllun Diogelwch

h.      Cynllun Meddygol

i.        Cynllun Diogelwch Tân

l.         Cynllun Rheoli Gwynt

 

8.     Dylai deiliad y drwydded mangre, neu gynrychiolydd enwebedig, fod yn gyfrifol am y digwyddiad a bod yn bresennol drwy'r amser ynddo, ac eithrio lle bydd swyddogion awdurdodedig y Gwasanaethau Brys yn gyfrifol am y fath reolaeth, ac ni ddylai gyflawni unrhyw ddyletswyddau/weithgareddau eraill a fydd yn ei atal rhag goruchwylio'r digwyddiad yn gyffredinol.

 

9.     Dylai deiliad y drwydded mangre hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu'n fisol o ddyddiad gwerthu/cyhoeddi tocynnau am y tro cyntaf ac yn wythnosol o un mis cyn y digwyddiad, o gyfanswm nifer y tocynnau a broseswyd ar gyfer y digwyddiad.

 

 

10. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y bydd hyrwyddwr y digwyddiad yn gweithio gyda DASA, Heddlu De Cymru, contractwr diogelwch cymeradwy, darparwyr gwasanaethau brys allweddol eraill a rhanddeiliaid allweddol i wneud trefniadau addas i atal troseddu ac anhrefn.

 

11. Lle y bo'n berthnasol, dylai deiliad y drwydded mangre drafod â'r Grwp Cyngor ar Ddiogelwch a ddylid cael ystafell Rheoli Digwyddiad ar y safle lle bydd strwythurau gorchymyn a rheoli clir ar waith, a chytuno ar hyn.

 

12. Lle y bo'n berthnasol ac fel a gytunwyd â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, dylai deiliad y drwydded mangre osod system teledu cylch cyfyng gynhwysfawr â chyfleuster recordio. Mae'n rhaid i'r system recordio'n barhaus pan fydd cwsmeriaid ar y safle er mwyn darparu lluniau o safon sy'n dderbyniol i'r diwydiant. Mae'n rhaid i bob recordiad gael ei storio am o leiaf 31 diwrnod. Mae'n rhaid i recordiadau gael eu hamseru a'u dyddio'n gywir, a rhaid cadw recordiadau yn nhrefn eu dyddiad. Rhaid cynnal adroddiad log dyddiol, wedi'i gadarnhau gan lofnod, sy'n nodi bod y system wedi'i gwirio a'i bod yn cydymffurfio. Dylid sicrhau bod recordiadau ar gael cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosib ar gais heddwas neu swyddog awdurdodedig.

 

13. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod deiliad trwydded bersonol ar ddyletswydd yn y fangre ar bob adeg pan fo'r fangre wedi'i hawdurdodi i werthu alcohol.

 

14. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod system ddigonol o gyfrif a chofnodi pobl sy'n mynd i mewn ac allan o safle'r digwyddiad ar waith i sicrhau nad yw lefelau cwsmeriaid ym mhob ardal yn fwy na'r terfyn a gymeradwyir yn yr asesiad risg ar gyfer y lleoliad a'r CRhD.  Rhaid sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i swyddogion awdurdodedig a rhanddeiliaid allweddol drwy gydol y digwyddiad ac ar gais.

 

15. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau mai cwmnïau diogelwch ag enw da'n unig a ddefnyddir ym mhob digwyddiad, y bydd eu rhifau'n cael eu nodi yn y CRhD.

 

16. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded mangre sicrhau bod yr holl stiwardiaid a phersonél diogelwch wedi'u hyfforddi'n briodol ac yn gallu cyflawni'r dyletswyddau a glustnodir iddynt, ac yn 18 oed neu'n hŷn, a phan fyddant ar ddyletswydd dylent ganolbwyntio ar eu dyletswyddau'n unig ac nid ar yr adloniant.  Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded mangre sicrhau bod stiwardiaid a phersonél diogelwch yn deall eu rolau a'r ffordd briodol i ddelio â digwyddiadau, eu cofnodi ac adrodd amdanynt.

 

17. Dylai deiliad y drwydded mangre neu berson enwebedig sicrhau nad yw personél diogelwch yn:

a.               gadael eu lle heb ganiatâd;

b.               yfed na bod dan ddylanwad diodydd meddwol, gan gynnwys alcohol a chyffuriau a

c.               cyffroi - rhaid iddynt aros yn ddigyffro a bod yn gwrtais i bob aelod o'r gynulleidfa.

 

18. Dylai deiliad y drwydded mangre neu berson enwebedig sicrhau bod yr holl stiwardiaid a phersonél diogelwch yn gwisgo dillad amlwg i sicrhau bod modd eu hadnabod yn unigol.

 

19. Dylai deiliad y drwydded mangre neu berson enwebedig sicrhau y cynhelir cofrestr o stiwardiaid a phersonél diogelwch ar bob adeg yn y fangre. Dylai cofrestr o'r fath gynnwys enw, rhif cofrestru, manylion cyswllt yr aelod o staff ynghyd â'r dyddiad a'r amser ar ddyletswydd ac oddi ar ddyletswydd. Dylai manylion llawn yr asiantaeth sy'n darparu'r staff i'w cymeradwyo ynghyd â'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio ar gais gan heddwas a swyddog awdurdodedig.

 

20. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau yr archwiliwyd i hanes yr holl staff a gyflogir ac sy'n gweithio ar y safle i'r safon briodol sy'n ofynnol. Dylid sicrhau bod cofnodion ar gael i heddwas neu swyddog awdurdodedig eu harchwilio. Dylid amlinellu'r holl weithdrefnau yn y CRhD.

 

21. Lle y bo'n berthnasol ac fel a gytunwyd â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, penodir cydlynydd diogelwch profiadol gan ddeiliad y drwydded mangre neu'r person enwebedig yn ogystal â chydlynydd diogelwch digwyddiad profiadol.

 

22. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y cynhelir system cofnodi digwyddiadau yn y fangre sy'n dangos manylion dyddiadau ac amserau ymosodiadau, anafiadau, damweiniau neu achosion o droi pobl allan, yn ogystal â manylion yr aelod staff a oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad, natur y digwyddiad a'r cam gweithredu/canlyniad. Rhaid i'r system fod ar gael i'w harchwilio gan yr heddlu neu swyddogion awdurdodedig.

 

23. Ni chaniateir poteli gwydr na gwydrynnau yfed ar y safle oni bai y cytunwyd ar hyn yn flaenorol â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn unol â'r CRhD penodol a ddarparwyd.

 

24. Bydd deiliad y drwydded mangre'n rhoi darpariaethau ar waith i sicrhau nad yw alcohol yn cael ei weini i gwsmeriaid dan oed fel a amlinellir yn y CRhD.

 

25. Lle y bo'n berthnasol ac fel a gytunwyd â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau na chaniateir i gwsmeriaid ddod â'u halcohol eu hunain fel yr amlinellir yn y CRhD.

 

26. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded mangre sicrhau y cesglir ac y gwaredir gwastraff yn aml i atal sbwriel a/neu ddeunydd llosgadwy, a allai fod yn beryglus, rhag cronni.

 

27. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y trafodir trefn rhaglenni'r digwyddiad a'r artistiaid ymlaen llaw â rhanddeiliaid allweddol perthnasol. Rhaid darparu'r rhestr o artistiaid 31 diwrnod cyn y digwyddiad. Rhaid trafod unrhyw newidiadau â rhanddeiliaid allweddol, a chytuno arnynt, gan gynnwys cyfarfodydd ar y safle ac ar ddiwrnod y digwyddiad(au). Rhaid anfon unrhyw newidiadau i'r rhestr o artistiaid at y rhanddeiliaid perthnasol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

 

28. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod  chwiliadau'n cael eu cynnal yn unol â'r CRhD a rhaid eu cynnal ar y ffordd i mewn i sicrhau diogelwch y cyhoedd/staff.

 

29. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y darperir manylion llawn mynediad i'r digwyddiad ac oddi yno i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, ac y cytunir arnynt er mwyn eu cynnwys yn y CRhD.

 

 

30. Lle y bo'n berthnasol ac fel a gytunwyd â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y darperir biniau amnest er mwyn mynd ag eitemau a waherddir oddi ar bobl, a'u diogelu yn y fangre a'u gwaredu'n unol â'r CRhD.

 

31. Lle y bo'n berthnasol ac fel a gytunwyd â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y bydd y digwyddiad yn mynd ati i dargedu camddefnyddio cyffuriau. Rhaid arddangos negeseuon diogelwch ymlaen llaw ar y wefan. Rhaid arddangos arwyddion yn y fangre sy'n dweud bod polisi chwilio am gyffuriau'n weithredol fel amod mynediad.

 

32. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y bydd unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae ei hangen neu y gofynnwyd amdani ac y mae deiliad allweddol perthnasol o'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch wedi cytuno arni, yn cael ei nodi'n fanwl yn y CRhD.

 

 

33. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y trafodir pob agwedd ar ddiogelwch y cyhoedd ymlaen llaw â'r rhanddeiliaid allweddol perthnasol. Amlinellir manylion y rhain yn y CRhD.

 

34. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y cynhelir asesiad risg tân gan berson cymwys yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau cyfredol, gan gynnwys Deddf Rhagofalon Tân 1971, Rheoliadau Rhagofalon Tân (Yn y Gwaith) 1997, dogfennau 'The Fire Risk Assessment: Open air events and venues 2007' a 'The Event Safety Guide HSG195'.

 

35. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y cynhelir llwybrau mynediad ac argyfwng ar bob adeg.

 

36. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau, yn ystod y digwyddiad byw, fod yr holl gerbydau'n cael eu hebrwng mewn ardaloedd a ddefnyddir gan y cyhoedd.

 

37. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod unrhyw faterion perthnasol sy'n ymwneud â diogelwch tân yn cael eu hamlinellu yn y CRhD.

 

 

38. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y darperir lefel oleuo dderbyniol lle bo angen hynny wrth yr holl fynedfeydd/allanfeydd ac ar lwybrau dianc o'r digwyddiad. Dylid cynnal archwiliadau i gytuno ar lefelau goleuo yn ystod goleuo lefel isel a chyn i'r digwyddiad ddechrau.

 

39. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y darperir cyfleusterau meddygol sy'n ddigonol ar gyfer nifer y cwsmeriaid ar y safle. Rhaid i swyddogion cymorth cyntaf fod yn bresennol yn ystod y cyfnod adeiladu/datgymalu/symud fel a amlinellir yn y CRhD.

 

40. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y darperir cyfleusterau lles ac y manylir ar hyn yn y CRhD.

 

41. Dylai deiliad y drwydded mangre gyhoeddi rhestr o eitemau a waherddir; dylid ei thrafod â rhanddeiliad perthnasol allweddol a dylent gytuno arni. Ni chanaiteir eitemau a waherddir yn y digwyddiad.

 

42. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau yr arddangosir negeseuon diogelwch drwy gydol y dydd ar arwyddion a sgriniau lle bo'n berthnasol neu lle caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan randdeiliaid allweddol.

 

43. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y darperir digon o garthffosiaeth yn unol ag arweiniad cyfredol a'r hyn a fanylir yn y CRhD.

 

44. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod arwyddion yn cael eu codi ar y safle ac o'i gwmpas i sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu dod o hyd i'r ffordd o gwmpas y safle ac i allanfeydd sydd ar gael.

 

45. Bydd rhanddeiliaid allweddol perthnasol yn cymeradwyo unrhyw dân gwyllt/laserau ymlaen llaw a chânt eu storio i leihau unrhyw risg i ddiogelwch y rheiny sy'n defnyddio'r fangre.

 

46. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y cyflwynir polisi oedolion diamddiffyn fel rhan o'r CRhD.

 

47. Dylai deiliad y drwydded mangre ddarparu dŵr yfed cludadwy am ddim yn unol â'r amodau gorfodol a dylai fod ar gael drwy gydol y digwyddiad cyfan.

 

48. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y cyflwynir cynllun manwl o osodiad terfynol y safle i'r Awdurdod Trwyddedu o leiaf 7 niwrnod cyn i'r digwyddiad ddechrau, a dylai'r ardal lle bydd y gerddoriaeth sydd wedi'i chwyddleisio a'i threfnu yn cael ei chwarae gael ei hamlinellu'n glir mewn coch. Dylid nodi lleoliad yr holl adeileddau a chyfleusterau gan gynnwys ffyrdd ac ardaloedd y digwyddiad yn glir a dylid dangos mynedfeydd ac allanfeydd yr holl adeileddau ac ardaloedd.  Dylid dangos y pwyntiau tân a meddygol a'r mannau cymorth cyntaf a gwybodaeth hefyd. Dylai'r cynllun safle gynnwys grid a chyfeirnodau.

 

 

49. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y bydd y ddogfennaeth ganlynol, lle bo'n berthnasol, ar gael ar gais i'r Awdurdod Trwyddedu: Tystysgrifau cymeradwyo gwaith trydanol, cynlluniau adeileddol, cyfrifiadau a thystysgrifau cymeradwyo.

 

50. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod tystysgrif, y mae'n rhaid i berson neu bobl â'r cymwysterau priodol ei chwblhau, sy'n datgan bod yr holl osodiadau trydanol yn y safle wedi'u gosod, eu profi a'u cynnal a'u cadw'n unol â rhifyn diweddaraf o'r ddogfen  Regulations for Electrical Installations” (rheoliadau weirio Sefydliad y Peirianwyr Trydanol) sydd bellach yn rhan o Safon Brydeinig 7671, "The Requirements for Wiring Installations", neu unrhyw fersiynau diwygiedig neu ddiweddaredig, ar gael ar gais i'r Awdurdod Trwyddedu. 

 

 

51. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod yr holl adeileddau dros dro yn cael eu codi'n unol â'r arweiniad 'Temporary demountable structures: guidance on procurement, design and use (third edition)'. Dylai deiliad y drwydded mangre ddarparu adroddiad ysgrifenedig sy'n manylu ar eu diogelwch a'u haddasrwydd i'r Awdurdod Trwyddedu ac unrhyw randdeiliad allweddol perthnasol ar gais. Pan fydd yr adeiledd dynodedig wedi'i godi a chyn i'r gatiau agor ar bob diwrnod o'r digwyddiad, bydd rheolwr adeileddol dynodedig cyflenwyr yr adeiledd yn darparu ffurflenni cymeradwyo swyddogol sy'n nodi ei fod wedi'i adeiladu'n unol â'r fanyleb.

 

52. Dylai deiliad y drwydded mangre gydymffurfio â holl geisiadau rhesymol yr Awdurdod Trwyddedu ac unrhyw randdeiliad allweddol perthnasol ynghylch unrhyw ddiffygion yn y tystysgrifau a'r dogfennau y cyfeirir atynt yn y drwydded hon a sicrhau y cynhelir y safonau a ardystiwyd yn ystod y digwyddiad.

 

53. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod yr holl ardystiadau a ddarperir i'r Awdurdod Trwyddedu ac unrhyw randdeiliaid allweddol perthnasol yn cael eu cwblhau gan bobl gymwys a chanddynt gymwysterau priodol.

 

54. Dylai deiliad y drwydded mangre drefnu yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ac yswiriant Trydydd Parti ar gyfer o leiaf £5,000,000.00 (pum miliwn o bunnoedd) ar gyfer unrhyw un digwyddiad. Dylai'r dyddiad y bydd yr yswiriant mewn grym fod o 7 niwrnod cyn dechrau codi'r adeiledd ar gyfer y digwyddiad, tan ac yn cynnwys 7 niwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben. Dylai deiliad y drwydded mangre ddarparu copïau ardystiedig o'r polisi a'r tystysgrifau yswiriant, neu brawf yswiriant derbyniol arall, i'r Awdurdod Trwyddedu ac unrhyw randdeiliad allweddol perthnasol ar gais.

 

55. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod holl rannau'r ardal drwyddedig ar gael i'w harchwilio yn ystod y cyfnod y bydd deiliad y drwydded mangre'n defnyddio'r safle, gan unrhyw swyddog a enwir o Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Awdurdod Trwyddedu Cyngor Abertawe neu unrhyw randdeiliad allweddol perthnasol a awdurdodwyd yn briodol at y diben.

 

56. Lle y bo'n berthnasol ac fel a gytunwyd â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, dylai deiliad y drwydded mangre ddynodi Canolfan Cysylltiadau mewn Argyfwng i'w defnyddio gan Uwch-reolwyr Deiliad y Drwydded Mangre a swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu, swyddogion Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac unrhyw randdeiliaid allweddo0l perthnasol sydd wedi'u hawdurdodi'n briodol at y diben.

 

57. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y manylir ar yr holl ardaloedd lle cynhelir gweithgareddau trwyddedadwy yn y CRhD, gan ddangos amserlen weithredu ac amserau agor yr ardaloedd hynny.

 

58. Bydd deiliad y drwydded mangre neu'r cynrychiolydd enwebedig yn rheoli'r systemau sain fel y gall negeseuon sy'n cael eu cyhoeddi dorri ar draws yr adloniant cerddorol ac y gellir eu cyflwyno'n glir ac yn glywadwy i bob ran o'r safle.

 

 

59. Yr uchafswm a ganiateir yn yr ardal drwyddedig yn ystod y digwyddiad yw 39,999 o bobl. Dylai'r rhif hwn gynnwys yr holl docynnau a werthwyd, gwesteion, artistiaid, staff ac unrhyw bobl sy'n gysylltiedig â chynnal y digwyddiad yn ddiogel. 

 

60. Dylai deiliad y drwydded mangre wneud trefniadau addas i alluogi pobl ag anableddau i fynd i'r digwyddiad. Dylid rhoi sylw penodol i fynedfeydd a ffyrdd allan, llwybrau dianc/gadael mewn argyfwng a'r cyfleusterau gwylio i bobl o'r fath.

 

61. Ni ddylai'r digwyddiad ddechrau nes bod yr holl gymeradwyaethau gofynnol ar waith.

 

62. Ni fydd unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau i'r drwydded hon, ei hamodau, ei thelerau neu ei chyfyngiadau'n effeithiol ac eithrio gyda chaniatâd yr Awdurdod Trwyddedu.

 

63. Lle bydd unrhyw gwestiwn yn codi ynghylch dehongli unrhyw ddarpariaeth safonol neu reoleiddiol a osodir gan yr amodau hyn, bydd dehongliad yr Awdurdod Trwyddedu'n derfynol.  Nid yw hyn yn effeithio ar hawl deiliad y drwydded mangre i apelio yn erbyn gosod yr holl amodau neu unrhyw un ohonynt.

 

 

64. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau na chwaraeir unrhyw gerddoriaeth ar ôl 23:00.

 

65. Pennir lefel y gerddoriaeth sy'n cael ei chwyddleisio gan yr awdurdod lleol a rhaid i ddeiliad y drwydded mangre ei rheoli.

 

66. Ni ddylai'r Lefel Sŵn Cerddoriaeth mewn mangreoedd sy'n sensitif i sŵn yn y cyffiniau fod yn uwch na 65 dBA dros gyfnod o 15 munud.

 

67. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod gweithdrefnau casglu a gwaredu sbwriel ar waith y tu mewn i'r ardal lle cynhelir y digwyddiad a gerllaw'r digwyddiad. Cynllunnir a thrafodir trefniadau glanhau ar ôl y digwyddiad ymlaen llaw â rhanddeiliad perthnasol allweddol y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.

 

 

68. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y darperir arwyddion rhybudd ymlaen llaw/arwyddion mynediad i'r digwyddiad yn y safle i helpu i leihau ac atal problemau traffig yn yr ardal.

 

69. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau, lle bynnag y bo modd, y dosberthir/cesglir pethau i/o'r safle ar amser rhesymol er mwyn effeithio cyn lleied â phosib ar breswylwyr lleol.

 

70. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod darpariaeth iechydol addas ar waith yn y digwyddiad ac mewn ardaloedd allanol y cytunwyd arnynt sydd gerllaw.

 

71. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod arddangosfeydd tân gwyllt yn dilyn pob deddfwriaeth a/neu arweiniad cyfredol.

 

72. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod digwyddiadau'n cael eu hysbysebu i hysbysu preswylwyr lleol o amserau a natur pob digwyddiad.

 

73. Lle y bo'n berthnasol ac fel a gytunwyd â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y darperir rhif ffôn er mwyn i breswylwyr gofnodi cwynion. Dosberthir taflenni sy'n dweud wrth breswylwyr lleol am y rhif ffôn.

 

74. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod y rheiny sy'n mynd i'r digwyddiad yn cael eu cyfarwyddo i adael yn dawel er mwyn peidio â tharfu ar breswylwyr lleol.

 

 

75. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau, lle bynnag y bo'n berthnasol ac fel a gytunwyd â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, fod staff lles plant cymwys/profiadol yn bresennol i gynorthwyo yn achos plant/rheini coll fel y bo'n briodol.

 

76. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau, lle bo'n berthnasol ac fel a gytunwyd â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, y cyflwynir polisi plant coll fel rhan o'r CRhD.

 

77. Dylai'r fangre weithredu polisi oed 'Her 25'.

 

78. Dylai deiliad y drwydded mangre gynnal cofrestr o wrthodiadau sy'n manylu ar yr holl achosion o werthu alcohol a wrthodwyd.

 

79. Ni chaniateir adloniant i oedolion yn y fangre.

 

80. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau, lle y bo'n berthnasol, y bydd personél meddygol â chymwysterau addas ar gael i ymdrin ag unrhyw broblemau sy'n ymwneud â phlant, fel y bo'n briodol.

 

81. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau y cedwir cofnodion hyfforddiant staff cyfoes a fydd ar gael i'w harchwilio, mewn perthynas â gwerthiannau sy'n ymwneud ag oed fel yr amlinellir yn y CRhD.

Rheswm dros y penderfyniad

 

Mae'r pwyllgor yn cymeradwyo'r cais, yn amodol ar yr amodau a nodir yn Atodiad B (tudalennau 11 i 20) a'r amodau ychwanegol a argymhellir yn sylwadau adran Iechyd yr Amgylchedd (tudalen 21) fel a ddiwygiwyd ac a gytunwyd gan yr ymgeisydd, am ei fod yn fodlon na fyddai'r grant yn tanseilio'r amcanion trwyddedu (AT).

1.     Mae'r cais wedi'i addasu ac ychwanegir yr amodau canlynol:-

a.     Ni chynhelir unrhyw ddigwyddiadau sy'n ddigwyddiadau mawr, tebyg i gyngerdd â chynulleidfa o dros 5,000, lle'r brif elfen yw cerddoriaeth wedi'i chwyddleisio sy'n para hyd at yr hwyr, ar 3 penwythnos yn olynol;

 

b.     Bydd digwyddiadau sy'n rhai mawr, tebyg i gyngerdd â chynulleidfa o dros 5,000 a fydd yn para tan yr hwyr, lle'r brif elfen yw cerddoriaeth wedi'i chwyddleisio, yn cael eu cyfyngu i hyd at 8 niwrnod y flwyddyn (blwyddyn galendr, 1 Ionawr tan 31 Rhagfyr) a bydd unrhyw gerddoriaeth arall heblaw am y gerddoriaeth ategol gytunedig yn y digwyddiadau hyn yn gweithredu rhwng 12:00 a 23:00. Rhaid cytuno'n ysgrifenedig ar gerddoriaeth ategol â rhanddeiliaid allweddol y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.

 

c.     Amod presennol 66 yn Atodiad B (tudalen 19)

 

ch. Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau na chwaraeir cerddoriaeth gan weithredwyr y ffair bleser pan gynhelir unrhyw adloniant cerddorol arall.

d.     Dylai deiliad y drwydded mangre sicrhau bod tîm monitro sŵn proffesiynol wedi'i gyflogi i gynnal profion lledaeniad sŵn ar gyfer gwiriadau sain ac ar gyfer hyd y digwyddiad lle bo'r Is-adran Rheoli Llygredd yn gofyn am hyn. Dylai deiliad y drwydded mangre wneud unrhyw gytundebau'n ysgrifenedig o leiaf 6 mis cyn y digwyddiad ac eithrio gyda chytundeb blaenorol rhanddeiliaid allweddol y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.          

 

Rhesymau

 

Mae'r rhesymau dros y caniatâd fel y'u nodir uchod yn adlewyrchu'r canlynol:

 

1.     Y newidiadau a wnaed i'r cais gan yr ymgeisydd yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol.

2.     Y sylwadau gan bobl eraill a fu'n bresennol, y Swyddog Rheoli Llygredd a'r ymgeisydd.

3.     Roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol yn ystyried bod ei benderfyniad yn adlewyrchu'r cydbwysedd sy'n ofynnol yn unol â'i ddyletswydd o dan Adran 5 Deddf Trwyddedu 2003 i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ac yn unol ag arweiniad paragraff 1.5 a'r egwyddorion a nodir yn achos R (ar gais Hope & Glory Public House Ltd) yn erbyn Llys Ynadon Dinas Westminster ac Eraill (2011) EWCA Civ 312).

 

4.     Wrth gyrraedd ei benderfyniad, roedd y Pwyllgor Trwyddedu Statudol yn ystyriol o'r canlynol. Cynhaliwyd digwyddiad yn y fangre'r llynedd ar gyfer 39,999 o bobl ac roedd yr ymgeisydd wedi bod yn gweithredu digwyddiadau ar gyfer hyd at 19,999 ers 2007. Ychydig iawn o gwynion a gafwyd yn ôl yr ymgeisydd, a chadarnhawyd hyn gan y Swyddog Rheoli Llygredd, ac ni heriwyd y ffaith hon gan y bobl eraill. Nifer bach yn unig o sylwadau a wnaed o gofio'r ardal breswyl hynod boblog sydd o gwmpas y fangre. Ni chyflwynwyd unrhyw sylwadau gan yr heddlu.

 

5.     Derbyniwyd 15 sylw'n unig gan bobl eraill yn erbyn y caniatâd ac o'r rheiny, 3 yn unig oedd yn bresennol. Ni ddarparwyd dogfennaeth na gwybodaeth ychwanegol i gefnogi'r sylwadau er yr oedd y bobl eraill wedi ymhelaethu ar eu sylwadau ysgrifenedig fel y mae ganddynt hawl i'w wneud. Nododd yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol nad oedd y mwyafrif yn gwrthwynebu'r caniatâd ynddo'i hun ond roeddent yn pryderu am natur eang y cais a fyddai'n wahanol iawn i'r drwydded gyfyngedig bresennol.

 

6.     Codwyd materion amrywiol yn y sylwadau gan bobl eraill yn nhudalennau 22 i 45 yr adroddiad a chanfu'r Pwyllgor Trwyddedu Statudol fel a ganlyn:

 

Defnydd Cyfyngedig o Rannau o'r Parc (Mangre) yn ystod Digwyddiadau

 

Gwrthwynebodd nifer o bobl eraill yn eu sylwadau i'r ffaith bod mynediad i rannau o'r fangre'n gyfyngedig. Teimlai'r pwyllgor nad oedd hyn yn rhan o'r amcanion trwyddedu a bod yn fanwl gywir ond derbyniwyd y byddai rhannau o'r parc yn anhygyrch. Fodd bynnag, nid oedd y parc byth ar gau yn gyfan gwbl i'r cyhoedd o ganlyniad i ddigwyddiadau dan yr awdurdod presennol ac roedd yn amwynder ar gyfer Abertawe gyfan a gellid ei ddefnyddio ar gyfer y fath ddigwyddiadau.  Nododd y pwyllgor dystiolaeth yr ymgeisydd fod cynnal digwyddiadau mewn gwirionedd yn golygu refeniw i Ddinas a Sir Abertawe a ddefnyddiwyd i wella'r parc ac ardaloedd a oedd yn rhy gorslyd i gerdded arnynt yn flaenorol, drwy gynnal gwaith draenio er mwyn eu gwneud yn hygyrch. Nododd y pwyllgor sylwadau a wnaed gan bobl eraill y byddai defnydd o Gerbydau Nwyddau Trwm wedi achosi'r problemau. Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn, byddai'r consesiwn a wnaed i gyfyngu ar y diwrnodau lle gallai'r rhan fwyaf o'r cyfyngiadau fod yn berthnasol yn lleihau'r broblem hon ac ni dderbyniwyd unrhyw gwynion erioed ynghylch digwyddiadau blaenorol.

 

Problemau parcio ceir

Daeth y pwyllgor i'r farn nad oedd hyn yn un o nodau'r amcanion trwyddedu.  Roedd deddfwriaeth arall yn darparu atebion ar gyfer y problemau a allai godi o barcio anghyfreithlon neu anystyriol ac ni ddylai felly ddyblygu'r ddeddfwriaeth honno. Hysbyswyd preswylwyr y byddai hyn yn effeithio arnynt ymlaen llaw am ffyrdd a oedd ar gau, a darparwyd lle parcio amgen. Ni chodwyd materion gan y cyrff perthnasol na'r heddlu i awgrymu nad oedd y ddeddfwriaeth barcio gyfredol yn ddigonol.

 

Tarfu ar wasanaeth dydd Sul/yr ysbyty

 

Clywodd y pwyllgor gan yr ymgeisydd ei fod wedi ymweld â'r eglwys sawl gwaith a chwrdd â'r curadur yno i drafod materion. Ni dderbyniwyd cwynion a phenderfyniad y curadur oedd peidio â chynnal y gwasanaeth hwyrol weddi. Dywedodd yr ymgeisydd hefyd ei fod wedi cwrdd â chynrychiolwyr o'r ysbyty ac eto nid oedd wedi derbyn cwynion ynghylch y digwyddiadau a gynhaliwyd yn y fangre hyd yn hyn. O ystyried hyn, teimlai'r pwyllgor nad oedd yn briodol gosod amod ar y drwydded i beidio â chaniatáu cynnal digwyddiadau ar ddydd Sul.

 

Sbwriel

 

Clywodd y pwyllgor gan yr ymgeisydd ynghylch casgliadau sbwriel. Dywedodd yr ymgeisydd fod taflenni a llythyrau wedi'u dosbarthi i breswylwyr a oedd yn cynnwys manylion cyswllt fel y gallant gwyno am sbwriel. Cadarnhaodd un person arall a oedd yn bresennol ei fod wedi derbyn y fath lythyr ond nid oedd y 2 arall wedi derbyn un. Dywedodd yr ymgeisydd mai nifer cyfyngedig a ddosbarthwyd. Roedd y pwyllgor yn fodlon felly yr ymdrinnir â'r sbwriel sy'n cronni er mwyn peidio â thanseilio'r amcanion trwyddedu.

 

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

 

Roedd cynlluniau niferus fel y'u hamlinellwyd yn amod 7 Atodiad B, a fyddai, cyhyd ag y bo modd, yn mynd i'r afael ag ymddygiad posib yn y digwyddiad ac yn y cyffiniau. Dywedodd person arall pa mor dda yr oedd y staff diogelwch a ddarparwyd. Roedd y pwyllgor yn ystyriol o baragraff 2.21 yr Arweiniad Statudol sef wrth ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallai'r ymgeisydd fod yn gyfrifol am y bobl hynny y gallai eu rheoli'n unig. Y tu allan i gyffiniau'r fangre, mae pobl yn gyfrifol am eu hymddygiad eu hunain. Ni chafwyd sylwadau ac ni fynegwyd pryderon gan yr heddlu yr heddlu mewn perthynas â hyn. Felly roedd y pwyllgor yn fodlon y byddai'r amodau arfaethedig yn rheoli'r sefyllfa er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

 

Sŵn

Rhoddodd y Swyddog Rheoli Llygredd gyngor manwl ar yr amodau y cytunwyd arnynt a sut y byddent yn cael eu monitro. Dywedodd na fyddai'r arwynebedd mwy yn effeithio ar y lefel i'w phennu ac y byddai'n cael ei fonitro. Cedwir ffonau ar gyfer adrodd am faterion ar agor pan gynhelir digwyddiadau. Nifer cyfyngedig o faterion a chwynion a gafwyd yn flaenorol am sŵn o ddigwyddiadau. Roedd y pwyllgor yn fodlon y byddai ychwanegu'r amodau cytunedig at y drwydded yn sicrhau y cyfyngir ar y sŵn. Roedd y terfyn ar nifer y diwrnodau'r flwyddyn y gellid cynnal digwyddiad mawr hefyd yn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Derbyniodd y pwyllgor sylwadau'r Swyddog Rheoli Llygredd sef bod yr amodau fel y'u drafftiwyd yn glir a bod modd eu gorfodi. Nododd y pwyllgor hefyd y byddai'r gerddoriaeth a chwyddleisir ym mron pob achos yn dod i ben cyn 23:00.

 

Amddiffyn Plant 

Roedd y pwyllgor yn fodlon y byddai diogelwch plant o fewn nod yr amcanion trwyddedu yn cael ei hyrwyddo gan yr amodau yn Atodiad B a'u bod yn briodol i ymdrin â'r materion a godwyd gan bobl eraill.

 

Casgliad

 

Yn gyffredinol, roedd y pwyllgor yn fodlon i'r rhestr gynhwysfawr o amodau gael eu cynnwys ar y drwydded ac y byddai'r ymgeisydd yn ddeiliad trwydded mangre da a fyddai'n sicrhau y cydymffurfir â'r amodau ac yr ymdrinnir yn briodol ag unrhyw faterion pe baent yn codi o ganlyniad i nifer ychwanegol y bobl a dderbynnir yn y fangre.

 

Ar ben hynny, roedd Deddf 2003 yn darparu atebion ar gyfer preswylwyr pe bai'r amodau'n cael eu torri gan danseilio'r amcanion trwyddedu.

 

</AI2>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.45pm

 

 

Cadeirydd

</TRAILER_SECTION>