Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r côd ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

4.

Deddf Gamblo 2005 - Cais am Hawlen Canolfan Adloniant Teulu Ddidrwydded - 48 Ffordd y Brenin, Abertawe. pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd holl gyfranogwyr y cyfarfod a gofyn i'r Uwch-gyfreithiwr amlinellu'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Rhoddodd yr Uwch-gyfreithiwr drosolwg o'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm, Trwyddedu am y cais am hawlen ar gyfer canolfan adloniant teulu ddidrwydded yn 48 Ffordd y Brenin, Abertawe.

 

Cyfeiriodd at y ffurflen gais a’r wybodaeth atodol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn Atodiad A, yr esboniad o beiriannau hapchwarae categori D yn Atodiad B, cynllun y lleoliad yn Atodiad C a chynllun arfaethedig y fangre yn Atodiad D. 

 

Derbyniwyd sylwadau gan Heddlu De Cymru a dau barti arall â diddordeb: Andy Edwards, Rheolwr y Gwasanaethau wedi’u Targedu ac Arbenigol - Gwasanaethau Pobl Ifanc Abertawe a Damien Rees, Prif Swyddog Diogelu ac Ansawdd Perfformiad. Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad E.

 

Dangoswyd yr arweiniad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Hapchwarae ynghylch canolfannau adloniant teulu didrwydded yn Atodiad F, ac yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, cyflwynwyd copi o fwriad y swyddog i wrthod y cais a’r rhesymau yn Atodiad G.

 

Roedd Jon Hancock, Heddlu De Cymru, ac Andy Edwards, sy’n rheoli’r fangre

Info-Nation a fyddai drws nesaf i’r ganolfan adloniant teulu ddidrwydded arfaethedig, wedi ymhelaethu eu sylwadau ysgrifenedig yn erbyn y cais. Gwnaeth y ddau nodi eu pryderon o ran tanseilio ystyriaethau polisi ynghylch diogelu plant a phobl eraill sy’n ddiamddiffyn a allai gael eu niweidio neu eu hecsbloetio gan gamblo.

 

Yn absenoldeb yr ymgeisydd, Mr McGhan, darllenodd y Swyddog Trwyddedu'r sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd ganddo. Dangoswyd i’r pwyllgor ddelweddau o’r gwahanol fathau o beiriannau posib a fyddai’n cael eu cynnig yn y fangre.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at gwestiynau a materion niferus roeddent am i’r ymgeisydd eu hegluro ond gan nad oedd ef yn bresennol, ni chafwyd atebion i’r cwestiynau hynny.

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 Rheoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, er mwyn i'r is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Rhoddodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r is-bwyllgor drosolwg o'r cyngor cyfreithiol yr oedd eisoes wedi’i roi.

 

Penderfynodd yr is-bwyllgor wrthod y cais am y rhesymau a nodir isod:

 

Ystyriodd y pwyllgor yr hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag Atodlen 10 Deddf Gamblo 2005 a nodwyd yn nhudalennau 32 a 33 yr adroddiad. Roedd y pwyllgor yn ystyriol o’i gylch gwaith i naill ai cymeradwyo neu wrthod y cais ac nid oedd hawl ganddo i atodi amodau i unrhyw hawlen a gymeradwywyd.

Oherwydd nad oedd yr ymgeisydd na’i bartneriaid yn bresennol, nid oedd yn bosib  trafod rhai materion a oedd o bryder i'r pwyllgor ac nid oedd modd cael eglurhad yn eu cylch.

Ar ôl clywed gan PC Hancock o Heddlu De Cymru a Mr Edwards, ac ar ôl darllen y sylwadau ysgrifenedig gan yr ymgeisydd a gweld y ffotograffau a chyfeirio at baragraff 10.5 yr adroddiad, penderfynwyd na fyddai’n briodol gael canolfan adloniant teulu ddidrwydded mor agos i Info-Nation gan ystyried bod ei ddefnyddwyr gwasanaeth yn agored i niwed. Mae hefyd eglwys (Mount Pleasant) gyferbyn â’r fangre sy’n darparu gwasanaethau i bobl ddiamddiffyn, ffaith na chyfeiriwyd ati gan yr ymgeisydd.

Ystyriwyd y canlynol wrth wneud y penderfyniad hwnnw.

Bodlonodd Mr Edwards y pwyllgor y byddai’r plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio Info-Nation yn ddiamddiffyn ac y byddai agosrwydd arfaethedig y fangre i Info-Nation yn cyflwyno risg y byddai’r defnyddwyr gwasanaeth yn defnyddio’r fangre ac yn tanseilio’r amcan trwyddedu ym mharagraff 5.1(c) yr adroddiad. Rhoddwyd esiampl bod defnyddwyr gwasanaeth, fel arfer, wedi colli cysylltiad â’u teuluoedd ac yn defnyddio eu harian ar gyfer y peiriannau gyda’r gobaith o ennill mwy o arian yn hytrach na’i ddefnyddio ar gyfer bwyd oherwydd eu tuedd i fod yn gaeth i bethau - a hynny yw’r rheswm bod angen cymorth arnynt gan Info-Nation. Roedd hyn yn eu gadael nhw heb arian i gynnal ffordd o fyw o unrhyw fath.

Cyfeiriodd Mr Edwards hefyd at Adroddiad Budd a gomisiynwyd yn 2001/2002 ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i’r gyfundrefn gamblo a nododd y mathau o oedolion sy’n ddiamddiffyn sy’n cael eu diogelu gan yr amcan trwyddedu, a’r oedolion hynny oedd y rhai a fyddai’n defnyddio Info-Nation am gymorth. Pobl sydd ar incwm isel ond sydd â llawer o amser rhydd yw’r rhai sydd fwyaf agored i ymddygiad caeth. Nod y fangre yw denu plant a phobl ifanc gyda’r cyfle i ennill gwobr gan ddefnyddio eu hadnoddau ariannol prin.    

Gan ystyried paragraff 15.1 o bolisi’r awdurdod, penderfynodd y pwyllgor fod agosrwydd Info-Nation a’r eglwys yn golygu nad oedd yn gywir lleoli canolfan adloniant teulu ddidrwydded ar y safle hwnnw.

Roedd absenoldeb yr ymgeisydd a/neu ei gydweithiwr busnes yn y cyfarfod pwyllgor yn golygu na allent ymdrin â phryderon yr aelodau ynghylch effeithlonrwydd neu addasrwydd y mesurau arfaethedig, a/neu’r hyfforddiant ymwybyddiaeth o gamblo y cyfeiriwyd ato, i ddiogelu plant a phobl ddiamddiffyn. Ni ddarparodd yr ymgeisydd unrhyw gopïau o’r polisïau a’r gweithdrefnau arfaethedig i’w cyflwyno yn unol â pharagraff 32.2 o bolisi’r awdurdod ym mharagraff 7.1 yr adroddiad.

Hefyd ni chyflwynwyd manylion arfaethedig teledu cylch cyfyng i’r pwyllgor.

Penderfynodd y pwyllgor fod y daflen a gyflwynwyd yn nhudalennau 8 i 9 yr adroddiad wedi’i hysgrifennu mewn iaith a fyddai’n fwy addas i oedolion nag i blant a phobl ifanc. Nid oedd unrhyw wybodaeth am sut roedd yr ymgeisydd yn bwriadu cynnig gwahardd o wirfodd a fyddai’n berthnasol i blant/bobl ifanc neu sut y byddai’n cael ei roi ar waith.

Hefyd nid oedd unrhyw wybodaeth am sut y byddai plant dan 16 oed yn cael eu hatal rhag mynd i mewn i’r fangre yn ystod oriau ysgol neu sut y byddai achosion o wrthod mynediad yn cael eu cofnodi.

Hefyd roedd y pwyllgor yn teimlo fod hepgor cynnwys polisi a fyddai’n ymdrin â chwynion am y fangre yn anffodus.

Nododd y pwyllgor fod yr ymgeisydd wedi cyfeirio at fangreoedd eraill yn yr ardal o’r un fath â’r cais a wnaed. Serch hynny, nid ystyriodd y pwyllgor yr awgrym hwn o ddifrif gan fodloni ei hun ar esboniad PC Hancock a Mr Edwards nad oedd y mangroedd hynny mor agos i Info-Nation a’r fangre a oedd yn destun y cais. Nid oedd y mangreoedd hynny yn hollol debyg chwaith, gan eu bod yn fangreoedd trwyddedig o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 ac/neu er defnydd oedolion yn bennaf yn hytrach na phlant a phobl ifanc. Derbyniodd y pwyllgor dystiolaeth Mr Edwards a PC Hancock fod y mangreoedd eraill yn ddigon pell i ffwrdd o Info-Nation lle na fyddant yn cynnig yr un lefel o risg ag y byddai’r fangre yn ei gwneud.

Felly, roedd y pwyllgor yn fodlon bod gweithdrefnau diogelu addas ar waith er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu trwy’r trwyddedau mangre yn y mangreoedd hynny yn hytrach na hawlen ganolfan adloniant teulu ddidrwydded na ellid ychwanegu amodau ati.

Hefyd derbyniodd y pwyllgor yr wybodaeth a gyflwynwyd gan Mr Edwards ynghylch y ffaith yr oedd yn rhaid i Brosiect Bays, a oedd gynt wedi’i leoli ar y Stryd Fawr, symud oherwydd materion ynghylch nodweddion yr amgylchedd hwnnw a oedd yn yn dangos bod lleoliad yn hollbwysig wrth ymdrin â phobl sy’n ddiamddiffyn.

Roedd y pwyllgor yn pryderu am sylwadau’r ymgeisydd a nododd y byddai ymwelwyr yn dod i gysylltiad â’r peiriannau categori D yn gyntaf wrth gyrraedd y fangre ac y byddant yn fwy amlwg/hygyrch na pheiriannau hapchwarae eraill fyddai’n cael eu lleoli ymhellach i ffwrdd ar y llawr isaf.

Ni ystyriwyd o ddifrif sylwadau’r ymgeisydd ynghylch caniatâd cynllunio oherwydd y meini prawf a’r ystyriaethau hollol wahanol sy’n gymwys i geisiadau cynllunio. Yn yr un modd, ni roddwyd llawer o sylw, oherwydd diffyg unrhyw wybodaeth gefnogol, i awgrym yr ymgeisydd y byddai cymeradwyo’r hawlen yn cael effaith gadarnhaol ar gynaladwyedd y ganolfan siopa leol.

Ynghylch teilyngdod yr oriau i’w newid a gynigwyd gan yr ymgeisydd, y cyngor cyfreithiol oedd bod y newid i oriau ar nos Wener yn golygu cynnydd mewn oriau o 20:00 i 22:00, ac ni ellid gwneud hyn heb gyflwyno cais newydd oherwydd yr estyniad mewn oriau.

Derbyniodd y pwyllgor sylwadau Mr Edwards na fyddai’r cynnig i agor hanner awr yn hwyrach am 12:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener yn cael effaith fawr oherwydd bod defnyddwyr gwasanaeth yn mynd ac yn dod pan fydd Info-Nation ar agor.

Mae lleoliad agos y fangre i Info-Nation yn creu problem na ellir ei goresgyn.

Codwyd sawl mater arall gan yr ymgeisydd a phenderfynodd y pwyllgor ar y canlynol:

Ar ôl clywed gan y swyddogion a heb dderbyn mwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd, penderfynwyd na ddylanwadwyd ar yr ymgeisydd a/neu’r cais yn annheg, fel a awgrymwyd gan yr ymgeisydd. Dilynwyd y drefn briodol ac roedd rhan o’r oedi y cyfeirir ato’n cynnwys cais am ohiriad yr ymgeisydd.

Dilynwyd y broses a nodwyd yn Neddf Gamblo 2005 a pholisi'r awdurdod ei hun. Mae dyfyniad o baragraff 39.4.5 y polisi wedi’i gynnwys yn yr adroddiad sy’n nodi yr ymgynghorir â swyddogion penodol yr awdurdod.

Roedd angen i’r awdurdod gyflwyno’r hysbysiad o’i fwriad i wrthod y cais o dan atodlen 10, paragraff 10 y Ddeddf.

Mae’r Heddlu yn ymgynghorai statudol fel a nodwyd ym mharagraff 9 Atodlen 10.