Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am Drwydded Mangre - On Board Surf & Coffee, 464 Gower Road, Killay, Swansea, SA2 7DZ. pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y cadeirydd holl gyfranogwyr y cyfarfod gan amlinellu'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu y cais am drwydded mangre mewn perthynas ag On Board Surf & Coffee, 464 Heol Gŵyr, Cilâ SA2 7DZ. Cyfeiriodd at yr Amcanion Trwyddedu, ystyriaethau'r polisi trwyddedu a'r arweiniad statudol gan y Swyddfa Gartref. Cyfeiriwyd yn benodol at fanylion y cais am drwydded mangre, cynllun lleoliad y fangre yn Atodlen A a'r amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu yn Atodlen B. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan yr awdurdodau cyfrifol. Fodd bynnag, derbyniwyd sawl sylw gan bobl eraill. Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad C. Roedd y sylwadau gwrthwynebol a dderbyniwyd yn ymwneud ag atal troseddu ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd a niwsans cyhoeddus.

 

Cyflwynodd Mr Morse o gwmni Cyfreithwyr John Morse, sylwadau ysgrifenedig ar ran nifer o breswylwyr, yn gwrthwynebu'r cais ac amlygodd eu pryderon o ran tanseilio Amcanion Trwyddedu Statudol mewn perthynas ag atal troseddu ac anrhefn, diogelwch cyhoeddus ac atal niwsans cyhoeddus.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Jeff Jones sylwadau ysgrifenedig ar ran nifer o breswylwyr eraill, yn gwrthwynebu'r cais ac amlygodd eu pryderon o ran tanseilio Amcanion Trwyddedu Statudol mewn perthynas ag atal troseddu ac anrhefn, diogelwch cyhoeddus ac atal niwsans cyhoeddus.

 

Amlinellodd Ms Spencer ar ei rhan hi a Mr Williams, fanylion y fangre, a oedd yn fusnes bach annibynnol, a oedd wedi bod yn masnachu felly ers 11 mlynedd.  Dywedodd eu bod wedi ystyried dyfodol y busnes oherwydd bod strydoedd mawr lleol wedi bod yn dioddef yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Esboniodd fod ganddynt berthynas dda â'r bobl leol, ac roeddent yn ystyried nifer ohonynt yn ffrindiau. Oedran cyfartalog eu cwsmeriaid oedd tua 50 oed, yn cynnwys grwpiau o fenywod a oedd yn cwrdd am ginio, mamau ysgol, a phobl ar eu ffordd i'r traeth ac oddi yno. Cynhaliwyd cyfarfodydd atal troseddu lleol hefyd yn y fangre. Roedd yn fusnes unigryw lle'r oedd gweithiau dau artist lleol yn cael eu harddangos ac roedd cwsmeriaid yn aml yn aros yn hirach nag yr oeddent wedi ei fwriadu. Roeddent am ychwanegu at y dewis ac amrywiaeth y cynnyrch y gallai'r busnes eu gwerthu, a allai gynyddu eu refeniw. Y nod oedd creu rhywle lle gallai unigolion, cyplau a theuluoedd gwrdd i fwynhau diod. Amlinellodd amgylchiadau personol Mr Williams, gan esbonio y byddai'n byw yn y fflat uwchben y fangre. Roeddent wedi trafod y posibilrwydd o werthu ambell wydraid o win a chwrw crefft i'r cwsmeriaid presennol a oedd wedi ymateb yn gadarnhaol. Byddai'r gerddoriaeth yn parhau fel cerddoriaeth gefndir yn unig. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r cynghorydd, dyma oedd ymateb yr ymgeiswyr,

 

·                 Byddai 15 i 25 person yn unig yn mynd i'r eiddo ar unrhyw adeg;

·                 Byddai'r ardaloedd yfed yn cynnwys y patio yn y blaen a gardd breifat gaeëdig yn y cefn

 

Yn dilyn cyflwyniad yr ymgeisydd, gofynnodd Mr Morse i'r ymgeisydd ystyried newid yr oriau gweithredu er mwyn adlewyrchu'r amodau cynllunio presennol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau cyffredinol, dyma ddywedodd yr ymgeiswyr,

 

·                 Roeddent yn bwriadu cydymffurfio'n llwyr ag amodau cynllunio ac roeddent yn ymwybodol y byddai'n rhaid iddynt gyflwyno cais pellach os oeddent am newid eu horiau agor;

·                 Ni fydd yr ardaloedd a ddefnyddir i weini diodydd ar hyn o bryd yn newid a chynigir gwasanaeth bwrdd, heb fod ardal bar ar gael. Fodd bynnag, gan fod cais ar gyfer y fangre yn ei chyfanrwydd, y bwriad oedd rhoi cyfle i gwsmeriaid gael cip ar yr eitemau sydd ar werth wrth yfed diod mewn awyrgylch hamddenol. Nododd gaffis eraill tebyg llwyddiannus a oedd yn cynnig y math hwn o brofiad;

·                 Nid oeddent yn disgwyl nifer mawr o gwsmeriaid oherwydd eu lleoliad, nac yn disgwyl i'r gwerthiant alcohol fod yn uchel, gydag ond ambell wydraid o win a chwrw crefft yn cael ei werthu.

 

Darparwyd datganiadau i gloi gan Ms Spencer a Mr Morse.

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 Rheoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, er mwyn i'r Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Rhoddodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Is-bwyllgor drosolwg cynhwysfawr o'r cyngor cyfreithiol a roddwyd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried y cais a'r sylwadau a wnaed ynghyd â holl anghenion a buddion yr holl bartïon o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu’r cais yn unol ag amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel a ddiwygiwyd yn briodol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod:

 

1.  Bydd system teledu cylch cyfyng gynhwysfawr sy'n gallu recordio yn cael ei gosod a'i chynnal a’i chadw yn yr ardaloedd masnachu a phob mynedfa i'r fangre, ac allanfa ohoni. Rhaid i'r system teledu cylch cyfyng recordio'n barhaus pan fydd y fangre ar agor ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy ac ar bob adeg pan fydd cwsmeriaid yn y fangre. Rhaid i'r system allu darparu lluniau o safon dystiolaeth, yn enwedig cydnabyddiaeth wyneb. Rhaid i bob recordiad gael ei storio am o leiaf 31 o ddiwrnodau a dangos dyddiad ac amser. Rhaid i recordiadau fod ar gael ar unwaith ar gais yr heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor.

 

2.  Gosodir hysbysiadau mewn mannau amlwg wrth bob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion preswylwyr lleol ac i adael yr ardal yn dawel.

 

3.  Gosodir hysbysiadau mewn mannau amlwg a ddefnyddir ar gyfer smygu yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion trigolion lleol ac i ddefnyddio'r ardal yn dawel.

 

4.  Ni chaniateir yfed alcohol na lluniaeth arall ar ôl 21:00 yn yr ardaloedd yfed awyr agored.

 

5.  Dylai'r ardal yfed awyr agored gael ei goruchwylio'n rheolaidd gan staff y fangre pan fydd yn cael ei defnyddio.

 

6.  Gweithredir cynllun prawf oedran Her 21 yn y fangre a'r unig ffurfiau adnabod derbyniol fydd llun, dyddiad geni a marc holograffig.

 

7.  Cedwir cofnod yn rhoi manylion pob achos o wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r cofnod gynnwys dyddiad ac amser gwrthod y gwerthu ac enw'r aelod o staff a wrthododd ei werthu. Dylai'r cofnod fod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor.

 

8.  Rhaid i'r fangre gadw cofnodion wedi'u diweddaru sydd ar gael i'w harchwilio o hyfforddiant staff yn unol â gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag oedran.

 

Amodau ychwanegol:

 

9.       Ni cheir symud, gwaredu na gosod gwastraff, gan gynnwys poteli, yn yr ardaloedd awyr agored rhwng 21:00 a 09:00.

10. Bydd llyfr cofnod achosion, yn nhrefn rifiadol, yn cael ei gadw yn yr eiddo sy'n dangos manylion dyddiad ac amser pob ymosodiad, niwed, damwain neu droadau allan, yn ogystal â manylion aelodau'r staff sy'n rhan o'r broses, natur y digwyddiadau a'r cam gweithredu/canlyniad. Rhaid bod y llyfr ar gael i'w archwilio gan yr heddlu a swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu.

11. Ni osodir seinyddion y tu allan i fangre 464 Heol Gŵyr, Abertawe.

12. Bydd rhif uniongyrchol goruchwyliwr/rheolwr dynodedig yr eiddo ar gael yn gyhoeddus ar bob adeg y bydd yr eiddo ar agor. Dylid rhoi'r rhif ffôn hwn i breswylwyr yr ardal ar gais.

Rhesymau dros y penderfyniad

 

Roedd yr holl sylwadau'n ymwneud â meini prawf cynllunio, sydd ar wahân i'r meini prawf trwyddedu. Ni allant gael eu defnyddio i wrthod y cais. Os bydd cynllunio'n cael ei newid i ganiatáu oriau agor hwyrach yn y dyfodol yna mae amodau wedi'u gosod i leihau'r risg o sŵn gyda'r nos.