Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth.

 

3.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am Drwydded Mangre - 3 S Convenience Store, 95, Carnglas Road, Sketty, Swansea, SA2 9BN. pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at anawsterau technegol a oedd wedi atal y cyfarfod rhag dechrau am 10.00am a diolchodd i bob parti am eu hamynedd.

 

Amlinellodd y Cyfreithiwr Cyswllt y weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais. 

 

 Adroddodd y Swyddog Trwyddedu am gais am drwydded mangre newydd mewn perthynas â Siop Gyfleustra 3 S, 95, Carnglas Road, Sgeti, Abertawe, SA2 9BN, a dderbyniwyd gan yr Awdurdod ar 27 Mehefin, 2023. 

 

Cyfeiriodd at yr amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, arweiniad gan y Swyddfa Gartref a chamau gweithredu'n dilyn ystyried gwrthwynebiadau'r bobl berthnasol.  Cyfeiriwyd yn benodol at y cais am drwydded mangre a'r Cynllun yn Atodiad A ac A1; atodwyd copi o'r cynllun lleoliad yn Atodiad B, rhestr a chynllun lleoliad mangreoedd trwyddedig yn yr ardal yn Atodiad B1, amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu yn Atodiad C a sylwadau a wnaed gan yr Awdurdod Cyfrifol a'r Bobl Eraill yn Atodiad D a D1. 

 

Roedd sylw a dderbyniwyd oddi wrth Heddlu De Cymru (yn Atodiad D) yn ymwneud ag atal trosedd ac anhrefn a niwsans cyhoeddus. 

 

Derbyniwyd pum sylw oddi wrth bobl eraill.  Atodwyd copi o'r sylwadau yn Atodiad D1.  Roedd y sylwadau'n ymwneud ag atal troseddu ac anhrefn a niwsans cyhoeddus. 

 

Dywedodd y Cwnstabl Paul Jones, ynghyd â'r Cwnstabl Nicola Evans (Heddlu De Cymru) fod cytundeb wedi'i gyrraedd, yn dilyn trafodaethau â'r Ymgeisydd, i ddiwygio'r gweithgareddau trwyddedadwy o ddydd Llun i ddydd Sul – 0600 i 2300. 

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd M W Locke (Aelod Ward) ar ei sylwadau ysgrifenedig a chadarnhaodd, yn dilyn trafodaethau â Heddlu De Cymru, ei fod yn cytuno â'r amser diwygiedig sef 2300.  Dywedodd fod Heddlu De Cymru wedi rhoi sicrwydd y byddai'r fangre'n cael ei monitro am unrhyw gynnydd mewn trosedd ac anhrefn yn yr ardal.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Bobl Eraill gan nad oeddent yn gallu dod i'r cyfarfod. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi rhoi sylw dyladwy i'w sylwadau.

 

Croesawodd y Cadeirydd Suresh Kanapathi (yn cynrychioli'r Ymgeisydd) a fanylodd ar y Cais.  Cyfeiriodd at gytundeb yr Ymgeisydd i'r amser diwygiedig o 2300.  Amlygodd y manteision y byddai'r siop gyfleustra'n eu cynnig i'r gymuned, yn enwedig gan fod yr adeilad wedi bod yn wag ers peth amser. Ar ben hynny, dywedodd fod yr Ymgeisydd yn brofiadol ac yn llwyr ymwybodol o'r Amcanion Trwyddedu.

 

I gloi, dywedodd Mr Kanapathi fod y materion a godwyd gan y Bobl Eraill wedi'u lliniaru o ganlyniad i ddiwygio'r oriau gweithredu i 2300.  Felly, anogodd y Pwyllgor i ganiatáu'r Cais diwygiedig.    

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb.

 

(Sesiwn Gaeëdig) 

  

Trafododd yr aelodau'r materion yn ymwneud â'r cais. 

  

(Sesiwn Agored) 

  

Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais diwygiedig yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w hystyried yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod:  

 

Cyflenwi alcohol 

Dydd Llun i ddydd Sul, o 0600 i 2300 

 

1.      Bydd system teledu cylch cyfyng gynhwysfawr sy'n gallu recordio yn cael ei gosod a'i chynnal a'i chadw yn yr ardaloedd masnachu a phob mynedfa i'r fangre, ac allanfa ohoni. Rhaid i'r system teledu cylch cyfyng recordio'n barhaus pan fydd y fangre ar agor ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy ac ar bob adeg pan fydd cwsmeriaid yn y fangre. Rhaid i'r system allu darparu lluniau o safon dystiolaeth, yn enwedig cydnabyddiaeth wyneb. Rhaid i bob recordiad gael ei storio am o leiaf 31 o ddiwrnodau a dangos dyddiad ac amser. Rhaid sicrhau bod y recordiadau ar gael yn syth ar gais yr Heddlu neu Swyddog Awdurdodedig.  

2.     Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos data neu ffilm ddiweddar i'r heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â phosib pan ofynnir am hyn. 

3.     Byddai'r siop yn gweithredu'r gyfraith iechyd, diogelwch a diogelwch tân mewn perthynas â siop gyfleustra.  Byddai hefyd yn gweithredu polisïau a gweithdrefnau a bennwyd gan y grŵp cyfanwerthu. 

4.     Mae'r siop mewn ardal breswyl.  Bydd yn gweithio'n agos gyda phobl leol i gynnal neu gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i gadw'r ardal yn lân ac yn daclus bob amser. 

5.      Gweithredir cynllun prawf oedran Her 25 yn y fangre a'r unig ffurfiau adnabod derbyniol fydd llun, dyddiad geni a marc holograffig. 

 6.     Cedwir cofnod yn rhoi manylion pob achos o wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r cofnod gynnwys dyddiad ac amser gwrthod y gwerthu ac enw'r aelod o staff a wrthododd ei werthu. Dylai'r cofnod fod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar bob achlysur pan fydd y fangre ar agor.  

7.      Rhaid i'r fangre gadw cofnodion wedi'u diweddaru sydd ar gael i'w harchwilio o hyfforddiant staff yn unol â gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag oedran. 

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y gwrthwynebiadau a godwyd gan y sylwadau. Y cytundeb y daeth yr Heddlu a'r Ymgeisydd iddo, wedi'i gefnogi gan y Cynghorydd Locke sef bod yr oriau a ganiateir ar gyfer gwerthu alcohol yn cael eu lleihau, gan ddileu'r prif bryderon fod y fangre'n cael ei defnyddio fel man cyfarfod a chyrchfan i brynu alcohol.

 

Roedd y Pwyllgor yn hapus i weld bod yr adeilad yn cael ei feddiannu unwaith yn rhagor ac fe'i calonogwyd hefyd gan y ffaith y byddai'r Heddlu yn monitro'r sefyllfa ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol posib yn Sgwâr Tŷ Coch a allai fod yn gysylltiedig â'r fangre hon.

 

 

</AI3>

<TRAILER_SECTION>

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.47 am

 

 

Cadeirydd