Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth.

3.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 34 - Amrywio Trwydded Safle - Weobley Castle, Llanrhidian, Swansea, SA3 1HB. pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd y Cyfreithiwr Cyswllt y weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu am y cais am drwydded mangre newydd mewn perthynas â Chastell Weble, Llanrhidian, Abertawe SA3 1HB, a dderbyniwyd gan yr awdurdod ar 21 Ebrill, 2023.

 

Cyfeiriodd at yr amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, arweiniad gan y Swyddfa Gartref a chamau gweithredu'n dilyn ystyried gwrthwynebiadau'r bobl berthnasol.  Cyfeiriwyd yn benodol at y cais am drwydded mangre yn Atodiad A ac A1, atodwyd copi o'r ardal drwyddedig bresennol a chynllun ychwanegu arfaethedig yn Atodiad A2, atodwyd copi o'r drwydded mangre bresennol yn Atodiad B, atodwyd copi o'r cynllun presennol yn Atodiad B1, atodwyd copi o'r cynllun lleoliad yn Atodiad C a chopi o'r sylwad a wnaed gan y person arall yn Atodiad Ch.

 

Derbyniwyd un sylw gan bobl eraill. Atodwyd copi o'r sylw yn Atodiad Ch. Roedd y sylw'n ymwneud ag atal niwsans cyhoeddus.

 

Yn absenoldeb y person arall, darllenodd y Swyddog Trwyddedu y sylwad a'r atodiad i'r sylwad a oedd wedi'u dosbarthu i'r Pwyllgor.

 

Croesawodd y Cadeirydd Ms Guise-Ellis (sy'n cynrychioli'r ymgeisydd) a fanylodd ar natur y tri digwyddiad gwahanol a gynhaliwyd yng Nghastell Weble. 

 

Cynhaliwyd yr Ŵyl Werin ar yr ail wythnos ym mis Mehefin ac ystyriwyd ei bod yn ddof iawn. Er bod y digwyddiad yn ehangu, denodd y digwyddiad genhedlaeth hŷn nad ydynt yn yfed i feddwi.

 

Mae'r Ŵyl Gwrw wedi'i chynnal ers blynyddoedd, i ddechrau yn hen dafarn y Greyhound ac yn ddiweddarach yng Nghastell Weble. Denodd y digwyddiad bobl ifanc lleol a rhoddodd gyfle iddynt fwynhau cerddoriaeth, diod a gwersylla gyda'u ffrindiau mewn amgylchedd diogel.

 

Cyfeiriodd Ms Guise-Ellis at y trydydd digwyddiad, Jopo, oedd yn denu cynulleidfa ehangach o bob cwr o Gymru yr oedd ganddynt ddiddordeb mewn faniau/ceir VW. Unwaith eto, roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar y teulu.


Dywedodd, o safbwynt busnes, y byddai'n haws cadw pabell yn ei lle a chynnal y digwyddiad dros ddau benwythnos yn olynol. Fodd bynnag, byddai'r effaith yn annheg ar bobl leol. 

 

Y nod oedd darparu digwyddiadau diogel mewn amgylchedd hardd, gan gyflogi cynifer o bobl leol a masnachwyr lleol (gwerthwyr bwyd) â phosib i ddod ag arian i'r gymuned. 


Rhannodd y Cyfreithiwr Cyswllt y map/cynlluniau a nododd Ms Guise-Ellis y pellter rhwng lleoliad y digwyddiad ac eiddo'r preswylwyr lleol. Dywedodd y byddai coed yn amgylchynu'r digwyddiad a fyddai'n gweithredu fel byffer ar gyfer unrhyw sŵn.  Derbyniwyd bod y digwyddiad gryn bellter oddi wrth dai lleol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd Ms Guise-Ellis:

 

·       Mae'r digwyddiadau'n para deuddeg awr ond mae lefel y gerddoriaeth yn dawel. 

·       Mae'r lleoliad yn defnyddio plastig y gellir ei ailddefnyddio, ond ni chaniateir gwydr na chaniau.

·       Ni fydd poteli plastig gwag yn cael eu clirio o'r fangre gan fod y llestri plastig y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu rhoi mewn sachau a'u cludo yn ôl i'r bragdy.  Fodd bynnag, byddai'r ymgeisydd yn cytuno i osod amodau ar symud llestri yfed.

·       Ni fyddai unrhyw broblem ynghylch gosod amod mewn perthynas â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch ar gyfer digwyddiadau dros 500 o bobl.

·       Y GMD fyddai Mr Mabbett.

·       Ni fu unrhyw newid i'r oriau gweithredu.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd Gweithredol, Trwyddedu, at anghysondeb yn yr amseroedd y mae'r drwydded yn awdurdodi cynnal gweithgareddau trwyddedadwy a fyddai'n cael ei ddiwygio i hanner dydd i hanner nos.

 

I gloi, dywedodd Ms Guise-Ellis mai diben y cais oedd galluogi digwyddiadau i gael eu cynnal yn y gymuned leol ar gyfer teuluoedd mewn amgylchedd diogel a chadarnhaol wrth weithio gyda'r preswylwyr lleol. 

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb, a chynghorodd y byddai penderfyniad yn cael ei ddarparu o fewn 5 niwrnod gwaith.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr Aelodau'r materion yn ymwneud â'r cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Nododd y Cadeirydd y byddai penderfyniad yr Is-Bwyllgor yn cael ei gyhoeddi o fewn pum niwrnod gwaith i gyfarfod y Pwyllgor ac y byddai'n ystyried y cais a'r sylwadau a wnaethpwyd ac anghenion a buddiannau pob parti o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, yr arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w hystyried yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod:

 

Cerddoriaeth Fyw

Dydd Gwener i ddydd Sadwrn o 12:00 tan 00:00 a dydd Sul o 12:00 tan 22:00

 

Cerddoriaeth wedi'i Recordio  

Dydd Gwener o 12:00 tan 00:00 a dydd Sadwrn o 11:00 tan 00:00 a dydd Sul 11:00 tan 22:00

 

Perfformio Dawns  

Dydd Gwener a dydd Sadwrn o 12:00 tan 00:00 a Dydd Sul o 12:00 tan 22:00

 

Lluniaeth yn Hwyr y Nos

Nos Wener a nos Sadwrn o 23:00 tan 00:00

 

Cyflenwi alcohol

Dydd Gwener a dydd Sadwrn 12:00 tan 00:00

Dydd Sul o 12:00 tan 22:00

 

1.       Ni chaniateir cynwysyddion gwydr ar y safle. Rhaid i bob diod fod mewn poteli/gwydrau plastig.

 

2.       Bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn amlwg wrth fynedfa'r fangre, yn y cyfleusterau toiled ac mewn lleoliadau strategol mewn ardaloedd mynediad cyhoeddus. Arwyddion i nodi; 'Mae defnyddio cyffuriau yn annerbyniol; gan gynnwys defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd (cyffuriau penfeddwol cyfreithlon) a bod y lleoliad yn gweithredu polisi chwilio am gyffuriau fel amod mynediad sy'n cadw'r hawl i chwilio cwsmeriaid dan y ddarpariaeth a gwrthod mynediad os canfyddir unrhyw sylweddau'.

 

3.       Bydd deiliad trwydded bersonol ar ddyletswydd yn y fangre bob amser y mae'r fangre wedi'i hawdurdodi i werthu alcohol.

 

4.       Cyflogi staff Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (ADD) ar y drysau pan ddarperir adloniant wedi'i reoleiddio ar gymhareb o 1 goruchwyliwr i 100 o gwsmeriaid.

 

5.       Caiff y mynedfeydd/allanfeydd eu staffio bob amser gan o leiaf dau bersonél trwyddedig ADD.

 

6.       Dylid cadw cofrestr o oruchwylwyr drysau (Cofrestr Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel neu gofrestr rifiadol debyg wedi'i rhwymo) ar bob adeg yn y fangre. Dylai cofrestr o'r fath gynnwys enw, rhif cofrestru, manylion cyswllt y staff wrth y drws ynghyd â'r dyddiad a'r amser y mae ar ddyletswydd ac oddi ar ddyletswydd. Dylid cyflwyno manylion llawn yr asiantaeth sy'n cyflenwi'r staff i'w cymeradwyo ynghyd â sicrhau bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio ar gais gan swyddog awdurdodedig.

 

7.       Bydd system cyfrif rhifau ar waith wrth bob mynedfa gyda phob lleoliad yn adrodd i Brif Stiward neu swyddog diogelwch y digwyddiad. Bydd y rhifau o bob mynedfa yn cael eu hanfon ymlaen bob 20 munud fel y gall y Prif Stiward neu swyddog diogelwch y digwyddiad fonitro'r niferoedd cyffredinol. Bydd cofnod, boed ar bapur neu ar ffurf electronig, yn cael ei chadw ar gyfer y niferoedd hyn ac ar gael ar gais Swyddogion Awdurdodedig.

 

8.       Rhaid cynnal llyfr digwyddiadau (Llyfr Digwyddiadau Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel neu gofrestr rifiadol debyg wedi'i rhwymo) ar bob adeg er mwyn cofnodi unrhyw ddigwyddiadau o bwys.

 

9.       Bydd deiliad y drwydded mangre yn sicrhau bod yr holl argymhellion gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn cael eu rhoi ar waith yn llawn cyn dechrau'r digwyddiad ac y cydymffurfir â hwy drwy gydol y digwyddiad.

 

10.   Mannau gwaredu sbwriel i'w gosod ar draws y safle gan gynnwys ysgubo rheolaidd gan y tîm sbwriel.

 

11.   Ar ddiwedd pob diwrnod bydd y Goruchwyliwr Mangre Dynodedig neu gynrychiolydd a enwir yn gyfrifol am sicrhau bod y safle'n glir o sbwriel a gweddillion o'r digwyddiad.

 

12.   Ni cheir symud, gwaredu na gosod gwastraff, gan gynnwys poteli, yn yr ardaloedd awyr agored rhwng 21:00 ac 08:00.

 

13.   Rhaid i unrhyw gynllun rheoli traffig fel sy'n ofynnol gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch gael ei gyflwyno i'r heddlu o leiaf 14 diwrnod cyn y cynhelir y digwyddiad.

 

14.   Sicrhau bod yr holl sain byw a'r sain wedi'i mwyhau (gan gynnwys systemau teledu a cherddoriaeth) yn y fangre yn cael ei lleihau a'i chynnal ar lefel sy'n ei gwneud yn fychan yn y mannau monitro a nodwyd ar y map atodedig.

 

15.   Bydd digon o fwyd a diodydd nad ydynt yn feddwol ar gael ym mhob rhan o'r fangre lle mae alcohol yn cael ei werthu neu ei gyflenwi i'w yfed yn y fangre.

 

16.   Gweithredir cynllun prawf oedran Her 21 yn y fangre a rhaid i ffurfiau adnabod derbyniol gynnwys llun, dyddiad geni a marc holograffig.

 

17.   Cedwir cofnod yn rhoi manylion pob achos o wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r cofnod gynnwys dyddiad ac amser gwrthod y gwerthu ac enw'r aelod o staff a wrthododd ei werthu. Dylai'r cofnod fod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar bob achlysur pan fydd y fangre ar agor.

 

18.    Rhaid i'r fangre gadw cofnodion wedi'u diweddaru, ar ffurf ysgrifenedig neu electronig, sydd ar gael i'w harchwilio ar gyfer hyfforddiant staff mewn perthynas â gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag oedran.

 

19.   Dylai'r hysbysiadau gael eu harddangos yn glir yn y fangre er mwyn pwysleisio i gwsmeriaid nad yw alcohol yn cael ei werthu i bobl dan 18 oed.

 

20.   Mae'r Drwydded Mangre wedi'i chyfyngu i 3, digwyddiad 3 diwrnod y flwyddyn.

 

21.   Bydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn cael ei hysbysu gydag o leiaf dri mis o rybudd ar gyfer pob digwyddiad sy'n debygol o ddenu mwy na 500 o bobl.

 

Rheswm dros y penderfyniad:   

 

Nododd y Pwyllgor na dderbyniwyd unrhyw sylwadau perthnasol gan yr Awdurdodau Cyfrifol.

 

Nododd y Pwyllgor sylwadau’r preswylwyr lleol yn y bwndel o ddogfennau a'u sylwadau atodol a ddarparwyd yn ystod wythnos cyfarfod y Pwyllgor. Nodwyd bod y sylwadau'n cyfeirio at sŵn ac aflonyddwch o ddigwyddiadau ac y gallai digwyddiadau fod ar benwythnosau olynol, felly cymerodd yr Aelodau ofal ychwanegol wrth ystyried yr holl sylwadau yn unol â'r amcanion.

 

Nododd y Pwyllgor sylwadau'r ymgeisydd a gwybodaeth ategol yr ymgeisydd a ddarparwyd cyn y Pwyllgor.

 

Nododd y Pwyllgor fod cynrychiolydd yr ymgeisydd yn cydnabod sylwadau a phryderon y preswylwyr lleol drwy ddarparu atebion mewn gwrthateb a/neu liniaru sy'n berthnasol i'r amcanion trwyddedu.

 

Cadarnhaodd gynrychiolydd yr ymgeisydd leoliad yr ardal drwyddedig ar y cynllun, topograffi'r tir ac y bydd yr offer sain wedi'i leoli fel bod sŵn yn cael ei gyfeirio tuag at y castell ac i ffwrdd oddi wrth breswylwyr Landimôr. Yn ogystal, roedd y cynrychiolydd yn agored ynghylch defnydd arfaethedig y safle, y math o ddigwyddiadau ac y byddai'r tri digwyddiad yn cael eu cynnal ar draws y flwyddyn yn hytrach nag ar benwythnosau olynol.

 

Roedd cynrychiolydd yr ymgeisydd yn barod i dderbyn addasiadau i'w cais ac yn croesawu addasiadau os teimlwyd y byddai'r addasiadau hynny'n hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

 

Felly, teimlai'r Aelodau fod y mesurau lliniaru a gynigiwyd a'r addasiad yn 12 a 21 o'r amodau, yn ddigonol ac yn ddigon sylweddol i godi sylwadau'r preswylydd lleol ynghylch yr effaith y byddai cymeradwyo trwydded yn ei chael ar yr amcanion trwyddedu.