Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth.

 

3.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am Drwydded Mangre - The Langrove, Parkmill, Southgate, Swansea, SA3 2AB. pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cyflwyniadau ffurfiol amlinellodd y Cyfreithiwr Cyswllt y weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu am y cais am drwydded mangre newydd mewn perthynas â The Langrove, Parkmill, Southgate, Abertawe SA3 2AB

 

Cyfeiriodd at yr amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, arweiniad gan y Swyddfa Gartref a chamau gweithredu yn dilyn ystyried gwrthwynebiadau'r bobl berthnasol.  Cyfeiriwyd yn benodol at gais am drwydded mangre yn Atodiad A ac A1, cynllun lleoliad y fangre yn Atodiad B, yr amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu yn Atodiad C a'r sylwadau a wnaed gan Bobl Eraill yn Atodiad Ch.

 

Derbyniwyd tri sylw gan bobl eraill. Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad Ch. Roedd y sylwadau'n ymwneud ag atal troseddu ac anhrefn a niwsans cyhoeddus.

 

Yn absenoldeb y bobl eraill, darllenodd y Swyddog Trwyddedu'r sylwadau (fel y manylir yn Atodiad Ch):

 

Croesawodd y Cadeirydd Ms S Craig, Ymgeisydd.  Cyfeiriodd Ms Craig at y sylw a dderbyniwyd gan Mr B Stewart a dywedodd fod camddealltwriaeth wedi bod ac roedd hi'n hapus i addasu oriau'r cais i 12:00 – 20:30, o ddydd Llun i ddydd Sul (yn unol ag oriau'r Clwb Iechyd).  Nodwyd bod y Clwb Iechyd ar gau am 17:00 ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ar hyn o bryd ond ei fwriad oedd ymestyn yr oriau hyn i 21:00, sy'n esbonio pam y nodwyd yr amserau hyn yn ei chais.  Fodd bynnag, yn absenoldeb unrhyw estyniad i'r oriau presennol byddai'n cau am 17:00.  At hynny, nodwyd bod y Clwb Iechyd a'r Caffi yn rhannu'r un system ddiogelwch felly ni fyddai modd gweithredu heibio 17:00 ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

 

Cyfeiriodd Ms Craig at e-bost o gefnogaeth gan Mr B Stewart, er i Swyddogion Trwyddedu gadarnhau nad oedd e-bost o'r fath wedi ei dderbyn.

 

Cyfeiriodd Ms Craig at y sylwadau gan Mr a Mrs Porter a Mr Newcombe.  Dywedodd fod y twmpathau cyflymder ar y lôn yn atal unrhyw gerbyd rhag teithio mwy na 10mya.  Yn ogystal, derbyniwyd 1 gŵyn mewn cyfnod o 10 mlynedd (a oedd yn ymwneud â'r Clwb Iechyd).  Roedd Heddlu De Cymru wedi cadarnhau nad oedd cwynion wedi eu derbyn.

 

Cyfeiriodd Ms S Craig at yr anawsterau a brofir gan fusnesau bach yn ystod yr hinsawdd economaidd bresennol a dywedodd bod ei chais yn gofyn am ddarparu gwydraid o win neu gwrw gyda phryd o fwyd, a fyddai'n fuddiol i'r gymuned ac yn rhoi hwb i'r busnes o bosib.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nododd Ms Craig:

 

·       Roedd y siop goffi wedi bod yn gweithredu ers wythnos felly roedd yn anodd deall sut y gallai'r materion a godwyd gan wrthwynebwyr ymwneud â'r busnes.

·       O ran cael gwared ar sbwriel/boteli gwag, roedd hi'n hapus i newid yr amseroedd i 09:00 – 20:30.

·       Rhan o'i threfniant prydles oedd sicrhau glendid yr ardal, felly roedd gwasanaethau gwaredu gwastraff ar waith.

·       Byddai'n cymryd cyfrifoldeb am weithredu a chynnal a chadw teledu cylch cyfyng.

·       Roedd coffr ar y safle, pe bai angen i gyffuriau a atafaelwyd gael eu storio'n ddiogel.

·       Byddai darpariaeth ar gyfer cludfwyd.

 

I gloi, manylodd Ms Craig ar natur ei busnes a dywedodd fod y preswylwyr lleol yn mynd i'r siop goffi a'u bod yn canmol y gwasanaethau a oedd yn cael eu cynnig.  Dywedodd Ms Craig na fyddai'r cais i weini alcohol yn annog cwsmeriaid o'r tu allan i'r ardal i fynd i'r siop goffi, ond yn darparu cynnig gwell i'r gymuned leol. 

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb, a chynghorodd y byddai penderfyniad yn cael ei ddarparu o fewn 5 niwrnod gwaith.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion yn ymwneud â'r cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Nododd y Cadeirydd y byddai penderfyniad yr Is-Bwyllgor yn cael ei gyhoeddi o fewn pum niwrnod gwaith i gyfarfod y Pwyllgor ac y byddai'n ystyried y cais a'r sylwadau a wnaethpwyd ac anghenion a buddiannau pob parti o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, yr arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w hystyried yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod:

 

Cyflenwi Alcohol/Oriau agor

 

Cyflenwi alcohol

 

Dydd Llun – Dydd Sul

1200 – 2030

 

1.          Bydd system CCTV gynhwysfawr y gellir recordio arni yn cael ei gosod a'i chynnal a chadw yn yr holl ardaloedd masnach, sy'n cynnwys golwg ar bob mynedfa ac allanfa i'r fangre.  Rhaid i'r system teledu cylch cyfyng recordio'n barhaus pan fydd y fangre ar agor ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy ac ar bob adeg pan fydd cwsmeriaid yn y fangre. Rhaid i'r system allu darparu lluniau o safon dystiolaeth, yn enwedig cydnabyddiaeth wyneb.  Rhaid i bob recordiad gael ei storio am o leiaf 31 o ddiwrnodau a dangos dyddiad ac amser.  Bydd y recordiadau ar gael yn syth ar gais yr Heddlu neu Swyddog Awdurdodedig.

2.          Bydd llyfr cofnodi achosion, yn nhrefn rifiadol, yn cael ei gadw yn y fangre sy'n dangos manylion dyddiad ac amser pob ymosodiad, niwed, damwain neu droad allan, yn ogystal â manylion aelodau'r staff fu'n ymwneud â hyn, natur y digwyddiadau a'r cam gweithredu/canlyniad. Rhaid bod y llyfr ar gael i'w archwilio gan yr Heddlu a Swyddogion Awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu.

3.          Gosodir hysbysiadau mewn man amlwg wrth bob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion preswylwyr lleol ac i adael yr ardal yn dawel.

4.          Ni cheir symud, gwaredu na gosod gwastraff, gan gynnwys poteli, yn yr ardaloedd awyr agored rhwng 2030 ac 0800.

5.          Gweithredir cynllun prawf oedran Her 25 yn y fangre a'r unig ffurfiau adnabod derbyniol fydd llun, dyddiad geni a marc holograffig.

6.          Cedwir cofnod yn rhoi manylion pob achos o wrthod gwerthu alcohol.  Dylai'r cofnod gynnwys y dyddiad a’r amser y gwrthodwyd ei werthu ac enw'r aelod o staff a wrthododd ei werthu.  Dylai'r cofnod fod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr Heddlu neu Swyddog Awdurdodedig y cyngor ar bob achlysur pan fydd y fangre ar agor.

7.          Rhaid i'r fangre gadw cofnodion diweddar o hyfforddiant staff a hyfforddiant gloywi o ran gwerthu yn ymwneud ag oedran, gan gynnwys gwerthu drwy ddirprwy, gwerthu i bobl feddw ac adnabod ac atal camddefnyddio cyffuriau, ar ffurf ysgrifenedig neu electronig, sydd ar gael i'w harchwilio gan Swyddog Awdurdodedig.

8.          Dylai'r hysbysiadau gael eu harddangos yn glir yn y fangre er mwyn pwysleisio i gwsmeriaid nad yw alcohol yn cael ei werthu i bobl dan 18 oed.

9.          Rhoddir 30 munud i orffen diodydd ar ben yr amser hwyraf a ganiateir ar gyfer gwerthu alcohol er mwyn i gwsmeriaid ddefnyddio'r toiledau a gadael y fangre.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:   

 

Nododd y Pwyllgor na dderbyniwyd unrhyw sylwadau perthnasol gan awdurdodau cyfrifol.

 

Nododd y Pwyllgor sylwadau'r preswylwyr lleol.  Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd y materion a godwyd yn gysylltiedig â'r cais am drwydded mangre.

 

Nododd y Pwyllgor sylwadau'r ymgeisydd.

 

Teimlai'r Pwyllgor fod addasu'r oriau gweithredu a'r amodau yn ddigonol ac yn ddigon arwyddocaol i ddyrchafu sylwadau'r preswylydd lleol ynghylch yr effaith y byddai rhoi trwydded yn ei chael ar yr amcanion trwyddedu.