Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth.

 

3.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am Drwydded Mangre - The Storyteller, 40-42 Princess Way, Swansea, SA1 5HE. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cyflwyniadau ffurfiol amlinellodd y Cyfreithiwr Cyswllt y weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu am y cais am drwydded mangre mewn perthynas â The Storyteller. Yn dilyn cyflwyniadau ffurfiol amlinellodd y Cyfreithiwr Cyswllt y weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu am y cais am drwydded mangre newydd mewn perthynas â The Storyteller, 40-42 Princess Way, Abertawe SA1 5HE

 

Cyfeiriodd at yr amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, arweiniad gan y Swyddfa Gartref a chamau gweithredu'n dilyn ystyried gwrthwynebiadau'r bobl berthnasol.  Cyfeiriwyd yn benodol at gais am drwydded mangre yn Atodiad A ac A1, cynllun lleoliad o'r fangre yn Atodiad B, rhestr o fangreoedd trwyddedig yn yr ardal yn Atodiad B1, amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu yn Atodiad C a'r sylwadau a wnaethpwyd gan Bobl Eraill yn Atodiad CH.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Trwyddedu at y saith e-bost gwybodaeth ychwanegol a ddosbarthwyd i bob parti.

 

Derbyniwyd un sylw gan bobl eraill.  Atodwyd copi o'r sylw yn Atodiad CH.  Roedd y sylw yn ymwneud ag atal troseddu ac anrhefn, niwsans cyhoeddus, diogelwch y cyhoedd, amddiffyn plant rhag niwed. 

 

Cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu nad oedd y 'Person Arall' yn gallu bod yn bresennol oherwydd ymrwymiadau gwaith.

 

Darllenodd y Swyddog Trwyddedu yr ymateb gan y Person Arall mewn perthynas â'r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd fel a ganlyn:

 

“Prynhawn da. Yn dilyn yr wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd ynglŷn â'r lleoliad hwn, hoffwn y canlynol. Yn ychwanegol at fy ngwrthwynebiad mewn ymateb, er fy mod yn rhoi ystyriaeth i'r llythyr gan un o breswylwyr Pearl House, mae'r adeilad yn cynnwys 42 o fflatiau a byddai lefelau aflonyddwch wrth gwrs yn amrywio yn dibynnu ar leoliad preswyl o fewn yr adeilad. Pe bawn i'n byw yng nghefn yr adeilad yna wrth gwrs byddai hyn yn llai. Efallai nad oedd y preswylydd arall gartref ar noson y parti agoriadol, felly hoffwn i fy natganiad ynglyn â'r noson honno gael ei ystyried o hyd.


Rwyf wedi gweld person drws yn bresennol y tu allan i'r lleoliad unwaith pan roedd y lleoliad ar gau i'r cyhoedd oherwydd digwyddiad preifat. Hefyd, yr oriau masnachu ar gyfer The Storyteller yw 8:00 tan 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener a dydd Sul, a ddim yn arbennig o hwyr ar ddydd Sadwrn. Felly, mae'r pryderon a godwyd gennyf ar ôl y partïon agoriadol yn dal i sefyll os yw'r lleoliad yn bwriadu ymestyn ei oriau agor unwaith y bydd wedi'i drwyddedu. Cofion cynnes.


Prynhawn da. Yn dilyn ymlaen o fy e-bost blaenorol, teimlaf ei bod yn bwysig rhannu bod Mr Paul Rees, sydd wedi darparu datganiad yn dweud ei fod yn byw yn Pearl House ac nad yw wedi profi unrhyw aflonyddwch sŵn o The Storyteller, yn gweithio mewn partneriaeth â The Storyteller fel eu ffotograffydd, efallai hyd yn oed ar sail gyflogedig. Gan fod lluniau Mr. Rees wedi'u cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol The Storyteller at ddibenion hysbysebu. Rwyf wedi atodi tystiolaeth o hyn. Rwy'n gwerthfawrogi bod yr wybodaeth hon wedi codi'n agos iawn at y gwrandawiad, ond dim ond ddydd Gwener y gwelais i'r datganiad gan Mr Rees.
Rwy'n teimlo y gallai hyn o bosib achosi cefnogaeth tuag at y busnes a chwestiynu amhleidioldeb, felly dylid ystyried yr wybodaeth hon. Cofion”.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mr Ioannis Benekis (Ymgeisydd) a Mr Aaaryn Whitelock (Ymgeisydd).

 

Dywedodd Mr Benekis ei fod yn ceisio datblygu math gwahanol o letygarwch.  Manylodd ar ei gefndir sy'n cynnwys 17 mlynedd o brofiad mewn gwahanol leoliadau yng Ngwlad Groeg ac Abertawe.  Cyfeiriodd at ei weledigaeth i greu lleoliad sy'n hygyrch i bawb, gan gynnig lleoliad dymunol i deuluoedd yn ystod y dydd yng nghanol y ddinas.  Cyfeiriodd at leoliad y fangre a diffyg datblygiad yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf.  Dywedodd fod y lleoliad yn gweithio gyda phobl oedd yn rhan o'r Celfyddydau gan ddarparu llwyfan i bobl fynegi eu hunain a'i fod yn darparu cynnig a chwsmeriaid gwahanol i'r mangreoedd ar Wind Street.

 

Cyfeiriodd at gam-gyfathrebu o ran y noson agoriadol ynglŷn â staff drws a chadarnhaodd, er nad oedd staff drws yn bresennol ar y noson honno, y byddent yn cael eu cyflogi ar y safle ar nos Wener a nos Sadwrn ac unrhyw ddyddiau lle mae oriau estynedig.

 

Cyfeiriodd at ddiogelwch teuluoedd a dywedodd na fyddai'r fangre'n hybu yfed yn ormodol.  Manylodd ar y mesurau sydd ar waith o ran hyfforddi staff mewn perthynas â gwerthu alcohol a diogelwch cwsmeriaid ar y safle.

 

Tynnodd sylw at y defnydd o gamerâu cylch cyfyng ar y safle a'r tu allan i'r safle, a chyfeiriodd at enghraifft o ble roedd fideo o ladrad y tu allan i'r safle wedi cael ei roi i Heddlu De Cymru.

 

Mae'r safle'n gweithio'n agos gyda'r Ardal Gwella Busnes (BID), sefydliadau a chymdeithasau lleol (mae digwyddiad elusennol wedi'i gynllunio o fewn y misoedd nesaf).  Teimlai na fyddai'r safle'n ychwanegu at unrhyw broblemau o fewn yr ardal ac y byddai cyfrifoldeb cymdeithasol yn cael ei gymryd o ddifrif.

 

Cyfeiriodd at yr ohebiaeth gefnogol gan Mr Rees a chadarnhaodd nad oedd Mr Rees yn gweithio yn The Storyteller ond yn ffotograffydd ac yn gwsmer cyson o'r lleoliad. 

 

O ran strategaeth farchnata, roedd y lleoliad yn dibynnu ar y gair llafar a chefnogaeth cwsmeriaid.

 

Roedd yn ymwybodol o daflen a oedd yn cael ei dosbarthu o fewn Pearl House ynglŷn â'r lleoliad a dywedodd fod pryderon preswylwyr lleol yn cael eu cymryd o ddifrif.  Cyfeiriodd at drafodaethau gyda Swyddogion Trwyddedu yn dilyn y digwyddiad agoriadol, ac aeth i'r afael â'r materion ynghylch diffyg staff drws, a'r drws yn cael ei adael ar agor ar ôl 9.30pm ar ddamwain ond yn cael ei gau wedi hynny.   Ers hynny roedd y lleoliad wedi cael ei brofi gyda drysau caeedig ac ni fyddai'n achosi niwsans.  Ni fyddai llawer o ddigwyddiadau ac yn sicr ni fyddent yn ddyddiol nac yn wythnosol. Pwysleisiodd nad oedd y lleoliad am greu unrhyw niwsans cyhoeddus a chyfeiriodd at yr hysbysiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gleientiaid fod yn barchus i breswylwyr lleol wrth adael y lleoliad. 

 

Byddai'r lleoliad yn cynnal digwyddiad elusennol o fewn y misoedd nesaf gyda CRISIS.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, nododd Mr Benekis,

 

1)    Roedd dyblygu mewn perthynas ag amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu, a gellir dileu rhif 5 a rhif 7.

2)    Cytunodd i newid yr amserau gwaredu poteli i 9pm tan 8am.

3)    Mae biniau yng nghefn y safle mewn lôn a ddefnyddir gan safle arall ac nid oes unrhyw sbwriel yn cael ei symud o'r eiddo yn ystod y nos.

4)    Byddai cais am drwydded palmant yn cael ei wneud o fewn yr wythnos nesaf.

5)    Byddai amod yn cael ei gynnwys ynglŷn ag yfed y tu allan, sy'n datgan y byddai yfed tu allan ond yn cael ei ganiatáu o fewn yr ardal a ddynodir gan drwydded palmant.

 

I gloi, dywedodd Mr Whitelock fod llawer iawn o amser ac ymdrech wedi'i roi i'r safle er mwyn creu lleoliad amrywiol, diogel ac hamddenol (er enghraifft, roedd parti plant wedi cael ei gynnal yn y lleoliad). Cyfeiriodd at fentrau megis darparu tocynnau a allai gael eu defnyddio gan bobl ddigartref ar gyfer diodydd poeth a bwyd am ddim.  

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb, a chynghorodd y byddai penderfyniad yn cael ei ddarparu o fewn 5 niwrnod gwaith.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion yn ymwneud â'r cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Nododd y Cadeirydd y byddai penderfyniad yr Is-Bwyllgor yn cael ei gyhoeddi o fewn pum niwrnod gwaith i gyfarfod y Pwyllgor ac y byddai'n ystyried y cais a'r sylwadau a wnaethpwyd ac anghenion a buddiannau pob parti o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, yr arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w hystyried yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod:

 

Cyflenwi Alcohol/Oriau agor

 

Cerddoriaeth wedi'i Recordio

 

Nos Sul – nos Iau

2300 – 0030

 

Nos Wener – nos Sadwrn

2300 – 0130

 

Cyflenwi alcohol

 

Dydd Sul - dydd Iau

1200 – 0000

 

Dydd Sul - dydd Sadwrn

 1200 - 0100

 

1.               Bydd y safle'n cadw'r cofnodion diweddaraf am hyfforddiant i staff a

           hyfforddiant gloywi mewn perthynas â gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag           oedran, gan gynnwys gwerthiannau procsi i bobl sy'n feddw ac adnabod ac       atal camddefnyddio cyffuriau, mewn fformat ysgrifenedig neu electronig sydd   ar gael i'w archwilio ar gais gan swyddog awdurdodedig.

 

2.               Gosodir hysbysiadau yn yr holl fannau allanol a ddefnyddir yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion preswylwyr lleol ac i ddefnyddio'r ardal yn dawel.

 

3.               Bydd system CCTV gynhwysfawr y gellir recordio arni yn cael ei gosod a'i

chynnal a chadw yn yr holl ardaloedd masnach, sy'n cynnwys golwg ar bob mynedfa ac allanfa i'r fangre. Rhaid i'r system gofnodi'n barhaus pan

mae'r fangre ar agor ar gyfer gweithgareddau trwyddedig ac yn ystod pob cyfnod pan fo cwsmeriaid ar y safle. Rhaid i'r system allu darparu lluniau o safon dystiolaeth, yn enwedig cydnabyddiaeth wyneb. Mae'n rhaid i bob recordiad gael ei storio am o leiaf 31 niwrnod  gyda dyddiad ac amser. Rhaid sicrhau bod recordiadau ar gael yn syth ar gais yr Heddlu neu Swyddog Awdurdodedig.

 

4.               Bydd llyfr cofnodi digwyddiadau, wedi'i rwymo mewn trefn rifiadol, yn cael ei gynnal ar y safle gan ddangos manylion dyddiad ac amser pob ymosodiad, anaf, damwain neu ddigwyddiad o droi cwsmeriaid allan, yn ogystal â manylion yr aelodau o staff dan sylw, natur y digwyddiad a'r camau gweithredu/canlyniad. Rhaid i'r llyfr fod ar gael i'w archwilio gan yr Heddlu a swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu.

 

5.               Bydd hysbysiadau'n cael eu harddangos yn amlwg ger pob allanfa yn gofyn i

    gwsmeriaid barchu anghenion y preswylwyr lleol a gadael yr ardal yn dawel.

6.               Ni fydd unrhyw yfed tu allan i'r safle heblaw gan gwsmeriaid sy'n defnyddio ardal y mae ganddi drwydded caffi palmant. Ni ddylid defnyddio gwydrau ym mhob ardal o'r fath.

7.              Ni fydd sbwriel, gan gynnwys poteli, yn cael ei symud, ei dynnu neu ei osod

     mewn ardaloedd tu allan rhwng 2100 a 0800.

 

8.              Rhoddir 30 munud i orffen diodydd ar ben yr amser hwyraf a ganiateir ar gyfer gwerthu alcohol er mwyn i gwsmeriaid ddefnyddio'r toiledau a gadael y fangre.

 

9.               Heblaw am gael mynediad i'r fangre neu ei gadael, dylid cadw pob drws ar gau.

 

10.           Ni ddylai unrhyw gwsmeriaid yn y fangre fynd ag unrhyw wydrau na photeli gwydr y tu allan i'r fangre.

 

11.         Dylai'r ardal awyr agored gael ei goruchwylio'n rheolaidd gan staff y fangre   pan fydd yn cael ei defnyddio.

 

12.           Caiff hysbysiadau eu harddangos ger pob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid smygu o fewn yr ardal ddynodedig.

 

13.           Ni fydd unrhyw seinyddion uchel allanol yn cael eu defnyddio yn y fangre nac o'i hamgylch.

 

14.           Bydd y cynllun prawf oedran Her 25 yn cael ei weithredu yn y

             fangre lle bydd yr unig ddulliau adnabod derbyniol yn cynnwys

             ffotograff, dyddiad geni a marc holograffig.

 

15.          Cedwir cofnod yn rhoi manylion pob achos o wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r

          cofnod gynnwys dyddiad ac amser y gwerthiant a wrthodwyd ac enw'r

          aelod o staff wnaeth wrthod y gwerthiant. Bydd y cofnod ar gael i'w archwilio       yn y fangre gan yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar bob adeg pan fo'r fangre ar agor.

 

16.           Bydd y fangre'n cadw'r cofnodion diweddaraf am hyfforddiant i staff a           hyfforddiant gloywi mewn perthynas â gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag oedran, gan gynnwys gwerthiannau procsi i bobl sy'n feddw ac adnabod ac atal camddefnyddio cyffuriau, mewn fformat ysgrifenedig neu electronig sydd ar gael i'w archwilio ar gais gan swyddog awdurdodedig.

 

 

17.           Bydd hysbysiadau yn cael eu harddangos yn glir yn y fangre i bwysleisio i

          gwsmeriaid y gwaherddir gwerthu alcohol i bobl dan ddeunaw oed

 

18.           Ni fydd unrhyw adloniant, perfformiad, gwasanaeth nac arddangosfa sy'n cynnwys noethni neu ysgogiad rhywiol a fyddai'n dod o fewn y diffiniad o sefydliad rhyw yn Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2009), yn cael eu darparu.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:   

 

Nododd y Pwyllgor na dderbyniwyd unrhyw sylwadau perthnasol gan awdurdodau cyfrifol.

 

Nododd y Pwyllgor sylwadau'r preswylydd lleol a'i sylwadau ychwanegol.

 

Nododd y Pwyllgor sylwadau'r ymgeisydd a gwybodaeth ategol yr ymgeisydd a ddarparwyd cyn y pwyllgor. Yn ogystal, nodwyd sylwadau'r ymgeisydd ynghylch sylwadau'r preswylydd lleol a materion y noson agoriadol.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr ymgeisydd yn cydnabod pryderon y preswylydd lleol ac o'r herwydd, ei fod wedi lliniaru yn erbyn ailadrodd y materion hynny o fewn pwyntiau .2 / .7 / .8 / .10 / .11 /.12 o'i amodau addasedig fel uchod.

 

Felly, teimlai'r Aelodau fod y mesurau lliniaru a gynigir a'r addasiad yn 5 a 7 o'r amodau, yn ddigonol ac yn ddigon sylweddol i godi sylwadau'r preswylydd lleol ynghylch yr effaith y byddai cymeradwyo trwydded yn ei chael ar yr amcanion trwyddedu.

 

</AI3>