Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth.

 

3.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

 

 

4.

Deddf Trwyddedu 2003 Adran 37 - Cais i amrywio trwydded i nodi unigolyn fel Goruchwylydd Mangre - Rileys American Pool and Snooker, 34 Castle Street, Swansea, SA1 1HZ

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod.

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod yr ymgeisydd wedi tynnu'r cais yn ôl ddydd Llun 13 Mawrth 2023.

 

Trafododd yr Aelodau'r broses o ymgeiswyr yn tynnu ceisiadau'n ôl ac y dylid annog ymgeiswyr yn y dyfodol i ddod i gyfarfod y pwyllgor yn yr amgylchiadau hyn i esbonio'r rhesymau dros dynnu'r cais yn ôl a/neu dros dynnu'r cais yn ôl mor hwyr.

 

Penderfynwyd nodi bod y cais wedi'i dynnu'n ôl gan yr ymgeisydd.