Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth.

 

3.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am Drwydded Mangre - 11 Mayhill Road, Mayhill, Swansea, SA1 6SZ. pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cyflwyniadau ffurfiol amlinellodd y Cyfreithiwr Cyswllt y weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad am y cais am drwydded mangre newydd mewn perthynas ag 11 Mayhill Road, Mayhill, Abertawe SA1 6SZ.

 

Cyfeiriodd at yr amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, arweiniad gan y Swyddfa Gartref a chamau gweithredu'n dilyn ystyried gwrthwynebiadau'r bobl berthnasol.  Cyfeiriwyd yn benodol at gais am drwydded mangre yn Atodiad A ac A1, cynllun lleoliad y fangre yn Atodiad B, rhestr o dai trwyddedig yn yr ardal yn Atodiad B1, amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu yn Atodiad C, y sylwadau a wnaed gan yr Awdurdodau Cyfrifol yn Atodiad D a'r sylwadau a wnaed gan Bobl Eraill yn Atodiad D1 i D2.

 

Cyfeiriodd Cwnstabl Evans at y sylwadau a gyflwynwyd ar ran Heddlu De Cymru ar 6 Chwefror 2023 a oedd yn ymwneud ag atal trosedd a niwsans cyhoeddus. 

 

Cyfeiriodd at yr oriau agor arfaethedig sef dydd Llun i ddydd Sul 08:00 i 02:00 a bod y siop gyfleustra mewn ardal hynod boblog.  Nodwyd bod siopau cyfleustra a siopau yn hanesyddol wedi denu elfen o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan eu bod yn tueddu i fod yn ardal lle mae pobl yn ymgynnull.

 

Cyfeiriodd at gyfrifoldebau'r Ymgeisydd wrth gadw at y pedwar amcan trwyddedu ac awgrymodd, yn ôl yr hyn sy'n debygol (ar ôl archwilio'r holl adeiladau eraill yn ardal Townhill/Mayhill gyda'u hamserau gorffen priodol yn 23:00) y byddai'r cais yn denu niferoedd mawr o aelodau'r cyhoedd o'r ardal leol ac o'r tu allan i'r ardal hefyd. Gallai hyn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol, problemau alcohol pellach ac aflonyddwch yn y stryd oherwydd bod y cyhoedd eisiau parhau i yfed  yn hwyr yn y nos.

 

Mewn ymateb i gwestiynau Aelodau, dywedodd Cwnstabl Evans fod mangre debyg yn y cyffiniau yn cau am 23:00 a phe bai'r Ymgeisydd yn ystyried diwygio'r cais i gau am 23:00 yna ni fyddai gan yr Heddlu unrhyw wrthwynebiad.

 

Derbyniwyd 2 sylw gan bobl eraill. Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad D1 a D2. Roedd y sylwadau'n ymwneud ag atal troseddu ac anhrefn a niwsans cyhoeddus.

 

Helaethodd y Cynghorydd C Anderson (Cynghorydd Ward a Pherson Arall a oedd yn siarad ar ran y Cynghorwyr D H Hopkins ac L V Walton) ar ei sylwadau ysgrifenedig ymhellach.  Dywedodd nad oedd y gwrthwynebiad yn erbyn y cais am siop drwyddedig yn y lleoliad ond ei fod yn erbyn yr amser cau sef 02:00.  Cyfeiriodd at fangre debyg a oedd yn cau am 23:00 yn yr ardal.  Dywedodd ei fod yn bryderus ynghylch y posibilrwydd o niwsans sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Cadarnhaodd na fyddai unrhyw wrthwynebiad pe bai'r Ymgeisydd yn diwygio'i gais i gau am 23:00 awr.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y sylwadau gan Bobl Eraill yn D2 a nodwyd yn briodol gan y Pwyllgor.

 

Bu'r aelodau'n trafod amserau cau mangreoedd o fewn yr ardal a chanol y ddinas.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr Jordan, Cynrychiolydd yr Ymgeisydd, cadarnhaodd yr Aelodau eu bod wedi derbyn y dogfennau ychwanegol.

 

Cyfeiriodd Mr Jordan at y diffyg sylwadau gan Iechyd y Cyhoedd a'r nifer bach (dim ond dau sylw) gan Bobl Eraill. Cyfeiriodd at y siop cludfwyd a oedd drws nesaf i'r fangre a oedd ar agor tan 01:30. Dywedodd mai dyfaliad yn unig oedd unrhyw anawsterau parcio posib a beth bynnag, nid oeddent yn ystyriaeth drwyddedu.  Nodwyd bod yr Ymgeisydd wedi gwneud buddsoddiad sylweddol yn yr ardal.  Cyfeiriodd at y Datganiad o Amcanion Trwyddedu ac yn benodol at y diffyg tystiolaeth ynghylch unrhyw un o'r sylwadau.  Dywedodd fod yr Ymgeisydd, fel manwerthwr profiadol yn deall y pryderon, fodd bynnag, nid oedd yn rhagweld y byddai unrhyw faterion yn codi ac ni fu unrhyw gwynion mewn perthynas â'r siopau eraill.  Hefyd, byddai'r fangre'n elwa o gamerâu cylch cyfyng allanol.

 

Dywedodd Mr Tamilkumar, yr Ymgeisydd, fod y ffordd lle'r oedd y fangre'n brysur iawn a bod galw am fangre i werthu alcohol tan 02:00.  Dywedodd ei fod yn byw uwchben y siop ac yn berchen ar fangre arall ar Middle Road.  Ar ben hynny, dywedodd nad oedd ganddo unrhyw syniad pam fod yr Heddlu'n teimlo y byddai problemau.

 

Mewn perthynas ag awgrym gan Mr Jordan, gofynnodd y Cyfreithiwr Cyswllt am eglurhad ynghylch addasu'r cais i 12:00 o ddydd Sul i ddydd Iau ac 01:00 ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, dywedodd Mr Tamilkumar fod galw am werthu alcohol ar ôl 23:00 a chrybwyllodd y Swyddog Trwyddedu enghreifftiau o fangreoedd yng nghanol y ddinas a chanddynt drwyddedau 24 awr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Heddlu De Cymru, ynglŷn â chynnal yr amcanion trwyddedu, cyfeiriodd Mr Jordan at y ddogfen hyfforddi staff a gofynnodd am gadarnhad bod y ddogfen wedi'i chylchredeg.

 

Penderfynwyd gohirio'r cyfarfod tan 11am er mwyn caniatáu i Swyddogion gylchredeg y ddogfen hyfforddi staff i bawb a oedd yn bresennol.

 

Gohiriwyd y cyfarfod am 10:44

 

Ailgynullwyd y cyfarfod am 11:00

 

Cadarnhaodd y Cyfreithiwr Cyswllt fod Mr Jordan yn cael trafferthion technegol a oedd yn ei atal rhag ailymuno â'r cyfarfod.  Yn dilyn sgwrs â Mr Jordan a Mr Tamilkumar, cadarnhaodd y Cyfreithiwr Cyswllt y gallai'r cyfarfod fynd yn ei flaen yn absenoldeb Mr Jordan.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu at yr amodau a oedd yn gysylltiedig â mangre Mr Tamilkumar yn Middle Road ac awgrymodd y dylid ychwanegu'r amodau hyn at yr Atodlen Weithredu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Heddlu De Cymru, dywedodd Mr Tamilkumar ei fod yn parchu ardal Mayhill er iddo ofyn am amser masnachu hwyrach na'i fangre yn Middle Road.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr Cyswllt am gadarnhad o'r addasiad blaenorol i'r cais a dywedodd Mr Tamilkumar ei fod yn dymuno i'r Pwyllgor ystyried yr oriau diwygiedig.

 

I gloi, dywedodd Mr Tamilkumar, er iddo ofyn am gais tan yr oriau mân, y byddai lefelau'r galw yn penderfynu a fyddai'n masnachu mewn gwirionedd tan yr amser hwnnw.

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion yn ymwneud â'r cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Nododd y Cadeirydd y byddai penderfyniad yr Is-Bwyllgor yn cael ei gyhoeddi o fewn pum niwrnod gwaith i gyfarfod y Pwyllgor ac y byddai'n ystyried y cais a'r sylwadau a wnaethpwyd ac anghenion a buddiannau pob parti o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, yr arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w hystyried yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod:

 

Cyflenwi Alcohol/Oriau agor

 

Dydd Llun i ddydd Sul

08:00 – 23:00

 

1.          Caiff system CCTV ei gosod yn y fangre, y bydd modd recordio ac adalw fideos arni am 31 diwrnod a'u lawrlwytho ar ddyfais storio symudol megis DVD neu gof bach.

 

2.          Bydd y camerâu CCTV yn ffilmio mynedfa'r fangre, gan gynnwys ardal y til lle mae pobl yn talu am alcohol a'r holl ardaloedd y mae gan aelodau'r cyhoedd fynediad iddynt, gan gynnwys y fynedfa a'r allanfa. Bydd y monitor sy'n caniatáu i fideos wedi'u recordio gael eu chwarae a'u hadalw yn cael ei leoli mewn ardal sy'n hygyrch yn hawdd ac yn ddiogel i Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion yr Awdurdod Lleol.

 

3.          Bydd o leiaf un aelod o staff presennol yn cael hyfforddiant i ddefnyddio'r system i sicrhau y gellir adalw a lawrlwytho data yn hawdd os yw'n ofynnol gan Swyddog yr Heddlu neu Swyddog Gorfodi Trwyddedu'r cyngor. Bydd unrhyw fideo y gofynnir amdano ar gael o fewn 24 awr ar bob achlysur.

 

4.         Bydd deiliad y drwydded mangre'n mabwysiadu cynllun dilysu oedran sy'n cynnwys 'Her 25'. Bydd rhaid i'r unig ddulliau adnabod derbyniol gynnwys llun, dyddiad geni a marc holograffig.

 

5.         Bydd staff newydd yn cael hyfforddiant sefydlu ar ddechrau eu cyflogaeth yn y fangre, gan gynnwys hyfforddiant ar sut i ymdrin â digwyddiadau o droseddu ac anrhefn a'u hatal, hyfforddiant ar werthiannau dan oed, a hyfforddiant ar werthu alcohol a gwerthiannau procsi cyn iddynt allu gwerthu alcohol. Caiff yr hyfforddiant hwn ei recordio.

 

6.         Bydd yr holl staff sy'n gwerthu/dosbarthu alcohol yn derbyn hyfforddiant mewn gwerthiannau dan oed, gwerthu alcohol i bobl a sut i ddelio ag ymddygiad camdriniol ac ymosodol - caiff yr hyfforddiant ei recordio a'i gadw am o leiaf flwyddyn.

 

7.         Cynhelir hyfforddiant gloywi i staff bob 6-12 mis a bydd yn cael ei recordio.

 

8.          Bydd y GMD yn sicrhau bod cofnod llythyr o awdurdod ysgrifenedig cyfredol ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio yn y fangre sy'n gwerthu alcohol.

 

9.          Caiff cofrestr ddigwyddiadau ei chynnal a'i chadw ar y safle ar bob adeg er mwyn cofnodi'r holl ddigwyddiadau sy'n cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, niwed a throi cwsmeriaid allan o'r fangre. Bydd y gofrestr yn cynnwys tudalennau sydd wedi'u rhifo'n olynol mewn fformat wedi'i rwymo, ac yn cynnwys amser, dyddiad a lleoliad y digwyddiad a manylion a natur y digwyddiad ac enwau unrhyw staff eraill a oedd yn rhan o'r digwyddiad neu yr adroddwyd am y digwyddiad wrthynt.    Dylai'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio gan Heddlu De Cymru

 

10.       Caiff cofrestr wrthod ei chynnal a'i chadw ar y safle ar bob adeg er mwyn cadw cofnod o'r holl ddigwyddiadau sy'n ymwneud â gwrthod gwerthu alcohol yn y fangre. Bydd y gofrestr yn cynnwys tudalennau wedi'u rhifo'n olynol mewn fformat wedi'i rwymo ac yn cynnwys amser, dyddiad a lleoliad y gwrthodiad, enw'r aelod o staff sy'n herio'r gwerthiant a'r dull adnabod a wiriwyd.  Bydd y gofrestr ar gael i'w harchwilio gan Heddlu De Cymru neu Swyddogion Gorfodi'r Awdurdod lleol ar unwaith ar gais.