Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth.

 

3.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 100 - Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro - Cinema & Co, 17-19, Castle Street, Swansea, SA1 1JF. pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod yr ymgeisydd wedi gofyn am ohirio'r mater gan nad oedd ei chynrychiolydd yn gallu bod yn bresennol oherwydd profedigaeth.

 

Penderfynwyd gohirio'r mater.

 

Cafodd y cyfarfod ei ohirio tan 11am, ddydd Llun 13 Chwefror 2023.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr holl gyfranogwyr i gyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol a ailgynullwyd am 11.10am ddydd Llun, 13 Chwefror, 2023.

 

Dywedodd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd nad oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Ni ddatgelodd unrhyw Aelodau na Swyddogion oedd yn bresennol unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol neu ragfarnol.

 

Yn dilyn cyflwyniadau ffurfiol amlinellodd y Cyfreithiwr Cyswllt y weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais.

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu am y cais am Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro mewn perthynas â Cinema & Co, 17-19, Castle Street, Abertawe SA1 1JF a dderbyniwyd ar 30 Ionawr, 2023 ar gyfer digwyddiad a gynhelir ar 3 a 4 Mawrth, 2023.

 

Cyfeiriodd at yr amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, canllawiau gan y Swyddfa Gartref a chamau gweithredu ar ôl ystyried gwrthwynebiadau'r bobl berthnasol.  Cyfeiriwyd yn benodol at Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro yn Atodiad A, a'r gwrthwynebiad gan Bobl Berthnasol yn Atodiad B.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Randolph (cynrychiolydd yr ymgeisydd), manylodd y Cyfreithiwr Cyswllt ar y broses ar gyfer ymdrin â Gwrthwynebiadau gan Bobl Berthnasol a oedd drwy Wrandawiad yr Is-Bwyllgor a ohiriwyd o 7 Chwefror, 2023 (ar gais y ymgeisydd) ac a ailgynullwyd heddiw.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd a Thai Sector Preifat (Pobl Berthnasol), fod y gwrthwynebiad i'r Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro wedi'i gyflwyno ar 1 Chwefror, 2023.  Dywedodd mai'r rheswm dros y gwrthwynebiad oedd o ganlyniad i gwynion a dderbyniwyd mewn perthynas â'r safle (Cinema & Co).  Roedd cwynion wedi eu derbyn ym mis Mai 2017, ym mis Tachwedd 2021, ym mis Ebrill 2022, ym mis Hydref ac yn mis Tachwedd 2022. Roedd y gwrthwynebiadau'n ymwneud â digwyddiadau math DJ a gynhaliwyd hyd at tua 2.00am.

 

Nodwyd bod Swyddogion Rheoli Llygredd wedi bod yn bresennol ar 4 Tachwedd 2022 ac yn fodlon eu bod wedi bod yn dyst i niwsans sŵn statudol o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

 

Yn dilyn yr ymweliad ar 4 Tachwedd, 2022, cafwyd gohebiaeth drwy e-bost ac anfonwyd llythyr rhagrybudd at yr ymgeisydd.

 

O ystyried natur y fangre (llawr gwaelod gyda thai preswyl uchod) gwnaed ymgais i drafod y problemau ar y safle i weld pa gamau y gellid eu cymryd o bosib a sut y gellid atal niwsans sŵn statudol yn y dyfodol.  Cynhaliwyd ymweliad ar 25 Ionawr 2023, lle rhoddwyd cyngor i'r ymgeisydd a'i pheiriannydd sain.

 

Ddydd Gwener 27 Ionawr, 2023, yn dilyn y cyfarfod hwnnw, cynhaliwyd digwyddiad dros dro (digwyddiad math DJ) ac aeth Swyddogion Llygredd i'r fangre am 9.50pm o ganlyniad i gŵyn.  Pan gyrhaeddon nhw roedd cerddoriaeth i'w chlywed yn amlwg ar y briffordd y tu allan i'r fangre.   Ar ôl mynd i mewn i'r bloc o fflatiau, gellid clywed cerddoriaeth yn glir yn y coridorau o fewn y grisiau a hefyd o fewn ystafell fyw ac ardal fwyta/cegin yr achwynydd.  Y broblem fwyaf oedd bod y gerddoriaeth fas, a oedd yn cael ei chwarae o'r llawr gwaelod, mor uchel roedd y lloriau a'r cypyrddau'n dirgrynu ac roedd modd ei chlywed yn glir dros lefel sgwrs o fewn y fangre yn yr annedd breswyl.

 

Roedd Swyddogion Rheoli Llygredd yn fodlon bod y niwsans statudol wedi digwydd ac o ganlyniad maent yn bwriadu cyflwyno Hysbysiad Atal o dan adran 80 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i wahardd ailddigwyddiad o niwsans statudol yn Cinema & Co.

 

Bydd cyfnod apêl o 21 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad atal ac mae'r hysbysiad hwnnw i'w gyflwyno'r wythnos hon.  Felly byddai'r digwyddiad arfaethedig yn dod o fewn y cyfnod apêl hwnnw.

 

I gloi, dywedodd yr Arweinydd Tîm, Rheoli Llygredd a Thai Sector Preifat ei fod yn fodlon bod niwsans statudol yn debygol o ailddigwydd o'r fangre hon pe bai'r digwyddiad yn cael ei gynnal, ac felly gwrthwynebir y cais ar y sail hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan gynrychiolydd yr ymgeisydd, dywedodd yr Arweinydd Tîm, Rheoli Llygredd a Thai Sector Preifat:

 

·       Daeth dau Swyddog Llygredd profiadol i'r fangre er mwyn casglu tystiolaeth er mwyn penderfynu a oedd niwsans sŵn statudol yn bodoli.  Roedd natur casglu tystiolaeth yn cwmpasu hyd, dwyster, lleoliad ac addasrwydd yr adeilad.  Bu Swyddogion yn dyst i adloniant wedi'i reoleiddio a oedd yn weithgaredd nad yw'r ymgeisydd wedi'i thrwyddedu ar ei gyfer ac nad oedd gan y fangre hawl i'w gynnal.

·       O ran adeilad o'r natur a'r defnydd hwn, byddai Swyddogion yn ceisio gosod terfyn sŵn o bosib ar ôl cael trafodaeth ag acwstegwyr sydd wedi'u cymhwyso'n briodol.

·       Mae'r niwsans statudol wedi ailddigwydd ac mae nifer o lythyrau/e-byst o gŵyn wedi eu derbyn gan denantiaid.

·       Ar gyfer y safle penodol hwn, pan gyflwynwyd y datblygiad preswyl, gosodwyd amodau fel rhan o'r broses gynllunio er mwyn cyflawni lefelau penodol. Fodd bynnag, roedd hynny at ddefnydd trwyddedig y fangre, nid oedd darparu adloniant DJ, er enghraifft, yn ddefnydd trwyddedig ac mae'n wasgedd sain gwahanol i'r defnydd trwyddedig. Nid yw'r defnydd bob dydd arferol o'r sinema wedi cynhyrchu cwynion.

·       Bydd trafodaethau â'r ymgeisydd ynglŷn â lefelau priodol ar gyfer cynnal digwyddiadau yn y dyfodol yn rhan o'r hysbysiad atal pan fydd yr hysbysiad hwnnw'n cael ei gyflwyno, byddai Swyddogion yn hapus i drafod y pwynt hwnnw. 

·       Ar ôl derbyn yr Hysbysiad Atal, byddai angen i'r ymgeisydd sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud a'i gynllunio mewn ffordd briodol i fodloni'r cyngor unwaith y bydd yn cael ei weithredu, byddai'n lliniaru ac yn atal y niwsans statudol rhag ailddigwydd. 


Dywedodd yr Arweinydd Tîm, Rheoli Llygredd a Thai Sector Preifat ei fod yn fodlon bod niwsans statudol yn debygol o ailddigwydd ac o ystyried y diffyg tystiolaeth gan yr ymgeisydd roedd y gwrthwynebiad yn parhau.

 

Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeisydd y dylai'r broses, yn ei farn ef, fod yn fwy cadarn ar adeg unrhyw gŵyn.  Cyfeiriodd at y diffyg ymgynghori â'r ymgeisydd ar y noson yr oedd y Swyddogion Llygredd yn bresennol ac nad oedd yr ymgeisydd wedi bod yn rhan o fanylion y gŵyn.


Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â'r Hysbysiad Atal, dywedodd y cyfreithiwr mai rôl Gwrandawiad y Pwyllgor heddiw oedd penderfynu a ddylid cynnal y digwyddiad ar 3/4 Mawrth ai peidio.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm, Rheoli Llygredd a Thai Sector Preifat fod cyfarfod safle wedi'i gynnal ar y safle cyn y digwyddiad ym mis Ionawr, a rhoddwyd cyngor am lefelau sŵn derbyniol.


Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad oedd yn gallu manylu ar ba gamau y gellid eu cymryd i ganiatáu i'r digwyddiad arfaethedig ar 3/4 Mawrth fwrw ymlaen heb bryder.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch diogelu sain, dywedodd yr Arweinydd Tîm, Rheoli Llygredd a Thai Sector Preifat y byddai dogfennaeth ar gael ar y porth cynllunio fel rhan o'r broses gynllunio gychwynnol a byddai'r ymgeisydd yn gallu cyrchu'r manylion hyn.


Holodd cynrychiolydd yr ymgeisydd a oedd Swyddogion Rheoli Llygredd wedi bod yn bresennol ar yr holl ddyddiadau y cyfeirir atynt yn y cofnod cwynion.  Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm, Rheoli Llygredd a Thai Sector Preifat fod Swyddogion Rheoli Llygredd yn bresennol ar 4 Tachwedd 2022 a 27 Ionawr, 2023 a bod yr ymgeisydd wedi derbyn cyngor yn dilyn casglu tystiolaeth y Swyddogion Llygredd.  Dilynwyd hyn gyda gohebiaeth e-bost a arweiniodd at gyfarfod safle ar 25 Ionawr, 2023 lle rhoddwyd cyngor. Rhoddwyd cyngor pellach ar ôl 27 Ionawr, 2023, lle hysbyswyd yr ymgeisydd fod y cyngor wrthi'n drafftio Hysbysiad Atal o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad oedd yn ymwybodol o drafodaeth â'r cymdogion oedd wedi gwneud cwynion ac nad oedd yn siŵr o unrhyw fesurau yr oedd yr ymgeisydd wedi'u rhoi ar waith i osgoi unrhyw niwsans sŵn.

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion yn ymwneud â'r cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Darparodd y Cyfreithiwr Cyswllt drosolwg cynhwysfawr o'r cyngor cyfreithiol a roddwyd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried y cais a'r sylwadau a wnaed ynghyd â holl anghenion a buddion yr holl bartïon o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

1)    Nododd yr Is-bwyllgor Trwyddedu fod y Swyddog Rheoli Llygredd wedi codi pryderon gan gymdogion ynglŷn â niwsans sŵn statudol. Nodwyd bod y cwynion yn ymwneud â nosweithiau DJ y fangre yn unig ac nid unrhyw ddangosiadau ffilm a gynhaliwyd.

2)    Doedd dim tystiolaeth gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu am unrhyw ymdrechion a wnaed gan yr ymgeisydd i ymgysylltu â'r achwynwyr ynghylch y pryderon sŵn a godwyd.

3)    Cydnabuwyd na ellir gosod mesurau atal sain i leihau llygredd sŵn yn y cyfnod cyn y digwyddiad.

4)    Ni ddarparodd yr ymgeisydd unrhyw dystiolaeth o gamau a fyddai'n cael eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ar wahân i leihau'r gerddoriaeth. Gan y byddai sŵn y dorf hefyd yn ychwanegu at y sŵn a gynhyrchir gan y digwyddiad ac ni ellir rheoli hynny drwy uchder y system sain, yna nid oedd yr Is-Bwyllgor Trwyddedu yn fodlon y byddai hynny'n gam priodol heb y mesur ychwanegol o atal sain.