Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Democratic Services - Tel: (01792) 626923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). PDF 121 KB Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod. Adroddodd y
Swyddog Trwyddedu ar y cais am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro mewn perthynas â Cinema & Co., 17-19, Castle Street,
Abertawe SA1 1JF. Cyfeiriodd at yr amcanion
trwyddedu, ystyriaethau polisi a'r arweiniad gan y Swyddfa Gartref. Cyfeiriwyd
yn benodol at yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TEN) yn Atodiad A, a'r
gwrthwynebiad gan y Personau Perthnasol yn Atodiad B. Dywedodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd a Thai Sector Preifat (Personau
Perthnasol), fod y gwrthwynebiad i'r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TEN) a
gyflwynwyd ar 23 Tachwedd 2022 ar gyfer 8 Rhagfyr 2022 wedi'i dynnu'n ôl ar 29
Tachwedd, 2022. Tynnwyd y digwyddiad yn ôl gan nad oedd yn ymddangos bod y digwyddiad y
gwnaed cais amdano yr un fath â’r digwyddiad a welwyd gan Swyddogion ar 4
Tachwedd 2022. Bydd swyddogion yn asesu’r lefelau sŵn o’r Hysbysiad Digwyddiad Dros
Dro ar 8 Rhagfyr 2022 ac yn trefnu ymweliad safle o fewn y 14 diwrnod nesaf i
drafod y digwyddiadau a gynhelir yn yr eiddo mewn perthynas â Niwsans Sŵn
Statudol. Penderfynodd
yr Is-bwyllgor gymeradwyo'r hysbysiad digwyddiad dros dro. |