Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). PDF 121 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu
Statudol, er gwybodaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y Cadeirydd
yn ceisio cymeradwyaeth i ohirio'r cyfarfod er mwyn i Nicky, person arall, gael
ddod i'r cyfarfod. Gohiriwyd y cyfarfod am 10.05am Ailgynullwyd am 10.15am Croesawodd y
Cadeirydd yr holl fynychwyr i'r cyfarfod a dywedodd fod Nicky, person arall,
wedi nodi ei fod yn anhwylus ac ni fyddai'n dod i'r cyfarfod. Adroddodd y
Swyddog Trwyddedu ar y cais am Amrywiad i Drwydded Mangre
mewn perthynas â Lifestyle Express, 187 Middle Road, Gendros, Abertawe
SA5 8EZ. Cyfeiriodd at yr
Amcanion Trwyddedu, yr ystyriaethau polisi a'r arweiniad gan y Swyddfa Gartref.
Cyfeiriwyd yn benodol at gais am drwydded mangre yn
Atodiad A (a oedd yn cynnwys amodau addasedig y gellir eu gweld yn adran M y
ffurflen gais), copi o'r drwydded mangre bresennol yn
Atodiad A1, cynllun lleoliad y fangre yn Atodiad B,
yr amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu yn Atodiad C, sylwadau a wnaethpwyd
gan bobl eraill yn Atodiad D1 i D2. Derbyniwyd 2 sylw
gan bobl eraill. Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad D1 a D2 .Roedd y sylwadau'n
ymwneud ag atal troseddu ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd ac amddiffyn plant
rhag niwed. Yn absenoldeb y
ddau berson arall (Nicky a Rosaria), darllenodd y
Swyddog Trwyddedu’r sylwadau ysgrifenedig a oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn
amlygu pryderon mewn perthynas â thanseilio'r Amcanion Trwyddedu Statudol mewn
perthynas ag atal troseddu ac anrhefn, diogelwch y cyhoedd ac amddiffyn plant
rhag niwed. Mewn ymateb i
gwestiwn gan aelod, nododd y Swyddog Trwyddedu yr ymchwiliwyd i'r cyfeiriad bod
y fangre'n gwerthu alcohol a chynnyrch eraill
(nicotin) i blant dan oed. Derbyniwyd un
gŵyn ddienw nad oedd yn ymwneud â gwerthu alcohol i blant dan oed. Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth ac nid oedd
Swyddogion yn gallu ymchwilio i'r gŵyn ymhellach gan ei bod yn ddienw.
Roedd y gŵyn Siaradodd Mr Tamilkumar, Ymgeisydd, o blaid y cais a manylodd ar natur y
fangre fel siop gyfleustra sy'n gweithredu drwy'r
dydd a chyda'r hwyr. Dywedodd Mr Kanapathi, Cynrychiolydd yr Ymgeisydd, y bydd yr ymgeisydd
yn dod yn oruchwyliwr mangre dynodedig (GMD) yr
wythnos hon ac mae bellach yn meddu ar drwydded bersonol. Cyfeiriwyd at y
ffaith bod diffyg sylwadau gan yr Awdurdodau Cyfrifol. Gan ystyried bod y fangre mewn ardal hynod boblog, derbyniwyd 2 sylw yn
unig. Roedd y materion a godwyd gan y
bobl eraill yn
ymwneud â'r deiliad trwydded blaenorol. Nodwyd bod gan yr
Ymgeisydd brofiad o hyrwyddo'r Amcanion Trwyddedu a'i fod yn byw'n lleol. Roedd yr oriau gweithredu
y gwnaed cais amdanynt yn adlewyrchu natur y fangre
fel siop gyfleustra a noddodd yr aelodau fod cwsmeriaid yn mynd i'r siop ar bob
adeg o'r dydd. Roedd yr amodau
diwygiedig yn cryfhau ymhellach yr amod trwyddedu mewn perthynas ag amddiffyn
plant rhag niwed. Anogwyd y
Pwyllgor i gymeradwyo'r cais. Mewn ymateb i
gwestiwn gan aelod, nododd yr ymgeisydd os yw cwsmer meddw yn dod i'r siop,
byddai gwerthiant yn cael ei wrthod. Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r
gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau)
2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol. (Sesiwn Gaeëdig) Trafododd yr Aelodau'r materion ynghylch y cais. (Sesiwn Agored) Rhoddodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Is-bwyllgor Trwyddedu drosolwg
cynhwysfawr o'r cyngor cyfreithiol a roddwyd. Dywedodd y Cadeirydd fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried y cais a'r sylwadau a
wnaed ynghyd â holl anghenion a buddion yr holl bartïon o ran Datganiad Polisi
Trwyddedu'r cyngor, arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003 Yn dilyn penderfyniad yr Is-bwyllgor, penderfynwyd cymeradwyo'r cais
yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu a fanylir: 1.
Caiff system CCTV ei gosod yn
y fangre, y bydd modd recordio ac adalw fideos arni
am 31 diwrnod a'u lawrlwytho ar ddyfais storio symudol megis DVD neu gof bach. 2.
Bydd y camerâu CCTV yn ffilmio
mynedfa'r eiddo, gan gynnwys ardal y til lle mae pobl yn talu am alcohol a'r holl
ardaloedd y mae gan aelodau'r cyhoedd fynediad iddynt, gan gynnwys y fynedfa
a'r allanfa. Bydd y monitor sy'n caniatáu i fideos wedi'u recordio gael eu
chwarae a'u hadalw yn cael ei leoli mewn ardal sy'n hygyrch yn hawdd ac yn
ddiogel i Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion yr Awdurdod Lleol. 3.
Bydd o leiaf un aelod o staff
presennol yn cael hyfforddiant i ddefnyddio'r system i sicrhau y gellir adalw a
lawrlwytho data yn hawdd os yw'n ofynnol gan Swyddog yr Heddlu neu Swyddog
Gorfodi Trwyddedu y cyngor. Bydd unrhyw fideo y gofynnir amdano ar gael o fewn
24 awr ar bob achlysur. 4.
Bydd deiliad y drwydded mangre'n mabwysiadu cynllun dilysu oedran sy'n cynnwys 'Her
25'. Bydd rhaid i'r unig ddulliau adnabod derbyniol gynnwys llun, dyddiad geni
a marc holograffig. 5.
Bydd staff newydd yn cael
hyfforddiant sefydlu ar ddechrau eu cyflogaeth yn y fangre,
gan gynnwys hyfforddiant ar sut i ymdrin â digwyddiadau o droseddu ac anrhefn
a'u hatal, hyfforddiant ar werthiannau dan oed, a hyfforddiant ar werthu
alcohol a gwerthiannau procsi cyn iddynt allu werthu alcohol. Caiff yr
hyfforddiant hwn ei recordio. 6.
Bydd yr holl staff sy'n
gwerthu/dosbarthu alcohol yn derbyn hyfforddiant mewn gwerthiannau dan oed,
gwerthu alcohol i bobl a sut i ddelio ag ymddygiad camdriniol
ac ymosodol - caiff yr hyfforddiant ei recordio a'i gadw am o leiaf blwyddyn. 7.
Cynhelir hyfforddiant gloywi i
staff bob 6-12 mis a bydd yn cael ei recordio. 8.
Bydd y GMD yn sicrhau bod
cofnod llythyr o awdurdod ysgrifenedig cyfredol ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio
yn y fangre sy'n gwerthu alcohol. 9.
Caiff cofrestr ddigwyddiadau
ei chynnal a'i chadw ar y safle ar bob adeg er mwyn cofnodi'r holl
ddigwyddiadau sy'n cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, niwed a throi
cwsmeriaid allan o'r fangre. Bydd y gofrestr yn
cynnwys tudalennau sydd wedi'u rhifo'n olynol mewn fformat wedi ei rwymo, ac yn
cynnwys amser, dyddiad a lleoliad y digwyddiad a manylion a natur y digwyddiad
ac enwau unrhyw staff eraill a oedd yn rhan o'r digwyddiad neu yr adroddwyd am
y digwyddiad iddynt. Dylai'r gofrestr
fod ar gael i'w harchwilio gan Heddlu de Swydd Efrog 10.
Caiff cofrestr wrthod ei
chynnal a'i chadw ar y safle ar bob adeg er mwyn cadw cofnod o'r holl
ddigwyddiadau sy'n ymwneud â gwrthod gwerthu alcohol yn y fangre.
Bydd y gofrestr yn cynnwys tudalennau wedi'u rhifo'n olynol mewn fformat wedi
ei rwymo ac yn cynnwys amser, dyddiad a lleoliad y gwrthodiad, enw'r aelod o
staff sy'n herio'r gwerthiant a'r dull adnabod a wiriwyd. Bydd y gofrestr ar gael i'w harchwilio gan
Heddlu De Cymru neu Swyddogion Gorfodi'r Awdurdod lleol ar unwaith ar gais. Rheswm dros
y penderfyniad Ni chanfu'r Pwyllgor unrhyw dystiolaeth i gefnogi gwrthod y cais. Nid oedd yr honiadau a godwyd yn y sylwadau ynghylch gwerthiannau dan oed wedi'u
cefnogi gan Safonau Masnach, ac hefyd roedd yr honiadau'n ymwneud â'r deiliad
trwydded blaenorol, nid yr ymgeisydd presennol. Yn olaf, cadarnhaodd y Pwyllgor fod gan y preswylwyr y cyfle i wneud cais
am adolygiad trwydded os oes pryderon yn codi mewn perthynas â'r gweithgareddau
trwyddedadwy yn y fangre. |